Canllawiau drafft ar gyfer cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 2: cynnal yr asesiad
Drafft ymgynghori o ganllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Paratoi a gweithio mewn partneriaeth
Mae’n hanfodol bod y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn derbyn ac yn y credu yn y broses asesu. Os nad, gall fod yn anodd ymgysylltu ag aelodau’r gymuned, a fydd yn tanseilio cywirdeb yr arolwg.
Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am benderfynu pwy ddylai arwain proses yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Gallai hyn fod yr awdurdod lleol ei hun, naill ai’r Adran Dai neu Gynllunio fel arfer. Dylai pwy bynnag a benodir sicrhau bod yr Adrannau Tai a Chynllunio yn gweithio’n agos gyda’i gilydd, bod ganddynt statws priodol i gymryd perchnogaeth dros y canlyniad, a sicrhau bod polisïau perthnasol Llywodraeth Cymru ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu mabwysiadu ar draws yr awdurdod lleol.
Mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i benderfynu cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr unigol neu ranbarthol. Er mai awdurdodau lleol unigol sy’n gyfrifol am gynnal yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, mae’n bosibl gweithio mewn partneriaeth ag eraill. Gall manteision posibl dull o’r fath fod yn arbennig o berthnasol mewn perthynas â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr oherwydd eu patrymau teithio a symud, sy’n debygol o groesi ffiniau awdurdodau lleol, ac mae’n rhaid eu deall er mwyn gwneud darpariaeth dramwy briodol. Yn y pen draw, gall gweithio mewn partneriaethau rhanbarthol arbed costau a gwella’r ffynhonnell ddata.
Rhaid i weithio mewn partneriaeth geisio cyflawni:
- ymgysylltiad gwell â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr
- dealltwriaeth well o’r anghenion llety ar draws y ffiniau gweinyddol
- dealltwriaeth well o batrymau teithio i helpu i gyfrannu at yr angen am ddarpariaeth dramwy
- dull gweithredu cyffredin a chysondeb ar draws ardal y bartneriaeth
- arbedion maint
- llai o risgiau o gyfrif ddwywaith
- cyfleoedd i gydweithio i lunio dull gweithredu strategol ar y cyd ar gyfer prinder safleoedd cartrefi symudol Sipsiwn a Theithwyr a gorfodaeth yn erbyn safleoedd diawdurdod
Os yw awdurdodau lleol yn dymuno cynhyrchu asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr rhanbarthol, rhaid cynnal trafodaethau cynnar gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth i weld a yw hi’n bosibl gweithio mewn partneriaeth. Dylid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru. Bydd unrhyw oedi yn y broses o gynnal yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn rhoi awdurdodau lleol mewn perygl o dorri eu dyletswydd statudol i gyflwyno’r asesiad i weinidogion Cymru o fewn y terfynau amser penodol yn Neddf 2014. Felly, mae’n hanfodol cytuno’n gynnar ar y broses i gomisiynu asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr ar y cyd mewn unrhyw bartneriaeth ranbarthol.
Wrth asesu pa ardaloedd awdurdodau lleol ddylai gydweithredu i ddeall anghenion rhanbarthol, dylai awdurdodau lleol ystyried gwybodaeth a phrofiad eu swyddogion ac unrhyw farn gan aelodau o’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol. Bydd yr ardal a fydd yn cael ei chynnwys yn dibynnu i raddau helaeth ar batrymau teithio a symud arferol yn y rhanbarth neu lle mae’r safleoedd presennol yn agos at ffiniau gweinyddol. Dylai aelodau’r gymuned allu egluro’r ardaloedd perthnasol i awdurdodau. Mae cynnwys unigolion o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn gynnar yn y trafodaethau hyn yn hanfodol i roi gwybodaeth i ardal y bartneriaeth a dylai gynhyrchu’r canlyniadau mwyaf effeithiol.
Mae’n hanfodol bod y data sy’n deillio o asesiadau a gynhelir ar y cyd yn dal yn gallu cael ei ddadgyfuno yn ôl lefel pob awdurdod lleol unigol, er mwyn sicrhau bod pob partner yn cadw perchnogaeth ac atebolrwydd dros ei sylfaen wybodaeth ei hun ac yn gallu cynhyrchu’r wybodaeth hon os oes angen, er enghraifft mewn amgylchiadau sy’n cynnwys gwrandawiadau Cynllun Datblygu, ymchwiliad cynllunio neu apêl sy’n benodol i’r sefyllfa ym mhob awdurdod lleol unigol.
Pan fydd awdurdodau parciau cenedlaethol yn ardal yr awdurdod lleol, rhaid gallu dadgyfuno’r data o fewn a’r tu allan i ffin awdurdod y parc cenedlaethol. Y rheswm am hyn yw ei bod yn rhaid hefyd i awdurdodau’r parciau cenedlaethol gynhyrchu Cynlluniau Datblygu a bydd yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn rhoi tystiolaeth i ategu pob cynllun.
Rheoli prosiect
Bydd penodi grŵp llywio ar gyfer yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn helpu i sicrhau bod y broses yn seiliedig ar yr holl arbenigedd sydd ar gael i gynhyrchu’r asesiad mwyaf effeithiol posibl. Mae’n bwysig bod rhanddeiliaid allweddol yn gwybod am y grŵp llywio ac yn cael cyfle i gymryd rhan yn gynnar. Yn y bôn, bydd y grŵp yn cynnwys y rhai sydd wedi sefydlu rhwydweithiau yn y cymunedau hyn ac sy’n gyfrifol am ddiwallu anghenion llety’r cymunedau hyn. Maen nhw’n gallu cynnwys cynrychiolwyr o:
- Adrannau Tai a Chynllunio awdurdodau lleol
- aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr leol
- mudiadau sy’n gweithio i gefnogi cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, Atodiad 2
- gwasanaethau perthnasol eraill fel gwasanaethau addysg i Deithwyr, swyddogion cyswllt Sipsiwn a Theithwyr neu swyddogion byrddau iechyd sy’n gweithio’n agos gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr ac a allai fod â’r wybodaeth orau am gymunedau yn yr ardal
- cynghorwyr awdurdodau lleol, er enghraifft, deiliad y portffolio Cydraddoldeb neu Gynllunio
Argymhellir hefyd, lle bo hynny’n ymarferol, cynnwys person sydd â gwybodaeth fanwl am y prosesau asesu a’r canlyniadau mewn ardaloedd daearyddol cyfagos.
Mae cynnwys aelodau o’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol yn rhan hanfodol o gyfansoddiad y grŵp llywio ac ni ddylid anwybyddu na gohirio hynny. Mae eu cyfraniad yn bwysig i helpu i fynd i’r afael â’r canfyddiadau bod yr astudiaeth yn cael ei chynnal ‘ar gyfer’ cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, yn hytrach na ‘gyda nhw’. Mae eu cyfraniad hefyd yn gallu rhoi persbectif hollbwysig ar batrymau teithio cymunedau a’r angen (neu fel arall) i weithio ar sail ranbarthol. Byddant hefyd yn helpu i sicrhau bod anghenion y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gyd yn cael eu cynnwys yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Bydd hefyd yn cryfhau’r cyfleoedd i’r astudiaeth gael cyhoeddusrwydd da ymysg aelodau’r gymuned ac yn archwilio’r ffordd orau o gynnwys aelodau’r gymuned i gasglu’r wybodaeth angenrheidiol.
