Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Tachwedd 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch a ddylai’r ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd gael ei hymestyn.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y canlynol:
- a ddylid ymestyn y ddyletswydd ar brif gyngor i ddarlledu cyfarfodydd sy’n cynnwys cyfarfodydd heblaw rhai’r cyngor llawn
- a ddylid gosod dyletswydd ar awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol i ddarlledu eu cyfarfodydd
- a ddylid cael cyfnod cadw ar gyfer recordiadau o gyfarfodydd sy’n cael eu darlledu
Dogfennau ymgynghori
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn wedi'i ymestyn tan 28 Tachwedd 2025 i ganiatáu mwy o amser ar gyfer ymatebion yn dilyn cyfnod yr haf.
