Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy ngyhoeddiad ynghylch Setliad Dros Dro yr Heddlu ym mis Rhagfyr, rwy’n cyflwyno heddiw o flaen y Cynulliad, Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu).  Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2017-18. Mae’n  dilyn cwblhau’r broses ymgynghori ar y Setliad Dros Dro, a chyhoeddiad y Swyddfa Gartref heddiw ar ddyraniadau terfynol Grant yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona Cymru a Lloegr.

Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu wedi ei selio ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.
Fel y cyhoeddwyd yn Setliad Dros Dro yr Heddlu, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y bydd pob heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2017-18 yn derbyn yr un gostyngiad canran o 1.4% yn eu cyllid refeniw craidd o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2016-17.

Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn, ac nid ydynt wedi newid ers y Setliad Dros Dro. Cyfanswm y cymorth refeniw ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2017-18 yw £349.9 miliwn. O’r cyllid hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £138.7 miliwn fel Grant Cymorth Refeniw heb ei neilltuo ac Ardrethi Annomestig.

Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol fod yn destun dadl yn y Cynulliad ar 14 Chwefror.  

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei gyhoeddi hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru yma:
http://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/policesettlement/police-settlement-2017-18/?skip=1&lang=cy