Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Adolygiad o effeithiolrwydd y mesurau sydd wedi’u cyflwyno gan y Rheoliadau hyn fel modd o leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol fel sy’n ofynnol o dan Reoliad 44. Cadeiriwyd gan Dr Susannah Bolton.

Rhagair y Cadeirydd

Rydyn ni mor ffodus yma yng Nghymru am fod gennyn ni rai o'r dalgylchoedd afonydd harddaf yn y byd. Mae'r rhain yn darparu cynefinoedd dŵr croyw pwysig ar gyfer toreth o fioamrywiaeth. Mae gan Gymru hefyd ddaearyddiaeth gyfoethog ac amrywiol, ynghyd â threftadaeth ffermio gref a hinsawdd sy'n dda ar gyfer tyfu glaswellt i fwydo da byw. Roedd yn amlwg o fy nhrafodaethau â rhanddeiliaid  eu bod yn awyddus i weld sector amaeth cynaliadwy ym mhob ystyr o'r gair – yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Hoffwn i ddiolch i bawb am siarad â mi mewn ffordd onest a theg, ac am eu dealltwriaeth o'r heriau a'r cyfleoedd wrth inni edrych tua'r dyfodol. 

Mae llygredd dŵr yn fygythiad difrifol i gynaliadwyedd ffermio yn y dyfodol a lles y gymdeithas ehangach. Mae'n cael effaith negyddol ar iechyd y cyhoedd, cynefinoedd naturiol gwerthfawr a datblygu economaidd. Mae llawer o wahanol ffactorau sy'n peri'r risg o lygredd dŵr, o ddigwyddiadau yn y tarddle a  llygredd gwasgaredig. Un ymhlith llawer o bwerau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r her yw rheoleiddio, ond mae'n offeryn pwysig ar gyfer rheoli'r risgiau hynny o fewn fframwaith tryloyw. Yng Nghymru, mae'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol wedi'u cynllunio i ddiogelu adnoddau dŵr Cymru rhag llygredd amaethyddol, wrth alluogi arferion ffermio cynhyrchiol a chynaliadwy i barhau. Prif bwrpas yr adolygiad pedair blynedd hwn o'r cychwyn cyntaf oedd asesu a yw'r rheoliadau hynny'n effeithiol wrth fynd i'r afael â llygredd dŵr, a chyflawni gofynion statudol a rhwymedigaethau amgylcheddol cenedlaethol a rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Wrth i Lywodraeth Cymru fynd drwy unrhyw broses ddiwygio, rwy'n credu'n gryf iawn y dylid cadw'r rheoliadau presennol nes bod unrhyw opsiynau eraill ar waith.

Gall gymryd degawdau cyn inni weld canlyniadau newid arferion amaethyddol ym myd natur. Mae'r amser sydd wedi mynd heibio ers gweithredu'r rheoliadau'n weddol fyr, ac mae'r ffaith bod rhai o'r elfennau wedi cael eu cyflwyno'n raddol yn golygu ei bod wedi bod yn anodd dod i unrhyw gasgliadau cadarn o'r data monitro amgylcheddol.  Felly, er bod yr adolygiad wedi defnyddio'r data yn y ffordd orau posibl, mae hefyd wedi bod yn bwysig trafod yn helaeth, clywed gwahanol safbwyntiau a dysgu o brofiad y rhai sydd wedi bod yn rhan o'r broses o weithredu'r rheoliadau, a'r rhai mae'r rheoliadau wedi effeithio arnyn nhw.

Roeddwn i eisiau sicrhau bod yr adolygiad yn defnyddio dull agored iawn sy'n seiliedig ar systemau, gan gydnabod bod y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol yn effeithio ar bwysau rheoleiddiol ac economaidd ehangach o lawer, a gall fod angen buddsoddi sylweddol a newid i arferion ffermio.     Rwyf wedi ceisio nodi unrhyw heriau o ran gweithredu'r rheoliadau, gan gynnwys newid ymddygiad a chanlyniadau anfwriadol, a nodi cyfleoedd i fynd i'r afael â'r rhain, wrth ddilyn yn gryf yr egwyddor y dylai canlyniad unrhyw argymhellion leihau'r risg o lygredd dŵr sy'n deillio o weithgareddau amaethyddol ymhellach. Rwy'n cydnabod bod arferion fferm gwahanol yn peri lefelau gwahanol o risg, ac er nad yw'r rheoliadau wedi cael eu cyfyngu i reoli colledion  nitrogen, nid ydynt yn mynd i'r afael yn ddigonol â llygryddion eraill, gan gynnwys ffosfforws a dŵr ffo o bridd, a allai mewn rhai sefyllfaoedd beri risg uwch byth. Bydd sicrhau y bydd unrhyw newidiadau'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r risgiau mwyaf arwyddocaol yn sicrhau bod y rheoliadau'n effeithiol ac yn gymesur.

Un o'r agweddau sy'n peri'r rhwystredigaeth fwyaf mewn perthynas â llygryddion amaethyddol yw bod yr un llygryddion hyn hefyd yn faethynnau gwerthfawr, sy'n bwysig ar gyfer amaethyddiaeth gynhyrchiol. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi cyfle ar gyfer rheoliadau sy'n cefnogi ffermwyr i gyfyngu ar golledion pridd a maethynnau, gwella effeithlonrwydd ffermydd a lleihau'r risg o lygredd ar yr un pryd. Felly, bydd trafod â ffermwyr i nodi'r cymhellion a'r rhwystrau allweddol i newid ymddygiad yn bwysig er mwyn sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau'n llwyddiannus, ochr yn ochr â chymhellion priodol (a oedd y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad hwn).

Mae busnesau fferm yn wynebu llawer o anawsterau ac ansicrwydd, yn anad dim heriau tywydd eithafol a bygythiad clefydau. Drwy ein trafodaethau â'r gymuned ffermio, mae wedi bod yn glir bod gweithredu rhai elfennau o'r rheoliadau wedi bod yn arbennig o heriol. Un peth a oedd yn bwysig inni ei wneud oedd  cydnabod yr effeithiau ar les ffermwyr a'r angen am reoleiddiadau sy'n gwneud cydymffurfio a gorfodi mor hawdd â phosibl heb golli momentwm.

Rwyf hefyd wedi bod yn awyddus i archwilio'r cyfleoedd i wella'r rheoliadau gan ddefnyddio atebion technegol a allai fod wedi cael eu datblygu neu ddod i'r amlwg yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Mae wedi bod yn galonogol gweld allbynnau ymchwil diweddar a allai alluogi rhagor o hyblygrwydd a chywirdeb wrth reoli maethynnau, yn ogystal â'r cynnydd tuag at opsiynau ar gyfer systemau cylchol a rheoli tail gwell. Bydd technolegau newydd ar gyfer casglu data, gwyddora data a deallusrwydd artiffisial yn rhoi  cyfleoedd pellach ar gyfer offerynnau arloesol a'r potensial i gydbwyso hyblygrwydd rheoleiddiol â risgiau hysbys. Fodd bynnag, bydd rhaid i unrhyw atebion technegol sy'n cael eu cyflwyno ar ffermydd gael eu profi'n dda, a rhaid i opsiynau ar gyfer ymgorffori atebion o'r fath osgoi gwneud y gofynion ar gyfer gweithredu, gorfodi ac adrodd am y rheoliadau'n rhy gymhleth. 

Gan gadw popeth uchod mewn golwg, mae'n bwysig rheoli disgwyliadau drwy nodi'r amserlen ar gyfer ymgorffori argymhellion wrth ddiwygio'r rheoliadau. Efallai y bydd yn bosibl gweithredu rhai gwelliannau o fewn y deunaw mis nesaf, ond mae'n bosibl y bydd ymgorffori gwelliannau eraill yn cymryd mwy na thair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd yn bwysig meithrin hyder ymhlith yr holl bartïon, gan gynnwys ffermwyr a grwpiau amgylcheddol, y bydd unrhyw newidiadau yn lleihau'r risg o lygredd dŵr sy'n deillio o weithgareddau amaethyddol ymhellach. 

Mae'r trafodaethau rwyf wedi eu cynnal ynghylch yr adolygiad hwn wedi dangos bod pawb yn awyddus i wella ansawdd dŵr yng Nghymru. Rwy'n wirioneddol optimistaidd y bydd y newidiadau a argymhellir i'r rheoliadau'n cynyddu  awydd pawb i fynd i'r afael â'r heriau, ac yn sicrhau bod pawb yn rhannu'r cyfrifoldeb yn hyn o beth, fel y gall pawb fod yn hyderus, erbyn yr adolygiad pedair blynedd nesaf, fod y rheoliadau diwygiedig yn cefnogi ffermwyr i ffermio mewn modd cynaliadwy, gyda manteision i'r sector a holl ddinasyddion Cymru, gan gynnwys cenedlaethau'r dyfodol.

Dr Susannah Bolton
Cadeirydd Annibynnol 

Adran 1: cyflwyniad  a chefndir

Diben yr adolygiad 

Pan gyflwynwyd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (Rheoliadau CoAP), roeddent yn cynnwys gofyniad i adolygu eu heffeithiolrwydd. 

Mae'r Rheoliadau CoAP drwy Reoliad 44 (ar legislation.gov.uk) yn nodi bod angen 

‘rhaglen fonitro i asesu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol'.

Ac 

          ‘Wrth gynnal adolygiad..., rhaid i Weinidogion Cymru ystyried – 

(a) y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio’n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy’n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill, ac

(b) amodau amgylcheddol rhanbarthol.’

Roedd yr adolygiad i'w gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025 er mwyn cyflawni'r rhwymedigaeth i adolygu’r Rheoliadau CoAP o fewn 4 blynedd. Er mwyn cefnogi'r broses hon, penodwyd cadeirydd annibynnol gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS. Fe wnaeth y cadeirydd, Dr Susannah Bolton, cyn Is-brifathro, Menter a Chyfnewid Gwybodaeth yng Ngholeg Gwledig yr Alban, ystyried ystod eang o ffynonellau tystiolaeth, sydd ar gael yn y pecyn tystiolaeth. 

Er bod amserlen yr adolygiad yn un heriol, bu cryn ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr ffermio, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol a ffermwyr. Mae manylion yr ymgysylltu hwn ar gael yn Atodiad B. 

