Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gall cynghorau wella diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ysgolion ar adegau brig.

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Mawrth 2025

1. Cyflwyniad

Y canllawiau hyn

Lluniwyd y canllawiau hyn ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn enwedig awdurdodau heb lawer o brofiad o weithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol.

Mae'n bosibl y byddant o ddiddordeb i staff a llywodraethwyr ysgolion hefyd.

Mae'r canllawiau yn rhoi trosolwg o beth yw Strydoedd Ysgol, y camau allweddol a'r ffactorau i'w hystyried wrth ddatblygu a gweithredu cynlluniau a sut mae Strydoedd Ysgol yn cyd-fynd â'r cyd-destun ehangach o alluogi disgyblion i gerdded a beicio i'r ysgol.

Nid yw i fod yn ganllaw cynhwysfawr ond mae'n darparu dolenni i wybodaeth a chefnogaeth fanylach.

Drwy gydol y canllawiau, mae cyfeiriadau at “cerdded” hefyd yn cyfeirio at bobl sy'n teithio gan ddefnyddio sgwteri (heb fodur), cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.

Y cyd-destun strategol

Ledled Cymru, mae tua 51% o'r holl blant cynradd a 30% o'r holl blant uwchradd yn cael eu gyrru i'r ysgol mewn car/fan (ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru).

Mae cludo plant i'r ysgol mewn cerbyd yn arwain at dagfeydd, llygredd a phroblemau diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ysgolion ac ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach. Gallai lefelau uwch o deithio llesol i'r ysgol ac o'r ysgol helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn a gwella iechyd meddwl a iechyd corfforol disgyblion a'u rhieni/gofalwyr ar yr un pryd.

Yn 2021, amlinellodd Llywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu lefelau teithio llesol yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys gweledigaeth y bydd 45% o'r holl deithiau yn cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy deithio llesol erbyn 2040. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 13 pwynt canrannol o gymharu â'r gyfran amcangyfrifedig bresennol ar gyfer y dull teithio, sef 32%.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi 7 nod llesiant ar waith, gan gynnwys gweithio tuag at ‘Gymru Iachach’. Mae Strydoedd Ysgol yn helpu i alluogi teithio i’r ysgol mewn modd llesol, gan gynyddu iechyd corfforol a meddyliol plant cymaint ag y bo modd.

Yn Rhaglen Lywodraethu Cymru, mae ymrwymiad i weithio gydag ysgolion er mwyn hyrwyddo teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd. Mae cynyddu nifer y cynlluniau Strydoedd Ysgol yn un o amrywiaeth o fesurau a all helpu i gynyddu lefelau teithio llesol a gwella diogelwch ar ein ffyrdd.

Bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd preswyl ac o amgylch ysgolion hefyd yn helpu mwy o bobl i gerdded a beicio yn yr ardaloedd ehangach o amgylch prosiectau Strydoedd Ysgol oherwydd bydd llai o berygl o gerbydau'n teithio'n rhy gyflym.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Sainweddau) (Cymru) 2024 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer mewn rhai ardaloedd. Gall cynlluniau Strydoedd Ysgol helpu awdurdodau lleol i wella ansawdd aer y tu allan i ysgolion.

2. Strydoedd Ysgol: beth a pham

Beth yw Stryd Ysgol?

Drwy gydol y canllawiau hyn, rydym yn diffinio Stryd Ysgol fel:

ffordd y tu allan i ysgol lle cyfyngir ar draffig modur ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol.

Gall cynlluniau Strydoedd Ysgol gynnwys rhan o ffordd, ffordd gyfan neu hyd yn oed sawl ffordd ger ysgol. Bydd y cyfyngiadau ar gerbydau modur ar waith bob dydd yn ystod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn ysgol (nid digwyddiadau untro i gau ffyrdd mohonynt). Ni chaniateir i gerbydau modur deithio ar y Stryd Ysgol yn ystod yr oriau gweithredol ar adegau hebrwng a chasglu oni bai eu bod wedi cael esemptiad. Mae esemptiadau fel arfer yn cynnwys cerbydau sy'n eiddo i breswylwyr, deiliaid bathodynnau glas a'r gwasanaethau brys (ymhlith eraill).

Dechreuodd Strydoedd Ysgol yn Bolzano yn yr Eidal ar ddiwedd y 1980au.

Cawsant eu cyflwyno gyntaf yn y DU gan Gyngor Dwyrain Lothian yn 2014 a Chyngor Dinas Caeredin yn 2015.

Yng Nghymru, gwelwyd enghreifftiau cynnar o Strydoedd Ysgol yng Nghaerdydd a Chaerffili.  Mae llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru bellach wedi treialu cynlluniau Strydoedd Ysgol.

Mae dulliau eraill i greu Strydoedd Ysgol, megis cau un pen i stryd, fodd bynnag mae’r dulliau hyn y tu allan i gwmpas y canllawiau cychwynnol hyn. Wrth gynllunio ar gyfer ysgolion newydd ac estyniadau i ysgolion dylid ystyried o’r cychwyn cyntaf sut  y gall yr ardal gyhoeddus o amgylch yr ysgol alluogi teithio llesol diogel. Mae hyn hefyd y tu hwnt i gwmpas y canllawiau hyn. 

Mae Canllawiau Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar ystyriaethau ar gyfer datblygiadau newydd.

Pam Strydoedd Ysgol?

Gall Strydoedd Ysgol wella profiadau disgyblion ysgol, staff, ymwelwyr a chymdogion ar adegau brig pan fydd disgyblion yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol. Gall cynlluniau helpu i gyflwyno amrywiaeth o fuddiannau i'r unigolyn, yr ysgol, y gymdogaeth a'r awdurdod lleol yn ehangach, gan gynnwys: 

  • llai o dagfeydd ac ansawdd aer gwell y tu allan i ysgolion
  • llai o berygl ar y ffyrdd a achosir gan draffig a gwella'r canfyddiad o ddiogelwch y tu allan i'r ysgol
  • lefelau uwch o gerdded a beicio i'r ysgol a llai o blant yn cael eu gyrru i'r ysgol
  • cyfleoedd gwell ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a chwarae
  • iechyd corfforol ac iechyd meddwl gwell ymhlith disgyblion
  • llai o wrthdaro â chymdogion oherwydd parcio gwrthgymdeithasol neu niwsans gan rieni/gwarcheidwaid
  • datblygu arferion teithio llesol cynnar y gellir eu cario ymlaen yn ddiweddarach mewn bywyd

Gall gweithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol hefyd helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd statudol i hyrwyddo'r defnydd o ddulliau llesol a chynaliadwy o deithio i'r ysgol fel y nodir yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a'r canllawiau cysylltiedig.

Cynhaliwyd adolygiad o Strydoedd Ysgol gan Brifysgol Napier Caeredin  ar ran yr Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd ac ym mron bob achos lle rhoddwyd cynlluniau Strydoedd Ysgol ar waith, nodwyd y canlynol:

  • bod cyfanswm y cerbydau modur ar y Strydoedd Ysgol a strydoedd cyfagos yn is yn ystod oriau gweithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol
  • bod lefelau teithio llesol i'r ysgol wedi cynyddu
  • bod y rhan fwyaf o rieni disgyblion yn ogystal â phreswylwyr sy'n byw ar y Stryd Ysgol a'r strydoedd cyfagos yn cefnogi'r cynlluniau
  • nad oedd traffig a ddadleolwyd o'r Strydoedd Ysgol i strydoedd cyfagos yn achosi unrhyw broblemau diogelwch arwyddocaol ar y ffyrdd

Dangosodd y canlyniadau o dreial cychwynnol Hackney o'r cynllun Strydoedd Ysgol (fel y nodwyd yn ei becyn adnoddau Strydoedd Ysgol) gynnydd o 51% yn y nifer sy'n beicio i'r ysgol, cynnydd o 30% yn y nifer sy'n cerdded a gostyngiad o 74% mewn allyriadau pibellau mwg.

Canfu ymchwil ar ran Mums for Lungs a Possible a gynhaliwyd gan Academi Teithio Llesol Prifysgol Westminster a Thrafnidiaeth er Bywyd o Safon y gall Strydoedd Ysgol leihau llygredd aer a pherygl traffig y tu allan i giât yr ysgol.

Mythau am Strydoedd Ysgol

Gall mythau di-sail ddatblygu am Strydoedd Ysgol os na wneir ymdrech i esbonio i randdeiliaid sut y bydd cynllun yn gweithio ac yn enwedig sut y gellir lleihau effeithiau annymunol neu eu hosgoi'n llwyr. 

Dangosir rhai o'r mythau cyffredin ynghylch Strydoedd Ysgol isod. Dylai awdurdodau drafod y materion hyn â rhanddeiliaid yn gynnar er mwyn atal unrhyw gamsyniadau rhag dod yn gred gyffredin ac effeithio ar y gefnogaeth o blaid cynllun. 

Myth 1: Mae Strydoedd Ysgol yn arafu'r gwasanaethau brys

Realiti: Nid yw cyfyngiadau Strydoedd Ysgol yn gymwys i gerbydau'r gwasanaethau brys, felly gallant gyrraedd lleoliadau o fewn parth Stryd Ysgol a defnyddio'r ffyrdd yn y parth i deithio i argyfyngau mewn mannau eraill.

Myth 2: Mae Strydoedd Ysgol yn rhoi deiliaid Bathodynnau Glas o dan anfantais

Realiti: Os oes angen i ddeiliad Bathodyn Glas fynd i barth Stryd Ysgol yn ystod oriau gweithredol y cynllun, gall wneud cais am drwydded a fyddai'n golygu nad yw'r cyfyngiadau traffig yn gymwys i'w gerbyd.

Myth 3: Mae Strydoedd Ysgol yn atal athrawon a staff ysgol eraill rhag cyrraedd eu gweithle

Realiti: Mae cyfyngiadau traffig yn weithredol am gyfnodau byr ac yn cyd-fynd ag amseroedd hebrwng a chasglu disgyblion. Mewn llawer o achosion, bydd athrawon/staff ysgol eraill sy'n dibynnu ar gar yn cyrraedd cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym ac ni fydd y cynllun yn cael effaith negyddol arnynt. Gall cerbydau sydd eisoes wedi parcio o fewn parth Stryd Ysgol cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym adael ar unrhyw adeg.

