Neidio i'r prif gynnwy

Yn egluro telerau ac amodau cystadleuaeth cwis ynni cartref Nyth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Telerau ac amodau

Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i breswylwyr parhaol yng Nghymru sy'n 18 oed neu’n hŷn, ac eithrio pobl sy'n gysylltiedig â'r hyrwyddiad hwn a gweithwyr yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ('yr Hyrwyddwr') a'r rhai sy'n perthyn iddynt, a chontractwyr Nyth.

Er mwyn cystadlu, rhaid i gyfranogwyr ateb ein cwis technoleg carbon isel a chyflwyno eu manylion ar y ffurflen gyswllt.

 

  1. Mae’r gystadleuaeth yn cau am 11:59pm nos Fawrth 31 Mawrth 2026.
  2. Bydd un enillydd (a ddewisir ar hap) yn cael taleb ar gyfer nwyddau arbed ynni gwerth hyd at £750, yn cynnwys pris postio.
  3. Ni thelir unrhyw dreuliau a ddaw i ran mewn cysylltiad â'r raffl (y gystadleuaeth) ac eithrio fel y nodir yn y telerau ac amodau hyn.
  4. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i gyfnewid gwobr neu ran ohoni am wobr o werth cyfartal neu uwch os bydd amgylchiadau annisgwyl yn codi a/neu os bydd yr hyrwyddiad yn cael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw.
  5. Bydd un enillydd yn cael ei ddewis ar hap o'r holl gynigion a dderbyniwyd. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost neu alwad ffôn.
  6. Dim ond un cynnig o bob cartref a ganiateir.
  7. Os na fydd enillydd yn gallu derbyn y wobr neu’n methu ag ymateb i’r Hyrwyddwr o fewn pum diwrnod i’r dyddiad hysbysu, mae gan yr Hyrwyddwr hawl i dynnu enw enillydd arall.
  8. Rhaid derbyn y wobr fel y caiff ei chynnig, nid yw'n drosglwyddadwy ac ni ellir ei had-dalu na'i chyfnewid.
  9. Drwy gymryd rhan yn yr hyrwyddiad hwn rydych yn cytuno, os byddwch yn ennill, i gymryd rhan mewn gweithgarwch cyhoeddusrwydd cysylltiedig a rhesymol ar gais yr Hyrwyddwr (gan gynnwys ffotograffau hyrwyddo, dyfyniadau a chyfweliadau) heb ad-daliad pellach.
  10. Mae penderfyniad yr hyrwyddwr yn derfynol ac ni fydd modd cynnal gohebiaeth â nhw ynghylch unrhyw faterion yn ymwneud â’r hyrwyddiad hwn.
  11. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn gyfrifol am beidio â chynnwys ceisiadau neu unrhyw hawliadau o ganlyniad eu bod yn mynd ar goll, yn hwyr, yn annarllenadwy, yn anghyflawn, yn annilys, neu oherwydd methiannau technegol neu fel arall, gan gynnwys methiant o’r fath sydd o fewn rheolaeth yr Hyrwyddwr neu ei asiantaethau.
  12. Bydd methu â chydymffurfio â'r telerau ac amodau hyn yn golygu bod cais i’r gystadleuaeth yn ddi-rym yn awtomatig.
  13. Bydd enw a lleoliad yr enillydd ar gael fis ar ôl dyddiad cau’r raffl fawr a byddant ar gael ar-lein yn www.llyw.cymru/nyth.
  14. Bydd enw a chymhwysedd ymgeiswyr yn cael eu defnyddio a'u cadw i sicrhau bod yr holl wobrau'n cael eu hawlio. Bydd cyfeiriad post a manylion cyswllt yr enillydd yn cael eu casglu a'u cadw nes bod y wobr wedi'i dosbarthu a bod unrhyw weithgarwch cyhoeddusrwydd cysylltiedig wedi'i gwblhau. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a gesglir mewn cysylltiad â’r raffl hon yn cael ei chadw am gyhyd ag y bydd ei hangen at ddiben y gystadleuaeth, a dim mwy na thri mis ar ôl i’r raffl hon ddod i ben, oni bai eich bod wedi dewis caniatáu i Nyth gysylltu â chi ymhellach. 
  15. Drwy gymryd rhan yn y raffl, mae ymgeiswyr yn anfon eu gwybodaeth bersonol at Nyth a fydd, ar ran yr Hyrwyddwr, bob amser yn prosesu data personol yr ymgeiswyr yn unol â rheolau GDPR y Deyrnas Unedig a Deddf Diogelu Data 2018. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein hysbysiad preifatrwydd.
  16. I’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, nid yw’r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw atebolrwydd o gwbl mewn cysylltiad â’r hyrwyddiad hwn.
  17. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, mae’r hyrwyddwr ac unrhyw drydydd parti sy’n gysylltiedig â’r hyrwyddwr yn eithrio’n benodol:
  • Pob amod, sicrwydd a thelerau eraill a allai fel arall fod yn ymhlyg drwy statud, cyfraith gwlad neu gyfraith ecwiti.
  • Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir gan unrhyw ymgeisydd neu enillydd mewn cysylltiad ag unrhyw gystadleuaeth neu unrhyw gais.
  1. Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn gyfystyr â derbyn y telerau ac amodau uchod.

Manylion yr hyrwyddwr

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Caledonia House
223-231 Pentonville Road
Llundain
N1 9NG