Dylid nodi, pan na fydd unrhyw aelodau o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn dymuno ymgysylltu â phroses yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, neu os nad ydynt yn gyfforddus yn siarad â’r awdurdod lleol, ni ddylid rhagdybio nad oes angen lleiniau arnynt. Os felly, rhaid i’r grŵp llywio ystyried dulliau eraill o ganfod eu hanghenion tai. Gallai hyn gynnwys defnyddio mudiadau rhanddeiliaid Sipsiwn a Theithwyr neu gysylltu ag aelodau eraill o’r gymuned a allai hwyluso cyfranogiad yn y broses asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ar eu rhan.
Wrth wahodd aelodau’r gymuned i gymryd rhan yn y grŵp llywio, dylid rhoi cyfle i aelodau’r gymuned eu hunain enwebu unigolion. Gallai mudiadau sy’n gweithio’n agos gyda’r cymunedau hyn hefyd enwebu’r rhai a fyddai, yn eu barn nhw, yn gallu cefnogi nodau’r grŵp llywio. Er nad yw safbwyntiau’r aelodau hyn o’r gymuned o reidrwydd yn cynrychioli pawb, efallai byddant yn cynnig safbwynt gwahanol fel aelodau o’r gymuned y mae eu hanghenion llety’n cael eu hasesu. Efallai y bydd aelodau’r gymuned hefyd yn gallu rhoi rhywfaint o gyngor ar briodoldeb y technegau ymgysylltu arfaethedig a chwestiynau tebygol gan y gymuned. Mae cynrychiolaeth Sipsiwn a Theithwyr ar y grŵp llywio yn debygol o fod yn lleiafrif o ran niferoedd. Fodd bynnag, rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod eu barn yn cael sylw priodol gan eu bod yn fwy tebygol o allu rhoi cyngor ar eu cymunedau eu hunain.
Bydd angen i’r grŵp llywio gyflawni amrywiaeth o gyfrifoldebau, gan gynnwys:
- argymell ardal yr arolwg daearyddol
- dylunio nodau a chanlyniadau’r astudiaeth
- penodi ymchwilwyr (mewnol neu allanol)
- rhoi cyhoeddusrwydd i’r astudiaeth ymysg rhanddeiliaid
- darparu gwybodaeth leol i’r ymchwilwyr
- rhoi adborth i gyfranogwyr a rhanddeiliaid yr ymgynghoriad
- goruchwylio asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cadarn o anghenion a chynlluniau i fynd i’r afael ag anghenion
Ar ôl penderfynu ar hyd a lled ardal yr arolwg, ac unrhyw gydweithio ag awdurdodau lleol eraill, bydd angen i’r grŵp llywio nodi nodau a chanlyniadau’r asesiad. Rhaid i’r canlyniadau allweddol gyd-fynd â chyflawni dyletswyddau awdurdodau lleol o dan Ddeddf 2014, gan gynnwys sefydlu dealltwriaeth glir o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr ac asesiad cywir o nifer y lleiniau cartrefi symudol y mae’n rhaid eu darparu yn yr ardal. Dylai’r canlyniadau allweddol hefyd gynnwys cynllun i fynd i’r afael â’r angen hwnnw.
Cynghorir yr awdurdod lleol i ddefnyddio holiadur Llywodraeth Cymru yn Atodiad 3 i sicrhau bod data allweddol yn cael ei nodi a’i ddadansoddi. Fodd bynnag, efallai bydd ar y grŵp llywio eisiau ystyried ychwanegu cwestiynau ychwanegol at yr holiadur i gasglu unrhyw ddata sy’n benodol i’r ardal ac i sicrhau canlyniadau eraill. Argymhellir bod unrhyw holiadur hirach yn cael ei dreialu gydag aelodau’r gymuned i sicrhau nad yw hyd y cyfweliad yn cael effaith andwyol ar gyfranogiad.
Bydd sefydlu canlyniadau clir yn cefnogi’r grŵp llywio i benodi ymchwilwyr i ymgymryd ag adrannau casglu tystiolaeth a dadansoddi data’r asesiad llety. Gall yr ymchwilwyr a benodir fod yn staff mewnol neu’n ymgynghorwyr allanol.
Penodi ymchwilwyr
Ar ôl nodi pwy fydd yn cynnal yr arolwg, dylai’r grŵp llywio ganolbwyntio ar ddarparu cymorth. Argymhellir eu bod yn defnyddio eu rhwydweithiau yn adrannau perthnasol yr awdurdod lleol a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr i sicrhau bod yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a’r arolwg yn cael digon o gyhoeddusrwydd a bod pob aelod o’r gymuned sydd â diddordeb yn gwybod sut mae cymryd rhan.
Dylai’r grŵp llywio hefyd geisio sicrhau bod gan y rhai sy’n cynnal yr arolwg ddigon o wybodaeth am y gymuned Sipsiwn a Theithwyr leol a sgiliau ymchwil addas i fynd i’r afael â nodau ac amcanion yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Gall y grŵp llywio ddarparu gwybodaeth leol berthnasol lle bo hynny’n briodol i’r rhai sy’n cynnal yr arolwg yn ogystal â rhestr o gysylltiadau allweddol er mwyn iddynt allu llunio astudiaeth gyflawn o anghenion llety’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr mewn ffordd sensitif a diddorol sy’n adlewyrchu naws benodol y gymuned maen nhw’n gweithio gyda hi.
Mewn achosion lle mae gan ymchwilwyr wybodaeth bersonol am y gymuned darged, gall wneud i rai betruso cyn datgelu gwybodaeth bersonol a phreifat, yn enwedig lle mae gan gymunedau safonau gwahanol o'r hyn sy'n dderbyniol neu nad yw'n dderbyniol yn eu cymunedau.
Bydd hefyd yn hanfodol bod gan y rhai sy’n cynnal yr arolwg y sgiliau ymchwil sydd eu hangen i ddatblygu, i weinyddu ac i ddadansoddi’r data a geir drwy’r arolwg. Fel rhan o hyn, bydd angen i awdurdodau lleol ystyried a chydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac unrhyw gyfyngiadau ar rannu data. Dylid dilyn prosesau diogelu data, gan gynnwys storio a phrosesu data personol yn briodol.
Ar ôl cynnal yr arolwg a dadansoddi’r canlyniadau, dylai’r grŵp llywio sicrhau bod adborth yn cael ei roi i’r holl gyfranogwyr a rhanddeiliaid (yn unol â chyfyngiadau diogelu data). Heb adborth hygyrch, gallai cyfranogiad aelodau’r gymuned gael ei ystyried yn symbolaidd yn hytrach nag yn ystyrlon gan nad yw unigolion yn gallu gweld sut mae eu cyfraniad wedi dylanwadu ar bolisi lleol. Yn waeth fyth, gall diffyg adborth fod yn wrthgynhyrchiol oherwydd gallai’r un unigolion wrthod cymryd rhan mewn prosesau ymgynghori dilynol oherwydd canfyddiad bod “dim byd yn newid”.