Myth 4: Mae'n amhosibl danfon nwyddau i gyfeiriadau o fewn parth Stryd Ysgol

Realiti: Mae'n werth nodi bod tagfeydd y tu allan i ysgolion eisoes yn ei gwneud yn anodd danfon nwyddau y byddai'n bosibl eu danfon yn hawdd fel arall. Mae cynlluniau Strydoedd Ysgol yn cyfyngu ar draffig modur am gyfnodau cyfyngedig: mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithredol am 2 awr (neu lai) dros gyfnod o 24 awr ac yn ystod y tymor yn unig (ychydig dros 50% o'r diwrnodau mewn blwyddyn galendr). O ganlyniad, dim ond cyfran o'r holl ddanfoniadau y bydd y cynlluniau yn effeithio arni ac efallai y bydd modd ailamseru rhai o'r rhain fel y gellir eu cwblhau y tu allan i oriau gweithredol cynllun. Os na ellir ailamseru danfoniadau, gall awdurdodau leihau effaith Stryd Ysgol drwy gadw'r parth yn fach fel y gall gyrwyr danfon nwyddau barcio gerllaw a cherdded pellter byr i'w cyrchfan. Os nad yw hyn yn ymarferol, gall awdurdodau hefyd ystyried ceisiadau am drwydded a fyddai'n golygu nad yw'r cyfyngiadau traffig yn gymwys i gerbyd danfon nwyddau.

Myth 5: Dim ond mewn ardaloedd poblog lle mae disgyblion yn byw o fewn pellter cerdded ac olwyno i'r ysgol y gellir gweithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol

Realiti: Gall cynlluniau Strydoedd Ysgol hefyd weithio mewn ardaloedd llai poblog ac ar gyfer ysgolion â dalgylchoedd mwy, os caiff mesurau ategol eu rhoi ar waith i gefnogi beicio a theithiau aml-ddull sy'n cyfuno trafnidiaeth gyhoeddus neu deithiau mewn car/fan â cherdded (er enghraifft, cyflwyno mesurau fel safleoedd Parcio a Cherdded).

Myth 6: Mae Strydoedd Ysgol yn gorfodi pobl i roi’r gorau i yrru sydd yn wahaniaethol yn erbyn rhieni sydd angen gyrru

Realiti: Gall awdurdodau leihau effaith Stryd Ysgol gan gadw’r parth yn fychan fel mai’r unig effaith tebygol fydd ar rieni sydd yn gorfod gyrru yw taith gerdded mymryn yn bellach at giât yr ysgol. Mae’n bosib yr hoffai awdurdodau gyflwyno mesurau cyflenwol fel safleoedd parcio a cherdded, neu weithredu polisi esemptiad ar gyfer rhieni sydd yn gorfod gyrru oherwydd, er enghraifft, anabledd.

3. Datblygu Strydoedd Ysgol

Dewis ysgolion

Dylai awdurdodau lleol ddatblygu proses glir ar gyfer nodi safleoedd posibl i gyflwyno cynllun Stryd Ysgol ac asesu dichonoldeb cynigion cyn gwneud gwaith dylunio manwl.

Gall y cynnig i gyflwyno cynllun Stryd Ysgol ddod o sawl ffynhonnell. Efallai y bydd awdurdod am wahodd ceisiadau gan ysgolion, grwpiau cymunedol neu'r cyhoedd yn ehangach. Gall awdurdodau nodi safleoedd posibl hefyd ar sail eu tystiolaeth eu hunain o broblemau gyda thagfeydd, diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd aer o amgylch ysgolion. Mae’n bwysig cael cefnogaeth pennaeth a llywodraethwyr yr ysgol yn fuan yn y broses. 

Gall awdurdodau lleol wneud cais am gyllid i gefnogi datblygu a gweithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol drwy grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru.

Dylid cynnal asesiad dichonoldeb cychwynnol o safleoedd arfaethedig cyn dechrau datblygu'r cynllun er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ymdrech ei gwastraffu ar gynigion sy'n annhebygol o lwyddo. 

Gellir defnyddio matrics asesu syml i sgorio cynlluniau Strydoedd Ysgol posibl yn erbyn meini prawf dethol allweddol. Os oes sawl cynnig yn cael eu hystyried, gellir defnyddio canlyniadau'r asesiadau hyn i helpu i flaenoriaethu'r adnoddau sydd ar gael a chyflwyno cynlluniau Strydoedd Ysgol yn raddol. 

Anfonwch e-bost i teithiollesol@llyw.cymru am enghreifftiau o feini prawf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Gweler Ffyrdd eraill o gefnogi teithio i'r ysgol am ymyriadau ychwanegol y gellir eu gweithredu i gefnogi Stryd Ysgol, neu lle nad yw Stryd Ysgol yn ymarferol.

Yr awdurdodau eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i bennu'r meini prawf dethol priodol i'w hardal ac unrhyw fecanweithiau sgorio a phwysoli cysylltiedig. Fodd bynnag, ceir rhai awgrymiadau isod y gellir eu haddasu i adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Pan fydd awdurdodau yn gwahodd ceisiadau am gynlluniau Strydoedd Ysgol, mae'n ddefnyddiol cyhoeddi'r meini prawf a gofyn i'r rhai sy'n cynnig cynlluniau ddarparu gwybodaeth ategol i helpu â'r asesiad.

Mewn astudiaeth a gynhaliwyd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin yn 2022, dangosodd asesiad cychwynnol mai dim ond 39 o 95 o ysgolion cynradd oedd ddim yn addas gan eu bod wedi'u lleoli ar gefnffyrdd neu brif ffyrdd, gan adael 56 o ysgolion fel rhai a allai fod yn addas i'w hasesu ymhellach.

Traffig ac amgylchedd y briffordd

  1. A yw'r ysgol ar brif ffordd neu lwybr bysiau prysur?
  2. A oes cyfleusterau ar y ffordd y mae'n rhaid i gerbydau modur hanfodol allu eu cyrraedd bob amser (fel ysbyty)?
  3. A oes llwybrau eraill y gall traffig trwodd eu defnyddio? (Efallai bod y llwybrau eraill hyn yn cael eu cynnal a'u cadw gan awdurdod priffyrdd arall ac os felly, dylid ymgynghori â'r awdurdod hwnnw.)
  4. A oes busnesau sydd angen i nifer uchel o gerbydau gael mynediad i'w hadeiladau'n rheolaidd, yn ystod oriau gweithredol Strydoedd Ysgolion?

Mae'n annhebygol y bydd Stryd Ysgol yn ddichonol os mai ‘ydy’ ac ‘oes’ yw'r ateb i'r cwestiwn cyntaf neu'r ail gwestiwn a ‘nac oes’ yw'r ateb i'r trydydd cwestiwn. Byddai angen ystyried anghenion busnes pan mai 'oes' yw'r ateb i'r pedwerydd cwestiwn. Efallai y bydd eithriadau i'r rheol hon os bydd awdurdod yn cyflwyno cyfyngiadau traffig llawer ehangach ar gyfer ardal gyfan a/neu'n barod i osod gatiau bws a orfodir drwy system gamerâu er mwyn galluogi bysiau i ddefnyddio eu llwybr arferol yn ddirwystr.

Tystiolaeth o broblemau'n ymwneud â thraffig gerllaw'r ysgol

Pa dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod traffig modur yn achosi problemau ar y safle, pa mor ddifrifol yw'r problemau hyn ac a fyddai modd eu datrys (yn rhannol o leiaf) drwy gyflwyno cyfyngiadau traffig?

Ymhlith y ffactorau y gallai awdurdod fod am eu hystyried mae: 

  • ansawdd aer – a oes lefelau uchel o lygredd y tu allan i'r ysgol? A yw'r ysgol wedi'i lleoli mewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer?
  • diogelwch ar y ffyrdd – A oes tystiolaeth i ddangos bod canfyddiad cyffredinol bod traffig yn peri perygl penodol ac yn atal pobl rhag cerdded, olwyno a beicio i'r ysgol?  A yw data ar wrthdrawiadau a nifer y bobl sydd wedi cael eu hanafu neu'u lladd yn awgrymu problem y gallai cynllun Stryd Ysgol helpu i'w datrys?
  • parcio gwrthgymdeithasol neu niwsans gan rieni/gwarcheidwaid – a yw hon yn broblem benodol ar y safle ac a yw'n cael effaith sylweddol ar breswylwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill?  Pa gamau eraill sydd wedi cael eu cymryd i geisio mynd i'r afael â hyn?

Cefnogaeth yn y gymuned

  • A yw pennaeth yr ysgol yn gefnogol ac a all staff a rhieni helpu i ddatblygu a gweithredu'r cynllun?
  • A yw preswylwyr a busnesau yn barod (ar y cyfan) i gydweithio er mwyn datblygu cynllun ymarferol?

Wrth asesu faint o gefnogaeth a geir yn y gymuned, dylai awdurdodau ystyried barn y cyhoedd ac ymgynghori ar gynlluniau teithio llesol fel y nodir ym mhenodau 5 ac 8 o'r Canllawiau Teithio Llesol yn ogystal â'r cyngor ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl deimladau cryf am gynlluniau cerdded, olwyno a beicio. Mae'r rhai sy'n mynegi ffafriaeth yn tueddu i gefnogi cynlluniau yn hytrach na'u gwrthwynebu, ar gymhareb o fwy na 2:1 ar gyfartaledd. Yn gyffredinol, dim ond lleiafrif bach sy'n mynegi gwrthwynebiad cryf i gynllun ac mae'r gwrthwynebiad hwn yn tueddu i leihau ar ôl i gynllun gael ei roi ar waith. 

Yn gyffredinol, mae cynlluniau Strydoedd Ysgol yn cael mwy o gefnogaeth na chynlluniau teithio llesol eraill oherwydd y budd i blant. 

Ni ddylai awdurdodau ddisgwyl y bydd pawb yn cefnogi cynlluniau ac ni ddylent adael i un grŵp penodol gau pen y mwdwl arnynt. Dylid cynllunio prosesau ymgynghori â'r cyhoedd er mwyn cael darlun cynrychioliadol o safbwyntiau, gan gynnwys gan bobl sy'n llai llafar eu barn. 

Teithio llesol: ymrwymiad a photensial

Mae cynllun Stryd Ysgol yn fwy tebygol o gyflawni canlyniadau dymunol pan fydd ysgol yn arddangos ymrwymiad clir i annog dulliau teithio llesol a lle bo potensial i newid o deithiau car/fan presennol i ddulliau llesol.

Wrth asesu safleoedd posibl ar gyfer cynllun Stryd Ysgol, mae'n bosibl y bydd awdurdodau felly am ystyried y canlynol:

  • a oes gan yr ysgol Gynllun Teithio i'r Ysgol cyfredol
  • pa weithgareddau y mae'r ysgol wedi'u cynnal er mwyn annog a galluogi dulliau teithio llesol i'r ysgol ac effaith y gweithgareddau hynny
  • a fu ac a oes o hyd gefnogaeth gan yr ysgol i gynnal Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc a Beicio i ddisgyblion?
  • y data sydd ar gael ar y gyfran bresennol sy'n teithio i'r ysgol gan ddefnyddio car/fan, trafnidiaeth gyhoeddus a dulliau llesol a chyfran y disgyblion sy'n byw'n ddigon agos i'r ysgol i gerdded neu feicio
  • a oes gan yr ysgol y capasiti ac a yw'n barod i weinyddu ei thrwyddedau staff ac ymwelwyr ei hun?