Mae'r adolygiad terfynol wedi'i strwythuro'n 4 adran:

  • mae adran 1 yn darparu gwybodaeth gefndir am gyflwyno'r rheoliadau a'r sail resymegol dros ymyrryd
  • mae adran 2 yn amlinellu 'yr her' a oedd yn wynebu’r adolygiad hwn mewn perthynas ag ansawdd dŵr ac mae'n myfyrio ar brofiadau rhanddeiliaid o weithredu'r rheoliadau hyd yn hyn
  • mae adran 3 yn archwilio'r 'egwyddorion, y synergeddau a'r gwrthdaro' sy'n deillio o'r rheoliadau ac yn archwilio meysydd allweddol o'r rheoliadau, gan adolygu'r rhesymau dros fesurau penodol a lle mae gwrthdaro yn ymwneud â'r mesurau hyn wedi'i nodi
  • mae adran 4 yn amlinellu'r 'ffordd ymlaen' ar gyfer y rheoliadau, gan ddod i gasgliad a chrynhoi'r argymhellion

Cwmpas yr adolygiad 

Amlinellwyd cwmpas yr adolygiad yn y Cylch Gorchwyl ac fe'i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru er mwyn ei rannu â rhanddeiliaid. Roedd y Cylch Gorchwyl yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn deall beth oedd wedi'i gynnwys yn yr adolygiad.   

Roedd yn egluro rôl yr adolygiad o'r rheoliadau mewn perthynas â gweithgarwch arall, megis adolygu deunyddiau organig i dir, sy'n cael ei gynnal ar wahân i'r Adolygiad CoAP. Hefyd, roedd yn egluro meysydd na fyddai o fewn cwmpas yr adolygiad, gan gynnwys meysydd fel ymyriadau nad ydynt yn rheoleiddiol megis datblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.   

Y camau nesaf

Nid yw argymhellion yr adolygiad hwn yn rhwymo mewn cyfraith. Yn dilyn yr adolygiad hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried pa gamau sydd i'w cymryd. Lle bo angen, bydd unrhyw newidiadau i'r rheoliadau yn destun ymgynghoriad ac yn cael eu hategu gan yr asesiadau effaith angenrheidiol. 

Mae'r rheoliadau yn parhau mewn grym hyd nes y gwneir unrhyw benderfyniad ar gamau gweithredu yn y dyfodol a newidiadau deddfwriaethol dilynol. 

Ymrwymiadau, rhwymedigaethau ac amcanion amgylcheddol Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn unol â nifer o ymrwymiadau a dyletswyddau sy'n berthnasol i'r adolygiad hwn. Mae rhai ohonynt yn ofynion deddfwriaethol ac eraill yn safbwyntiau neu'n gynlluniau polisi. Rhaid i'r adolygiad hwn ystyried y rhain ac maent yn cael eu harchwilio'n fanylach yn y pecyn tystiolaeth. 

Mae rhai o'r ymrwymiadau hyn yn rhai byd-eang fel rhan o'n hymrwymiad i Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Ymhlith y rhwymedigaethau rhyngwladol sy'n gymwys i Lywodraeth Cymru y mae Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (ar unfccc.int), y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (ar cbd.int), Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (ar sdgs.un.org), Protocol Gothenburg (ar unece.org) a tharged 7 o'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming - Montréal (ar cbd.int), sy'n nodi bod angen lleihau maethynnau gormodol sydd wedi'u colli i'r amgylchedd gan o leiaf hanner. 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (ar legislation.gov.uk), gan ddarparu fframwaith i sicrhau bod rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau, dyletswydd bioamrywiaeth i helpu i wrthdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth a sicrhau ei gwytnwch hirdymor, a dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau ar gyfer lleihau allyriadau tŷ gwydr.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (ar legislaion.gov.uk) yn gosod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn rhan annatod o'n polisïau. Yn 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (ar legislation.gov.uk), sy'n sefydlu pedwar amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy.  

Cyflwyno Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol

Yn 2016 ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar adolygiad o'r Ardaloedd Dynodedig a Rhaglen Weithredu i fynd i’r afael â Llygredd Nitradau yng Nghymru. Yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad hwn, a chyfnod helaeth o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ddulliau gweithredu amgen posibl, penderfynwyd cyflwyno rheoliadau ar sail Cymru gyfan. 

Daeth Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (Rheoliadau CoAP) (ar legislation.gov.uk) i rym ar 1 Ebrill 2021, ac fe gawsant eu cyflwyno'n raddol. Roedd y rheoliadau yn cynnwys mesurau tebyg i'r rhai sy'n cael eu cynnwys yn y Cod Ymarfer Amaethyddol Da (CoGAP) a'r rhaglen weithredu nitradau, ac yn ymgorffori llawer o ofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010 (dirymu) (ar legislation.gov.uk) ar sail Cymru gyfan, a gyflwynwyd yn wreiddiol ym 1991.   

Er bod y Rheoliadau CoAP yn cyflawni rhwymedigaethau sy'n deillio o'r Gyfarwyddeb Nitradau, maent yn cefnu ar ddull gweithredu Cyfarwyddeb Nitradau ac yn ystyried rhwymedigaethau ac amcanion ehangach. Nid ydynt yn rheoliadau Parth Perygl Nitradau (er mai dyna'r canfyddiad cyffredinol) ac nid ydynt yn sefydlu Parth Perygl Nitradau Cymru gyfan. Penderfynodd Llywodraeth Cymru na fyddai dull gweithredu Cyfarwyddeb Nitradau ar wahân yn effeithiol o ran amddiffyn crynofeydd dŵr ledled Cymru rhag methu â bodloni safonau diogelwch ac ecolegol eraill, lleihau llygredd atmosfferig neu fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'i liniaru.

O dan Gytundeb Cydweithio 2021, gohiriwyd y broses o gyflwyno'r terfyn ar faint o nitrogen o dail da byw y gellir ei wasgaru ar y daliad bob blwyddyn (cyfartaledd o 170kg yr hectar) tan fis Ionawr 2025. Datblygwyd dull Rheoli Maethynnau Uwch ar gyfer blwyddyn galendr 2024. Roedd y dull hwn yn caniatáu gwasgaru tail da byw hyd at 250kg/N/ha ym mlwyddyn galendr 2024, yn amodol ar ofynion ychwanegol i leihau'r perygl o lygredd, er mwyn rhoi mwy o amser i ffermydd drosglwyddo i'r terfyn o 170kg. 

Yr her o reoli maethynnau ledled y DU ac Ewrop

Nid yw Cymru ar ei phen ei hun o ran cyfyngu ar wasgaru maethynnau ar y tir er mwyn lliniaru risgiau llygredd amaethyddol i ddyfrffyrdd. Ledled y DU, mae cyfyngiadau tebyg ar waith mewn sawl ardal. Mae cymhariaeth o'r cyfundrefnau rheoleiddio ledled y DU yn dangos bod mesurau yn fwy llym nad ydynt yng Nghymru mewn rhai achosion a bod y gwahaniaethau ledled y DU yn gymhleth. Mae Atodiad A yn rhoi crynodeb o'r mesurau gwahanol sydd ar waith ledled y DU. 

Fodd bynnag, nid yw heriau rheoli maethynnau a phriodoldeb dulliau gweithredu yn unigryw i'r DU. Ym mis Rhagfyr 2023, lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd werthusiad o'r Gyfarwyddeb Nitradau (ar environment.ec.europa.eu) er mwyn asesu a yw'r Gyfarwyddeb yn parhau i fod yn 'addas i'r diben’.

Hefyd, mae'n bwysig ystyried y berthynas rhwng Rheoliadau CoAP a'r amgylchedd rheoleiddio ehangach. Mae gwasgaru tail da byw neu unrhyw dail organig sy'n fwy na gofynion maethynnau cnydau neu bridd yn cael ei ystyried yn weithgaredd gwaredu gwastraff, a bydd rheoliadau gwastraff presennol yn gymwys i'r arfer hwn. Ym mis Awst 2022 cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyngor ar sut i ddefnyddio tail a slyri yn briodol. Mae astudiaeth ddiweddar gan ADAS ar gyfer Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod 10 miliwn tunnell o ddeunyddiau organig (h.y. tail da byw, compost, gweddillion treuliad anaerobig, biosolidau a deunydd a daenir o dan drwydded) wedi'u defnyddio ar dir amaethyddol yng Nghymru yn 2021. Roedd y rhan fwyaf o'r deunyddiau organig (88%) yn dail da byw, gan gynnwys tail wedi'i drin o dda byw sy’n cael eu cadw dan do sydd wedyn yn cael ei wasgaru ar dir a thail a ddyddodwyd yn uniongyrchol gan anifeiliaid sy'n pori. Asesiad o'r banc tir yng Nghymru ar hyn o bryd.

Effeithiau ar fasnach

Mae defnyddwyr yma yng Nghymru ac ar draws marchnadoedd allforio pwysig Cymru yn gwerthfawrogi ein cynnyrch oherwydd ei safonau uchel o ran yr amgylchedd a lles anifeiliaid. Cefnogwyd hyn gan safonau gwirfoddol fel y Tractor Coch (ar redtractor.org) a Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) yn ogystal â'r gofynion Trawsgydymffurfio ar gyfer ffermydd cymwys. Fodd bynnag, mae gofyniad am safonau rheoleiddio yn berthnasol i fasnach ryngwladol.

Cafodd parhau i gydymffurfio â gofynion yr Undeb Ewropeaidd ei ystyried wrth lunio Rheoliadau CoAP, ac mae'r gofyniad hwn yn parhau. Roedd y dull gweithredu yn mynd i'r afael â'r risgiau sy'n gysylltiedig ag achosion ôl-weithredol am dorri cyfraith Ewropeaidd adeg gwneud Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng yr UE a'r DU (arec.europa.eu) a’r gofynion i sicrhau chwarae teg a bennir yn y Cytundeb. Mae'r Rheoliadau CoAP wedi'u cynllunio i sicrhau mynediad i farchnadoedd Ewropeaidd a byd-eang trwy alluogi sector amaethyddol Cymru i ddangos bod bwyd yng Nghymru yn cael ei gynhyrchu yn unol â safonau sylfaenol cydnabyddedig.

