Gwybodaeth am y brechlynnau BTV-3 sydd ar gael ar gyfer ceidwaid anifeiliaid a milfeddygon.
Y brechlynnau
Mae tri brechlyn BTV-3 wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio. Mae rhain wedi cael awdurdodiad marchnata gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD). Ni allwch ond ddefnyddio'r brechlynnau hyn os yw'ch defnydd yn cydymffurfio â thrwydded neu ddatganiad dilys.
I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau BTV-3, gan gynnwys trwyddedau a hawlenni, ewch i Bluetongue serotype 3 (BTV-3) vaccination (ar gov.uk).
Ble y cewch chi ddefnyddio brechlyn BTV-3
Gellir defnyddio'r brechlynnau hyn yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr, ond rhaid cydymffurfio ag amodau cyfreithiol y drwydded gyffredinol.
Gwybodaeth bwysig i filfeddygon
Yn ogystal â'ch cyfrifoldeb i roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol am unrhyw effeithiau andwyol y byddwch yn sylwi arnynt, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cyhoeddi nodyn cynghori. Mae hwn yn gofyn am eich cydweithrediad i gadw cofnodion o ddosau'r brechlyn tafod glas rydych chi'n eu harchebu, eu cyflenwi a'u rhagnodi.
Dylai milfeddygon roi gwybod i ni am yr holl frechlynnau BTV-3 y maent yn eu rhagnodi o fewn 7 diwrnod ar ôl eu rhagnodi gan ddefnyddio'r ffurflen adrodd ar ragnodi brechlyn BTV-3.
Mae'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi gofyn am gadw cofnod oherwydd dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio'r pŵer i ganiatáu brechlyn sydd heb ei awdurdodi.
Siaradwch â'ch milfeddyg
Dylai ceidwaid anifeiliaid drafod manteision brechu i'w hanifeiliaid a'u busnes gyda'u milfeddyg preifat.
Gweithiwch gyda'ch milfeddyg i:
- benderfynu ai brechu’ch anifeiliaid â BTV-3 yw'r peth iawn iddyn nhw
- penderfynu pryd yn union i frechu
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau yn Ruminant Health & Welfare. Mae hyn yn rhan o ymgyrch 'battle bluetongue' sy'n rhedeg ar draws diwydiant.
Cadwch gofnod o'ch brechiadau
Rhaid i'ch milfeddyg ragnodi'r brechlyn i chi, ond gallwch chi, ceidwad yr anifeiliaid, roi'r brechlyn i'ch anifeiliaid. Mae'n bwysig dilyn arferion diogel.
Pan fyddwch yn defnyddio brechlyn BTV-3. rhaid i chi:
- gadw cofnod o bob anifail rydych chi'n ei frechu - mae'r wybodaeth sydd angen i chi ei chofnodi ar y drwydded gyffredinol.
- rhaid cadw'r cofnod am o leiaf 5 mlynedd.
- darparu manylion gan gynnwys rhif adnabod yr anifail unigol a'r brechlyn rydych chi'n ei ddefnyddio o fewn 48 awr ar ôl ei frechu
Symud anifeiliaid sydd wedi'u brechu
Gan fod Cymru yn wlad heb Dafod Glas, mae anifeiliaid sydd wedi eu brechu yng Nghymru yn rhydd i symud o amgylch Prydain Fawr. Ond os yw'r anifail sydd wedi'i frechu mewn ardal Tafod Glas (er enghraifft, parth dan gyfyngiadau neu barth rheoli dros dro), rhaid iddo gadw at yr un rheolau symud ag anifail sydd heb ei frechu. Gwartheg sydd wedi'u brechu sydd wedi cwblhau triniaeth gyda brechlyn Boehringer 'Bultavo-3' ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau clinigol symud o ardal Tafod Glas i Gymru heb brawf cyn symud. Mae cwblhau triniaeth yn golygu bod y ddau ddos o'r brechlyn wedi'u gweinyddu, a bod 21 diwrnod wedi mynd heibio ers yr ail ddos.