Ar ôl penderfynu ar ardal a nodau'r arolwg, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer sut rhoddir adborth i'r rhai sy'n cymryd rhan, bydd angen penodi ymchwilwyr i gynnal yr astudiaeth asesu llety. Mae’r opsiynau’n cynnwys defnyddio:
- staff mewnol: yn ddelfrydol o'r adran Sipsiwn a Theithwyr neu adran dai'r awdurdod lleol
- ymgynghorwyr arbenigol
Wrth benderfynu pwy fydd yn cynnal yr arolwg, bydd angen i awdurdodau lleol ystyried:
- gallu ac arbenigedd staff mewnol
- cymwysterau a hanes ymgynghorwyr, gan gynnwys tystiolaeth bod y rhai sy’n cyfweld wedi ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol
- pa mor effeithiol y gallai pob opsiwn fod o ran cyrraedd y grŵp targed (ee perthynas flaenorol â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr neu a allai gweithio gyda Sipsiwn a Theithwyr eu hunain fod yn ddefnyddiol i gael gwell mynediad i’r gymuned a sicrhau ymddiriedaeth y rhai sy’n cael eu hasesu)
- y gallu i ddadansoddi data sylfaenol ac eilaidd i asesu anghenion llety
- cadernid y broses, a fydd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y canlyniadau’n cael eu derbyn
- hygrededd pob opsiwn gyda Sipsiwn a Theithwyr a’r gymuned sefydlog
- adnoddau a chostau
Mae pob un o’r ffactorau hyn yn ystyriaethau pwysig wrth asesu opsiynau comisiynu. Dylai awdurdodau lleol ystyried defnyddio mudiadau ac unigolion mae’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol yn ymddiried ynddynt gan fod hyn yn debygol o arwain at gyfradd uwch o gyfranogiad ac ymatebion mwy ymgysylltiol i’r holiadur. Efallai y bydd modd contractio mudiadau dibynadwy i gynnal cyfweliadau’r arolwg, er mai’r awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am ddadansoddi’r ymatebion i’r arolwg.
Mae angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol y bydd Gweinidogion Cymru yn craffu ar lefel yr ymgysylltu uniongyrchol â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ac ar gadernid y dadansoddiad o ganlyniadau’r arolwg cyn gallu cymeradwyo’r asesiad. Dylai awdurdodau lleol hefyd gofio y bydd eu hasesiadau cymeradwy yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth i gefnogi a chael eu hymgorffori yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Bydd proses asesu a gynhelir yn briodol i fynd i’r afael â’r canlyniadau yn helpu i sicrhau bod camau gweithredu a phenderfyniadau’r awdurdodau lleol i ddiwallu’r anghenion llety a nodwyd mor gadarn â phosibl.
Gan ei bod yn bosibl y bydd asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr (yn y Cynlluniau Datblygu Lleol) yn cael eu hystyried yn ystod y broses gynllunio, mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod proses yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn gynhwysfawr, yn deg ac yn dryloyw.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol
Dylai rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys mudiadau trydydd sector, eisoes gael eu cynnwys fel rhan o grŵp llywio’r prosiect. Serch hynny, dylid ymgynghori’n ehangach hefyd ar ddylunio a chynnal yr asesiad gydag asiantaethau lleol a’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol. Bydd y broses hon yn cynnwys mapio’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol i sicrhau bod yr ymchwilwyr yn ymgysylltu â chynifer o aelodau â phosibl. Bydd hefyd angen profi methodoleg yr arolwg, gan gynnwys cynigion ynghylch pwy fydd yn bresennol i ofyn cwestiynau, pryd bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal, priodoldeb y cwestiynau, a’r geiriad mwyaf effeithiol i gefnogi’r ddealltwriaeth orau bosibl. Mae’r holiadur asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a argymhellir ar gael yn Atodiad 3.
Mae’n hanfodol bod pwrpas y gwaith yn cael ei egluro’n llawn i’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr cyn dechrau’r arolwg. Y bwriad yw helpu i sicrhau eu bod yn cefnogi’r broses ac yn ymrwymo iddi. Rhaid egluro pwrpas y casglu data, a dylid pwysleisio mai dim ond at ddibenion asesu a diwallu anghenion llety y bydd unrhyw ddata a ddarperir yn cael ei ddefnyddio. Pan fydd aelwydydd yn ceisio symud rhwng ffiniau awdurdodau lleol, dylid gofyn i unigolion gytuno i’w data gael ei rannu at y diben penodol o drafod eu hanghenion llety ag awdurdodau eraill, fel sy’n briodol.
Bydd angen i awdurdodau lleol roi hysbysiad preifatrwydd i bawb sy’n darparu data personol fel rhan o’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn amlinellu sut bydd eu data’n cael ei gadw a’i brosesu.
Dylid egluro hefyd, er yr ystyrir yr wybodaeth a roddir gan unigolion cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am yr angen i ddarparu safle, nad yw’r awdurdod lleol yn gallu ymrwymo i ateb unrhyw geisiadau penodol mae modd eu gwneud fel rhan o’r arolwg.
Mae’n bwysig bod rhanddeiliaid yn cael gwybod am gynnydd a chanlyniad yr asesiad. Bydd yr adborth hwn yn sicrhau bod aelodau’r gymuned yn deall sut mae eu safbwyntiau wedi cael eu hystyried a bydd yn ychwanegu atebolrwydd at y broses.
Dylai’r canllawiau hyn gyfrannu at fethodoleg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a dylai’r broses brofi gynnwys 4 prif elfen:
- Dadansoddiad o ffynonellau data sydd eisoes ar gael.
- Cynnal arolwg arbenigol.
- Asesu anghenion llety.
- Datblygu cynllun i fynd i’r afael â’r angen.
Dadansoddiad o ffynonellau data sydd eisoes ar gael
Efallai y bydd gan awdurdodau lleol neu asiantaethau eraill rywfaint o wybodaeth berthnasol yn barod, a bod modd defnyddio hon fel sail i’r asesiad, o ystyried maint bach y boblogaeth, bydd angen bod yn ofalus nad oes modd adnabod unrhyw unigolion.
Ffynonellau data eilaidd
Cyfrifiad 2021:
- Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dadgyfuno’r data hwn i lefel awdurdodau lleol. Mae data ar gael hefyd i ddangos faint o aelwydydd sy’n byw ym mhob ardal ac ym mha fath o lety.
Cofnodion tai:
- Mewn ardaloedd sydd â safleoedd awdurdod lleol, dylai gwybodaeth fod ar gael o gofnodion rheoli safleoedd. Gallai’r rhain ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am drosiant lleiniau, rhestrau aros am leiniau a cheisiadau i neilltuo lleiniau.
- Efallai fod gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ddata sy’n ymwneud â thrigolion Sipsiwn a Theithwyr neu’r rhai sydd ar restrau aros. Efallai y bydd gan Cefnogi Pobl fynediad at wybodaeth a allai helpu i ganfod aelodau o’r gymuned i’w cyfweld.
- Yn yr un modd â chofnodion tai a rhestrau aros eraill awdurdodau lleol, gall y data hwn fod yn hen neu’n anghyflawn ac efallai na fydd yr aelwydydd a gofnodir yn cynrychioli’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.
Cofnodion cynllunio awdurdodau lleol:
- Bydd gwybodaeth sy’n ymwneud â safleoedd preifat ar gael i’r Awdurdod Cynllunio Lleol drwy’r broses ceisiadau cynllunio. Dylai hyn gynnwys nifer y carafannau/lleiniau a ganiateir ar bob safle, a roddwyd y caniatâd cynllunio yn barhaol neu dros dro, ac a oedd yn cyfyngu deiliadaeth i unigolion a enwir.
