Cynllun trwyddedu i wella safonau hylendid a diogelwch triniaethau arbennig.
Cynnwys
Cyd-destun
Mae cynllun trwyddedu gorfodol ar waith ar gyfer y triniaethau arbennig a ganlyn yng Nghymru:
- aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych)
- tyllu’r corff (gan gynnwys y glust)
- electrolysis
- tatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol a microlafnu)
Mae’n bwysig bod mesurau atal a rheoli heintiau effeithiol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y triniaethau hyn. Gall peidio â dilyn mesurau o’r fath gynyddu’r risg o heintiau i gleientiaid a deiliaid trwyddedau. Gallai hyn arwain at gymryd camau cyfreithiol.
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod
Pwrpas y cynllun trwyddedu yw:
- gwella safonau hylendid a diogelwch
- sicrhau bod safonau o’r fath yn gyson ar draws Cymru
- helpu i amddiffyn iechyd cleientiaid
- helpu cleientiaid i ddewis unigolion trwyddedig sy’n gweithredu o safleoedd a cherbydau cymeradwy
Trwydded triniaeth arbennig
Rhaid i berson sy’n cyflawni unrhyw un o’r 4 triniaeth arbennig ddynodedig wneud cais am drwydded triniaeth arbennig. Rhaid iddynt wneud cais i’w hawdurdod lleol. Mae hyn yn gymwys i bob unigolyn a oedd wedi’u cofrestru yn flaenorol i gyflawni triniaethau o’r fath, a phob ymgeisydd newydd. Mae hefyd yn gymwys i unigolion sy’n rhan o unrhyw gynllun arall yn y DU sydd eisiau gweithio yng Nghymru.
Tystysgrif cymeradwyo mangreoedd a cherbydau
Mae'n rhaid i unigolion wneud cais i'w hawdurdod lleol am dystysgrif gymeradwyo os ydynt:
- yn gyfrifol am fangre neu gerbyd a ddefnyddir ar gyfer y triniaethau hyn
- yn rheoli busnes triniaeth arbennig
Tystysgrif cymeradwyo safleoedd a cherbydau
Rhaid i unigolion wneud cais i’w hawdurdod lleol am dystysgrif gymeradwyo os ydynt:
- yn gyfrifol am safle neu gerbyd a ddefnyddir ar gyfer y triniaethau hyn
- yn rheoli busnes triniaeth arbennig
Y gofynion sy’n gysylltiedig â gwneud cais
Bydd angen i unigolion fodloni meini prawf penodol cyn gwneud cais am drwydded neu dystysgrif gymeradwyo os ydynt:
- yn ymarferydd unigol
- yn gyfrifol am safle neu gerbydau
Awdurdodau lleol sy’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer y cynllun a gallant egluro wrthych yr hyn y mae angen i chi ei wneud.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein canllawiau ein hunain i helpu pobl i gydymffurfio â’r cynllun.
Cyfnod pontio ar gyfer ymarferwyr a busnesau sydd wedi cofrestru â’u hawdurdod lleol
Mae’r cyfnod pontio ar gyfer ymarferwyr a busnesau sydd wedi’u cofrestru o dan yr hen gynllun cofrestru bellach wedi dod i ben. Mae awdurdodau lleol wedi asesu pob un ond ychydig o geisiadau sy’n weddill ac wedi eu trosglwyddo i’r cynllun newydd.
Rhaid i unrhyw un a gafodd wybod am y trefniadau pontio ond na wnaeth gais wneud cais yn awr fel ymarferydd neu fusnes newydd. Os byddant yn parhau i ymarfer, byddant yn destun camau gorfodi awdurdodau lleol.
Pobl, safleoedd a cherbydau: ymarferwyr neu fusnesau newydd
Bydd angen i unigolion sy’n ymarferwyr neu fusnesau newydd:
- wneud cais am drwydded ar gyfer eu hunain
- fod â thystysgrif gymeradwyo ar gyfer y safle neu cerbyd y byddant yn gweithredu ohono
Ni allant ddechrau ymarfer na defnyddio’r safle neu cerbyd i ddarparu triniaethau arbennig nes bod eu hawdurdod lleol wedi prosesu eu cais.
Pobl a cherbydau sy’n rhan o gynlluniau eraill yn y DU
Mae cynlluniau gweithdrefnau arbennig eraill sy’n cynnwys rheolau gwahanol ar waith yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a bwrdeistrefi Llundain. Rhaid i unrhyw un sydd wedi’i drwyddedu neu ei gofrestru rhywle arall gydymffurfio â rheolau Cymru. Rhaid iddynt gael trwydded Gymreig a/neu dystysgrif cymeradwyo cerbyd cyn y gallant weithio yng Nghymru.
Dewis deiliad trwydded
Wrth ddewis artist tatŵ, neu ymarferydd aciwbigo, tyllu’r corff neu electrolysis, gwnewch yn siŵr:
- bod ganddynt drwydded triniaeth arbennig
- bod gan eu safle neu gerbyd dystysgrif gymeradwyo
Gallwch wirio hyn ar y gofrestr genedlaethol neu ofyn am gael gweld eu tystysgrif.
Arddangos trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo
Rhaid i ddeiliaid trwydded arddangos eu trwydded yn eu prif le gwaith neu wisgo eu trwydded laniard. Rhaid i safleoedd a cherbydau cymeradwy hefyd arddangos eu tystysgrif gymeradwyo.
Cofrestr genedlaethol
Mae cofrestr genedlaethol wedi’i chreu i roi cyhoeddusrwydd i bob deiliad trwydded ddilys yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys deiliaid tystysgrif safleoedd a cherbydau cymeradwy.
Nod y gofrestr yw rhoi hyder i’r cyhoedd bod pob unigolyn sy’n ymddangos ar y gofrestr wedi’i drwyddedu neu ei gymeradwyo i weithredu yng Nghymru.
Mae awdurdodau lleol yn diweddaru’r gofrestr hon wrth iddynt roi trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo.
