Neidio i'r prif gynnwy
Farzana Mohammed

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Farzana yn fferyllydd sydd wedi gweithio mewn swyddi ym meysydd gofal cynradd, gofal eilaidd a gofal brys ar draws GIG Cymru. Mae hi hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu sgiliau'r gweithlu fferylliaeth gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Daeth Farzana yn aelod o fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel rhan o gyfle cysgodi sydd bellach wedi dod i ben. Roedd hi eisiau cael y profiad o fod yn Gyfarwyddwr Anweithredol er mwyn gwella cynrychiolaeth menywod ethnig leiafrifol ac yn ei dro gynyddu amrywiaeth y meddylfryd ar lefel bwrdd. Yn dilyn y cyfle hwn, gwnaeth Farzana gais i ymuno â bwrdd Cyflawni Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach (PDaHW) a llwyddodd i gael lle ar y gweithgor datblygu'r gweithlu fferylliaeth.

Dywedodd Farzana:

Fe wnes i gais am y rôl ar fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gan fy mod i wedi ymrwymo i hybu llais cymunedau ethnig leiafrifol ac eisiau sicrhau eu bod yn cael gwasanaethau wedi eu teilwra i'w hanghenion penodol. 

Drwy eirioli dros y cymunedau hyn, roeddwn i eisiau sicrhau bod eu hamgylchiadau unigryw yn cael eu hystyried yn y broses o ddatblygu polisïau a strategaethau, gan arwain at ganlyniadau mwy effeithiol a theg.

Mae ei phrofiad fel aelod o fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn hynod fuddiol. Cafodd groeso cynnes gan y sefydliad ac fe wnaeth aelodau eraill y bwrdd wneud iddi deimlo fel ei bod yn cael ei gwerthfawrogi a'i chynnwys. 

Cafodd ei hannog i gymryd rhan amlwg, gwirio a herio, a chraffu'n gadarnhaol yn ei meysydd arbenigedd. Cafodd ei mentora gan gadeirydd y bwrdd hefyd ac roedd hi'n teimlo bod ei llais yn cael ei glywed a'i chyfraniadau'n cael eu gwerthfawrogi.

Mae'r profiad o fod yn aelod bwrdd nid yn unig wedi caniatáu iddi dyfu'n broffesiynol ond mae hefyd wedi ei galluogi i gyfrannu'n gadarnhaol at genhadaeth y sefydliad a helpu i ddarparu mynediad teg at arloesedd.

Ychwanegodd Farzana:

Os ydych chi eisiau profi'r manteision sy'n gysylltiedig â bod yn aelod o fwrdd, gan gynnwys twf personol, datblygiad proffesiynol, a'r boddhad o gael effaith ystyrlon, yna byddwn i'n eich annog chi i wneud cais i fod yn un.

Dych chi eisiau gwybod mwy?

Cael mwy o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus a sut gallwch helpu i siapio'r gymuned rydych chi'n byw ynddi.