Ystyriaethau cyllidebol

Gall cynlluniau Strydoedd Ysgol fod yn ymyriadau sy'n gymharol isel o ran cost, ond yn fawr eu heffaith. Fodd bynnag, gall y gost amrywio'n sylweddol o un cynllun i'r llall yn dibynnu ar ffactorau fel maint a threfn y cynllun Stryd Ysgol, p'un a ddefnyddir camerâu i orfodi'r cyfyngiadau traffig a ph'un a gaiff mesurau ategol i gefnogi teithio llesol eu rhoi ar waith ar y cyd â'r cyfyngiadau.

Bydd angen i'r gyllideb ar gyfer unrhyw gynllun Strydoedd Ysgol gynnwys darpariaeth ar gyfer yr eitemau a'r gweithgareddau canlynol:

  • peirianneg/dylunio: dylunio a gosod
  • cyfreithiol: prosesu a hysbysebu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig
  • deunyddiau ymgynghori a chyhoeddusrwydd: dylunio, argraffu a danfon
  • monitro a gwerthuso: cyn ac ar ôl gweithredu
  • costau staff: gwerth yr amser y mae staff yn ei dreulio yn datblygu ac yn gweithredu'r cynllun
  • gorfodi: darparu a gweithredu camerâu CCTV (lle bo hynny'n gymwys)

Mae pecyn adnoddau Strydoedd Ysgol Hackney yn rhoi enghraifft o'r costau hyn ar gyfer un Stryd Ysgol â 2 fynedfa a chyfyngiadau a gaiff eu gorfodi drwy system camerâu. 

Yn ogystal â'r costau cyffredinol hyn sy'n gysylltiedig â Strydoedd Ysgol, daw gofynion cyllid safleoedd penodol yn gliriach wrth i'r cynlluniau ar gyfer y safleoedd hynny gael eu dylunio. Er enghraifft, fel rhan o gynllun Stryd Ysgol penodol, efallai y bydd angen buddsoddi mewn mesurau i wella hygyrchedd fel troedffyrdd mwy llydan, arwynebau o ansawdd uwch a chyrbiau isel.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Mae ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid yn hollbwysig er mwyn datblygu cynllun Strydoedd Ysgol effeithiol a gaiff ei gefnogi'n eang. Dylid ymdrechu i ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gydol camau datblygu a gweithredu cynllun. Bydd y swyddog o'r awdurdod lleol sy'n arwain y gwaith ar gynllun (neu raglen) Stryd Ysgol yn chwarae rôl allweddol yn hyn o beth, gan weithio fel dolen gyswllt rhwng rhanddeiliaid mewnol yr awdurdod lleol a rhanddeiliaid allanol o ysgol benodol a'i chymuned leol ehangach.

Rhanddeiliaid mewnol

O fewn yr awdurdod lleol a'i gadwyn gyflenwi ehangach, bydd angen i'r swyddog sy'n arwain cynllun Stryd Ysgol feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol â'r rhanddeiliaid canlynol (ymhlith eraill) a rhestrir gyda’u rolau:

Aelodau etholedig

Rhoi mandad i'r rhaglen, cynnig cefnogaeth a her

Swyddogion Teithio i'r Ysgol a Diogelwch ar y Ffyrdd

Ymgysylltu ag ysgolion, hyrwyddo

Swyddogion Priffyrdd

Gwybodaeth Argyfwng a llwybrau amgen

Swyddogion Addysg

Cefnogi ac integreiddio strategaethau/polisïau

Peirianwyr Traffig

Dylunio a gosod

Tîm Gorchmynion Traffig

Gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig

Tîm Iechyd y Cyhoedd

Integreiddio a chymorth strategol/polisi

Tîm Iechyd yr Amgylchedd

Rheolaeth ansawdd aer

Tîm Cynaliadwyedd/Newid yn yr Hinsawdd

Integreiddio a chymorth strategol/polisi

Pensaer dylunio trefol/tirlunio

Cymorth dylunio a gosod

Swyddogion coed

Cymorth dylunio a gosod

Swyddog mynediad a chydraddoldebau

Rhoi cyngor ar gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yr awdurdod

Darparwyr cludiant i'r ysgol

Cyd-ddylunio trefniadau ymarferol ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol

Swyddogion cyfathrebu

Cymorth ymgynghori ac ymgysylltu

Tîm parcio gan gynnwys Swyddogion Gorfodi Sifil

Gorfodi a Hysbysiadau Tâl Cosb

Timau graenu, gwastraff a glanhau

Cytuno trefniadau gweithredol

Timau datblygu chwarae

Cefnogaeth i fentrau Strydoedd Chwarae

Rhanddeiliaid allanol

Mae’n hynod bwysig meithrin cydberthynas agos a pharhaus ag ysgolion a gaiff eu dewis ar gyfer cynlluniau Strydoedd Ysgol a'u cymunedau lleol ehangach gan gynnwys preswylwyr a busnesau, grwpiau buddiant lleol a'r heddlu. Gall gwaith ymgysylltu allanol o ansawdd uchel arwain at gynlluniau Strydoedd Ysgol mwy effeithiol sy'n denu mwy o gefnogaeth drwy:

  • sicrhau bod amcanion a goblygiadau ymarferol y cynllun yn cael eu deall gan y bobl y bydd y cynllun yn effeithio fwyaf arnynt
  • nodi problemau posibl ar gam cynnar a hwyluso gwaith i gyd-ddatblygu atebion cyn i'r cynllun gael ei roi ar waith
  • darparu dealltwriaeth glir o batrymau teithio i'r ysgol ac unrhyw rwystrau neu heriau penodol i gynyddu lefelau teithio llesol yn ogystal â thynnu sylw at unrhyw fentrau blaenorol neu fentrau presennol y gall y cynllun Stryd Ysgol adeiladu arnynt

I gefnogi gwaith ymgysylltu allanol, gall fod yn ddefnyddiol sefydlu gweithgor o randdeiliaid o'r ysgol a'r gymuned leol. Dylai grŵp o'r fath gynnwys pennaeth yr ysgol, llywodraethwr/ymddiriedolwr dynodedig, arweinydd y cynllun teithio i'r ysgol a chynrychiolwyr o'r grwpiau rhanddeiliaid canlynol:

  • staff yr ysgol
  • disgyblion
  • rhieni/gofalwyr
  • preswylwyr
  • busnesau lleol (os yn berthnasol)
  • Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol

Gall ymgysylltiad ehangach gyda phreswylwyr lleol gael ei wneud drwy arolygon a digwyddiadau. Bydd hyn yn galluogi i ystod eang o adborth gael ei gasglu cyn ac yn ystod y cynlllun.

Mae platfformau ar-lein yn ffordd poblogaidd ac effeithlon o gasglu adborth, a gellir eu hategu gyda fformatau amgen fel ffurflenni papur, ebost a galwadau ffôn. 

Mae digwyddiadau yn rhoi cyfle ar gyfer deialog adeiladol a chyd-ddylunio gyda rhanddeiliaid lleol a gallai gynnwys ymweliadau safle a gweithdai. 

Gallai sgyrsiau wyneb yn wyneb gyda busnesau sydd yn cael eu heffeithio helpu i leddfu unrhyw bryderon a sicrhau dealltwriaeth a chefnogaeth. Mae’n bosib y bydd angen dulliau cyfathrebu wedi eu targedau a’u teilwra er mwyn sicrhau bod ymgysylltiad sy’n hygyrch i bawb. 

Mae’r adran ar gyhoeddusrwydd yn rhoi cyngor pellach ar gyfathrebu am y cynllun gyda rhanddeiliaid lleol. 

Yn ogystal â gwaith ymgysylltu parhaus, bydd angen i awdurdod gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynllun – gweler yr adran ar Orchmynion Rheoleiddio Traffig.

Trefn cynllun

Ar ôl i ysgol gael ei dewis ar gyfer cynllun Stryd Ysgol, gall awdurdod ddatblygu dyluniad cychwynnol o drefn y cynllun. Gall cynlluniau gynnwys stryd gyfan, rhan o stryd neu hyd yn oed sawl stryd yn union y tu allan i ysgol. Nid oes un ateb yn addas i bob sefyllfa: mae angen ystyried amgylchiadau unigryw pob safle yn ofalus. Dylid ceisio datblygu trefn cynllun sy'n golygu y gall parth Stryd Ysgol gyflawni ei amcanion mewn ffordd mor effeithiol â phosibl gan leihau unrhyw effeithiau annymunol i'r eithaf.

Ymhlith y ffactorau allweddol i'w hystyried wrth bennu trefn briodol ar gyfer parth Stryd Ysgol mae:

  • sawl mynedfa a ddefnyddir gan yr ysgol a'u lleoliad
  • yr effaith o ran amharu ar fynediad i eiddo preswyl, busnesau a chyrchfannau eraill fel meddygfeydd
  • faint o breswylwyr fydd yn esempt rhag y gwaharddiad ar deithio ar y Stryd Ysgol yn ystod yr oriau gweithredol
  • a oes llwybrau eraill ar gael i draffig trwodd o amgylch y Stryd Ysgol ac effaith unrhyw gynigion o'r fath i ddadleoli traffig
  • dadleoliad traffig a cherbydau sydd wedi parcio sy'n gysylltiedig â'r ysgol i strydoedd ar gyrion y Stryd Ysgol

Gallai ymddangos y bydd parth Stryd Ysgol bach, fel rhan fer o stryd yn union y tu allan i fynedfa ysgol, yn cael llai o effeithiau negyddol ond mae'n bosibl hefyd na fydd yn cynyddu lefelau teithio llesol am fod lefelau traffig yn parhau i fod yn uchel drwy gydol y rhan fwyaf o'r daith i'r ysgol ac o'r ysgol. Nid yw hyn yn golygu bod parthau Stryd Ysgol mwy bob amser yn well.

Mewn ardal boblog, os bydd parth Stryd Ysgol yn rhy fawr, gall nifer y cerbydau sy'n gymwys i gael esemptiad rhag y cyfyngiadau olygu na fydd lefelau traffig yn gostwng yn ddigonol i roi hyder i rieni y gall eu plant gerdded, olwyno a beicio i'r ysgol.

Mewn rhai achosion, gall fod yn ddefnyddiol trefnu digwyddiad i gau'r ffordd er mwyn profi dull sydd o dan ystyriaeth, gan ofyn am adborth gan yr ysgol a'r gymuned leol a chasglu tystiolaeth er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch y drefn orau.