Adran 2: yr her

Mae'r adran hon yn amlinellu'r her sy'n wynebu Cymru mewn perthynas â phwysau ar yr amgylchedd. Dylid nodi'n glir nad amaethyddiaeth yw'r unig ffynhonnell llygredd, ond ei fod yn un o'r prif gyfranwyr, ac mai diben y rheoliadau yw mynd i'r afael â'r her hon. Felly, wrth ystyried effeithiolrwydd y rheoliadau, mae'n rhaid i ni ystyried statws yr amgylchedd. 

Hefyd, mae'n anodd gwahaniaethu rhwng effeithiau llygredd tarddle penodol, sy'n gallu deillio o lygredd uniongyrchol i'r amgylchedd e.e. rhyddhau slyri i gwrs dŵr i lygredd amaethyddol gwasgaredig sy'n gallu deillio o wasgaru gormod o faethynnau ar y tir. 

Mae angen ystyried y ffaith fod y rheoliadau wedi'u cyflwyno'n raddol ym mis Ebrill 2021, ac nad oedd mesurau arwyddocaol yn gymwys i'r rhan fwyaf o ffermydd tan ddiwedd 2024. Ar ben hynny, yn aml mae oedi rhwng gwasgaru maethynnau ar y tir a chanfod colledion maethynnau mewn dŵr wyneb, sy'n gallu rhychwantu degawdau yn dilyn newidiadau mewn arferion ffermio: 

Ansawdd dŵr 

Mae ansawdd dŵr yn ddangosydd pwysig o effeithiolrwydd y rheoliadau ac mae'n berthnasol i bob math o ddŵr, gan gynnwys dŵr wyneb, megis afonydd a llynnoedd, dŵr daear, ac ardaloedd sy'n ddibynnol, megis cynefinoedd sy'n dibynnu ar ddŵr sy'n sensitif i nitrogen. Fodd bynnag, dylid nodi bod sawl ffynhonnell o wybodaeth am ansawdd dŵr ar gael, sy'n cael eu defnyddio at ddibenion asesu gwahanol ac sydd â gofynion neu feini prawf adrodd gwahanol ac fe’u cymerir ar adegau gwahanol. Am y rheswm hwn, dylid ystyried yr holl wybodaeth mewn ffordd gyfannol gan ganolbwyntio ar dueddiadau. 

Yn y gorffennol, o dan Gyfarwyddeb Nitradau’r UE (ar eur-lex.europa.eu) roedd gofyniad i nodi'r ardaloedd i'w hystyried ar gyfer eu dynodi’n Barth Perygl Nitradau, gyda gofynion ychwanegol yn ymwneud ag amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵrr (ar environment.ec.europa.eu). Nid oes gofyniad Cyfarwyddeb Nitradau o'r fath yn bodoli bellach, ond rhaid ystyried ystod ehangach o dystiolaeth mewn perthynas â rhwymedigaethau ehangach wrth ystyried ansawdd dŵr. 

Mae'r pecyn tystiolaeth sy'n cyd-fynd â'r adolygiad hwn yn amlinellu'n fanylach yr ystyriaethau ansawdd dŵr allweddol a ffynonellau data unigol. Hefyd, mae'n darparu dolenni i ffynonellau ehangach yn ymwneud ag ansawdd dŵr, gan gynnwys pyrth System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) sy'n sicrhau bod rhanddeiliaid yn gallu cael ystod eang o wybodaeth am ansawdd dŵr. 

Tystiolaeth yr adolygiad o faethynnau 

Cyhoeddwyd yr adolygiad o faethynnau yn 2024 ac fe’i cynhaliwyd gan gwmni ymgynghori Arup a benodwyd gan CNC i adolygu maethynnau mewn crynofeydd dŵr ledled Cymru er mwyn datblygu dealltwriaeth ar raddfa genedlaethol o ansawdd dŵr sylfaenol ar hyn o bryd ac asesu risgiau posibl oherwydd maethynnau. Mae'r adolygiad o faethynnau yn cynnwys nitrad a ffosffad, sy'n cael eu hystyried yn faethynnau allweddol sy'n cyfrannu at ansawdd dŵr gwael. Yn gyffredinol, roedd y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr adolygiad yn debyg i'r dull blaenorol a ddefnyddiwyd ar gyfer adolygiad NVZ 2017, ond mae wedi'i addasu i ymgorffori asesiad o ffosffad, gan ddarparu methodoleg gyson ac ymarferol. 

Mae'r allbynnau o'r adolygiad o faethynnau yn cynnwys yn bennaf gyfres o setiau data gofodol yn bennaf, gan arwain at fap sy'n nodi risg maethynnau posibl ar raddfa genedlaethol ar gyfer nitrad a ffosffad, ac maent ar gael i bawb trwy ddangosfwrdd yr adolygiad o faethynnau ar borth Gwybodaeth Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru

Roedd y mapiau risg hyn sydd ar gael yn y pecyn tystiolaeth yn dangos bod ardaloedd o risg uchel bosibl a ddangosir ar y map nitrad yn cyd-fynd fel arfer ag ardaloedd lle dynodwyd Parthau Perygl Nitradau o'r blaen. Fodd bynnag, nodwyd risgiau ychwanegol o ffosfforws yn naearyddiaeth ehangach dalgylchoedd afon. 

Tystiolaeth ansawdd dŵr ehangach

Mae tystiolaeth ansawdd dŵr ehangach ar gael yn y pecyn tystiolaeth ategol. Yr ystyriaethau allweddol yw'r ffaith fod nifer o ardaloedd yng Nghymru lle mae ansawdd dŵr yn peri pryder. 

Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth o asesiadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sy'n cael eu cynhyrchu bob 3 blynedd ac sydd ar gael ar ffurf map ar wefan Gwarchod Dyfroedd Cymru. Mae'r dosbarthiad yn cynnwys statws ar gyfer maethynnau mewn afonydd, llynnoedd, dyfroedd morydol ac arfordirol a dŵr daear. Os nad yw crynofa ddŵr yn bodloni'r amcan o gael statws da neu well, mae ymchwiliad yn cael ei gynnal sy'n ceisio canfod y rhesymau dros beidio â sicrhau statws da. Mae nifer fawr o grynofeydd dŵr yn methu â sicrhau statws da oherwydd llygredd amaethyddol. 

Hefyd, mae naw Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) afon yng Nghymru – Cleddau, Eden, Gwyrfai, Teifi, Tywi, Glaslyn, Dyfrdwy, Wysg a Gwy. Mae pob un o'r afonydd hyn wedi'u dynodi ar gyfer nifer o rywogaethau a chynefinoedd sy'n cael eu gwarchod o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. O'r naw ACA Afon yng Nghymru, mae pump (Wysg, Gwy, Dyfrdwy, Cleddau a Teifi) yn methu â chyrraedd y targedau ffosfforws o asesiad cydymffurfio 2021.

Nod CNC yw cyhoeddi asesiad wedi'i ddiweddaru o gydymffurfiaeth ansawdd dŵr ACA afon ochr yn ochr â dosbarthiad dros dro Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn gynnar yn 2025. Yn ogystal ag ACA afonol, mae gan Gymru nifer o ACAau morol ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ar hyd yr arfordir. Mae'r cyfuniad o ardaloedd cadwraeth afonol a morol yn amlygu natur gydgysylltiedig yr ecosystem ddŵr ag arferion rheoli tir. 

Digwyddiadau llygredd wedi'u profi sy'n cael effaith ar ddŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn coladu data ar nifer yr achosion wedi'u profi o lygredd sy'n effeithio ar ddŵr o ffynonellau amaethyddol. Er mwyn profi digwyddiad, mae angen tystiolaeth o'r digwyddiad a chadarnhad ei fod wedi deillio o ffynhonnell amaethyddol. Nid yw nifer yr achosion wedi'u profi o lygredd wedi gwella ers dechrau'r gyfres amser yn 2001. Mae 150 o ddigwyddiadau bob blwyddyn ar gyfartaledd. Mae'n anodd dod i unrhyw gasgliadau pendant am effeithiolrwydd y rheoliadau trwy adrodd am ddigwyddiadau yn unig oherwydd bod amrywioldeb eang cyflyrau fel y tywydd, y gyfradd adrodd a'r gallu i gadarnhau digwyddiadau i gyd yn gallu effeithio ar y tueddiad.

Crynodeb o dystiolaeth ansawdd dŵr 

Mae amrywioldeb sylweddol ledled Cymru o ran ansawdd dŵr, ac mae ardaloedd o bwysau wedi'u nodi'n glir. Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu'n sylweddol at y pwysau hwnnw. O ystyried y cyfyngiadau a amlinellir uchod a'r diffyg methodoleg benodol, ar hyn o bryd mae'n anodd dod i unrhyw gasgliad yn ymwneud ag effaith uniongyrchol y rheoliadau ar ansawdd dŵr hyd yma.

O'r herwydd, rhaid i unrhyw adolygiad o effeithiolrwydd Rheoliadau CoAP o ran atal neu leihau llygredd amaethyddol ganolbwyntio ar effeithiolrwydd y mesurau sydd ar waith ar hyn o bryd, a yw'r mesurau hynny'n parhau i fod yn berthnasol, a oes modd gwella eu dyluniad a'u strwythur neu a ddylid eu gwella er mwyn darparu lefel uwch o warchodaeth. Hefyd, rhaid i'r adolygiad ystyried gallu ffermwyr i fabwysiadu a chyflwyno'r mesurau, gan fod y canlyniad a ddymunir yn dibynnu'n fawr ar hyn.

Mae'r dystiolaeth yn dangos, o ystyried yr amrywiad daearyddol eang, bod angen defnyddio dull rhagweithiol sy'n seiliedig ar risg a chefnu ar ymateb ôl-weithredol i 'fethiannau' sy'n canolbwyntio ar 'ddynodi' yn unol â methodolegau eang sy'n gwrthdaro weithiau. Mae hyn yn gyson ag egwyddor gweithredu ataliol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (ar natural resources.wales)

Cydfanteision ansawdd aer

Mae'r rheoliadau'n targedu gweithgareddau amaethyddol sy'n peri risg o lygredd er mwyn lleihau lefel y llygredd amgylcheddol sy'n cael ei achosi gan ymarfer gwael. Er mai prif fwriad y rheoliadau yw lleihau llygredd dŵr o amaethyddiaeth, mae'r dull gweithredu yn fanteisiol i nodau polisi eraill, fel lleihau allyriadau atmosfferig. Dylid ystyried y rhain yn gydfanteision y rheoliadau. 