- Dylai awdurdodau lleol hefyd gasglu data ar safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio yn eu hardal. Dylai hyn gynnwys nifer y carafannau neu’r lleiniau ar bob safle a manylion unrhyw geisiadau cynllunio, apeliadau a/neu gamau gorfodi dros y 5 mlynedd diwethaf. Unwaith eto, gall rhywfaint o’r data fod yn hen neu’n anghyflawn. Serch hynny, gellir ei ddefnyddio gyda gwybodaeth arall i helpu i ddangos a oes digon o safleoedd yn cael eu darparu a’r angen am safleoedd ychwanegol. Os caiff y ffigurau hyn eu defnyddio neu eu dehongli, dylid nodi’n glir unrhyw gyfyngiadau ar y data.
Cyfrif carafannau:
- Bydd awdurdodau lleol yn cynnwys nifer y carafannau ar bob math o safleoedd: gan gynnwys safleoedd awdurdodau lleol, gwersylloedd diawdurdod, mannau aros dros dro/a negodwyd a safleoedd preifat gyda/heb ganiatâd cynllunio. Fodd bynnag, nid yw’r Cyfrif yn darparu gwybodaeth am anghenion aelwydydd.
- Ar ben hynny, nid yw’n cynnwys unrhyw Sipsiwn neu Deithwyr sy’n byw mewn tŷ. Unwaith eto, er bod cyfyngiadau yn y data hwn, gall helpu i fod yn fan cychwyn i fapio’r cymunedau hyn.
Cofnodion addysg teithwyr:
- Yn amodol ar ofynion diogelu data, mae’n bosibl y bydd gan awdurdodau lleol hefyd fynediad at ffynonellau data ychwanegol am boblogaethau Sipsiwn a Theithwyr lleol gan eu darparwyr gwasanaeth, fel y gwasanaeth iechyd neu’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr. Bydd gan y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr wybodaeth am niferoedd y disgyblion Sipsiwn a Theithwyr drwy’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a chofnodion eraill. Efallai y bydd y data hwn yn cofnodi lefel uwch o boblogaeth Sipsiwn a Theithwyr na Chyfrifiad 2021.
Swyddogion cyswllt/mudiadau cefnogi:
- Mae’n bosibl iawn y bydd gan Swyddogion Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr neu fudiadau sy’n cefnogi’r cymunedau hyn wybodaeth bersonol fanylach o lawer am y gymuned, a dylai awdurdodau lleol neu bartneriaethau ddefnyddio hyn wrth gynllunio a chynnal eu hasesiad Atodiad 2 lle bo hynny’n ymarferol.
Archwiliadau cychwynnol a lles gwersylloedd diawdurdod:
- Gall awdurdodau lleol hefyd ddefnyddio gwybodaeth a geir wrth gynnal archwiliadau lles ar wersylloedd diawdurdod i helpu i ddeall yr angen am fannau aros parhaol, tramwy neu dros dro/a negodwyd yn eu hardal ac unrhyw leoliadau sy’n cael eu ffafrio ar gyfer y rhain.
Dylai adrannau sydd â chyswllt rheolaidd â Sipsiwn a Theithwyr ystyried cael caniatâd i rannu data at ddibenion asesiadau llety. Yn yr un modd â’r holl ddata personol, bydd angen i unrhyw brosesu gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a deddfwriaeth gysylltiedig sy’n ymwneud â chael mynediad at ddata personol a’i ddefnyddio.
Mae’n debygol mai cymharol ychydig o ddata eilaidd sydd ar gael sy’n cofnodi nifer y Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn cartrefi brics a morter. Nid yw cofnodion tai lleol yn debygol o nodi pwy neu ble maen nhw. Yn aml, nid yw categorïau monitro ethnig yn nodi Sipsiwn a Theithwyr ar wahân, a lle maen nhw’n gwneud hynny, efallai y bydd Sipsiwn a Theithwyr mewn tai sefydlog yn amharod i gofnodi eu hunain felly fel rhan o unrhyw gyfrifiad. Efallai nad yw rhestrau aros tai awdurdodau lleol yn adlewyrchu anghenion llety’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn llawn, yn enwedig gan nad yw llawer o Sipsiwn a Theithwyr efallai’n chwilio am dai brics a morter.
Efallai y bydd data defnyddiol ar gael os oes gan awdurdodau lleol restrau aros sy’n caniatáu i aelwydydd nodi’r angen am leiniau cartrefi symudol. Os nad yw awdurdodau lleol yn defnyddio rhestrau aros o’r fath ar hyn o bryd, argymhellir eu bod yn dechrau gwneud hynny (gweler y rhestr wirio ymgysylltu).
Efallai fod cofnodion darparwyr gwasanaethau eraill hefyd yn anghyflawn, gan mai dim ond y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau perthnasol y byddant yn eu cofnodi. Mae The Race Equality Foundation / Zoe Matthews, ‘The Health of Gypsies and Travellers in the UK’ (2008) yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn.
Felly, ni fydd data sydd eisoes ar gael ar ei ben ei hun yn ddigon wrth gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr. O’r herwydd, ni fydd asesiadau sy’n defnyddio data sydd eisoes ar gael yn unig yn ddigon cynhwysfawr na manwl i weinidogion Cymru eu cymeradwyo. Dim ond brasamcanion o angen y bydd y data hwn yn eu rhoi ac ni fydd yn darparu’r wybodaeth benodol a chyfredol sydd ei hangen i gynnal asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cadarn.
Cynnal arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr
Yn ogystal ag asesu anghenion llety, nodwch gynlluniau’r awdurdod lleol i ddiwallu’r anghenion dynodedig. Mae’r rhain yn gallu bod yn gynlluniau tymor byr neu dymor hir. Mae angen yr wybodaeth hon i fodloni Gweinidogion Cymru bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau yn unol â Deddf 2014 a bydd yn cael ei defnyddio i lywio cyfarfodydd monitro rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Mae arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn casglu data ar ofynion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Ar sail y data hwn, disgwylir i awdurdodau lleol lunio cynlluniau y gellir eu gweithredu i ddiwallu’r anghenion hyn yn effeithiol. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod yr anghenion llety a nodwyd yn arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu trosi’n atebion a darpariaethau ymarferol. Nid yw asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn ymwneud â chanfod anghenion llety’r gymuned. Yn hytrach, mae’n broses gynhwysfawr sy’n ceisio datblygu cynllun strategol i fynd i’r afael â’r anghenion hyn.
Er mwyn cael y data mwyaf cywir a chasgliadau a gefnogir, bydd angen i awdurdodau lleol neu bartneriaethau gynnal arolwg maint y boblogaeth cyflawn tebyg i’r cyfrifiad o ymatebion arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, gan geisio cysylltu a chael ymateb gan bob aelwyd Sipsiwn a Theithwyr mewn awdurdod lleol a bod ymateb neu reswm gwrthod ymateb yn cael ei gofnodi ar gyfer pob un.
Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n cynnal yr asesiad yn ceisio cysylltu â’r holl Sipsiwn a Theithwyr hysbys sy’n byw neu’n aros yn yr ardal i sicrhau bod yr holl gyfranogwyr yn ystyried bod yr asesiad yn un dilys ac mae hyn yn rhoi’r asesiad mwyaf cywir o angen nas diwallwyd.