Wrth ddatblygu trefn cynllun, dylai awdurdod ystyried y potensial i gyflwyno mesurau sy'n lliniaru effeithiau negyddol cyfyngiadau traffig. Er enghraifft, mae rhai awdurdodau wedi mynd i'r afael â'r broblem sy'n codi pan fo pobl yn parcio mewn mannau eraill drwy sefydlu safleoedd ‘parcio a cherdded’ o fewn pellter cerdded i'r ysgol.

Esemptiadau

Er mai drwy gyflwyno cyfyngiadau traffig y mae cynlluniau Strydoedd Ysgol yn cynyddu lefelau teithio llesol ac yn cyflawni amcanion eraill yn bennaf, bydd angen i bob cynllun amseroedd penodol ddarparu esemptiadau cyfyngedig ar gyfer cerbydau preswylwyr a thraffig hanfodol arall. Bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu pa esemptiadau ddylai fod yn gymwys i gynllun Stryd Ysgol penodol, gan gydbwyso'r angen i gerbydau hanfodol gael mynediad yn erbyn y lleihad yn effeithiolrwydd y cynllun os bydd lefelau traffig yn parhau i fod yn uchel. 

Fel arfer, mae cynlluniau Strydoedd Ysgol yn darparu esemptiadau ar gyfer: 

  • cerbydau sydd wedi'u cofrestru i gyfeiriad yn yr ardal sy'n rhan o'r cynllun Stryd Ysgol (preswylwyr a busnesau)
  • cerbydau gwasanaethau brys a darparwyr cyfleustodau ar alwadau brys
  • deiliaid Bathodynnau Glas sydd a rheswm dros fod angen mynediad i safle’r ysgol
  • rhai sy'n gofalu am breswylwyr agored i niwed y mae angen mynediad arnynt a sydd yn medru darparu tystiolaeth addas
  • cludiant i'r ysgol
  • rhieni/gofalwyr disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n golygu bod angen iddynt fynd i'r ysgol mewn car
  • cerbydau sydd eisoes wedi parcio yn y parth Stryd Ysgol ac y mae angen iddynt adael

Gall awdurdodau hefyd ystyried darparu esemptiadau i grwpiau eraill fel gyrwyr danfon nwyddau, crefftwyr a cherbydau casglu gwastraff awdurdodau lleol (os na fu modd ailamseru neu ddefnyddio llwybr arall). Fodd bynnag, ni roddir esemptiadau fel arfer i staff ysgol na rhieni/gofalwyr (oni bai bod esemptiad arall yn gymwys iddynt eisoes fel deiliad Bathodyn Glas). 

Mae'n hanfodol rhoi digon o rybudd i bobl y bydd cynllun Stryd Ysgol yn cael ei gyflwyno i'w galluogi i wneud cais am esemptiad ac i roi amser i'r awdurdod brosesu eu ceisiadau. Bydd angen i'r broses gwneud cais ei hun fod yn glir ac yn syml.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn rhoi enghraifft o sut gallai’r broses esemptiad gael ei reoli.

Bydd angen i gerbydau a gaiff esemptiad rhag cyfyngiadau traffig arddangos trwydded ffisegol neu byddant yn cael trwydded rithwir (a chaiff y manylion eu cadw ar restr o gerbydau awdurdodedig). Bydd y math o drwydded a ddefnyddir yn dibynnu ar y dull gorfodi a gynigir ar gyfer cynllun Stryd Ysgol. Nid oes angen defnyddio trwyddedau ffisegol ar gyfer system orfodi sy'n defnyddio CCTV.

Gweler adran am orfodi i gael rhagor o wybodaeth.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Drwy gydol y broses o ddatblygu a gweithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol, rhaid i awdurdodau lleol gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010).

O dan y Ddyletswydd hon, rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu a mathau o ymddygiad y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn eu gwahodd, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cydberthnasau da rhwng gwahanol bobl wrth gyflawni eu gweithgareddau. Yng Nghymru, mae rhai cyrff cyhoeddus yn gorfod bodloni dyletswyddau penodol a geir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a elwir hefyd yn ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru. Rhagor o wybodaeth: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Dylai awdurdodau ystyried sut y bydd y cynllun/cynlluniau Strydoedd Ysgol arfaethedig yn effeithio ar unigolion â'r 9 nodwedd warchodedig, sef:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • chyfeiriadedd rhywiol. 

Rhaid i awdurdodau lunio Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb i ddarparu tystiolaeth eu bod wedi ystyried effeithiau posibl yn drylwyr ac wedi cymryd camau i osgoi neu liniaru effeithiau negyddol ar bobl â nodweddion gwarchodedig (er enghraifft, drwy ddarparu esemptiadau i ddeiliaid Bathodynnau Glas a gofalwyr).

4. Gweithredu Strydoedd Ysgol

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

Caiff cynllun Stryd Ysgol ei greu gan ddefnyddio cyfyngiadau safonol ar fynediad cerbydau. Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau Strydoedd Ysgol yn gorfodi cyfyngiadau am gyfnodau byr (awr fel arfer) ar adegau hebrwng a chasglu plant o'r ysgol ar ddiwrnodau'r wythnos yn ystod y tymor.

Bydd angen gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig i weithredu'r cyfyngiad a'i orfodi'n effeithiol. 

Mae 3 phrif fath o Orchymyn Rheoleiddio Traffig, a all fod yn berthnasol i gynlluniau Strydoedd Ysgol:

Parhaol

Mae’r broses hon yn cynnwys ymgynghoriad ymlaen llaw ar y cynllun arfaethedig, cyhoeddi hysbysiadau ynghylch y cynigion, cyfnod hysbysu o 21 diwrnod i ymgyngoreion statudol a phobl eraill i fynegi gwrthwynebiad; gellir cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn rhai amgylchiadau.

Arbrofol

Defnyddir y rhain i dreialu cynlluniau a all gael eu gwneud yn barhaol wedyn. Rhaid i awdurdodau roi trefniadau monitro ar waith ac ymgynghori'n barhaus ar ôl i'r mesur gael ei roi ar waith er mwyn helpu i benderfynu a ddylid gwneud y cynllun yn un parhaol. 

Er y gall y cyfnod gweithredu cychwynnol fod yn fyr, dylid rhoi cyfle o hyd i breswylwyr a busnesau wneud sylwadau ar newidiadau arfaethedig a gall yr angen i wneud gwaith monitro ac ymgynghori ychwanegol wedi hynny ychwanegu at y costau. 

Bydd cynlluniau a wneir sy'n defnyddio gorchmynion arbrofol yn destun cyfnod gwrthwynebu parhaus am 6 mis ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith. Mae hyn yn golygu y gellir addasu cynllun peilot ar sail profiad ac adborth, a all arwain at gynllun mwy addas yn gyffredinol.

Dros dro

Gellir gwneud y rhain am y rhesymau a nodir yn adran 14(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ac yn gyffredinol, gallant fod ar waith am hyd at 18 mis. Mae cyfnod hysbysu o 7 diwrnod cyn gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a gofyniad hysbysu o 14 diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud, yn ogystal â gofynion cyhoeddusrwydd/hysbysu eraill. 

Argymhellir hefyd y dylai awdurdodau ymgynghori â phreswylwyr a busnesau ar y cam dylunio er mwyn sicrhau na fydd cynlluniau yn cael unrhyw ganlyniadau anfwriadol

Ar gyfer Strydoedd Ysgol, mae'n debygol mai Gorchmynion Rheoleiddio Traffig parhaol neu arbrofol yw'r rhai mwyaf priodol.

Mae Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gorchmynion parhaol ac arbrofol.

Mae Rheoliadau Gweithdrefn Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1992 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gorchmynion dros dro 

Wrth baratoi'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio at ganllaw arferion gorau Cymdeithas Parcio Prydain ar Orchmynion Rheoleiddio Traffig.

Arwyddion traffig

Rhaid i bob arwydd traffig a ddefnyddir mewn perthynas â chynlluniau Strydoedd Ysgol fod yn unol â'r hyn a ragnodir gan y Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016 neu'r hyn a awdurdodir yn arbennig gan Lywodraeth Cymru. 

Mae’n bosibl gweld fersiynau Dwyieithog/Cymraeg o arwyddion traffig ar Arwyddion traffig a marciau ffyrdd

Caiff Strydoedd Ysgol eu dynodi gan ddefnyddio'r arwyddion traffig rhagnodedig ‘dim cerbydau modur’ (diagram 619) neu arwyddion traffig ‘parth cerddwyr a beicwyr’ (diagram 618.3C) ar gael yn Arwyddion traffig: arwyddion rheoleiddiol (atodlen 2).

Image
Arwydd ffordd ysgol sy'n gwneud yn glir nad yw cerbydau modur yn cael eu caniatau pan yw'r goleuadau yn dangos, heblaw am drwyddedwyr.
Arwydd Stryd yr Ysgol sy'n dangos nad yw cerbydau modur yn cael eu caniatau pan fydd goleuadau yn dangos, ac eithrio deiliaid trwydded.
Image
Arwydd stryd ysgol, yn egluro oriau gweithredu, yn datgan bod CCTV ar waith, yn dweud pa dderbynyddion sy'n rhydd o gyfyngiadau, ac yn gwneud yn glir nad yw cerbydau modurol yn cael eu caniatau

Lle defnyddir arwydd ‘parth cerddwyr a beicwyr’ wrth y fynedfa i'r Stryd Ysgol, gall gosod arwydd ‘diwedd parth cerddwyr a beicwyr’ (diagram 618.4B) ar ddiwedd y parth fod yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr y ffordd.

Gan mai dim ond yn ystod y tymor ysgol y mae Strydoedd Ysgol yn weithredol fel arfer, argymhellir y dylid defnyddio arwyddion fflap fel y gellir eu plygu i greu arwydd gwag yn ystod y gwyliau ysgol. Bydd angen gwneud trefniadau i sicrhau bod hyn yn digwydd, gan gynnwys mynediad a deiliaid allweddi. 

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi defnyddio arwyddion a nodiadau electronig sy'n fflachio. Maent yn gwneud y cyfyngiadau'n glir ac yn hynod weladwy. Maent yn golygu hefyd nad oes angen i swyddogion fynd i'r safleoedd er mwyn troi'r arwyddion sefydlog yn ystod y gwyliau ysgol pan nad yw'r cyfyngiadau'n weithredol.

