Strydoedd Ysgol: canllawiau i awdurdodau lleol - Astudiaeth achos: Cyngor Hackney
Sut y gall cynghorau wella diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ysgolion ar adegau brig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Gyda 50 o Strydoedd Ysgol gweithredol, mae Cyngor Hackney yn rhedeg rhaglen Strydoedd Ysgol fwyaf y DU, sydd o fudd i dros 20,000 o ddisgyblion.
Ar hyn o bryd mae'n cwmpasu 48 o ysgolion cynradd, 87% o’r ysgolion cynradd yn y fwrdeistref. Mae hefyd yn cynnwys 5 ysgol uwchradd, 26% o’r ysgolion uwchradd lleol. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i asesu ei holl ysgolion cynradd ar gyfer y cynllun Strydoedd Ysgol.
Cychwyn arni
Mae'r Cyngor wedi datblygu ei ddull gweithredu dros amser, gan ddefnyddio tystiolaeth a dysgu o 4 Stryd Ysgol peilot yn:
- Ysgol Gynradd Sant Ioan Fedyddiwr
- Ysgol Gymunedol Gayhurst
- Ysgol Gymunedol Millfields
- Ysgol Gymunedol Oldhill
Cyflwynir strydoedd ysgol gan ddefnyddio gorchmynion traffig arbrofol am hyd at 18 mis.
Yn dilyn ymgynghoriad, gwneir y penderfyniad wedyn ynghylch gwneud y cynlluniau'n barhaol, gyda newidiadau neu heb newidiadau
Gorfodi
Mae Hackney wedi bod yn defnyddio teledu cylch cyfyn i orfodi’r cynllun Strydoedd Ysgol am sawl blwyddyn.
Caiff cymysgedd o gamerâu parhaol a dros dro eu defnyddio bellach. Mae hyn yn golygu y gellir targedu mesurau gorfodi lle bo angen, heb fynd i’r gost o osod camerâu parhaol ym mhob ysgol.
Canlyniadau
At ei gilydd mae'r gymuned leol wedi croesawu’r cynlluniau, gyda phôl piniwn o drigolion Hackney yn 2022 yn nodi bod mwy na 7 o bob 10 o bobl am weld o leiaf rhai o Strydoedd Ysgol Hackney yn cael eu gwneud yn barhaol.
Rhwng 2020 a 2021, ar ôl cyflwyno dros 30 o Strydoedd Ysgol yn Hackney yn llwyddiannus, ar gyfartaledd roedd cerdded a beicio i'r ysgol yn y fwrdeistref wedi cynyddu o 61% i 69%.
Yn Strydoedd Ysgol Hackney, cynyddodd nifer y plant sy'n cerdded i'r ysgol hyd at 30% a chynyddodd nifer y plant sy'n beicio i'r ysgol hyd at 51%.
Ar gyfartaledd, gwelodd yr ysgolion yn Hackney a chanddynt gynllun Stryd Ysgol ostyngiad o 68% mewn traffig y tu allan i giatiau'r ysgol, gan arwain at ostyngiad sylweddol mewn allyriadau cerbydau.
Adnoddau
Mae Cyngor Hackney wedi defnyddio ei brofiad o ddarparu Strydoedd Ysgol i greu pecyn cymorth a thempledi ar gyfer deunyddiau hyrwyddo sydd ar gael i awdurdodau lleol yn rhad ac am ddim.