Mae amonia (NH3) yn un o'r prif lygryddion atmosfferig sy'n niweidiol i iechyd pobl ac sy'n achosi asideiddio ac ewtroffigedd priddoedd, cynefinoedd a dyfroedd croyw. Nid yw amonia yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar iechyd pobl mewn crynodiadau isel ar ei ben ei hun, ond o’i gyfuno â llygryddion eraill diwydiant e.e. carbon deuocsid a sylffwr deuocsid, mae'r deunydd gronynnol sy'n cael ei greu yn gallu achosi clefydau cardiofasgwlaidd ac anadlol. Gall y deunydd gronynnol hwn deithio’n bell, gan gyfrannu at lefelau cefndir llygredd aer mewn ardaloedd trefol. Mae Cynllun aer glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach yn pwysleisio pwysigrwydd aer glân ar gyfer iechyd y cyhoedd. 

O’i ddyddodi ar y tir, mae amonia yn gallu asideiddio priddoedd a dyfroedd croyw, gan 'orwrteithio' cymunedau planhigion naturiol. Gall y nitrogen ychwanegol gynyddu twf rhai rhywogaethau megis glaswellt garw a danadl, sy'n drech na rhywogaethau eraill fel rhywogaethau perlysiau sydd angen llai o nitrogen. 

Mae cyfraith ryngwladol a chenedlaethol yn rhwymo Cymru i leihau ei hallyriadau amonia. Mae Rheoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol 2018 (ar legislation.gov.uk) yn gosod targed i leihau allyriadau amonia 16% erbyn 2030 o'i gymharu â lefelau allyriadau 2005. 

Nid yw'r rhan fwyaf o briddoedd amaethyddol yn y DU yn cynnwys llawer o nitrogen sydd ar gael i blanhigion, felly mae angen defnyddio gwrtaith nitrogen a thail organig ychwanegol. Nid yw'r holl nitrogen yn cael ei amsugno gan blanhigion; mae symiau mawr (tua 50%) yn cael eu colli i'r amgylchedd fel llygrydd trwy anweddu, prosesau trosi cemegol bacteriol yn y pridd (a elwir yn nitreiddio a dadnitreiddio) neu drwy ddŵr ffo neu drwytholchi. Mae hyn yn effeithio ar ansawdd aer ac ansawdd dŵr ac mae'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth. 

Yng Nghymru, mae'r arwynebedd tir sydd wedi cael ei effeithio'n andwyol gan amonia wedi cynyddu tua 18% rhwng 2010 a 2021. Mae adroddiad Tueddiadau Llygredd Aer 2023 Defra yn cadarnhau bod llygredd amonia yn parhau i fod yn broblem sylweddol. 

Yn anffodus, mae allyriadau amonia yng Nghymru wedi cynyddu 8% ers 2005, ac arferion amaethyddol yw prif ffynhonnell yr allyriadau hyn. Mae 93% o allyriadau amonia yng Nghymru yn dod o amaethyddiaeth. Y sector sy'n cyfrannu fwyaf yng Nghymru yw gwartheg: mae rheoli tail gwartheg (cadw da byw dan do, storio tail a buarthau awyr agored) a’i wasgaru ar y tir yn gyfrifol am 70% o'r holl allyriadau NH3.

Mae allyriadau o bob math o dail organig yn unol â diffiniad y rheoliadau yn gallu digwydd ar bob cam o'r broses rheoli tail, h.y. yn y ffynhonnell, wrth ei storio ac wrth ei wasgaru. Gall arferion ar y fferm gyfrannu at leihau colledion amonia i'r amgylchedd yn ystod pob cam, gan gynnwys:

  • siediau da byw
  • storio
  • gwasgaru ar y tir
  • gwrtaith anorganig

Mae mesurau lliniaru amonia yn fwy llwyddiannus pan fyddant yn cael eu rhoi ar waith ym mhob cam rheoli. Mae gweithgareddau amaethyddol sy'n effeithio ar ansawdd aer yn effeithio ar ansawdd dŵr ac i'r gwrthwyneb, ac mae amonia yn llygrydd sylweddol. Felly, mae angen ystyried pa fesurau sy'n sicrhau cydfantais sylweddol o ddiogelu ansawdd dŵr a lliniaru allyriadau amonia wrth fynd i'r afael â phryderon cyfnewid llygredd.

Profiad rhanddeiliaid

Er mwyn ategu'r dystiolaeth ystadegol, ymgysylltodd cadeirydd yr adolygiad ag ystod eang o randdeiliaid ynghylch gweithredu’r rheoliadau, effaith y rheoliadau, a'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan lygredd. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio rhwydweithiau rhanddeiliaid presennol gan gynnwys Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar Lygredd Amaethyddol, ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau perthnasol, gan gynnwys cyrff anllywodraethol amgylcheddol, ac ymgysylltu'n uniongyrchol â ffermwyr yn ystod Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae rhestr lawn o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng y cadeirydd a'r rhanddeiliaid perthnasol ar gael yn Atodiad B. 

Roedd y sgyrsiau 'ar lawr gwlad' a gonest hyn yn hwyluso dealltwriaeth ddyfnach o 'effeithiolrwydd y mesurau' sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau tuag at yr amcan cyffredinol o leihau llygredd o ffynonellau amaethyddol. 

Mae'r adborth yn cael ei archwilio'n fanylach yn y pecyn tystiolaeth ac fe'i defnyddir hefyd i ddarparu trafodaeth bellach yn yr adran egwyddorion, synergeddau a gwrthdaro. Hefyd, dylid nodi bod llawer o'r rhanddeiliaid wedi dweud bod angen i'r rheoliadau weithio ochr yn ochr ag ymyriadau eraill, fel y cynllun ffermio cynaliadwy a chymorth cyllido arall gan Lywodraeth Cymru, fel y ffordd orau o sicrhau gwelliannau i ansawdd dŵr. Er bod hyn wedi'i gydnabod, mae y tu allan i gwmpas yr adolygiad.   

Canlyniadau arolygu 

Yn 2023, cytunodd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru ar Gytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) newydd ar gyfer arolygu cydymffurfiaeth ffermydd â’r Rheoliadau CoAP. Roedd yr arolygiadau cychwynnol yn canolbwyntio ar ffermydd sy’n ymgymryd â gweithgareddau 'risg uchel' gan gynnwys ffermydd sy’n trin slyri neu dail dofednod. Mae canlyniadau'r arolygiadau cychwynnol hyn yn cael eu hystyried yn fanylach yn y pecyn tystiolaeth. 

Roedd cyfanswm o 596 o ffermydd wedi cael eu harolygu o dan y CLG erbyn diwedd mis Hydref. Roedd 243 (40.8%) o'r ffermydd hyn yn cydymffurfio â'r holl fesurau gofynnol adeg yr arolygiad, a 353 (59.2%) ddim yn cydymffurfio â nhw. Roedd meysydd cyffredin o ddiffyg cydymffurfiaeth yn cynnwys: 

  • gofynion adeiladu claddfa silwair
  • cynlluniau rheoli nitrogen
  • storio slyri - gofynion capasiti ac adeiladu
  • mapiau risg
  • terfynau nitrogen

Roedd y safonau adeiladu ar gyfer claddfeydd silwair a storfeydd slyri yn parhau'n gyson â gofynion y Rheoliadau Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol (SAFFO) a oedd eisoes yn bodoli. Er bod llawer o'r storfeydd a arolygwyd yn methu â chydymffurfio yn dechnegol, roeddent wedi'u hadeiladu'n dda ac nid oeddent yn peri risg o lygredd. Fodd bynnag, nid yw gofynion y rheoliadau yn darparu ar gyfer unrhyw storfa nad yw'n bodloni gofynion atodlenni 5 a 6 o'r rheoliadau. 

Roedd rhanddeiliaid yn feirniadol o gymhlethdod yr arolygiadau oherwydd cynllun y rheoliadau, yn enwedig mewn perthynas â'r cynlluniau rheoli nitrogen a'r gofynion cadw cofnodion. Roedd hyn yn creu her i'r ffermwyr ac, o safbwynt y ffermwr, i'r rheoleiddiwr wrth benderfynu a oedd daliad yn cydymffurfio â holl ofynion y rheoliadau. 

O ganlyniad i’r cyfnod cychwynnol o arolygiadau, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog Ddatganiad Ysgrifenedig ar 15 Hydref 2024 yn amlinellu rhai diwygiadau i 'roi mwy o bwyslais rheoleiddiol drwy gryfhau cosbau ar y gweithgareddau y gwyddom eu bod yn achosi llygredd, gan gyflwyno cosbau mwy cymesur pan fo modd gwneud asesiadau llawn o gofnodion a phan nad yw diffyg cydymffurfiaeth technegol yn peri risg o lygredd’.

Mesurau amgen (Rheoliad 45)

Roedd y rheoliadau yn cynnwys darpariaeth o dan reoliad 45 i gynnig mesurau amgen lle gallent sicrhau'r canlyniadau'n fwy effeithiol na'r mesurau sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau. Derbyniwyd cyfanswm o 5 cyflwyniad yn cynnig ystod o gynigion amgen a gafodd eu hasesu. 

Ysgrifennodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ar y pryd, Lesley Griffiths AS, at gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ar 25 Mai 2023 ( ar busnes.senedd.cymru). Amlinellodd y llythyr nad oedd y gweinidog 'yn gallu penderfynu gyda digon o sicrwydd a fyddai’r cynigion a gafwyd yn fwy effeithiol wrth gyflawni’r canlyniadau'. Hefyd, mae'r llythyr yn nodi'r bwriad i sicrhau bod cynigion a allai fod â'r potensial i fod yn fwy effeithiol yn 'cael eu hasesu ymhellach ac i fod yn destun ymgynghoriad fel rhan o adolygiad 4 blynedd o’r Rheoliadau’. Hysbyswyd cynigwyr unigol ar yr un pryd o benderfyniad y gweinidog. 

Fel rhan o'r broses adolygu 4 blynedd, mae'r cadeirydd wedi adolygu'r cyflwyniadau gwreiddiol yn dilyn penderfyniadau'r Gweinidog, ac mae rhagor o fanylion ar gael yn y pecyn tystiolaeth. Cafodd cynnwys y cyflwyniadau eu hystyried wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ac maent wedi'u cynnwys a'u harchwilio ymhellach yn adrannau 3 a 4.  