Ceir cyngor cyffredinol ar ddylunio a lleoli arwyddion ym Mhennod 3 o'r Llawlyfr Arwyddion Traffig. Mae disgwyl i Atodiad C: Amrywiadau Cymru gael ei ddiweddaru ar ôl i derfyn cyflymder diofyn o 20mya ddod i rym. Ar ôl ei adolygu, bydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Nid oes gofynion penodol ar gyfer arwyddion parthau cerddwyr a beicwyr a ddefnyddir ar gyfer Strydoedd Ysgol, ond dylid ystyried y gofyniad cyffredinol i sicrhau y gall gyrwyr weld arwyddion mewn da bryd i wybod bod cyfyngiad yn dod a gweithredu arno.

Bydd cyhoeddusrwydd lleol cyn rhoi'r cynllun ar waith yn helpu gyrwyr i ymgyfarwyddo â'r cyfyngiad newydd. Gall fod yn addas defnyddio arwyddion i ddangos llwybr dargyfeirio i draffig trwodd, yn enwedig os oes angen sicrhau bod cyn lleied o draffig â phosibl yn defnyddio strydoedd cyfagos i osgoi'r cyfyngiad.

Gorfodi

Gall awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau Strydoedd Ysgol os ydynt wedi cael y pwerau i wneud hynny o dan Ran 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. 

Mae gwybodaeth am wneud cais am bwerau Rhan 6 ar gael yng Nghanllawiau Cymru.

Argymhellir y dylai awdurdodau lleol ganiatáu o leiaf 6 mis i gwblhau'r broses o wneud cais am y pwerau hyn. Mae'r pwerau yn galluogi awdurdodau lleol i roi Hysbysiadau Tâl Cosb i unrhyw gerbydau modur heb esemptiad sy'n mynd ar y Stryd Ysgol yn ystod yr oriau gweithredol.

Gall yr heddlu roi Hysbysiadau Cosb Benodedig o hyd am dorri cyfyngiadau Strydoedd Ysgol hyd yn oed os oes yw'r awdurdod lleol wedi cael y pwerau Rhan 6. Os bydd yr heddlu a'r awdurdod lleol yn cymryd camau gorfodi mewn perthynas â'r un achos o dorri'r cyfyngiadau, camau gorfodi'r heddlu fyddai'n cael blaenoriaeth.

Gellir defnyddio camerâu Adnabod rhif plât awtomatig (ANPR) i orfodi cynlluniau Strydoedd Ysgol drwy roi Hysbysiadau Tâl Cosb o bell i geidwaid cofrestredig cerbydau modur sydd heb esemptiad.

Gall camerâu fod yn rhai sefydlog neu gallant fod mewn uned symudol.

Gall camerâu symudol fod yn opsiwn mwy cost-effeithiol oherwydd gellir eu symud o un safle i'r llall, sy'n golygu y gellir cynnal hapwiriadau ar sawl Stryd Ysgol ac mewn lleoliadau eraill.

Os defnyddir systemau CCTV i orfodi'r cyfyngiadau, dylai awdurdodau ystyried hysbysu gyrwyr am hyn drwy osod yr arwydd cyngor a ragnodir gan y Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016 ar gyfer ardaloedd lle defnyddir camerâu gorfodi (diagram 878).

Yn unol â'r canllawiau statudol ar orfodi troseddau traffig sy'n symud, dylai awdurdodau roi hysbysiadau rhybuddio i yrwyr sy'n torri'r cyfyngiadau am y tro cyntaf.

Os nad oes gan yr awdurdod lleol bwerau gorfodi, yr heddlu fydd yn gyfrifol am orfodi'r cyfyngiadau Strydoedd Ysgol.

O gofio'r pwysau ar adnoddau'r heddlu, mae'n bwysig ymgysylltu â'r heddlu ar gam cynnar yn y broses o ddatblygu cynlluniau ar gyfer Stryd Ysgol er mwyn deall pa gymorth y gallant ei roi a pha gamau gorfodi y gallant eu cymryd. 

Defnyddio rhwystrau

Mae rhai Strydoedd Ysgol wedi cael eu gweithredu gan ddefnyddio rhwystrau cludadwy a stiwardiaid gwirfoddol. Mae angen meddwl yn ofalus am y dull hwn ac mae'n annhebygol o fod yn ateb priodol.

Bydd cynnal Stryd Ysgol â rhwystrau a stiwardiaid yn arwain at oblygiadau sylweddol o ran adnoddau, a gallai hyn beryglu hyfywedd cynllun yn y tymor hir; mae rhai awdurdodau yn cefnu ar y dull hwn am fod 'blinder gwirfoddoli' yn arwain at lai o stiwardiaid yn gwirfoddoli wrth i amser fynd heibio. Yn anffodus, mae aflonyddu ar wirfoddolwyr wedi bod yn broblem mewn rhai ardaloedd hefyd, a gallai hyn hefyd wneud pobl yn llai parod i wirfoddoli. Nid oes gan stiwardiaid gwirfoddol bŵer cyfreithiol i atal traffig, yn hytrach mae'n rhaid iddynt ddibynnu ar yr arwyddion a'r rhwystrau.

Mae rhwystr ffisegol yn cau ffordd, sy'n wahanol i gyfyngu ar fynediad. Ni ellir defnyddio rhwystrau i roi Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer cyfyngiadau 'dim cerbydau modur' ar waith, gan fod y rhain yn wahanol a rhaid arddangos arwyddion fel y dangosir uchod.

Ni ddylid defnyddio arwyddion 'dim cerbydau modur' ar y cyd â rhwystrau, gan fod hyn yn creu gwrthdaro rhwng y cyfyngiad ar gerbydau a chau'r ffordd, a bydd hyn yn gwneud gorfodi'n anodd.

Er mwyn cau ffordd mae angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, yn yr un modd ag ar gyfer cyfyngiad ar fynediad. Fel arfer, mae ffyrdd yn cael eu cau er mwyn gwneud gwaith neu ar gyfer digwyddiadau arbennig, a gwneir hyn drwy Orchmynion Rheoleiddio Traffig dros dro. Dim ond am resymau penodol y gellir gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig dros dro, ac mae'n annhebygol y bydd yn addas ar gyfer cyfyngiad parhaol, rhan-amser ar gyfer Strydoedd Ysgol.

Ni ellir rhoi esemptiadau mor gynhwysfawr ar gyfer ffordd sydd wedi'i chau ag y gellir eu rhoi ar gyfer cyfyngiad mynediad; yn ogystal â'r rhwystr ffisegol sy'n ei gwneud hi'n fwy anodd i ddeiliaid trwyddedau gael mynediad i'r ffordd, nid oes unrhyw beth yn cyfateb i'r arwydd sy'n dweud 'ac eithrio deiliaid trwyddedau' neu ei debyg.

Nid yw'n briodol i wirfoddolwyr agor y rhwystr ar gyfer deiliaid trwyddedau gan ei fod yn rhoi cyfrifoldeb arnynt i benderfynu a yw'r gyrrwr yn meddu ar drwydded ddilys ac mae'n eu gwneud yn agored i aflonyddu a cham-drin posibl, ac yn creu risgiau posibl i ddiogelwch ar y ffyrdd.

Ni chaiff awdurdodau lleol orfodi arwyddion a rhwystrau sy'n cau ffyrdd, am nad ydynt wedi'u cynnwys yn Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, sy'n golygu y bydd angen gweithio gyda'r heddlu'n gynnar wrth i'r cynllun gael ei ddatblygu.

Os cânt eu defnyddio, rhaid i rwystrau arddangos yr arwydd a ddangosir yn Diagram 7105 ac a ragnodir yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016.

Bydd dyluniad rhwystrau a ddefnyddir ar gyfer gwaith ffordd a sefyllfaoedd dros dro eraill yn ymgorffori hyn.

Dylid hefyd ddarparu arwyddion gwyn ar goch dros dro sy'n nodi manylion cae'r ffordd.

Gall defnyddio rhwystrau a stiwardiaid fod yn effeithiol ar gyfer treial tymor byr neu ddigwyddiadau fel Wythnos Cerdded i'r Ysgol, ond mae cyfyngiadau mynediad ag arwyddion a chamerâu gorfodi yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus ar gyfer cynlluniau parhaol.

Diogelwch a hyfforddiant

Cyn rhoi cynllun Stryd Ysgol ar waith, dylai awdurdodau gynnal asesiad safle-benodol o'r risgiau diogelwch ar y ffyrdd i bob defnyddiwr o dan y trefniadau arfaethedig a rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith.

Er enghraifft, gallai llai o draffig olygu y bydd rhai plant a'u rhieni/gofalwyr yn llai gwyliadwrus wrth ddefnyddio Stryd Ysgol a dylai rhoi ymyriadau (fel sesiynau addysg diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer disgyblion, staff a rhieni a gofalwyr) ar waith cyn dechrau er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn gwybod y bydd hawl gan gerbydau ag esemptiad ddefnyddio'r ffordd o hyd.

Dylai awdurdodau ddilyn eu polisïau a'u prosesau risg sefydledig eu hunain wrth ddatblygu cynlluniau rheoli risg ar gyfer Strydoedd Ysgol. Mae'r cynlluniau hyn yn fwy tebygol o fod yn effeithiol os cânt eu datblygu mewn cydweithrediad agos â thîm arwain yr ysgol.

Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio stiwardiaid i'ch helpu i redeg eich cynllun Stryd Ysgol, yn enwedig am gyfnod wedi dechrau gweithredu’r cynllun. Nid oes gan y bobl hyn bwerau cyfreithiol i stopio traffig a dylid rhoi gwybodaeth fanwl a hyfforddiant iddynt am sut i gyflawni eu rôl yn ddiogel. Nid yw'n ofynnol i stiwardiaid gael hyfforddiant penodol i weithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol ond dylai awdurdodau ystyried darparu cyfleon hyfforddiant o’r fath.

Gall sefydliadau teithio llesol ddarparu gwybodaeth a chyngor defnyddiol. Mae Sustrans a Playing Out wedi datblygu ffilm fer ar sut i stiwardio Stryd Ysgol neu Stryd Chwarae. Dylai materion megis yswiriant a chyfarpar diogelu personol fod yn rhan o bolisïau a phrosesau risg awdurdodau lleol.

Cyhoeddusrwydd

Mae'n bwysig cyfathrebu ymlaen llaw, mewn ffordd uniongyrchol ac wedi'i theilwra, â'r holl breswylwyr a busnesau o fewn Stryd Ysgol a'r cyffiniau fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl a sut y bydd y cynllun yn effeithio arnynt. Dylai awdurdodau ystyried darparu deunyddiau mewn fformatau ac ieithoedd gwahanol sy'n adlewyrchu'r gymuned leol. Dylai manylion Strydoedd Ysgol fod ar gael yn hawdd ar-lein, gan ddarparu gwybodaeth am y strydoedd y mae'r cynllun yn effeithio arnynt.