Adnabod y gymuned
Wrth ddylunio’r arolwg, rhaid i awdurdodau lleol ystyried sut gallant adnabod cymunedau Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw mewn gwahanol fathau o lety. Dylai’r rhai sy’n cynnal arolygon geisio cyfweld ag o leiaf un cynrychiolydd o bob aelwyd a pheidio â dibynnu ar ymateb gan un person yn unig o bob safle. Bydd hyn yn sicrhau bod yr wybodaeth a geir yn fwy cywir ac nad yw unigolion yn dod yn borthorion i’r gymuned gyfan nac yn camliwio anghenion llety pobl eraill yn anfwriadol.
Bydd data o’r ansawdd gorau gan awdurdodau lleol am Sipsiwn a Theithwyr sydd ar safleoedd presennol awdurdodau lleol. Mae’n bwysig bod anghenion llety aelwydydd cudd (neu sydd wedi ‘dyblu’) sy’n rhannu lleiniau hefyd yn cael eu cofnodi a’u hystyried. Rhaid asesu anghenion yr aelwyd gudd ar wahân i anghenion yr aelwydydd sydd wedi cytuno i fod yn denantiaid i’r llain neu i’r tŷ.
Mae awdurdodau lleol yn llai tebygol o fod â gwybodaeth gyflawn am aelodau’r gymuned sy’n byw mewn cartrefi brics a morter. Efallai fod rhai awdurdodau lleol wedi creu rhestrau aros penodol ar gyfer lleiniau Sipsiwn a Theithwyr neu efallai byddant yn cofnodi ethnigrwydd ar eu rhestrau aros ehangach am dai cymdeithasol. Fodd bynnag, mae hyd yn oed y data hwn yn debygol o fod yn anghyflawn. Dylai awdurdodau weithio gyda gweithwyr proffesiynol arbenigol (fel Gwasanaethau Addysg i Deithwyr, ymwelwyr iechyd arbenigol neu swyddogion cyswllt Sipsiwn a Theithwyr) a mudiadau cymorth cymunedol, Atodiad 2, lle bo hynny’n berthnasol, i ganfod ac i gynnwys yr aelodau hyn o’r gymuned yn well yn eu hasesiadau.
Gellir adnabod Sipsiwn a Theithwyr mewn gwersylloedd diawdurdod neu safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio drwy’r Cyfrif Carafannau neu drwy waith monitro’r awdurdod lleol, neu drwy achosion sy’n ymwneud â meddiant. Efallai fod yr awdurdod lleol yn gwybod am rai ar wersylloedd diawdurdod, fel ymwelwyr rheolaidd ac aml efallai, tra bo eraill efallai’n llai adnabyddus ac yn anoddach eu hadnabod. Bydd yn arbennig o bwysig egluro i unrhyw feddianwyr diawdurdod bod arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn ceisio deall yr angen am leiniau preswyl a lleiniau tramwy.
Hyd yn oed pan fydd meddianwyr gwersylloedd diawdurdod wedi gwrthod cymryd rhan yn yr arolwg, dylai eu rheswm dros y gwersyll fod wedi cael ei gofnodi’n barod drwy elfen cofnod gwersylloedd diawdurdod y Cyfrif Carafannau a gellir ei gynnwys yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr drwy ddadansoddi ffynonellau data sydd eisoes ar gael. Mae’n bwysig cynnal sgyrsiau parhaus am yr angen am ddarpariaeth barhaol neu dramwy mewn prosesau gwersylloedd diawdurdod er mwyn deall anghenion aelodau o’r gymuned nad ydynt efallai’n byw yn yr awdurdod lleol yn ystod cyfnod gwaith yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Mae’n ddigon posibl y bydd yn anodd iawn cael ymatebion gan feddianwyr safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio. Y rheswm am hyn yw y gall meddianwyr amau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu i gymryd camau gorfodi yn erbyn y safle, yn hytrach na deall eu hanghenion. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, byddai’n fuddiol i awdurdodau lleol fod yn gwbl bendant am eu bwriad a phwysleisio nad dyma bwrpas yr arolwg. Mae aelodau Sipsiwn a Theithwyr y grŵp llywio yn debygol o wybod lle mae gwersylloedd diawdurdod yn yr ardal ac efallai y bydd ganddynt rai awgrymiadau defnyddiol am y ffordd orau o ymgysylltu â'r aelwydydd hyn.
Rhaid i ymchwilwyr gadw cofnod o apwyntiadau a chyfweliadau gydag aelodau'r gymuned i ddangos tystiolaeth o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd. Dylai ymchwilwyr geisio ymgysylltu ag aelwydydd ar o leiaf dri achlysur os ydynt yn aflwyddiannus ar y cynnig cyntaf. Dylent gofnodi dyddiad ac amser pob cynnig ar y cofnod o’r cyfweliadau a’r dull a ddefnyddiwyd i geisio ymgysylltu â’r aelwyd (ee rhybudd ymlaen llaw o apwyntiad, ymweliad dirybudd, cyflwyniad gan gyfryngwr dibynadwy ac ati).
Mae’r cofnod cyfweliadau enghreifftiol yn Atodiad 4. Gall awdurdodau lleol benderfynu diwygio’r templed cofnod cyfweliadau i’w ddefnyddio yn eu hardal. Fodd bynnag, rhaid tynnu unrhyw ddata personol a allai ddatgelu pwy yw unrhyw unigolyn o’r fersiwn a gyflwynir i Lywodraeth Cymru.
Rhaid i awdurdodau lleol neu ymchwilwyr a benodir bob amser geisio ymgysylltu â chynifer o aelwydydd â phosibl yn yr arolwg arbenigol. Byddai hyn yn golygu bod 1 person o bob aelwyd Sipsiwn a Theithwyr hysbys wedi cael cyfweliad neu wedi gwrthod cymryd rhan yn arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Rhaid i awdurdodau lleol allu dangos eu bod wedi cyrraedd cynifer o aelwydydd â phosibl drwy broses yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr – gall y ‘rhestr wirio ymgysylltu’ isod helpu i wneud hyn. Bydd Gweinidogion Cymru yn edrych yn benodol ar lefelau ymgysylltu wrth asesu a ddylid cymeradwyo unrhyw asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Rhestr wirio ymgysylltu
- Cynnwys Sipsiwn a Theithwyr ar grŵp llywio prosiect yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
- Ymweld â phob aelwyd Sipsiwn a Theithwyr a nodir drwy’r broses dadansoddi data o leiaf 3 gwaith, os oes angen. Dylid cynnal yr ymweliadau ar wahanol adegau o’r dydd i sicrhau’r adeg orau i gyd-fynd â chyfrifoldebau gwaith neu ofalu. Gall hyn olygu ymweld ag aelwyd i gytuno ar amser cyfleus i ail-ymweld.
- Cyhoeddi manylion proses yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, gan gynnwys manylion cyswllt, er mwyn i aelodau’r gymuned allu gofyn am gyfweliad, er enghraifft, ar wefan yr awdurdod lleol, gwefan Travellers’ Times a chyhoeddiad y World’s Fair. Postio manylion mewn man canolog ar safleoedd awdurdodau lleol ac mewn unrhyw ganolfannau cymunedol perthnasol ac ati.