Adran 3: egwyddorion, synergeddau a gwrthdaro

Fel yr amlinellwyd uchod, mae llygredd o ffynonellau amaethyddol yn her sy'n wynebu Cymru ac mae'r rheoliadau'n ddull pwysig o fynd i'r afael â'r her. Fodd bynnag, wrth ystyried 'effeithiolrwydd y mesurau' mae angen ailedrych ar rai o'r egwyddorion sy'n sail i'r rheoliadau. Mae angen gwneud hyn er mwyn cadarnhau ai’r mesurau unigol yw’r rhai mwyaf effeithiol wrth gyflawni'r amcan o leihau llygredd amaethyddol, gan gynnwys lle mae heriau'n ymwneud â gweithredu a deall y mesurau. Mae angen ystyried unrhyw ddewisiadau amgen er mwyn pwyso a mesur a ydynt yn sicrhau canlyniadau cystal neu well, gyda thystiolaeth o hynny, o'i gymharu â'r mesurau presennol. Yn yr un modd, os yw rhwystrau’n cael eu nodi sy'n atal y rheoliadau rhag cyflawni'r amcan cyffredinol o leihau llygredd, mae angen ystyried a oes angen cyflwyno newid rheoleiddiol. 

Rheoli maethynnau a phridd 

Rheoli maethynnau yw sylfaen ffermio, ac mae egwyddorion rheoli tir yn dda yn parhau i fod mor bwysig yn 2025 ag erioed. Fodd bynnag, mae ffermydd a'r amgylchedd dan bwysau gan fod newidiadau rheoli tir yn cael eu sbarduno gan bwysau economaidd sy'n rhoi mwy o bwyslais ar allbynnau. 

Mae rheoli cynaliadwy ar gyfer tail organig a gwrteithiau sy'n cael eu gweithgynhyrchu yn hanfodol er mwyn atal y colledion a allai ddeillio o reolaeth wael. Mae hyn yn bwysig iawn gan fod tua 10 miliwn tunnell o ddeunyddiau organig wedi'u gwasgaru ar dir amaethyddol yng Nghymru yn 2021 (Asesiad o'r banc tir yng Nghymru ar hyn o bryd). 

Mae'n gwneud synnwyr economaidd hefyd, gan fod anghydbwysedd maethynnau yn gallu cael goblygiadau ariannol e.e. colli cynnyrch neu angen cynyddol i ddefnyddio plaladdwyr neu faethynnau penodol. Mae rheoli maethynnau mewn ffordd briodol yn bwysig er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y busnes ffermio a lleihau effeithiau amgylcheddol. 

Mae'r elfennau sylfaenol yn aros yr un fath. Er mwyn sicrhau cydbwysedd system, mae angen i fewnbynnau gyfateb i allbynnau dros amser, a rhaid i'r pridd a'r ficrobioleg fod mewn cyflwr da i hwyluso'r rhyngweithio cemegol sy'n ofynnol i gnydau dyfu ar eu gorau. Er enghraifft, dangosodd tystiolaeth o adroddiad canlyniadau pridd Cyswllt Ffermio (ar busineswales.gov.wales) y gallai llawer o briddoedd Cymru fod mewn cyflwr is-optimaidd at ddibenion cynhyrchu.

Terfynau nitrogen a rôl ffosfforws

Mae’r Rheoliadau CoAP yn cyfyngu ar y defnydd o nitrogen o dail da byw, gan gynnwys tail da byw wedi'i brosesu, hyd at uchafswm o 170kg o nitrogen fesul hectar y flwyddyn. Mae'r terfyn uchaf hwn yn seiliedig ar y risgiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â defnyddio tail da byw. Gallai nitradau gael eu rhyddhau o ffynonellau organig ar adeg pan nad oes llawer o ddefnydd gan gnydau, gan arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer trwytholchi nitradau. 

Mae'r terfyn 170kg yn gyson, o ran glaswellt a chnydau eraill sydd â gofyniad nitrogen uchel (tua 340kg/N/ha), â'r canllaw rheoli maethynnau RB209 y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth sy'n argymell y dylai deunydd organig a wasgerir gyflenwi dim mwy na 50-60% o gyfanswm gofynion nitrogen y cnwd. Dylid defnyddio gwrtaith wedi'i weithgynhyrchu i wneud iawn am y gwahaniaeth, gan wasgaru tail organig ddiwedd y gaeaf hyd at yr haf (a allai fod yn fuddiol wrth leihau colledion ffosfforws hefyd). 

Yn ogystal, mae gwasgaru mwy o faethynnau ar y tir nag sydd eu hangen ar gnydau yn cael ei ystyried yn weithgaredd gwaredu gwastraff, a byddai angen i'r gweithgaredd hwn fodloni'r ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud â gwastraff. Mae RB209 yn argymell bod gweithgarwch gwasgaru tail yn ystyried cynnwys ffosfforws (P) deunydd organig er mwyn osgoi cyfoethogi lefelau ffosfforws y pridd yn ormodol. Os yw priddoedd wedi cyrraedd lefel optimaidd y mynegai P, dylid cyfyngu cyfraddau gwasgaru ar gyfer pob cae i lefel cynnal a chadw. 

Felly, mae'r terfyn 170kg yn darparu dull uniongyrchol o gyfyngu ar wasgaru ffosfforws o dail. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall y dull gweithredu hwn gymell ffermydd i weithredu uwchlaw angen cnydau am ffosfforws. Mewn achosion eraill, mae'n bosibl y bydd yn atal mewnbynnau ffosfforws digonol o dail a gwahardd y defnydd cylchol o faethynnau ymhellach trwy atal y defnydd o dail organig wedi'i brosesu fel dewis amgen i wrteithiau sydd wedi'u gweithgynhyrchu. 

Yn yr UE, mae cynigion technegol wedi'u cyflwyno ar gyfer y defnydd diogel o dail wedi'i brosesu uwchlaw'r terfyn 170kg sy'n berthnasol mewn Parthau Perygl Nitradau, er mwyn cydnabod bod priodweddau'r deunyddiau hyn yn rhoi cyfle i'w defnyddio fel dewis amgen i wrtaith wedi'i weithgynhyrchu. Er bod rhanddirymiadau o'r terfyn yn nodwedd gyffredin flaenorol o ddull gweithredu'r Gyfarwyddeb Nitradau, dim ond 4 gwlad yn yr UE sy'n gweithredu rhanddirymiad, oherwydd y risgiau llygredd sy'n gysylltiedig â gwasgaru lefelau uwch o dail. 

Yn debyg i'r rhanddirymiadau sydd ar waith yn yr UE, roedd y dull Rheoli Maethynnau Lefel Uwch yng Nghymru yn caniatáu defnyddio mwy o dail yn amodol ar reolaethau ychwanegol er mwyn atal colledion ffosfforws cynyddol. Fodd bynnag, dim ond 9 fferm a ddefnyddiodd y dull gweithredu hwn. Mae'r adborth gan randdeiliaid yn dangos mai natur gymhleth y broses adrodd oedd y prif rwystr i ffermydd rhag manteisio ar y dull hwn. Fodd bynnag, mae'n debygol y byddai angen i unrhyw ddewis amgen i'r terfyn 170kg gynnwys lefel uwch o gynllunio rheoli maethynnau, o bosibl y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol gan ddull gweithredu Rheoli Maethynnau Lefel Uwch, er mwyn sicrhau defnydd effeithlon y cnydau o'r maethynnau sy'n cael eu defnyddio er mwyn sicrhau na fyddai'r dull gweithredu yn arwain at fwy o lygredd.

Mae'r asesiad o’r effaith economaidd a gwblhawyd gan ADAS ar y terfyn 170kg (Atodiad C) yn dangos cost sylweddol bosibl yn sgil y mesur hwn o'i gymharu â'r arferion cyn Rheoliadau CoAP. Fodd bynnag, mae'r diffyg data sydd ar gael i asesu cydymffurfiaeth â'r gofynion rheoleiddiol sylfaenol a oedd eisoes yn bodoli mor sylweddol fel nad oes modd asesu'n ddigonol yr effaith a briodolir i'r Rheoliadau CoAP. Er bod darparu data yn gallu bod yn faich sylweddol, mae'n bosibl datblygu ymyriadau rheoleiddio gwell, sy'n briodol i'r risgiau, os oes data gwell ar gael. 

Rheoli a diogelu pridd 

Fel y nodwyd uchod, mae rheoli maethynnau mewn priddoedd yn hanfodol er mwyn lleihau effaith llygredd amaethyddol gwasgaredig. Hefyd, mae'n hollbwysig sicrhau bod y priddoedd y mae maethynnau yn cael eu hychwanegu atynt yn aros ar y fferm eu hunain. 

Mae colli pridd drwy ddŵr ffo yn llwybr arwyddocaol i faethynnau lygru dŵr. Hefyd, mae'n achosi gwaddodiad afonydd, gan effeithio ar welyau graean a chynefinoedd silio pwysig ac ar ansawdd dŵr trwy gynyddu afloywder. 

Ar hyn o bryd, mae'r prif fecanwaith ar gyfer diogelu yn erbyn colledion pridd yn cael ei roi ar waith trwy drawsgydymffurfio ar gyfer y rhai sy'n hawlio Cynllun y Taliad Sylfaenol neu gymorth arall gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n parhau i fod yn un o nodweddion y cod ymarfer amaethyddol da. Fodd bynnag, fel y nodir yn Atodiad A, mae mesurau ychwanegol i ddiogelu pridd wedi'u cynnwys mewn rheoliadau mewn rhannau eraill o'r DU. 

Cyfnodau gwaharddedig 

Mae'r cyfnodau gwaharddedig ar gyfer gwasgaru rhai deunyddiau gwrteithio â nitrogen sydd ar gael yn rhwydd iawn wedi'u cynllunio yn unol â thystiolaeth yn ymwneud â cholledion maethynnau sylweddol i'r amgylchedd. Mae'r rhain yn codi pan fydd deunyddiau gwrteithio yn cael eu defnyddio lle mae twf cnydau yn gyfyngedig a phan fydd y risgiau o lygredd yn uwch. Mae hyn yn cynnwys llygredd sy'n cael ei achosi gan nitrogen a ffosfforws. Mae'r cyfnodau gwaharddedig yn cydbwyso'r colledion sy'n digwydd i ddŵr wyneb a dŵr daear a'r atmosffer. Er y byddai cyfnodau gwaharddedig hirach yn fanteisiol i ansawdd dŵr, gallai hefyd arwain at fwy o allyriadau amonia o dail sydd wedi'i storio a gwasgaru ar adegau pan fydd lefelau anwedd amonia yn uwch. 