Mae'n bwysig cyfathrebu hefyd â phobl a all fod yn gyrru drwy'r ardal. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau fel baneri ar giât yr ysgol a gorchuddion ar bolion lampau yn ogystal â defnyddio sianeli cyfathrebu amrywiol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau newyddion lleol. Bydd datblygu logo a brand penodol ar gyfer cynlluniau Strydoedd Ysgol yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Ni ddylai unrhyw ddeunydd hyrwyddo a osodir ar neu gerllaw strydoedd gynnwys arwyddion traffig na bod yn debyg i arwyddion traffig.

Mae pecyn cymorth hyrwyddo teithio llesol Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys canllaw cerdded, olwyno a beicio i'r ysgol sydd yn cynnwys negeseuon allweddol o amgylch Strydoedd Ysgol. 

Mae pecyn adnoddau Strydoedd Ysgol Hackney yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd y gellir eu haddasu'n hawdd ar gyfer cynlluniau Strydoedd Ysgol awdurdodau eraill.

Lansio

Efallai yr hoffai awdurdodau ac ysgolion gynnal parti stryd neu fore gemau yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl i gynllun Stryd Ysgol gael ei roi ar waith er mwyn dechrau ar nodyn cadarnhaol a dathlu'r achlysur. I wneud hyn, bydd angen cau'r ffordd i draffig modur, felly bydd angen trefnu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (fel Gorchymyn Rheoleiddio Traffig dros dro ar gyfer digwyddiadau arbennig) a rhwystrau ac arwyddion traffig priodol. Dylai stiwardiaid fod yn bresennol hefyd. Bydd angen sicrhau y gall cerbydau'r gwasanaethau brys a deiliaid Bathodynnau Glas gael mynediad o hyd. 

Mae hefyd yn werth ystyried cyfleoedd i drefnu bod cynllun Stryd Ysgol yn cael ei lansio ar yr un pryd â digwyddiadau cymunedol perthnasol neu wythnosau codi ymwybyddiaeth cenedlaethol fel Wythnos Beicio i'r Ysgol, Wythnos Cerdded i'r Ysgol neu Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd.

Cyfrifoldebau ar ôl lansio

Mae'n hanfodol bod yr awdurdod a'r ysgol yn cytuno ar rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer gweithredu cynllun Stryd Ysgol yn barhaus, a bydd rhain yn amrywio yn ddibynnol ar sut mae’r cynllun yn cael ei weithredu. 

Mae sawl awdurdod wedi canfod ei bod yn ddefnyddiol datblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ag ysgol sy'n amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r canlynol:

  • hyrwyddo'r cynllun Stryd Ysgol
  • darparu ymyriadau ategol i gefnogi ffyrdd cynaliadwy o deithio i'r ysgol
  • rheoli'r gyfundrefn drwyddedu ar gyfer cerbydau ag esemptiad
  • cynnal a chadw arwyddion a darparu stiwardiaid (lle bo hynny'n gymwys)
  • monitro a gwerthuso effeithiau'r cynllun
  • adolygu a diwygio'r cynllun

5. Monitro a gwerthuso

Trosolwg

Mae'n hanfodol monitro a gwerthuso cynlluniau Strydoedd Ysgol i benderfynu a ydynt yn gweithio yn ôl y bwriad. Mae angen ystyried trefniadau monitro a gwerthuso ar gam cynnar yn y broses o ddatblygu cynllun er mwyn helpu i gasglu data sylfaenol cyn i'r cynllun gael ei gyflwyno.

Er mwyn darparu tystiolaeth glir o effaith y cynllun Stryd Ysgol, dylid ceisio lleihau unrhyw amrywiadau yn y gyfundrefn fonitro a ddefnyddir cyn ac ar ôl gweithredu'r cynllun drwy reoli cynifer o newidynnau â phosibl. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, defnyddio'r un dulliau casglu data a chasglu data ar amseroedd tebyg yn ystod y dydd a thymhorau'r flwyddyn.

Bydd y data monitro a gesglir yn dibynnu ar amcanion y cynllun.

Ar ôl i awdurdod ddadansoddi'r data monitro, dylai rannu'r canfyddiadau allweddol â rhanddeiliaid, rhwydweithiau lleol a'r cyfryngau.

Yn achos cynlluniau Strydoedd Ysgol, mae gwaith monitro yn debygol o ganolbwyntio ar fesur newidiadau i'r canlynol:

Lefelau cerdded a beicio i'r ysgol

Gellir cael y data hyn drwy gynnal arolwg      syml o ddulliau teithio y gall ysgol fod yn ei gynnal yn barod o bosibl. Os na, gellir cynnal arolwg ‘dwylo i fyny’ â'r disgyblion (a'r staff hefyd yn ddelfrydol) i ofyn sut maent yn teithio i'r ysgol fel arfer. Os cesglir data cod post hefyd, mae  modd canfod faint o ddisgyblion sy'n byw o fewn pellter cerdded neu feicio sy'n dal i gael eu gyrru i'r ysgol ac i gynnwys data arall mewn fformat lleoliad daearyddol yn y gwerthusiad.

Cyfaint, math a chyflymder traffig

Mae monitro traffig ar strydoedd ysgol a'r strydoedd cyfagos yn bwysig er mwyn deall effaith unrhyw draffig neu ddadleoli parcio, yn enwedig lle mae trigolion wedi mynegi pryderon am effeithiau o'r fath. Mae cownteri traffig awtomatig a / neu arolygon fideo yn ddulliau defnyddiol o gasglu'r data hwn.

Ansawdd yr aer yng nghyffiniau'r ysgol

Mae’r broses Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardaloedd yn rheolaidd. Am fod cynlluniau Strydoedd Ysgol yn fach eu maint ac ond yn weithredol ar amseroedd penodol, gall fod yn anodd mesur union effaith cynllun ar ansawdd yr aer ond gellir canfod tueddiadau cyffredinol, yn enwedig os cesglir data dros gyfnod o amser cyn ac ar ôl cyflwyno cynllun Stryd Ysgol.

Ffyrdd eraill o fonitro a gwerthuso

Ymhlith y ffynonellau eraill o wybodaeth a all helpu i werthuso effaith cynllun Stryd Ysgol (yn ogystal â llywio newidiadau posibl i'r cynllun) mae'r canlynol:

  • cyfweliadau a holiaduron â rhanddeiliaid, gan gynnwys disgyblion ac athrawon. Gall y rhain roi gwybodaeth am sut y mae cynllun wedi effeithio ar arferion teithio a chanfyddiadau rhieni o ddiogelwch ffyrdd a gellir eu defnyddio hefyd i ganfod a hoffai pobl weld y cynllun yn cael ei roi ar waith yn barhaol.
  • dadansoddiad o gydymffurfiaeth gyrwyr â chyfyngiadau traffig ac a oes unrhyw batrymau yn dod i'r amlwg o'r data hyn.
  • dadansoddiad o sylwadau a ddaw i law mewn perthynas â'r cynllun.
  • dadansoddiad o ddata fel arall er mwyn asesu effeithiau ehangach, megis gordewdra plant, gweithgarwch corfforol a iechyd meddwl   
  • ffotograffau – gall ffotograffau a dynnir cyn ac ar ôl gweithredu cynllun fod yn ffordd hynod bwerus o ddangos effaith Stryd Ysgol.

6. Ffyrdd eraill o gefnogi teithio i'r ysgol

A yw cynllun Strydoedd Ysgol yn addas i'r ysgol hon?

Nid Stryd Ysgol yw'r ateb gorau na'r unig ateb bob amser ar gyfer gwella teithio i'r ysgol. Mae llawer o ymyriadau eraill a all helpu i annog teithiau mwy diogel, mwy cynaliadwy i'r ysgol ac oddi yno. Gellir defnyddio'r rhain cyn, ochr yn ochr neu yn lle Stryd Ysgol. 

Gall cymryd camau i hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy helpu i newid arferion teithio a meithrin cefnogaeth ar gyfer newid. Os cyflwynir Stryd Ysgol yn nes ymlaen, bydd yr ymdrechion hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol o lwyddo. Fodd bynnag, hyd yn oed os na fydd cynllun Stryd Ysgol yn cael ei roi ar waith, gall mesurau eraill wneud gwahaniaeth sylweddol hefyd. 

Dylai ysgolion ystyried amrywiaeth o opsiynau i wella teithio i'r ysgol a monitro eu heffaith. Isod mae rhai enghreifftiau o ymyriadau a all helpu i greu amgylchedd ysgol mwy diogel ac iach.
 

Cynlluniau Teithio Llesol i'r Ysgol

Cyn ystyried cyflwyno cynllun Stryd Ysgol, dylai ysgolion ddatblygu Cynllun Teithio Llesol i'r Ysgol (ATSP).

Mae Cynllun Teithio Llesol i’r Ysgol yn cynnwys tystiolaeth am batrymau teithio i’r ysgol ac yn nodi camau gweithredu i alluogi teithio mwy diogel a chynaliadwy.

Ysgolion sy’n arwain y gwaith hwn, ond bydd y cynlluniau gorau yn cynnwys y gymuned ysgol ehangach.

Dylid adolygu a diweddaru cynlluniau yn rheolaidd, gyda thystiolaeth o newidiadau yn arferion teithio disgyblion ac effaith unrhyw fentrau.

Mae gan Sustrans adnoddau a thempledi i gefnogi ysgolion i ddatblygu Cynlluniau Teithio Llesol i’r Ysgol.

