Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi'r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd. Bydd cydweithredu â gwledydd a rhanbarthau eraill yn:

  • cynyddu proffil Cymru ar lwyfan y byd
  • datblygu economi Cymru
  • cadarnhau sefyllfa Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang

Trwy gydweithio, mae'n bosibl cyfnewid syniadau, nodi arfer gorau a bod yn fwy arloesol a chystadleuol, a mynd i'r afael â phynciau pwysig sy'n rhychwantu ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at ein partneriaid presennol a phartneriaid yn y dyfodol, yn y DU, Ewrop ac mewn gwledydd eraill, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyffredin ac i fynd i'r afael â heriau cyffredin.

Mae Strategaeth Ryngwladol a Cynllun Gweithredu Perthnasoedd a Rhwydweithiau Rhanbarthol Llywodraeth Cymru  yn nodi'r angen i wella cydweithredu mewn sectorau allweddol a gweithio gyda rhanbarthau a rhwydweithiau ledled y byd sy'n rhannu ein huchelgeisiau. Mae gan Lywodraeth Cymru Femoranda Dealltwriaeth neu gytundebau dwyochrog cyfatebol gyda sawl rhanbarth.

Mae Gogledd America yn farchnad bwysig i Gymru ac mae cydweithredu economaidd mewn meysydd fel gwyddorau bywyd, lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, trawsnewid ynni a'r economi gylchol yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Mae gan Quebec a Chymru Ddatganiad o Fwriad, wedi'i gefnogi gan Alwad ar y Cyd ers 2020, sy'n cefnogi cydweithredu dwyochrog ym maes ynni adnewyddadwy, gwyddorau bywyd, AI, llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau perfformio.  Mae cyfle i gynyddu'r cydweithredu drwy Cymru Ystwyth lle bo hynny'n ychwanegu at werth unrhyw Alwadau ar y Cyd. Nod y prosiect Trawsatlantig oedd hwyluso cydweithredu pellach rhwng Cymru, Quebec a rhanbarthau'r UE mewn twf glas cynaliadwy.

Mae gan Gymru berthynas hir ac agos â Japan, a atgyfnerthwyd yn ddiweddar gan yr ymgyrch 'Cymru a Japan 2025', gyda chyfleoedd ym maes ynni adnewyddadwy, lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch, technoleg feddygol a'r diwydiannau creadigol. Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes Femoranda Dealltwriaeth gyda Llywodraeth Oita yn Japan, sy'n mynegi eu dyhead diffuant i gryfhau cysylltiadau mewn meysydd fel y celfyddydau a diwylliant, chwaraeon, y byd academaidd, twristiaeth, a bwyd a diod. 

Mae perthynas Cymru ag India yn canolbwyntio'n economaidd ar wyddorau bywyd, lled-ddargludyddion cyfansawdd, gweithgynhyrchu uwch a chysylltiadau diwylliannol, yn enwedig gyda phobl Khasi Meghalaya a chymunedau Nagaland. 

Mae Horizon Ewrop yn cynnig cyfle i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gydweithio â'r gorau yn y byd, gan ddenu talent, a chynnal gwyddoniaeth ac arloesedd blaengar er lles cymdeithas. Mae'r rhaglen yn fyd-eang, gyda Chanada, Japan, Seland Newydd, De Korea, ac eraill yn cymryd rhan.

Mae Cymru Ystwyth yn helpu i ysgogi a hwyluso gweithgarwch sy'n creu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol, gan gynyddu'r cydweithrediad mewn meysydd sydd â'r potensial i gael mwy o effaith economaidd gyson o arwyddocâd i Gymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar faterion diwylliannol a manteision cymdeithasol gweithio ar draws ffiniau.

Y fenter

Mae'r fenter hon yn gwahodd ceisiadau oddi wrth sefydliadau sy'n gweithredu yng Nghymru a all gynyddu a chynnal cydweithrediad gyda rhanbarthau pwysig.  Gallai hyn gynnwys cydweithredu â'r rhanbarthau a enwir uchod, neu â rhanbarthau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu bod yn arwyddocaol o ran y gweithgaredd sy'n cael ei gynnig.  Gallai cynigion adlewyrchu hefyd y themâu a nodir uchod, mewn cytundebau dwyochrog perthnasol neu strategaeth berthnasol a phenodol Llywodraeth Cymru. Rhaid i weithgareddau a gwariant ddigwydd rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2027.

Lles Cymru yw nod y fenter hon, ac nid oes unrhyw gyfyngiad ar y partneriaid posibl allai wireddu neu rannu'r lles hwnnw. 

Bydd cais cryf yn cyd-fynd â'r strategaeth a ddisgrifir uchod ac yn:

  • cefnogi ac yn meithrin cysylltiadau strategol perthnasol y tu allan i Gymru   
  • creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes sy'n arwyddocaol i economi Cymru.
  • cynnwys sefydliadau neu rwydweithiau pwysig a pherthnasol
  • trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar flaenoriaethau polisi Cymru
  • adeiladu a datblygu ar weithgarwch presennol
  • meddu ar lwybr clir i ddenu cyllid arall neu ffordd arall i gynnal gweithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy

Rhaid i bob cais ddangos ei fod yn hyfyw ac yn rhoi gwerth am arian, a chyfrannu'n gymesur at allbynnau a chanlyniadau perthnasol Cymru Ystwyth.