Mae adborth gan randdeiliaid yn nodi bod y dyddiadau calendr sefydlog yn gwahardd gwasgaru slyri pan fydd amodau'r tywydd a'r pridd yn addas i'w wasgaru, sy'n creu heriau o safbwynt rheoli slyri, lle mae angen gwagio storfeydd cyn dechrau'r cyfnod gwaharddedig, gan arwain at lygredd. Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth ar gael sy'n dangos angen cnydau am faethynnau ychwanegol mewn perthynas â risgiau llygredd, nac ar yr effaith y byddai dull gweithredu mwy hyblyg yn ei chael ar golledion maethynnau.

Hefyd, mae rhanddeiliaid wedi nodi bod y cyfnodau gwaharddedig sefydlog yn gymharol hawdd i'w gorfodi, ac y gallai dull gweithredu amgen arwain at ddiffyg eglurder yn ymwneud â'r gofynion. Byddai angen i unrhyw ddewis amgen fynd i'r afael â'r her orfodi, er enghraifft, trwy gofrestr dryloyw a chyhoeddus o ffermydd sy'n gwasgaru yn ystod y cyfnod gwaharddedig, sy'n dangos yr angen am y maethynnau sy’n cael eu gwasgaru ac yn sicrhau bod modd monitro cydymffurfiaeth yn fwy effeithiol. 

Yn ogystal, rhaid i ffermydd sicrhau bod ganddynt ddigon o le storio i gydymffurfio â'r cyfnodau gwaharddedig ac osgoi achosi llygredd, gan gynnwys ystyried ffactorau a allai atal gwasgaru slyri cyn y cyfnod gwaharddedig. Dylid nodi bod gwasgaru slyri yn ystod amodau pridd a thywydd anaddas a, phan fo’n arwain at lygredd, yn drosedd yn ôl y Rheoliadau CoAP a’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn y drefn honno.

Mae angen ystyried mwy na dim ond amodau'r pridd a'r tywydd wrth benderfynu a yw'n briodol gwasgaru deunyddiau gwrteithio. Hefyd, rhaid ystyried angen y cnydau am y maethynnau hynny a'r risgiau o lygredd. Fel sy'n wir am unrhyw ddewis amgen i'r terfyn 170kg, mae'n debygol y bydd angen cymhlethdod ychwanegol ar gyfer dewis amgen rheoleiddiol i'r cyfnodau gwaharddedig, er mwyn pennu angen y cnydau am faethynnau ac asesu unrhyw risgiau o lygredd sy'n deillio o'r gwasgaru. Oherwydd twf cnydau cyfyngedig, sy'n cael ei effeithio'n sylweddol gan oriau golau dydd, efallai y bydd cyfle cyfyngedig i wasgaru, gyda chyfnodau tywydd byr a’r angen am faethynnau ychwanegol yn ymylol, oherwydd maethynnau sy'n cael eu rhyddhau o dail organig yn ystod y tymor tyfu. 

Mae'r gwaith sydd wedi ei wneud ar Fferm Coleg Gelli Aur yn addawol. Mae defnyddio gorsafoedd tywydd i bennu priodoldeb amodau pridd a thywydd ar gyfer gwasgaru yn dangos y potensial posibl, yn amodol ar ffactorau eraill, ar gyfer dull gweithredu amgen. 

Hefyd, nodwyd bod y potensial ar gyfer dewis amgen i'r cyfnodau gwaharddedig yn gyfle i alluogi ffermydd i ddarparu llai o le storio slyri. Fodd bynnag, gan fod patrymau tywydd yn amrywiol a bod disgwyl i'r newid yn yr hinsawdd arwain at aeafau gwlypach, ni fyddai'n briodol mentro gyda llai o gapasiti storio ar sail y disgwyliad y bydd yr amodau'n golygu bod modd gwasgaru’r slyri, gan nad oes sicrwydd y bydd yr amodau'n briodol ar gyfer gwasgaru. Mae angen storfa ddigonol bob amser i ddarparu gormodedd i'r fferm ac atal llygredd. 

Gofynion storio 

Mae Llywodraeth Cymru wedi hen gydnabod bod yr esemptiadau i safonau adeiladu storfeydd silwair a slyri cyn 1991, a gafodd eu trosglwyddo wedyn i'r Rheoliadau CoAP, yn arwain at risg gynyddol o lygredd wrth i storfeydd heneiddio. Mae wedi ymgynghori (Adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010) o'r blaen ar newidiadau yn ymwneud â'r esemptiad, ymhlith materion eraill, ac roedd yn cydnabod y byddai disodli storfeydd hŷn yn faich diangen mewn rhai amgylchiadau, gan arwain at ei ganlyniadau amgylcheddol ei hun. Yn ogystal, mae adborth gan CNC wedi nodi mai'r unig ffordd o gywiro diffyg cydymffurfiaeth dechnegol mewn rhai achosion fyddai trwy ailadeiladu'r storfa yn gyfan gwbl, hyd yn oed os nad oes risg weledol a chanfyddadwy o achosi llygredd adeg yr arolygiad. Mae'r fferm mewn perygl o gael cosbau trawsgydymffurfio wedyn nes bod y gwall yn cael ei gywiro, a hynny ar gost sylweddol heb unrhyw fudd amgylcheddol. 

Roedd cyflwyno'r Rheoliadau CoAP wedi mynd i'r afael ag un o'r materion yr ymgynghorwyd arnynt, gan gynnwys mabwysiadu dull cyffredin o gyfrifo anghenion storio slyri, er mwyn dileu dryswch a hwyluso dealltwriaeth well o'r gofynion storio slyri. Fodd bynnag, er bod y Rheoliadau CoAP yn gorfodi lefel storio ofynnol, mewn llawer o achosion mae'n bosibl na fydd y lefel hon yn darparu digon o gapasiti os nad oes modd gwagio'r storfa cyn y cyfnod gwaharddedig. Hyd yn oed pe bai newid rheoleiddiol yn y dyfodol yn cynnwys opsiwn i ddefnyddio slyri yn ystod y cyfnodau gwaharddedig, byddai angen capasiti storio digono o hyd i sicrhau bod ffermydd yn gallu storio slyri nes ei bod yn briodol ei wasgaru ar y tir yn unol ag amodau pridd a thywydd ac angen y cnwd. Er bod y canllawiau'n egluro hyn, nodir bod llawer o ffermydd wedi dewis darparu'r lleiafswm statudol, sy'n peri risg na fydd gan lawer o ffermydd ddigon o gapasiti storio i gydymffurfio â'r cyfnodau gwaharddedig na gofynion unrhyw ddewis amgen, nac elfennau eraill y rheoliadau sy'n gwahardd gwasgaru tail os oes risg sylweddol o lygredd. 

Hefyd, cyfeiriwyd at broblemau posibl lle mae trydydd parti yn gyfrifol am seilwaith y fferm, yn enwedig ar gyfer ffermydd tenant e.e. methu â darparu capasiti storio digonol, neu strwythurau nad ydynt yn cydymffurfio. Mewn rhai achosion, roedd hyn wedi effeithio ar allu'r daliad i gydymffurfio â gofynion eraill y rheoliadau e.e. y cyfnod gwaharddedig. 

Dulliau gweithredu daearyddol neu seiliedig ar risg 

Mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos amrywioldeb sylweddol dros amser ac yn ddaearyddol o safbwynt llygredd amaethyddol a sut mae'n effeithio ar yr amgylchedd ledled Cymru. Er bod rhai ardaloedd yn cael eu heffeithio'n fwy nag eraill, rhaid cydnabod nad yw'r data’n gynhwysfawr. Er enghraifft, nid yw'n ofyniad statudol i'r sector amaethyddol adrodd am ddigwyddiadau llygredd ei hun, felly mae graddfa achosion tarddle penodol o lygredd yn debygol o fod yn llawer uwch na'r hyn y gellir ei brofi. Mae'n gallu cymryd degawdau i grynofeydd dŵr wella'n llawn o ddigwyddiadau llygredd sylweddol a llygredd gwasgaredig os gallant wneud hynny. Mae rheoli risg a mesurau ataliol yn allweddol i ddiogelu'r amgylchedd, waeth beth yw statws ansawdd dŵr ar hyn o bryd. 

Byddai dull gweithredu sy'n seiliedig ar ddaearyddiaeth yn gymhleth iawn i ffermwyr a rheoleiddwyr, gan arwain at glytwaith o ardaloedd ledled Cymru lle mae rheoliadau gwahanol yn gymwys neu ddim yn gymwys. Fodd bynnag, byddai'r ardaloedd lle na fyddai rheoliadau'n gymwys yn fach iawn ac, i raddau helaeth, yn cwmpasu ardaloedd o ffermio llai dwys neu ardaloedd nad ydynt yn cael eu ffermio.

Credir mai'r dull o dargedu'r gweithgareddau sy'n gallu achosi llygredd yw'r un mwyaf priodol, gan ystyried rhwymedigaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru a'r argyfwng natur a bioamrywiaeth. Mae'r holl randdeiliaid wedi cydnabod bod rhai gweithgareddau amaethyddol yn fwy peryglus i'r amgylchedd nag eraill oherwydd eu natur, ac y dylai'r broses reoleiddio ganolbwyntio ar y gweithgareddau sy'n arwain at y risg fwyaf, gan ystyried unrhyw risg ar sail fferm gyfan.

Dull gweithredu mwy cymesur fyddai sicrhau bod y baich rheoleiddio yn llai ar gyfer ffermydd sydd â'r risg isaf o achosi llygredd, a sicrhau bod y mesurau diogelu mwyaf ar waith ar gyfer y risg uchaf, gan gydnabod bod gweithgareddau risg isel yn gallu bod yn broblem mewn ardaloedd hynod sensitif o hyd.