Addysg, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth

Mae mentrau sy'n ceisio sicrhau bod gan ddisgyblion a'u rhieni/gofalwyr y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i deithio mewn ffordd lesol yn cynnwys:

  • nodi a mapio llwybrau cerdded, olwyno a beicio diogel i'r ysgol
  • llunio mapiau parth cerdded, olwyno a beicio (mae'r rhain yn dangos yr ardal o fewn 5-10 munud ar droed neu ar feic o giât yr ysgol ac yn mynd i'r afael â'r duedd gyffredin i oramcan amseroedd a phellteroedd cerdded ac olwyno)
  • addysgu disgyblion am fuddiannau teithio cynaliadwy i'w hiechyd a'r amgylchedd
  • darparu hyfforddiant sgiliau cerdded i ddisgyblion iau
  • rhoi cyfle i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol neu anableddau gael Hyfforddiant Teithio'n Annibynnol
  • cynnig hyfforddiant beicio a chynnwys hyn o fewn gweithgareddau dysgu
  • cyflwyno gemau a gweithgareddau cydbwyso, sgwtera a beicio fel rhan o addysg gorfforol, amseroedd egwyl a gweithgareddau ysgol eraill 

Annog cyfranogiad

Mae ffyrdd o ennyn diddordeb a brwdfrydedd aelodau o gymuned yr ysgol mewn teithio llesol ac, yn y pen draw, eu hysgogi i ddewis cerdded neu feicio i'r ysgol, yn cynnwys:

  • cymryd rhan mewn digwyddiadau her a drefnir fel Wythnos Cerdded i'r Ysgol gan Living Streets a Stroliwch a Roliwch gan Sustrans
  • sefydlu clybiau sgwtera a beicio yn yr ysgol
  • cynnal cynllun gwobrwyo i ddisgyblion sy'n cerdded ac yn beicio i'r ysgol fel her cerdded i'r ysgol WOW gan Living StreetsGwobr Ysgol Teithio Llesol Sustrans.
  • sefydlu bws cerdded a/neu fws beicio
  • fel rhan o ymgynghoriad cymunedol, trefnwch Stryd Chwarae y tu allan i'r ysgol i alluogi chwarae dros dro ar y stryd. Mae'r rhain yn aml yn cael eu harwain gan breswylwyr ond gallant hefyd gael eu harwain gan yr ysgol. Cynhelir sesiynau chwarae ar y stryd y tu allan i'r ysgol pan ddaw'r diwrnod addysgu i ben, yn aml yn rhedeg unwaith y tymor, ond gallant fod yn fwy aml. Bydd trefnu Stryd Chwarae yn galluogi ymgysylltu â breswylwyr a'r gymuned ehangach. Bydd hefyd yn dangos i rieni a phlant beth y gallant ei ddisgwyl pan fydd yr ardal yn troi'n Stryd Ysgol.

Dylid hefyd ystyried cynnwys disgyblion sy'n byw ymhellach i ffwrdd o'r ysgol ac sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu gar fel eu prif ddull teithio. Gellir annog disgyblion sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddod oddi ar y drafnidiaeth honno yn gynharach a cherdded gweddill y daith.

Yn yr un modd, gellir annog rhai disgyblion sy'n dibynnu ar gar i ‘barcio a cherdded’, hynny yw, parcio i ffwrdd o'r ysgol a cherdded gweddill y daith.

Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd modd sefydlu pwynt Parcio a Cherdded swyddogol mewn man sydd o fewn pellter cerdded i'r ysgol drwy gael caniatâd gan archfarchnad leol neu neuadd bentref, er enghraifft, i ddefnyddio eu maes parcio at y diben hwn.

Mesurau peirianneg

Gellir gwneud gwelliannau ffisegol i lwybrau i ysgolion i'w gwneud yn fwy diogel a sicrhau eu bod yn gwbl hygyrch. Gallai ymyriadau gynnwys gwella ansawdd arwyneb a lled troedffyrdd, gosod cyrbiau isel, darparu mwy o fannau croesi diogel a chyflwyno mesurau gostegu traffig amrywiol gan gynnwys terfynau cyflymder is a chulhau ffyrdd.

Gall awdurdodau lleol hefyd ystyried gosod nodweddion porth fel planwyr neu hidlwyr moddol. Efallai y bydd yn bosibl creu Stryd Ysgol drwy newidiadau ffisegol i'r ardal y tu allan i'r ysgol yn unig sy'n cyfyngu ar fynediad cerbydau. 

Gall mapio codau post disgyblion, mapio llwybrau i’r ysgol a chynnal 'archwiliadau strydoedd' ar droed ac ar olwyn o lwybrau cyffredin helpu i nodi rhwystrau i deithio llesol a blaenoriaethu gwelliannau. Mae'n bwysig cynnwys disgyblion yn yr archwiliadau hyn a gall awdurdodau lleol a sefydliadau teithio llesol roi arweiniad a chymorth i ysgolion yn aml.

Yn ogystal â gwelliannau ffisegol i'r briffordd gyfagos, dylid ystyried gwella cyfleusterau ar safle'r ysgol. Drwy ddarparu digon o fannau parcio beiciau a chyfleusterau diogel i storio sgwteri a bygis, gellir sicrhau na chaiff disgyblion a rhieni/gofalwyr eu rhwystro rhag cerdded, olwyno a beicio am nad oes digon o gyfleusterau ar gael ar ôl iddynt gyrraedd. 

7. Mwy o wybodaeth a chefnogaeth

Bikeability Trust

Ei nod yw creu cenedl o feicwyr drwy sicrhau bod gan bawb yr hyder i fwynhau’r sgil bywyd, yr annibyniaeth a’r mwynhad a ddaw wrth feicio.

Strydoedd Chwarae Hackney

Mae mwy na 50 o strydoedd wedi cymryd rhan yng nghynllun Strydoedd Chwarae Hackney. Mae preswylwyr yn cau eu strydoedd i draffig trwodd am ychydig oriau yr wythnos neu’r mis, fel bod plant yn gallu chwarae yn yr awyr agored yn fwy diogel a bod cymdogion yn gallu dod ynghyd – gan wneud y strydoedd yn fwy cyfeillgar i bawb.

Living Streets

Cenhadaeth Living Streets yw cyflawni amgylchedd cerdded gwell ac ysbrydoli pobl i gerdded mwy. Mae’n cynnig cyngor ac adnoddau ar lwybrau mwy diogel i ysgolion.

School Streets Initiative

Gwefan annibynnol gyda dolenni i ystod o wybodaeth a chyngor.

Sustrans

Elusen sy’n gweithio i’w gwneud yn haws i bawb gerdded, olwyno a beicio. Gall Sustrans drefnu, cyflenwi a darparu dyluniad amgylchedd adeiledig ar gyfer cynllun stryd ysgol.

Cymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA)

Mae’r Gymdeithas hon wedi llunio canllawiau i helpu ysgolion a cholegau ddeall pwysigrwydd rheoli iechyd a diogelwch mewn ffordd gyfrannol sydd wedi’i chynllunio.

Chwarae Cymru

Cyngor i awdurdodau lleol am gau strydoedd i draffig fel bod plant yn gallu chwarae’n ddiogel.

Mae Chwarae Cymru hefyd yn cynnig cymorth i rieni wrth drefnu sesiynau chwarae ar eu stryd.

Astudiaeth achos: Cyngor Caerdydd

Y cefndir

Ym mis Ionawr 2020, lansiodd Cyngor Caerdydd bum Stryd Ysgol fel prosiectau peilot.

Ers hynny, mae'r fenter wedi ehangu i 19 Stryd Ysgol, gan leihau traffig mewn 22 ysgol ledled y ddinas.

Mae Strydoedd Ysgol yn elfen allweddol o raglen ehangach ysgolion teithio llesol y Cyngor, sy'n cefnogi ysgolion i ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Teithio Llesol. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys ymyriadau fel hyfforddiant beicio, cysgodfeydd beiciau, traciwr teithio WOW gan Living Streets, a fflydoedd beiciau / sgwteri ysgol. 

Mae'r tîm ysgolion teithio llesol yn cydweithio'n agos â'r Adran Addysg i sicrhau bod ysgolion newydd a ariennir gan Fand B Llywodraeth Cymru wedi integreiddio darpariaethau teithio llesol.

Image
Disgyblion yn teithio i'r ysgol ar beiciau.

Gweithredu

Mae Strydoedd Ysgol Cyngor Caerdydd yn cael eu gweithredu drwy gyfyngiadau mynediad i gerbydau wedi'u hamseru a orfodir gan gamerâu ANPR gan ddefnyddio pwerau Troseddau Traffig Symudol. Gall preswylwyr, deiliaid bathodynnau glas, gofalwyr, a busnesau/adeiladau cymunedol wneud cais am drwyddedau Stryd Ysgol am ddim. 

Mae'r trwyddedau hyn yn gysylltiedig â thrwyddedau parcio preswylwyr, lle bo hynny'n berthnasol, i symleiddio'r broses ymgeisio. Mae cydweithio â thimau gorfodi a gwasanaethau parcio’r Cyngor wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu Strydoedd Ysgol.

Ysgol Gynradd Pencaerau

Cyflwynodd un o'r ysgolion peilot cyntaf, Ysgol Gynradd Pencaerau, ei Stryd Ysgol ym mis Ionawr 2020 gan ddefnyddio Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol, a ddaeth yn barhaol yn 2021. 

Roedd gan yr ysgol, sydd wedi'i lleoli mewn cul-de-sac bach, bryderon diogelwch hirsefydlog ynghylch parcio ac ymddygiad gyrru.

"Cadw ein plant yn ddiogel yw ein blaenoriaeth gyntaf bob amser. Mae bod yn rhan o fenter Strydoedd Ysgol Cyngor Caerdydd yn sicrhau bod ein plant yn gallu cerdded yn ddiogel i mewn ac allan o'r ysgol. Mae'r cynllun wedi’i dderbyn gan gymuned yr ysgol gyfan, ac rydym yn gwybod mai cyfrifoldeb pawb yw cadw ein plant yn ddiogel."

Stori lwyddiant: Lawrenny Avenue

Mae Lawrenny Avenue yn ychwanegiad diweddar i'r fenter Ysgolion Ysgol, a gyflwynwyd ym mis Medi 2023 i gefnogi tair ysgol gyda chyfanswm cyfunol o 2,300 o ddisgyblion. Roedd adleoli Ysgol Uwchradd Fitzalan i gyffordd Lawrenny Avenue a Ffordd Lecwydd, sy’n briffordd brysur, yn golygu cyflwyno Stryd Ysgol i liniaru risgiau diogelwch i gerddwyr, beicwyr, a defnyddwyr eraill y ffordd sy’n agored i niwed.

Gweithredwyd y fenter ochr yn ochr â chynllun priffordd a throedffordd newydd ar y gyffordd a chyfleusterau croesi newydd ar Ffordd Lecwydd. Hwylusodd y Tîm Teithio Llesol drefniant parcio a cherdded o faes parcio cyfagos a chefnogi'r ysgol gynradd i sefydlu bws cerdded, wedi'i ysgogi gan ddod o hyd i fflyd o sgwteri i hyrwyddo teithio llesol.

Canlyniadau

Mae gymuned yr ysgol wedi croesawu’r fenter Strydoedd Ysgol, gydag adborth cadarnhaol yn tynnu sylw at well diogelwch i blant. Mae'r cynllun yn rhan o ymdrech ehangach i gynyddu teithio llesol ar gyfer teithiau ysgol drwy ymyriadau wedi'u targedu a chymorth i newid ymddygiad. Mae Strydoedd Ysgol yn mynd i'r afael â phryderon diogelwch gan ysgolion, trigolion, aelodau ward lleol, a swyddogion y Cyngor, ac yn anelu at leihau tagfeydd, gwella perthnasoedd rhwng ysgolion a'u cymunedau, a lleihau llygredd aer/sŵn.