- Ymgynghori â mudiadau cymorth cymunedol perthnasol, fel y rhai yn Atodiad 2.
- Datblygu rhestr aros awdurdod lleol ar gyfer lleiniau a thai confensiynol, sy’n hygyrch ac yn hysbys i aelodau’r gymuned.
- Sicrhau yr eir ar drywydd manylion cyswllt aelodau eraill o’r gymuned y gall aelodau’r gymuned eu rhoi i’r awdurdod lleol drwy broses yr arolwg a bod eu hanghenion yn cael eu hasesu hefyd.
- Ystyried cynnal digwyddiadau gwybodaeth asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ar y safle (neu gerllaw) i egluro pam dylai aelodau’r gymuned gymryd rhan ac annog trigolion y safle i ddod ag eraill gyda nhw nad yw’r awdurdod lleol efallai’n gwybod amdanynt.
Anawsterau o ran cael mynediad i’r gymuned
Hyd yn oed ar ôl adnabod y gymuned Sipsiwn a Theithwyr leol yn llawn, efallai na fydd hi’n hawdd darbwyllo pawb yn y gymuned i gymryd rhan yn yr arolwg asesiad llety. Efallai y bydd pobl yn amharod i roi gwybodaeth, neu’n amau dibenion rhoi’r wybodaeth. Gall swyddogion neu fudiadau cymorth y mae’r gymuned yn ymddiried ynddynt, ynghyd â chynrychiolwyr Sipsiwn a Theithwyr, chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fraenaru’r tir, gan egluro pwrpas yr arolwg a chyflwyno’r ymchwilwyr.
Gellid hefyd gwahodd aelodau o’r gymuned i gyfrannu at fapio’r gymuned yn yr awdurdod lleol neu ardal y bartneriaeth.
Dylai awdurdodau lleol ystyried cynnal digwyddiadau cynnwys y gymuned i sicrhau bod pwrpas a natur yr asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu deall yn iawn a'u bod yn cael cyhoeddusrwydd. Dylid cynnal y digwyddiadau hyn mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r rhan fwyaf o aelodau’r gymuned leol. Gall hyn gynnwys defnyddio unrhyw gyfleusterau cymunedol ar safleoedd awdurdodau lleol neu gyfleusterau cymunedol cyfagos sy’n cael eu defnyddio gan y cymunedau hyn. Dylid annog aelodau o’r gymuned i ddod gyda pherthnasau neu ffrindiau sy’n byw oddi ar y safle a allai fod angen llain awdurdod lleol.
Mae’n bwysig bod aelodau’r gymuned yn deall ei bod yn annhebygol y bydd yr angen diweddaraf am unrhyw safleoedd ychwanegol yn yr ardal yn cael ei ganfod heb i gynifer â phosibl o Sipsiwn a Theithwyr gymryd rhan a bod awdurdodau lleol eisiau gweithio gyda’r gymuned i ddarparu’r lleiniau a’r safleoedd hynny. Os gall awdurdodau lleol ddangos eu bod wedi ymgymryd â gwaith mapio trylwyr o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal ac wedi defnyddio eu hymdrechion rhesymol i ymgysylltu â’r gymuned, byddant yn fwy tebygol o allu dangos cadernid eu hasesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Rheoli disgwyliadau
Wrth gynnal yr arolwg, rhaid pwysleisio i’r rhai sy’n cymryd rhan mai nod yr ymarfer hwn yw deall hyd a lled anghenion Sipsiwn a Theithwyr am leiniau, y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt, ac i’w helpu i ddatblygu strategaeth i ddiwallu’r anghenion hynny. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i’r awdurdod lleol fodloni gofynion llety penodol pawb sydd wedi cael eu cyfweld fel rhan o’r astudiaeth.
Mae’r ddyletswydd yn dilyn yr asesiad yn ymwneud â darparu lleiniau cartrefi symudol i ddiwallu’r angen a nodwyd. Ni fydd yr awdurdod lleol bob amser yn gallu bodloni’r holl ddewisiadau ar gyfer lleiniau neu safleoedd mewn lleoliadau penodol, ond dylai weithio gyda’r gymuned i weld beth mae modd ei gyflawni’n realistig. Mae dyrannu’r lleiniau safle sydd ar gael gan awdurdodau lleol hefyd yn fater i awdurdodau lleol benderfynu arno ar y cyd â’u swyddogaethau tai eraill.
Mae’r holiadur cyffredinol yn Atodiad 3 yn cynnwys cwestiwn sy’n caniatáu i unigolion ofyn am gael eu cynnwys ar y rhestr aros leol am gartref symudol neu dŷ.
Sensitifrwydd diwylliannol
Rhaid ymchwilio’n ofalus i sensitifrwydd diwylliannol a’i ystyried wrth ddylunio’r arolwg. Rhaid ystyried yn ofalus unrhyw newidiadau i eiriad yr holiadur templed oherwydd sensitifrwydd diwylliannol a dylid eu hegluro wrth gyflwyno’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru.
Efallai y bydd llawer o sensitifrwydd diwylliannol i’w ystyried wrth benderfynu sut mae cynnal yr arolwg. Er enghraifft, gallai rhywedd y sawl sy’n cyfweld, amser y cyfweliad neu leoliad y cyfweliad fod yn ystyriaethau y dylid eu trafod â’r cymunedau eu hunain.
Efallai y bydd sensitifrwydd diwylliannol a allai effeithio ar barodrwydd rhai unigolion i gymryd rhan. Er enghraifft, efallai na fydd rhai menywod yn gyfforddus yn cael eu cyfweld ar eu pen eu hunain yn eu cartrefi symudol gan ymchwilwyr gwrywaidd. Pan fydd teuluoedd estynedig yn cael eu cyfweld gyda’i gilydd, dylid rhoi cyfle i unigolion ymateb ar wahân ac yn gyfrinachol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Mae’n bwysig i awdurdodau lleol ystyried y potensial i gyfwelwyr achosi tramgwydd os nad ydynt yn deall y cymunedau maen nhw’n gweithio gyda nhw. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod pob cyfwelydd wedi ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol Sipsiwn a Theithwyr cyn cynnal unrhyw gyfweliadau.
Mae’n bwysig cydnabod y gallai’r arolwg gynnwys cyfweld ag aelodau o sawl cymuned wahanol sydd â normau ac arferion diwylliannol gwahanol. Mae angen i’r ymchwilwyr allu ymgysylltu ag aelodau o bob cymuned wahanol a chyda'r mudiadau cymorth cymunedol mwyaf perthnasol.
Argymhellir hefyd bod awdurdodau lleol yn ystyried darparu hyfforddiant i Aelodau Etholedig cyn ymgymryd â’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, yn enwedig unrhyw Gynghorwyr sy’n ymwneud â’r grŵp llywio, y Pwyllgor Cynllunio neu’r Pwyllgor a fydd yn craffu’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Amseru’r arolwg
Rhaid ystyried amseriad priodol yr arolwg. Dylid ystyried newidiadau tymhorol wrth benderfynu ar amseriad yr arolwg. Bydd angen i’r awdurdod lleol neu’r bartneriaeth gael rhywfaint o wybodaeth am batrymau teithio’r boblogaeth Sipsiwn a Theithwyr leol cyn gallu penderfynu’n ystyriol pryd dylid cynnal arolwg yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Dylid hefyd ystyried y ffaith y gallai rhai Sipsiwn a Theithwyr sydd fel arfer yn byw yn yr ardal fod i ffwrdd yn teithio eu hunain yn ystod misoedd yr haf. Efallai y bydd y Sipsiwn a Theithwyr a’r mudiadau cymorth a gynrychiolir ar grŵp llywio’r prosiect a’r rhai sy’n gweinyddu’r Cyfrif Carafannau mewn sefyllfa dda i roi cyngor.
