Neidio i'r prif gynnwy
Mick Giannasi

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymddeolodd Mick Giannasi o wasanaeth yr heddlu ym mis Ebrill 2011, ar ôl gyrfa a barodd 31 o flynyddoedd. O fis Medi 2013 tan fis Ebrill 2018, Mick oedd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (y GIG). Ar hyn o bryd, mae'n Gadeirydd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ar ôl i Mick ymddeol o'r heddlu, nid oedd yn barod i roi'r gorau i weithio yn llwyr. Roedd yn awyddus i ddefnyddio'r wybodaeth a'r profiad yr oedd wedi eu meithrin dros gyfnod o 35 o flynyddoedd.

Dywedodd Mick:

Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth a oedd nid yn unig yn ddiddorol ac yn werth chweil ond a fyddai hefyd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl eraill. 

Roedd bod yn aelod o fwrdd corff cyhoeddus yn cynnig y cyfle hwnnw. Felly, pan ges i fy annog i wneud cais i fod yn Gadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, fe wnes i benderfynu rhoi cynnig arni.

Nid yw Mick erioed wedi difaru ei benderfyniad i ymuno â'r bwrdd fel aelod annibynnol. Er ei fod wedi bod yn heriol, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19, mae wedi bod yn hynod foddhaol ac wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas iddo yn ystod ei ymddeoliad.

Ychwanegodd Mick:

Rwyf wedi cwrdd â phobl arbennig ac rwy'n teimlo fy mod i, fel rhan fach o dîm mawr, wedi helpu i wneud cyfraniad cadarnhaol at wella bywydau pobl sy'n byw ym mhob cymuned yng Nghymru.

Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd cyhoeddus yng Nghymru ac rydych chi'n meddwl bod gennych chi rywbeth i'w gynnig, yna byddwn i'n sicr yn eich annog chi i wneud cais.

Dych chi eisiau gwybod mwy?

Cael mwy o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus a sut gallwch helpu i siapio'r gymuned rydych chi'n byw ynddi.