Mae'r fenter yn cefnogi uchelgais Caerdydd i fod yn 'Ddinas sy'n Dda i Blant' drwy flaenoriaethu gofod cyhoeddus i blant a'u teuluoedd yn ystod yr oriau brig. Mae hefyd yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Casgliad

Mae menter Strydoedd Ysgol Cyngor Caerdydd yn dangos dull llwyddiannus o wella diogelwch a hyrwyddo teithio llesol ar gyfer teithiau ysgol. Drwy fynd i'r afael â thagfeydd traffig a phryderon diogelwch, mae'r fenter yn meithrin amgylchedd mwy diogel, iach a chymunedol i fyfyrwyr a'u teuluoedd.

Astudiaeth achos: Ysgol Gynradd Fairfield

Y cefndir

Ym mis Medi 2020 comisiynodd Cyngor Bro Morgannwg Sustrans i fynd i'r afael â materion diogelwch ar y ffyrdd yn Ysgol Gynradd Fairfield, ym Mhenarth. 

Cwmpas y comisiwn oedd gwneud y strydoedd o amgylch yr ysgol yn fwy diogel ar gyfer cerdded, olwynion a beicio. 

Cynhaliwyd gweithdai gyda staff yr ysgol, disgyblion, rhieni a phreswylwyr. Cytunwyd ar restr o welliannau, gan gynnwys: 

  • cau wedi'i amseru (Stryd yr Ysgol) ar Ffordd Dryden
  • cyflwyno system unffordd y tu allan i'r ysgol
  • lledaenu’r droedffordd
  • plannu gardd law ar hyd y stryd

Cyfnod treialu a Stryd Chwarae

Fel rhan o'r ymgynghoriad â'r gymuned ar Strydoedd Ysgol, trawsnewidiwyd y ffordd y tu allan i Ysgol Fairfield yn Stryd Chwarae.

Ar gyfer treial cychwynnol am wythnos ym mis Hydref 2021, cafodd y ffordd ei chau dros dro i draffig cyn amser casglu plant o’r ysgol. Roedd hyn yn caniatáu i blant chwarae, cerdded, beicio a mynd ar sgwter adref yn ddiogel.

Roedd hefyd yn helpu rhieni a phreswylwyr i brofi manteision cau ffyrdd dros dro a gofyn cwestiynau am y cynllun.

Trefnodd Sustrans gyfleoedd ymgysylltu â'r ysgol a chymdogion lleol. Roedd Chwarae Cymru yn darparu offer rheoli traffig, tra bod Tîm Datblygu Chwarae Bro Morgannwg yn darparu offer chwarae a staff i helpu gyda stiwardio. 

Mae integreiddio mentrau chwarae a theithio llesol yn creu amgylchedd diogel a diddorol i blant, gan annog teuluoedd i gerdded, olwyno neu feicio i'r ysgol. Mae'r dull cyfannol hwn nid yn unig yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol ond hefyd yn datblygu ymdeimlad o gymuned a pherchnogaeth ar y strydoedd lleol.

Canlyniadau’r treial

Mae'r prosiect peilot cychwynnol wedi bod yn llwyddiant, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr.

Dywedodd 81% o drigolion Dryden Road eu bod yn cefnogi’r Stryd Ysgol.

"Rwy'n falch bod system unffordd yn cael ei rhoi ar waith [...] i atal tagfeydd o amgylch yr ardal." – Preswylydd Lleol 

"Rwy'n cefnogi’n gryf yr holl fesurau sydd wedi cael eu hawgrymu. Maen nhw'n gyfle gwych i newid y sefyllfa bresennol, sydd ddim yn sefyllfa ddelfrydol." – Preswylydd Dryden Road

Mae Stryd yr Ysgol wedi trawsnewid yr ardal yn amgylchedd mwy diogel a mwy croesawgar. 

Mae'r treial cychwynnol am wythnos, dan arweiniad Sustrans ynghyd â'r awdurdod lleol a staff yr ysgol, wedi cronni adborth cadarnhaol yn bennaf gan breswylwyr, rhieni a staff ysgol.

Yn ystod cyfnod y treial, rheolwyd materion fel dadleoli traffig a pharcio diystyriol yn effeithiol trwy bresenoldeb cynyddol Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) lleol a swyddog gorfodi traffig. 

Roedd cyfathrebu cyson â rhieni a gofalwyr hefyd yn hanfodol, wedi'i hwyluso gan yr ysgol drwy wahanol sianeli gan gynnwys sesiynau galw heibio personol, taflenni gwybodaeth, ac e-byst. Ystyriwyd lleisiau disgyblion hefyd, wrth iddynt gydweithio'n agos â Sustrans i fynegi eu barn ar y gwelliannau stryd a ddymunir. Sicrhaodd y dull cynhwysfawr hwn fod y treial yn llwyddiannus wrth fynd i'r afael â phryderon allweddol ac ymgorffori adborth gwerthfawr gan gymuned yr ysgol.

Gweithiodd Sustrans gyda'r awdurdod lleol i sicrhau cyllid cyfalaf trwy'r gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, ac fe wnaeth y gofalwr a'r pennaeth staffio'r pwynt cau yn llwyddiannus rhwng Ebrill a Hydref 2023, gan gyfyngu ar draffig yn ystod y cyfnod hwn.

Gwelliannau seilwaith

Yn ogystal â'r treialon, mae gwelliannau wedi'u gwneud ar Dryden Road i wella diogelwch, hygyrchedd a chynaliadwyedd. 

Un o'r ychwanegiadau allweddol yw gosod gerddi glaw, a elwir hefyd yn Systemau Draenio Cynaliadwy (SUDs). Mae'r gerddi hyn yn darparu dull naturiol o reoli risgiau llifogydd a llygredd drwy amsugno a hidlo dŵr glaw, gan leihau'r risg o lifogydd. 

Yn ogystal, mae system unffordd wedi'i chyflwyno i wella llif traffig a lleihau tagfeydd, gan wella diogelwch cyffredinol ar y ffyrdd. 

Mae cau amserol parhaol ar Dryden Road yn cyfrannu ymhellach at ddiogelwch cerddwyr drwy gyfyngu mynediad i gerbydau yn ystod oriau brig, gan ganiatáu i rieni a phlant gerdded, olwyno neu feicio heb draffig. 

Mae gwelliannau i'r cynllun ac ehangu troedffyrdd wedi'u gwneud i wella hygyrchedd i bob cerddwr, gan gynnwys y rhai ag anableddau. Mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod y stryd yn fwy cynhwysol i bob defnyddiwr. 

Gyda'i gilydd, mae'r ymyriadau hyn yn creu amgylchedd trefol mwy diogel, mwy cynaliadwy a hygyrch i'r gymuned.

Image
System unffordd, troedffyrdd sydd wedi'u lledu, a gerddi glaw yn Ysgol Fairfield.

Gwersi a ddysgwyd a’r camau nesaf

Fodd bynnag, mae'r heriau o staffio'r pwynt cau, a'r nifer cynyddol o geir sy'n mynd i mewn i'r stryd yn ystod y cyfnod cau, wedi tynnu sylw at yr angen am orfodi awtomataidd.

Disgwylir i gamerâu gael eu gosod yn hydref 2025. 

Mae'r broses hon wedi cryfhau ymrwymiad yr awdurdod lleol i greu strydoedd mwy diogel, mwy hygyrch i bawb.

Gallwch ddarllen mwy am brosiect Dylunio Strydoedd Cymunedol Cynradd FairfieldStryd yr Ysgol.

Astudiaeth achos: Cyngor Hackney

Trosolwg

Gyda 50 o Strydoedd Ysgol gweithredol, mae Cyngor Hackney yn rhedeg rhaglen Strydoedd Ysgol fwyaf y DU, sydd o fudd i dros 20,000 o ddisgyblion.

Ar hyn o bryd mae'n cwmpasu 48 o ysgolion cynradd, 87% o’r ysgolion cynradd yn y fwrdeistref. Mae hefyd yn cynnwys 5 ysgol uwchradd, 26% o’r ysgolion uwchradd lleol. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i asesu ei holl ysgolion cynradd ar gyfer y cynllun Strydoedd Ysgol.

Image
Bachgen a merch ar beiciau fel rhan of Strydoedd Ysgol Hackney.

Cychwyn arni

Mae'r Cyngor wedi datblygu ei ddull gweithredu dros amser, gan ddefnyddio tystiolaeth a dysgu o 4 Stryd Ysgol peilot yn:

  • Ysgol Gynradd Sant Ioan Fedyddiwr
  • Ysgol Gymunedol Gayhurst
  • Ysgol Gymunedol Millfields
  • Ysgol Gymunedol Oldhill

Cyflwynir strydoedd ysgol gan ddefnyddio gorchmynion traffig arbrofol am hyd at 18 mis. 

Yn dilyn ymgynghoriad, gwneir y penderfyniad  wedyn ynghylch gwneud y cynlluniau'n barhaol, gyda newidiadau neu heb newidiadau

Gorfodi

Mae Hackney wedi bod yn defnyddio teledu cylch cyfyn i orfodi’r cynllun Strydoedd Ysgol am sawl blwyddyn. 

Caiff cymysgedd o gamerâu parhaol a dros dro eu defnyddio bellach. Mae hyn yn golygu y gellir targedu mesurau gorfodi lle bo angen, heb fynd i’r gost o osod camerâu parhaol ym mhob ysgol.

Canlyniadau

At ei gilydd mae'r gymuned leol wedi croesawu’r cynlluniau, gyda phôl piniwn o drigolion Hackney yn 2022 yn nodi bod mwy na 7 o bob 10 o bobl am weld o leiaf rhai o Strydoedd Ysgol Hackney yn cael eu gwneud yn barhaol.

Rhwng 2020 a 2021, ar ôl cyflwyno dros 30 o Strydoedd Ysgol yn Hackney yn llwyddiannus, ar gyfartaledd roedd cerdded a beicio i'r ysgol yn y fwrdeistref wedi cynyddu o 61% i 69%.

Yn Strydoedd Ysgol Hackney, cynyddodd nifer y plant sy'n cerdded i'r ysgol hyd at 30% a chynyddodd nifer y plant sy'n beicio i'r ysgol hyd at 51%.

Ar gyfartaledd, gwelodd yr ysgolion yn Hackney a chanddynt gynllun Stryd Ysgol ostyngiad o 68% mewn traffig y tu allan i giatiau'r ysgol, gan arwain at ostyngiad sylweddol mewn allyriadau cerbydau.

Adnoddau

Mae Cyngor Hackney wedi defnyddio ei brofiad o ddarparu Strydoedd Ysgol i greu pecyn cymorth a thempledi ar gyfer deunyddiau hyrwyddo sydd ar gael i awdurdodau lleol yn rhad ac am ddim.

Image
Bachgen ar sgwter fel rhan o Strydoedd Ysgol Hackney.