Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfiaeth â’r amodau a nodir isod, yn caniatáu symud carcasau dofednod neu adar caeth eraill i’w gwaredu yn uniongyrchol o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle arall o fewn neu y tu allan i barth yng Nghymru neu Loegr.

Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, lle mae H5NX yn unrhyw straen o feirws ffliw adar pathogenig iawn cytras 2.3.4.4b, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.

Mae’r drwydded hon yn ddilys o 4:42pm ar 11 Mawrth 2025 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig ac mae’n dirymu a disodli’r drwydded EXD539(HPAI)(EW) a ddaeth i rym am 3:52pm ar 18 Chwefror 2025. 

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.

Llofnodwyd: Radu Pancu, Arolygydd Milfeddygol

Dyddiad: 11 Mawrth 2025  Amser: 4:42pm

Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol.

Deddfwriaeth

Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol â’r canlynol:

  • paragraffau 14 a 16 o Atodlen 4, a pharagraff 8A o Atodlen 5, i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • paragraffau 14 a 16 o Atodlen 4, a pharagraff 8A o Atodlen 5, i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • Erthygl 2(1) o Orchymyn Anifeiliaid (Darpariaethau Amrywiol) 1927.

Amodau’r drwydded

  1. Rhaid i’r gwaith symud ddigwydd yn uniongyrchol i’r safle gwaredu.
  2. Dim ond drwy’r modd o waredu a bennir ar gyfer deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2 gan Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd) y mae modd symud carcasau dofednod ac adar caeth i’w gwaredu. Rhaid i waredu carcasau ddigwydd trwy’r dull gwaredu a’r defnydd a ganiateir gan Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd) ar gyfer y categori perthnasol o ddeunydd. Nid yw’r rhanddirymiad yn Erthygl 18 o Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd) sy’n galluogi defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 2 wrth fwydo unrhyw anifeiliaid yn berthnasol i’r carcasau hyn.
  3. Yn union cyn symud neu waredu carcasau dofednod neu adar caeth eraill, rhaid i’r trwyddedai archwilio’r adar ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar.
  4. Rhaid i’r trwyddedai hysbysu APHA o fewn 24 awr i’r arolygiad i gadarnhau bod yr arolygiad wedi’i gynnal ac nad oedd yr adar ar y safle yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y traddodwr, safle’r cyrchfan gwaredu a dyddiad a chanlyniad yr arolygiad. Gellir gwneud yr hysbysiad ar e-bost i Outbreak.Licensing@apha.gov.uk neu yn ysgrifenedig at: The Licensing Team, APHA, Level One, County Hall, Spetchley Road, Worcester, WR5 2NP.
  5. Rhaid i’r cerbyd sy’n cludo’r carcasau dofednod neu adar caeth eraill fod yn un sy’n atal gollyngiadau ac wedi’i orchuddio. Rhaid hefyd fod pecyn gollyngiadau ar gael yn y cerbyd rhag ofn y bydd gollyngiad yn digwydd ar y ffordd.
  6. Ni ddylid mynd â’r cerbyd casglu y tu hwnt i ffin allanol y safle gwreiddiol (lle bo hynny’n bosibl) ac ni ddylai deithio dros unrhyw wyneb a allai fod wedi’i halogi â llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu, sarn, plisgyn wy neu ddeunydd tebyg arall a allai drosglwyddo clefyd. Dylai’r gwaith o drosglwyddo’r carcasau ddigwydd ar ffin allanol y safle.
  7. Rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd cyn gadael unrhyw safle lle casglwyd carcas ohono. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ar ôl llwytho ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi y tu hwnt i’r fan honno gan laid, slyri, tail anifeiliaid, plu, sarn, plisgyn wy neu unrhyw ddeunydd tebyg.
  8. Ar ôl dadlwytho yn y safle gwaredu:
  • rhaid glanhau a diheintio’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall, a hynny ar y safle
  • rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion ar ôl dadlwytho a chyn gadael safle’r cyrchfan.
  1. Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson/personau sy’n ymwneud â’r gwaith symud hwn yn gwneud y canlynol:
  • peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o’r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy’n amlwg wedi’u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg
  • yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle’r oedd dofednod neu adar caeth yn bresennol
  • yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall
  • yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth
  • yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd dofednod ac adar caeth.
  1. Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i symudiadau i, neu o, unrhyw safle sy’n destun hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol.
  2. Rhaid glanhau a diheintio’r safle y symudwyd carcasau ohono gan ddefnyddio diheintyddion a gymeradwywyd gan y llywodraeth ac yn unol ag Erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru neu Erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr. 

Nodiadau esboniadol

  1. Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan y Gorchymyn sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
  • faint o garcasau dofednod neu adar eraill sy’n cael eu symud
  • dyddiad y symudiad
  • enw’r traddodwr
  • cyfeiriad y safle y symudwyd y carcasau ohono
  • rhif cofrestru’r cerbyd sy’n casglu’r samplau
  • enw’r traddodai
  • cyfeiriad y safle gwaredu
  1. Rhaid i ddeiliad y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl cwblhau’r symudiad, yn unol â gofyniad Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru, neu Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr.
  2. Rhaid i berson sy’n symud carcasau dofednod neu adar caeth eraill o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 neu Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu swyddog arall a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, rhoi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ran ohono.
  3. Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol.
  4. Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol a rhaid iddo fod wedi ei gymeradwyo o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru neu Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr.
  5. Os ydych chi’n amau achos o glefyd hysbysadwy, rhaid i chi roi gwybod am hyn ar unwaith:
    • Cymru – APHA ar 0300 303 8268
    • Lloegr – llinell gymorth gwasanaethau gwledig Defra ar 03000 200 301
  6. Nid yw’r awdurdod i symud carcasau dofednod neu adar caeth eraill o dan y drwydded hon yn berthnasol i safle sydd o dan hysbysiad Safle Heintiedig, Cyswllt neu Amheuaeth.
  7. Dim ond casglwr sydd wedi’i gofrestru o dan ofynion Erthygl 23 o Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd sy’n ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid) sydd â hawl i symud carcas oni bai ei fod yn gweithredu o safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o’r Rheoliad hwnnw. Rhaid i unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo carcas o dan y drwydded hon gydymffurfio â darpariaethau perthnasol Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) (Gorfodi) 2014 (fel y’u diwygiwyd) yng Nghymru neu Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Lloegr) (Gorfodi) 2013 (fel y’u diwygiwyd) yn Lloegr.
  8. Rhaid cymeradwyo safle’r cyrchfan yn unol ag Erthygl 24 o Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 (cyfraith a gymathwyd).
  9. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Stoc drig a gwaredu anifeiliaid marw yn ddiogel – https://www.gov.uk/fallen-stock

  1. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a sicrhau bioddiogelwch da (DOLEN i https://www.gov.uk/guidance/bird-flu-avian-influenza-how-to-prevent-it-and-stop-it-spreading ) bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
  2. Am ragor o fanylion ynghylch deddfwriaeth sy’n ymwneud â ffliw adar yng Nghymru – gweler gwefan Llywodraeth Cymru ac yn Lloegr – gweler canllawiau ffliw adar.

Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. 

Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.