Hygyrchedd, hyblygrwydd a gallu gorfodi 

Mae eglurder a hygyrchedd y gyfraith yn egwyddor bwysig sy'n cael ei hategu gan Dyfodol cyfraith Cymru: rhaglen hygyrchedd ddiwygiedig 2021 i 2026. Mae'r bwriadau yn cael eu crynhoi orau mewn ymateb gan Lywodraeth Cymru i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith.   

‘Er mwyn i gyfreithiau Cymru fod yn hygyrch, mae'n hanfodol eu bod ynmddealladwy, yn glir ac yn rhagweladwy o ran eu heffaith’. (Gwefan Comisiwn y Gyfraith (ar assets.publoishing.service.gov.uk))

Un feirniadaeth allweddol o'r rheoliadau yn dilyn y broses ymgysylltu â rhanddeiliaid ffermio oedd natur gymhleth rhai agweddau ar y rheoliadau, yn enwedig y gofynion ar gyfer rheoli maethynnau, a natur ragnodol y gofynion hyn. Rydym yn cydnabod bod baich y rheoliadau yn gallu cael effaith niweidiol ar lesiant ffermwyr. Yn ogystal, roedd beirniadaeth o'r ffaith fod y ddeddfwriaeth a'r canllawiau dilynol yn defnyddio termau a gwerthoedd nad ydynt yn cael eu cydnabod yn gyffredinol yn y diwydiant, gan olygu ei bod yn anodd deall y gofynion, ac felly eu gweithredu a'u rheoleiddio'n effeithiol. 

Yn yr un modd, roedd rhanddeiliaid o'r sector amgylcheddol yn cydnabod bod angen gofynion clir i nodi arferion gwael, yn enwedig mewn perthynas â’r gofynion cyfnod gwaharddedig, er mwyn cryfhau sefyllfa'r rheoleiddiwr i allu gweithredu lle bo angen. 

Hefyd, mynegwyd pryderon am y cyfnod pontio rhwng Cynllun y Taliad Sylfaenol a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a'r effeithiau a'r newidiadau a fyddai'n deillio o hyn i strwythur cosbau trawsgydymffurfio. Ar gyfer ffermydd a allai ddewis peidio â derbyn cymorth, nodwyd bod yr opsiynau gorfodi sydd ar gael i CNC yn gyfyngedig iawn, ac y gallai rhyw fath o gosbau sifil fod yn fwy priodol na chamau cyfreithiol. 

Adran 4: y ffordd ymlaen

Un o'r themâu cyson ar hyd yr adolygiad yw'r ffaith fod angen ffordd ymlaen gliriach o fynd i'r afael â phryderon am ansawdd dŵr yng Nghymru a rôl llygredd amaethyddol. Nod yr argymhellion yn yr adran hon yw bod yn sylfaen ar gyfer y ffordd ymlaen.

Rhaid i'r rheoliadau aros mewn grym tra bod yr argymhellion hyn yn cael eu hystyried a thra bod unrhyw newidiadau rheoleiddiol yn cael eu deddfu. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau. 

Strwythur yr argymhellion

Mae'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad hwn wedi cael eu hystyried ar sail sy'n gysylltiedig ag amser. Nid yw hyn yn sail ar gyfer blaenoriaeth, ond mae'n adlewyrchu realiti'r heriau sy'n gysylltiedig â chyflwyno newid, a'r angen am ymgysylltiad clir a pharhaus â rhanddeiliaid trwy gydol unrhyw newid. Mae'r amserlenni ar gyfer pob argymhelliad wedi'u rhannu'n 3 chategori - tymor byr, tymor canolig a hirdymor, ac mae'r amserlenni wedi'u hamlinellu isod: 

  • tymor byr – o fewn 18 mis
  • tymor canolig – o fewn 18 mis - 3 blynedd
  • hirdymor - 3 blynedd a mwy 

Hefyd, bydd pob argymhelliad yn ystyried yn gryno'r sail resymegol fel y'i hamlinellir yn yr adran egwyddorion, synergeddau a gwrthdaro ynglŷn â pham mae angen newid. 

Ffyrdd o weithio 

Un thema allweddol a nodwyd o'r ymgysylltu â rhanddeiliaid oedd yr angen i adnewyddu'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ehangach yn ymwneud â llygredd amaethyddol. Gan gydnabod bod fforymau yn bodoli, fel Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar Lygredd Amaethyddol, nodwyd bod y modd y cyflwynwyd y rheoliadau wedi cael effaith negyddol ar berthnasoedd. Er ei bod yn bosibl y bydd angen canolbwyntio ar gyngor gwyddonol ac agronomegol er mwyn bwrw ymlaen â llawer o'r argymhellion, rhaid sicrhau bod ymgynghori â rhanddeiliaid sy'n cael eu heffeithio yn rhan allweddol o'r broses hefyd.

Argymhelliad 1 (tymor byr)

Fel sy'n briodol, sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen technegol â ffocws penodol am amser cyfyngedig neu ofyn am gyngor gwyddonol ac agronomegol er mwyn datblygu ac, yn y pen draw, cyflwyno newidiadau i'r rheoliadau sy’n weithredadwy a chynaliadwy ac y gellir darparu tystiolaeth ar eu cyfer lle nodir bod angen gwneud hynny. 

Canolbwyntio ar risg 

Mae angen sicrhau bod y rheoliadau'n gymesur â'r risgiau i'r amgylchedd sy'n deillio o arferion amaethyddol a bod y gweithgareddau sydd â'r risgiau uchaf yn ysgwyddo'r baich rheoleiddio, gan barhau i ddefnyddio dull gweithredu Cymru gyfan. 

Argymhelliad 2 (tymor canolig)

Dylid rhoi rhagor o ystyriaeth i leihau unrhyw faich rheoleiddio yn ymwneud â gweithgareddau risg is, gan sicrhau bod y baich rheoleiddio yn gymesur â risg y gweithgaredd perthnasol, y deunydd sy'n cael ei reoli, a'r risg gyffredinol o lygredd. 

Argymhelliad 3 (tymor canolig)

Ystyried gweithio gyda grŵp gorchwyl a gorffen technegol i bennu diffiniad ar wahân o fewn y rheoliadau a'r canllawiau o 'risg uwch' ar gyfer gweithgareddau a mathau o dail er mwyn egluro pryd mae angen gofynion a helpu i egluro pam maen nhw’n angenrheidiol. Mae hyn yn bwysig wrth ystyried rôl llygredd amaethyddol gwasgaredig yn ogystal â lleihau llygredd tarddle penodol, gan barhau i ddefnyddio dull gweithredu daearyddol Cymru gyfan. 

Terfynau nitrogen a rôl ffosfforws

Er bod rhaid i unrhyw newidiadau i'r rheoliadau yn y cyswllt hwn leihau'r baich rheoleiddiol cyn belled ag y bo'n ymarferol, mae angen osgoi unrhyw ddisgwyliad ffug bod dewis amgen syml ar gael i'r terfyn 170kg. Mae rheoli maethynnau yn elfen angenrheidiol o ffermio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn osgoi achosi llygredd. Hefyd, cydnabyddir bod y ffermydd sydd â dwysedd da byw sy'n cynhyrchu mwy na 170kg o nitrogen yr hectar o dail da byw yn ffermydd llaeth, cig eidion a dofednod dwys yn bennaf. Byddai rheoli maethynnau yn well yn fwy tebygol o arwain at fanteision cynhyrchiant i'r ffermydd hyn. 

Argymhelliad 4 (tymor byr)

Dylid ystyried casglu data sy'n briodol i wella penderfyniadau ar reoliadau llygredd amaethyddol fel rhan o unrhyw newidiadau i'r llinell sylfaen reoleiddiol yn y dyfodol, ond dylid lleihau unrhyw faich rheoleiddiol cynyddol. 

Argymhelliad 5 (tymor canolig)

Dylid ystyried cynnwys dewis amgen i'r terfyn 170kg yn y rheoliadau sy'n cynnwys pob math o dail organig. Byddai angen i ddull gweithredu o'r fath gynnwys trefn cynllunio rheoli maethynnau uwch er mwyn cynnwys nitrogen, ffosfforws, potasiwm a pH o leiaf, gan gynnwys profion pridd fel sy'n briodol a rheolaethau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r risgiau sy'n deillio o wasgaru deunydd (tail wedi'i brosesu yn benodol). Er mwyn cyflwyno dull gweithredu o'r fath, mae'n bosibl y bydd angen ailystyried y trothwy 170kg, er mwyn sicrhau nad yw'n cymell diffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. 

Rheoli a diogelu pridd 

Fel y nodwyd yn yr adran egwyddorion, synergeddau a gwrthdaro, mae'n bwysig iawn rheoli pridd er mwyn atal colledion maethynnau i'r amgylchedd. Am y rheswm hwn, wrth ystyried effeithiolrwydd y mesurau sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau, mae'r methiant i ddarparu ar gyfer diogelu rhag colledion pridd yn fwlch pwysig. Mae hyn yn bwysig hefyd wrth ystyried dyfodol trawsgydymffurfio, sef y prif ddull o atal colledion pridd yn flaenorol.  

Argymhelliad 6 (tymor byr)

 Cynnwys gofynion yn y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol i ddiogelu rhag colli pridd i'r amgylchedd, gan efelychu o bosibl gofynion Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC) Trawsgydymffurfio. 

Argymhelliad 7 (tymor canolig)

Ystyried rôl cnydio risg uwch ar golledion pridd posibl i'r amgylchedd a thechnegau lliniaru effeithiol fel lleiniau clustogi.

Cyfnodau gwaharddedig 

Mae'r cyfnodau gwaharddedig yn elfen o’r rheoliadau sydd wedi achosi pryder sylweddol i lawer o randdeiliaid amaethyddol. Ar sail egwyddorion rheoli maethynnau yn dda, mae'n rhaid sicrhau bod y cnwd angen y maethyn sy’n cael ei wasgaru. Fodd bynnag, mae angen llai o faethynnau ar gnydau ddiwedd yr hydref/ddechrau'r gaeaf. Yn ogystal, mae angen gwahaniaethu yn gliriach rhwng gofynion y cyfnodau gwaharddedig a gofynion y cyfnod storio. Os oes modd cyflwyno dull arloesi technegol fel dewis amgen i'r cyfnod gwaharddedig, dylid cadw’r cyfnod storio gan nad oes modd gwarantu amodau addas. 