Nid oes trothwyon grant penodol ond fel canllaw:

  • Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a chynghori, gellid ystyried bod hyd at £4,000 fesul cais yn rhesymol. Byddem yn disgwyl i geisiadau untro neu syml fod yn llai na £2,000 gan amlaf.
  • Ar gyfer prosiectau sy’n fwy strategol, fel rhedeg rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnyddio llawer o ddeunyddiau ac amser staff, gellid ystyried bod hyd at £20,000 y cais yn rhesymol. Mewn sefyllfaoedd eithriadol, gellid ystyried bod hyd at £50,000 yn rhesymol.

Blaenoriaethu

Bydd Llywodraeth Cymru yn dewis prosiectau ar sail portffolio i sicrhau'r cydbwysedd cywir o weithgareddau, risgiau a chanlyniadau ar gyfer y fenter hon a rhaglen Cymru Ystwyth. Gall hyn olygu blaenoriaethu ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • cyfrannu at neu gynnal y capasiti tymor hir i gydweithredu â marchnadoedd a rhanbarthau pwysig
  • a oes cyllid oddi wrth wledydd neu ranbarthau eraill, neu'r posibilrwydd realistig o gael cyllid o'r fath yn ystod cyfnod y prosiect
  • mae'r cynnig yn ceisio llenwi bwlch thematig, daearyddol neu sectorol yn y portffolio
  • maint, sicrwydd a chyflymder yr effaith economaidd
  • cyfranogiad partneriaid diwydiannol neu drydydd sector, yn enwedig o Gymru
  • maint y cais am grant ac a oes modd ei leihau trwy ddenu cyllid a/neu adnoddau eraill
  • gwerth am arian, yn enwedig o'i gymharu â chynigion tebyg

Costau a gefnogir

Bydd costau’n angenrheidiol i hyrwyddo, cynnal a lledaenu’r gweithgareddau y cytunwyd arnynt trwy’r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, rhaid bod modd eu dilysu a rhaid iddynt fod yn gostau sy'n cael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Oni nodir yn benodol yn y fenter hon, dilynwch rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth.

Nid yw'r costau a ysgwyddwyd cyn cymeradwyo'r cais yn cyfrif oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau'n ysgrifenedig eu bod nhw.

Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch na gwariant ar ôl 31 Mawrth 2027.

Ni fyddwn chwaith yn cefnogi gweithgarwch masnachu cyffredinol na gwaith marchnata. Os mai allforio yw prif sylw'r gweithgarwch, mae Llywodraeth Cymru'n cynnig cymorth penodol ar gyfer hynny, a allai fod yn fwy addas. 

Felly, mae'n annhebygol y bydd Cymru Ystwyth yn cefnogi symudedd rhyngwladol ar gyfer canlyniadau addysg.

Gall Cymru Ystwyth gefnogi prosiectau diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon os oes potensial am gydweithredu cyson fydd o arwyddocâd i Gymru, ond ni fydd yn debygol o gefnogi artistiaid neu berfformiadau unigol.

Gall y gwariant gynnwys gweithgarwch partneriaid nad ydynt yn Gymry, ar yr amod bod y costau a hawlir wedi'u hysgwyddo gan bartner o Gymru a bod modd dangos gwerth am arian. Rydym yn eich cynghori i gysylltu  â Thîm Cymru YstwythLlywodraeth Cymru yn fuan wrth ichi ddatblygu'ch cynnig i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio.

Gallwn gefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys os oes cyfiawnhad dros hynny, ond gallai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i geisiadau sy'n gofyn am gyfran lai o gymorth. 

Rydym yn disgwyl i chi ganolbwyntio ar eitemau gwariant mwy â llwybrau tystiolaeth syml, cryf.  Nid yw costau bwyd/cynhaliaeth yn gymwys heblaw pan fydd brecwast wedi'i gynnwys ym mhris y gwesty neu pan fydd arlwyo dan gontract yn gost angenrheidiol ar gyfer cyfarfod/digwyddiad. Hynny er mwyn lleihau'r baich gweinyddol ar ymgeiswyr a'r llywodraeth.

Cyflwyno ceisiadau

Rydym yn agored i geisiadau nawr. Hefyd, os nad yw eich cais yn un ‘cryf’ neu'n flaenoriaeth fel y diffinnir hynny uchod, cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno'ch cais. Fel arall, llenwch y ffurflen gais a'i e-bostio at Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn CymruYstwyth@llyw.cymru.

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar sail nodau'r fenter hon, a Llywodraeth Cymru fydd yn cael y penderfyniad terfynol, a all gynnwys dyfarnu grant is na'r hyn y gofynnwyd amdano. Efallai y byddwn yn gofyn i arbenigwyr a chydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol am eu barn. 

Bydd ceisiadau cymwys yn cael eu hystyried ar sail 'y cyntaf i'r felin', ac ni fydd fawr o gyfle i roi esboniad manylach. Gellir rhoi ceisiadau nad ydyn nhw'n cael eu gweld fel rhai cryf neu'n flaenoriaeth fel y'i diffinnir uchod ar 'restr wrth gefn' i roi cyfle i geisiadau eraill. 

Mae'r gyllideb ar gyfer y fenter hon yn gyfyngedig, a byddwn yn ystyried ymrwymiadau a thanwariant mewn mannau eraill wrth benderfynu. Bydd rhai ceisiadau yn cael eu rhoi ar y 'rhestr wrth gefn' am resymau cyllidebol.