Astudiaeth achos penodiadau cyhoeddus: Princess Onyeanusi
Cymdeithas Tai Taf
Strategydd marchnata yw Princess Onyeanusi sy'n angerddol am gael effaith gadarnhaol yn y gymuned. Mae ganddi radd MBA mewn marchnata o Brifysgol Cymru, Caerdydd a 15 mlynedd o brofiad yn y sectorau marchnata a gwasanaethau cwsmeriaid.
Mae Princess yn eiriolwr balch dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal â llysgennad STEM ardystiedig ac eiriolwr yn erbyn troseddau casineb.
Ar hyn o bryd, mae Princess yn Aelod anweithredol o Fwrdd Cymdeithas Tai Taf. Mae hi'n cyflawni'r rôl hon law yn llaw â'i rôl fel cyfarwyddwr cwmni gyda Safe Online Space Cymru. Hi hefyd yw Arweinydd Chapter Caerdydd ar gyfer y Rhwydwaith i Weithwyr Proffesiynol Ifanc Du (BYP).
Cafodd Princess ei chymell i fod yn aelod bwrdd ar ôl wynebu gwahaniaethu ar sail hil mewn rôl flaenorol. Roedd hi eisiau gwneud hyn oherwydd ei bod wedi ymrwymo i gyfrannu tuag at gymuned decach, fwy cyfartal a blaengar lle mae pawb yn cael eu trin gydag urddas a pharch.
Dywedodd Princess:
Rwyf wedi fy nghymell drwy'r adeg i fynd ar drywydd y newid yr hoffwn ei weld a bod yn rhan o wireddu'r newid hwnnw. Rwyf eisiau chwarae fy rhan wrth gyfrannu tuag at greu Cymru wydn, iachach, well a mwy blaengar.
Mae ei phrofiad fel aelod o fwrdd Cymdeithas Tai Taf wedi bod yn fuddiol iawn. Mae'r bwrdd yn amrywiol iawn ac mae amrywiaeth yr aelodau ar y bwrdd yn cyfrannu cyfoeth o syniadau a pholisïau sy'n darparu ar gyfer tenantiaid amlddiwylliannol ac amrywiol Cymdeithas Tai Taf.
Mae hi'n credu bod amrywiaeth ar fyrddau yn sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau yn cael eu clywed, sy'n gwella ansawdd a gwrthrychedd y broses o wneud penderfyniadau.
Ar hyn o bryd, mae Princess yn Ymddiriedolwr Bwrdd gyda Homes4U Caerdydd ac mae hi hefyd wedi dal swyddi ar fyrddau eraill, gan gynnwys yr elusen BulliesOut. Yn y swyddi hyn, mae hi wedi gallu llunio a llywio polisïau a chamau gweithredu ar gyfer pawb yn y gymuned.
Ychwanegodd Princess:
Byddwn i'n annog unigolion o grwpiau ethnig leiafrifol nad ydyn nhw'n cael eu cynrychioli'n ddigonol sydd â'r sgiliau angenrheidiol i roi eu hunain ymlaen fel aelodau bwrdd. Bydd hyn yn sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu hystyried.
Mae bod yn aelod bwrdd yn rhoi llais i grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud a allai effeithio ar genedlaethau'r dyfodol. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i fod yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol.
Dych chi eisiau gwybod mwy?
Cael mwy o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus a sut gallwch helpu i siapio'r gymuned rydych chi'n byw ynddi.