At ei gilydd, mae'n bosibl nad yw'r ffaith fod y cyfnod gwaharddedig yn gyfnod penodol anhyblyg yn gwbl gydnaws ag egwyddorion defnyddio'r maethynnau cywir ar yr adeg iawn, ac mae angen archwilio dewisiadau amgen. 

Argymhelliad 8 (tymor canolig)

Dylid asesu’n fanylach y posibilrwydd o gyflwyno dull gweithredu amgen i'r cyfnod gwaharddedig ac ystyried trefn briodol a allai olygu bod ffermydd yn gallu gwasgaru slyri a thail organig arall sydd â chynnwys uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd yn ystod y cyfnod gwaharddedig, os yw'r fferm yn gallu dangos bod angen y maethynnau ar y cnwd a bod y risg o golli maethynnau i ddŵr yn fach iawn. 

Argymhelliad 9 (tymor canolig)

Ystyried a ellid defnyddio darpariaeth ar gyfer canllawiau statudol neu fecanwaith cyfreithiol tebyg er mwyn caniatáu amrywiad yn y cyfnod gwaharddedig pan fo tywydd anffafriol wedi effeithio ar wasgaru tail, neu a fyddai storfa dros dro briodol yn ddull mwy effeithiol o helpu ffermydd i atal llygredd.

Gofynion storio 

Mae buddsoddi mewn seilwaith ar y fferm yn un o'r buddsoddiadau mwyaf arwyddocaol i unrhyw fferm, ac mae'n hanfodol bwysig wrth reoli deunyddiau risg uchel, fel slyri a silwair, mewn ffordd briodol. Nododd rhanddeiliaid ei bod yn bwysig iawn bod â storfa sydd wedi'i hadeiladu'n dda ac sydd â digon o gapasiti i storio symiau o slyri yn unol â holl ofynion y rheoliadau. Mae hyn yn golygu bod modd defnyddio slyri mor effeithlon â phosibl ar sail gofyniad y cnwd, yn hytrach na gwneud penderfyniadau ar sail capasiti storio. Er bod cymorth ariannu y tu allan i gwmpas yr adolygiad, mae angen rhoi ystyriaeth i sicrhau bod gan ffermydd y mecanweithiau priodol i fod â digon o gapasiti i reoli tail mor effeithlon â phosibl. 

Yn ogystal, dangosodd tystiolaeth o'r arolygiadau cychwynnol ac adborth gan randdeiliaid fod cyfradd uchel o ddiffyg cydymffurfiaeth â'r safonau adeiladu ar ôl 1991 ar gyfer storfeydd silwair, yn enwedig mewn perthynas â sianeli draenio allanol. Er y nodwyd bod llawer o'r storfeydd hyn wedi'u hadeiladu'n dda ac nad oeddent yn peri risgiau uniongyrchol i'r amgylchedd, ni fyddent wedi cydymffurfio â'r safonau fel arall. 

Argymhelliad 10 (tymor byr)

Adolygu'r gofyniad ar gyfer sianeli draenio allanol mewn storfeydd silwair ac ystyried ystod ehangach o ddyluniadau storfeydd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.

Argymhelliad 11 (tymor canolig)

Dylid ystyried ei gwneud yn ofynnol i storfeydd cyn 1991 (slyri a silwair) gael eu harolygu gan beiriannydd adeiladu neu berson addas arall er mwyn sicrhau bod camau yn cael eu cymryd os yw'r storfa yn peri risg sylweddol o lygredd, gan sicrhau bod storfeydd sydd ag adeiladwaith cadarn yn parhau i gael eu defnyddio. Dylid ystyried proses debyg hefyd er mwyn cadarnhau nad yw storfa sy’n methu â chydymffurfio yn dechnegol (mewn perthynas â'r safonau adeiladu) yn peri risg o lygredd, lle y gallai fod yn briodol i'r storfa fod yn adeiledd sydd wedi'i esemptio.

Argymhelliad 12 (tymor canolig)

Dylid ystyried mabwysiadu darpariaeth reoleiddiol i egluro (mewn perthynas â storio slyri) y dylai ffermydd ystyried ffactorau a allai effeithio ar gydymffurfiaeth â'r gofynion i beidio â gwasgaru maethynnau oni bai ei bod yn briodol gwneud hynny, ar sail y pridd, amodau tywydd, angen cnydau a risgiau llygredd. Byddai angen i unrhyw ddull gweithredu o'r fath ystyried yn ofalus a oes cymorth grant ar gael, a'r amseroedd sydd eu hangen ar gyfer unrhyw seilwaith ychwanegol gofynnol.

Argymhelliad 13 (hirdymor)

Ystyried gofyniad sy'n nodi bod angen gorchuddion ar gyfer storfeydd slyri newydd a thail nad yw'n cael ei storio mewn pentyrrau caeau dros dro. 

Traws-fanteision ansawdd aer integredig

Gall newidiadau i brosesau rheoli tail arwain at fanteision sylweddol i ansawdd aer a diogelu’r amgylchedd dŵr yn well. Gall llawer o'r argymhellion eraill uchod gyflawni'r nod hwn hefyd. Fodd bynnag, gall yr argymhellion canlynol fod yn fuddiol iawn yn y cyswllt hwn.

Argymhelliad 14 (tymor canolig)

Ystyried y gofyniad i ddefnyddio Offer Gwasgaru Slyri Allyriadau Isel (LESSE) ar gyfer gwasgaru slyri a thail organig hylifol lle bo'n ymarferol, a chyfyngu'n sylweddol ar y defnydd o blatiau tasgu. Ystyried yr amser ymgorffori ar gyfer tail er mwyn lleihau colledion atmosfferig, lle bo hynny'n berthnasol.

Argymhelliad 15 (tymor canolig)

Ystyried cyfyngu ar y defnydd o wrtaith wrea a'i gwneud yn ofynnol defnyddio atalydd wreas gyda gwrtaith wrea. 

Hygyrchedd, hyblygrwydd a chamau gorfodi 

Er mwyn sicrhau bod rheoliadau ar eu mwyaf effeithiol, mae angen iddynt fod yn glir ac yn ddealladwy i'r holl randdeiliaid. Mae hyn yn cynnwys nodi cyfrifoldebau partïon gwahanol yn glir, sy'n helpu i’w gorfodi. Mae'n bosibl y bydd angen hyblygrwydd mewn rhai amgylchiadau, ond gall unrhyw hyblygrwydd ychwanegol arwain at elfen arall o gymhlethdod. 

Argymhelliad 16 (tymor byr)

Adolygu diffiniadau a phrosesau cofnodi, gan gynnwys llyfr gwaith Llywodraeth Cymru a ddefnyddir o fewn y rheoliadau er mwyn gwella defnyddioldeb, eglurder y gofynion a'u perthnasedd i arferion ffermio. 

Argymhelliad 17 (tymor byr)

Ystyried addasrwydd esemptiadau ffurfiol ar gyfer daliadau o dan gyfyngiadau clefydau anifeiliaid, fel bTB, lle mae'r cyfyngiadau yn effeithio ar brosesau rheoli arferol y daliad. 

Argymhelliad 18 (tymor byr)

Adolygu a yw darpariaethau sy'n cael eu gwneud o dan ddeddfau tenantiaeth perthnasol i sicrhau gofynion trydydd parti yn darparu amddiffyniad digonol, ac a fyddai modd egluro cyfrifoldebau yn y rheoliadau CoAP trwy wella diffiniadau.   

Argymhelliad 19 (tymor canolig) 

Adolygu gwerthoedd mewn atodlenni a phrosesau cadw cofnodion er mwyn sicrhau eu bod yn haws eu defnyddio, eu bod yn parhau’n perthnasol i arferion ffermio modern a'r ddealltwriaeth wyddonol ddiweddaraf, a chefnogi penderfyniadau gwell ar y fferm. 

Argymhelliad 20 (hirdymor)

Ystyried addasrwydd dull cosbau sifil symlach er mwyn gwella gorfodi ac effeithlonrwydd cosbau pan fo angen. 

Cwmpas a mecanweithiau ar gyfer arloesi 

Mae arloesi ar draws pob sector o'r economi yn ffordd bwysig o fynd i'r afael â her cynaliadwyedd. Fodd bynnag, mae sawl rhwystr i addasu technolegau a phrosesau newydd, gan gynnwys rhwystrau rheoleiddiol. 

Nid yw'r rheoliadau’n cynnwys eu darpariaeth eu hunain ar gyfer defnyddio technolegau amgen, ac mae'n bosibl y bydd gofynion eraill a chaniatâd o dan ddeddfwriaeth arall yn berthnasol i rai gweithgareddau, fel trin tail organig, e.e. mae trwydded a gofynion ar waith i atal cyfnewid llygredd damweiniol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y gofynion ychwanegol hyn yn golygu bod pobl yn llai tebygol o ddefnyddio technolegau arloesol a allai ddarparu canlyniad amgylcheddol gwell. 

Ar hyn o bryd, mae darpariaeth ar gyfer defnyddio technolegau arbrofol neu arloesol wedi'i chynnwys yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (ar legislation.gov.uk), sy'n rhoi'r hawl i CNC ganiatáu atal gofynion statudol dros dro ar gyfer cynlluniau arbrofol. Mae'r ddarpariaeth hon yn gyfyngedig iawn, ac ni fyddai'n addas wrth ystyried 'ehangu' y defnydd o atebion arloesol i asesu hyfywedd ac effaith. 

Argymhelliad 21 (tymor canolig)

Ystyried cynnwys darpariaeth yn y rheoliadau i ganiatáu defnyddio technolegau arloesol neu newydd ar y fferm, yn amodol ar asesiad cymesur o risg a phroses gymeradwyo briodol. 

Argymhelliad 22 (tymor canolig)

Ystyried darpariaeth ar gyfer dyluniadau storfeydd slyri, tail organig a silwair amgen, gan gynnwys adeileddau dros dro nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr atodlenni ar hyn o bryd, os ydynt yn gallu darparu manteision ansawdd dŵr ac ansawdd aer cyfunol. 

Argymhelliad 23 (hirdymor)

Adolygu cwmpas y rheoliadau i ystyried prosesau rheoli tail o anifeiliaid sy'n cael eu cadw dan do o'r man cynhyrchu hyd at ei wasgaru ar y tir er mwyn sicrhau bod modd defnyddio'r technegau gorau sydd ar gael.