Pan fydd awdurdodau lleol cyfagos yn gwybod bod eu poblogaethau Sipsiwn a Theithwyr yn symud yn rheolaidd ar draws ffiniau gweinyddol, argymhellir eu bod yn ystyried cynnal eu hasesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr yn rhanbarthol neu ar amser y cytunir arno ar y cyd i osgoi’r posibilrwydd o gyfrif ddwywaith ac i bennu’r lleoliad mwyaf addas ar gyfer safleoedd newydd. Gall hyn hefyd gynnwys pennu’r safle mwyaf amgylcheddol gynaliadwy ar draws y rhanbarth.
Mae angen i asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr ddarparu trosolwg eang o anghenion llety’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer y cyfnod sy’n cael ei adolygu.
Yr arolwg a thechnegau ansoddol
Mae technegau arolygu traddodiadol, fel anfon neges drwy’r post i gyfeiriadau, yn annhebygol iawn o sicrhau canlyniadau cadarn. Gall Sipsiwn a Theithwyr fod hyd yn oed yn llai tebygol o ymateb i arolwg o’r fath na grwpiau eraill. Mae’r rhesymau dros hyn yn cynnwys:
- llawer o symud neu symud yn dymhorol
- gall gwahaniaethau diwylliannol olygu bod cwestiynau'n cael eu hystyried yn ymwthiol neu fod diffyg ymddiriedaeth yn y broses
- lefelau llythrennedd is o bosibl mewn rhai cymunedau
Oherwydd bod angen meithrin ymddiriedaeth a sicrhau lefelau uchel o gyfranogiad, mae arolygon cyfweliadau wyneb yn wyneb yn fwy priodol gan eu bod yn tueddu i arwain at gyfraddau ymateb uwch o lawer a data mwy dibynadwy gan y cymunedau hyn.
Pan fo’n bosibl, mae’n ddefnyddiol sicrhau cynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau ymysg y rhai sy’n cael eu cyfweld. Gellir defnyddio technegau amrywiol i geisio annog mwy o ddynion i gymryd rhan, gan y byddai'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio oddi ar y safle yn ystod y dydd pan fydd llawer o ymchwilwyr am ymweld. Dylid bod yn hyblyg ac yn greadigol wrth gynllunio’r amseroedd i gynnal yr ymweliadau, gan gynnwys cynnal ymweliadau gyda’r nos ac ar benwythnosau. Dwy ffordd bosibl fyddai defnyddio diwrnodau cynnwys y gymuned mewn cyfleusterau hygyrch neu geisio trefnu apwyntiadau penodol ar gyfer cyfweliadau. Gallai fod yn ddefnyddiol ailadrodd yr ymdrechion drwy drefnu dychwelyd i’r safle min nos. Gall apwyntiadau cynnar gyda’r nos fod yr un mor anghyfleus os oes gan y teulu blant ifanc a threfn amser gwely. Mae’n debyg mai cytuno ar amseroedd apwyntiadau gydag aelodau’r gymuned fydd y mwyaf effeithiol, a hynny rhwng diwedd y bore a dechrau’r prynhawn. Fodd bynnag, mae hyn yn debygol o newid o achos i achos.
Rhaid i awdurdodau lleol ystyried hawl plant a phobl ifanc i’w lleisiau gael eu clywed ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw fel sy’n ofynnol dan erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Felly, dylid rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan ym mhroses yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr mewn ffordd sy’n hygyrch ac yn gymesur â’u haeddfedrwydd a’u gallu, ac yn amodol ar ganiatâd rhieni a chael cwmni fel sy’n briodol.
Mae Adran D yr holiadur yn mynd i’r afael â thwf teuluoedd. Er mwyn nodi unrhyw dwf yn y dyfodol, dylai ymchwilwyr geisio cyfweld â phobl ifanc a allai fod angen eu llety eu hunain yn ystod cyfnod adolygu’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gwiriadau priodol wedi'u cynnal drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer unrhyw gyfwelwyr sy'n debygol o ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed fel rhan o'r arolwg.
Cwestiynau'r arolwg
Mae templed holiadur Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr blaenorol, yn Atodiad 3. Mae’r holiadur yn cynnwys 5 rhan ac mae’n ceisio sicrhau y cesglir yr holl ddata perthnasol sydd ei angen i helpu awdurdodau lleol i asesu anghenion yn briodol.
Argymhellir bod y cyfwelwyr yn llenwi’r holiadur yn ystod sgwrs wyneb yn wyneb ag aelod o bob aelwyd yn ardal yr awdurdod lleol. Dylai’r broses hon osgoi’r risg o unrhyw broblemau llythrennedd sy’n rhwystro cyfranogiad a sicrhau cyfradd ymateb uwch na deunydd drwy’r post, yn ogystal â rhoi cyfle i aelodau’r gymuned ofyn cwestiynau lle bo angen.
Mae Adran A yr holiadur yn gofyn i aelodau’r gymuned am eu trefniadau llety presennol. Bydd dadansoddi’r adran hon yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar awdurdodau lleol i ddeall natur y cyflenwad llety presennol. Er enghraifft, er y dylai’r dadansoddiad o’r data eilaidd sydd eisoes ar gael roi gwybod i awdurdodau lleol faint o leiniau awdurdod lleol neu leiniau preifat sy’n cael eu darparu yn yr ardal, rhaid i’r atebion i Adran A hefyd nodi pa mor fodlon yw aelodau’r gymuned gyda’u hamgylchiadau presennol. Mae hyn yn gallu helpu awdurdodau lleol i wybod lle mae angen adnewyddu safleoedd neu addasu aelwydydd. Efallai y bydd grantiau, megis y Grant Cyfalaf Safleoedd a'r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, yn gallu helpu gyda'r broses hon. Efallai y bydd hefyd yn bosibl nodi a oes angen ailystyried trefniadau rheoli safleoedd.
Mae Adran B yn ceisio sefydlu strwythur yr aelwyd, gan gynnwys oed, rhywedd, ethnigrwydd ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd gan unigolion.
Ni fwriedir i’r golofn ethnigrwydd gofnodi unrhyw ddiffiniadau parod neu gyfreithiol o ‘Sipsiwn’ neu ‘Deithwyr Gwyddelig’ ac ati. Yn hytrach, dylid defnyddio’r golofn hon er mwyn i’r rhai sy’n cael eu cyfweld allu disgrifio sut maen nhw’n gweld eu hunaniaeth. Pwrpas hyn yw rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am y gwahanol grwpiau diwylliannol neu ethnig a allai fodoli yn eu poblogaeth Sipsiwn a Theithwyr, a allai effeithio rhywfaint ar faint a ffurfweddiad y safleoedd sydd eu hangen yn y pen draw.
Mae colofn olaf tabl Adran B yn rhoi cyfle eang i aelwydydd gofrestru unrhyw beth y maen nhw’n credu bod angen i awdurdodau lleol ei wybod am eu llety presennol. Gall hyn gynnwys gwrthwynebiad diwylliannol i fath penodol o lety neu faterion eraill maen nhw’n teimlo y dylid eu hystyried.
