Astudiaeth achos penodiadau cyhoeddus: Faith Ebhoaye
Y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth
Daw Faith Ebhoaye yn wreiddiol o Nigeria, ond mae hi wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers 2020.
Mae ganddi radd mewn gwyddorau gwleidyddol ac mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad ym meysydd addysgu, rheoli arian, adnoddau dynol a rheoli pobl, gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid, ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Faith yn aelod o'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth. Rhoddwyd y rôl hon iddi drwy Gynllun Cysgodi Swyddi Llywodraeth Cymru. Gwnaeth gais am rôl o'r fath oherwydd ei bod yn awyddus i ddefnyddio ei phrofiad a'i sgiliau er budd cymunedau ledled Cymru.
Dywedodd Faith:
Roeddwn i'n awyddus i ddal swydd gyhoeddus gan fod gen i angerdd gwirioneddol dros helpu pobl, a nodi a datrys problemau, ac awydd i gael effaith gadarnhaol yn fy nghymuned.
Mae bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth nid yn unig wedi caniatáu i Faith roi rhywbeth yn ôl i'w chymuned, ond mae hefyd wedi ei helpu i ddatblygu ei sgiliau a magu mwy o brofiad.
Mae hi wedi datblygu ei sgiliau gwneud penderfyniadau, wedi dysgu technegau ar gyfer siarad â rhanddeiliaid a gwrando arnyn nhw, ac wedi cael profiad o gymryd rhan mewn cyfarfodydd bwrdd. Mae'r rhain yn brofiadau trosglwyddadwy y gall Faith eu defnyddio mewn agweddau eraill ar ei bywyd, boed yn ei bywyd proffesiynol neu bersonol.
Mae hi hefyd wedi cael cyfle i deithio o amgylch Cymru a siarad â phobl o wahanol gymunedau. Mae hyn wedi ei helpu i ddeall y materion y maen nhw'n eu hwynebu a'i helpu i lunio atebion i'r materion hyn.
Ychwanegodd Faith:
Mae'r cyfleoedd a ddaw yn sgil swydd gyhoeddus yn ddiddiwedd.
Nid yn unig rwy'n cael chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella bywydau pobl yng Nghymru, ond rwyf hefyd wedi cael cyfle i ddatblygu sgiliau gwahanol. Rwy'n teimlo bod y rôl hon wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau arwain yn ogystal â fy helpu i ddysgu mwy am brofiadau pobl sy'n gweithio ym maes amaethyddiaeth ledled Cymru.
Dych chi eisiau gwybod mwy?
Cael mwy o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus a sut gallwch helpu i siapio'r gymuned rydych chi'n byw ynddi.
