Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS (o eitem 4)
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS (o eitem 4)
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Tim Moss, y Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitemau 4 a 5)
  • Thomas Nicholls, Prif Economegydd (eitem 4)
  • Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 4)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitemau 4 a 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 18 Tachwedd 2024.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cinio'r CBI ac Uwchgynhadledd Fuddsoddi i Gymru

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod hi, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, wedi mynychu Cinio Blynyddol CBI Cymru yr wythnos flaenorol.  Yn ystod y digwyddiad, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai uwchgynhadledd fuddsoddi fawr ar gyfer Cymru yn cael ei chynnal yn 2025 i arddangos y wlad i arweinwyr diwydiant byd-eang a buddsoddwyr posibl, gan dynnu sylw at y cyfleoedd a'r cryfderau niferus mewn diwydiannau allweddol.

2.2 Yn ystod y Cinio, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y bwriad i sefydlu Grŵp Cynghori ar Dwf Economaidd Cymru, a oedd wedi cyfarfod yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

2.3 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai hi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn mynychu'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghaeredin yn nes ymlaen yn yr wythnos, lle y byddai Ariannu a Thrawsnewid Cyfiawn yn thema.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:20pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Diweddariad ar yr Economi

4.1 Cafodd y Prif Economegydd ei wahodd gan y Prif Weinidog i roi diweddariad economaidd.

4.2 Dywedodd Thomas Nicholls wrth y Cabinet y byddai ei gyflwyniad yn canolbwyntio ar y cyfnod heriol sydd o'n blaenau a'r rhagolygon ar gyfer twf economaidd, gyda chynhyrchiant isel, a phryderon am y tueddiadau diweddar mewn anweithgarwch economaidd. Byddai cyfle hefyd i ystyried goblygiadau'r cynnydd diweddar yng ngwariant Llywodraeth y DU, gydag adnoddau ychwanegol i Weinidogion Cymru yn y tymor byr er bod y cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn dal i awgrymu cylchoedd gwariant tynn iawn.

4.3 Roedd y sefyllfa economaidd ddiweddaraf yn awgrymu bod twf economaidd y DU yn isel, gyda cholled o £14,000 o gynnyrch domestig gros gwirioneddol y pen o'r boblogaeth yn 2023 o'i gymharu â thueddiadau blaenorol, ac roedd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awgrymu y byddai hyn yn parhau tan o leiaf 2029. Roedd safonau byw hefyd yn gwella'n arafach o lawer na thueddiadau blaenorol, gyda data'n dangos gostyngiad o £10,500 yn 2029-30 mewn incwm gwario cartref go iawn fesul unigolyn o'i gymharu â thueddiadau cyn 2008.  Ar ben hynny, roedd twf cynhyrchiant i lawr ledled y DU, ond o leiaf roedd Cymru'n perfformio'n well yn erbyn rhannau eraill o'r DU, er ei bod yn llawer is na'r cyfartaledd cyn 2008.

4.4 Roedd Cymru wedi cynnal ei lefel gymharol o ffyniant o'i chymharu â'r rhan fwyaf o'r DU, ond roedd y cyflymu yn Llundain yn effeithio ar gyfartaledd y DU. Roedd chwyddiant yn sylweddol is nag yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y byddai'n parhau ychydig yn uwch na'r targed am gyfnod hirach, yn rhannol o ganlyniad i Gyllideb ddiweddar y DU. Serch hynny, roedd prisiau rhai eitemau megis bwyd a thanwydd yn parhau i fod yn sylweddol uwch, ac roedd hynny'n cael effaith ar incwm aelwydydd. Roedd y cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn gyson, ond nid oeddent mor uchel â’r cyfraddau cyn y pandemig. Roedd yn ymddangos bod awgrym bod cyfraddau anweithgarwch economaidd yn gwella, er bod nifer mawr o bobl yn dal i fod yn y categori salwch hirdymor yng Nghymru, sef yn llawer uwch na'r nifer a oedd yn ddi-waith.

4.5 O ran effaith Cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU, roedd cyfran y dreth fel canran o gynnyrch domestig gros yn uwch nag yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac roedd disgwyl iddi gynyddu ymhellach, ond roedd yn debyg i wledydd tebyg eraill. Roedd benthyca yn parhau i ostwng, ond ar raddfa arafach, ac roedd dyled yn gymharol uchel ond yn sefydlog yn dilyn cynnwys rhwymedigaethau ariannol net y sector cyhoeddus. Byddai hyn yn caniatáu i Lywodraeth y DU fenthyca mwy.

4.6 Roedd grant bloc Cymru yn 2025-2026 bellach dros £1bn yn uwch na'r disgwyl yn seiliedig ar ragdybiaethau Mawrth 2024, gyda chynnydd mewn termau real o 5% ar gyfer adnoddau a 7% ar gyfer cyfalaf, o'i gymharu â 2023-2024. Serch hynny, roedd y rhagolygon cyllid cyhoeddus o 2026-2027 ymlaen yn ymddangos yn heriol, ac roedd disgwyl i godiadau fod yn is gyda chostau uwch i wasanaethu dyledion cyfalaf.

4.7 Croesawodd y Cabinet y cyflwyniad a chydnabuwyd bod lefelau chwyddiant uchel diweddar yn dal i gael effaith anghymesur ar aelwydydd a safonau byw.

4.8 Roedd y DU yn dal i ddelio ag effaith mesurau cyni a Brexit, a oedd wedi arafu'r economi.

4.9 Diolchodd y Cabinet i'r Prif Economegydd am ei gyflwyniad.

Eitem 5: Cyllideb Ddrafft 2025-2026

5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Pecyn Cyllideb Ddrafft 2025-2026, gan gynnwys dyraniadau lefel Prif Grŵp Gwariant, i'w gyhoeddi ar 10 Rhagfyr. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd gymeradwyo'r penderfyniadau mewn perthynas â threthi datganoledig, cytuno ar ffocws y negeseuon i gefnogi'r Gyllideb Ddrafft, a nodi'r camau nesaf ar gyfer cwblhau'r gyllideb a'r dyraniadau ychwanegol arfaethedig yn ystod y flwyddyn 2024-2025.

5.2 Roedd y papur hefyd yn amlinellu holl ddeunydd y gyllideb a fyddai'n cael ei gyhoeddi ar 10 Rhagfyr.

5.3 Croesawodd y Cabinet y papur a'r dyraniadau ychwanegol yn ystod y flwyddyn a'r Gyllideb Ddrafft.

5.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2024