Dylai cwestiynau B2 a B3 hefyd helpu awdurdodau lleol i ddeall a yw’n debygol y bydd gorlenwi yn y llety. Mae rhagor o wybodaeth am orlenwi ar safleoedd cartrefi symudol ar gael yn yr adran Gorlenwi isod.
Mae cwestiwn B4 yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned ofyn am becyn cais i ymuno â rhestr aros yr awdurdod lleol ar gyfer lleiniau cartrefi symudol neu dai confensiynol.
Mae Adran C yn holi am ddyheadau a chynlluniau llety. Bydd yr wybodaeth a gesglir o dan yr adran hon yn cefnogi awdurdodau lleol i ystyried ymarferoldeb gweithio gydag unigolion i ddatblygu safleoedd preifat ac yn archwilio dyheadau llety aelwydydd sydd eisiau symud.
Dylai cwestiynau C3, C4 a C6 helpu awdurdodau lleol i ystyried pa fath o lety sy’n debygol o fod ei angen i ddiwallu anghenion pob aelwyd.
Bydd cwestiynau C2 a C7 (yn ychwanegol at rai cwestiynau yn Adran D) yn helpu awdurdodau lleol i asesu a oes modd diwallu unrhyw anghenion am leiniau cartrefi symudol a nodwyd yn yr awdurdod lleol penodol lle mae’r aelwyd yn byw ar hyn o bryd neu a ellid eu darparu mewn awdurdod lleol arall. Os bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn awgrymu y gellid diwallu’r angen mewn awdurdodau eraill, gallai’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr arolwg drafod posibilrwydd trosglwyddo’r angen i’r awdurdod lleol arall. Fodd bynnag, byddai’r angen nas diwallwyd yn aros gyda’r awdurdod lle mae’r aelwyd yn byw ar hyn o bryd os yw’r awdurdod arall yn gwrthod derbyn trosglwyddo’r angen nas diwallwyd.
Mae cwestiwn C5 yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned wneud nodyn o unrhyw fwriad i ddatblygu safle preifat yn yr ardal. Mae’r cwestiwn yn caniatáu i aelodau’r gymuned ofyn am drafodaeth gyda’r awdurdod lleol, lle gall yr awdurdod asesu dichonoldeb eu cynlluniau i ddatblygu safle preifat a darparu cyngor cyffredinol ar y broses sydd i’w dilyn. Os nad yw’r aelod o’r gymuned yn dymuno rhoi ei fanylion cyswllt, byddai’n ddefnyddiol i’r cyfwelydd ei gyfeirio at y man lle gall ofyn am gyngor am geisiadau cynllunio.
Bydd Adran D yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer y twf a ragwelir yn y teulu a’r anghenion sy’n debygol o godi o aelwydydd newydd yn ystod y cyfnod adolygu. Bydd cwestiynau D1 i D3 yn helpu’r awdurdod lleol i ddeall y galw yn y dyfodol am lety preswyl sy’n deillio o aelwydydd presennol.
Mae cwestiynau D4 a D5 yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned roi gwybod i’r awdurdod lleol am aelwydydd sy’n byw mewn awdurdodau lleol eraill sydd eisiau symud er mwyn iddynt allu byw yn yr un awdurdod lleol â’u teulu. Os bydd aelodau o’r gymuned yn rhoi manylion aelodau o’r teulu sy’n byw yn rhywle arall, dylai’r awdurdod lleol ystyried cysylltu â nhw i asesu a ddylent fod yn rhan o’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr.
Pan fo cais am leiniau’n codi o’r tu allan i’r awdurdod lleol, efallai bydd yr awdurdod sy’n cynnal yr asesiad llety Sipsiwn a theithwyr yn dymuno trafod yr amgylchiadau a derbyn trosglwyddo anghenion o’r awdurdod lleol lle mae’r aelwyd yn byw ar hyn o bryd. Dylid gofyn i’r aelwyd gydsynio i gynnal y trafodaethau hyn a dylai’r awdurdod lleol ystyried cyhoeddi hysbysiad preifatrwydd.
O dan Ddeddf 2014, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion y rhai sy’n byw neu’n aros yn eu hardal. Mae cwestiynau D4 a D5 yn helpu i asesu anghenion y rhai sy’n aros yn yr ardal.
Dylid gofalu bod yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn cofnodi nid dim ond y rhai sy’n aros yn ardal yr awdurdod lleol adeg cynnal yr arolwg, ond hefyd y rhai y gwyddys eu bod yn aros yn rheolaidd yn yr ardal ar adegau eraill o’r flwyddyn.
Yn olaf, mae Adran E yn mynd i’r afael â’r angen am ddarpariaeth aros tramwy neu dros dro/a negodwyd yn yr ardal ac mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill. Bydd dadansoddi’r adran hon yn helpu’r awdurdod lleol i ddeall lle mae angen y ddarpariaeth dramwy.
Mae Adrannau A i D yr holiadur yn ymwneud â’r anghenion am leiniau preswyl sy’n codi yn yr awdurdod lleol penodol sy’n cynnal yr arolwg. Fodd bynnag, mae Adran E yn gofyn am wybodaeth ar sail ddaearyddol ehangach. Y rheswm am hyn yw mai’r ffordd orau o ddiwallu anghenion safleoedd tramwy yw ar sail ranbarthol o bosibl. Ar ben hynny, mae’r rhan fwyaf o aelwydydd sy’n cael eu cyfweld gan yr awdurdod lleol yn debygol o fod yn drigolion lleol, felly maen nhw’n fwy tebygol o fod yn teithio (ac felly bydd ganddynt fwy o ddiddordeb mewn safleoedd tramwy) mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill. Mae’r wybodaeth a gesglir gan y rhai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod hefyd yn hanfodol i ddeall yr angen lleol am fannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd a dylid ei hystyried yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i asesu’n llawn yr angen am leiniau dros dro ym mhob awdurdod lleol.
Dylid rhannu’r atebion i gwestiynau Adran E â’r awdurdodau lleol a enwir gan aelodau’r gymuned i sicrhau bod anghenion safleoedd tramwy yn cael eu hasesu’n briodol yn yr ardaloedd hynny. Mae’r atebion i gwestiynau E2, E3 ac E5 yn debygol o fod yn ddefnyddiol i awdurdodau eraill. Nid oes angen i’r data a rennir gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif na chael ei briodoli i unrhyw aelwyd unigol.
Os bydd awdurdodau lleol, drwy’r grŵp llywio, yn penderfynu eu bod yn dymuno cynnwys cwestiynau eraill sy’n ymwneud ag anghenion llety, dylent eu cynnwys yn Adran F yr holiadur. Er mwyn bod yn fwyaf effeithiol, dylid datblygu cwestiynau ychwanegol drwy ymgynghori â chynrychiolwyr y cymunedau Sipsiwn a Theithwyr lleol. Gall cwestiynau ychwanegol gynnwys cymysgedd o gwestiynau ticio blychau caeedig a chwestiynau mwy agored lle mae’r ymatebwyr yn cael eu hannog i ymhelaethu ar eu hatebion. Dylid cynnwys unrhyw gwestiynau ychwanegol wrth gyflwyno’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru.
