Hoffem glywed eich barn ynghylch a ddylai’r ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd gael ei hymestyn.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y canlynol:
- a ddylid ymestyn y ddyletswydd ar brif gyngor i ddarlledu cyfarfodydd sy’n cynnwys cyfarfodydd heblaw rhai’r cyngor llawn
- a ddylid gosod dyletswydd ar awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol i ddarlledu eu cyfarfodydd
- a ddylid cael cyfnod cadw ar gyfer recordiadau o gyfarfodydd sy’n cael eu darlledu
Dogfennau ymgynghori
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn wedi'i ymestyn tan 28 Tachwedd 2025 i ganiatáu mwy o amser ar gyfer ymatebion yn dilyn cyfnod yr haf.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 28 Tachwedd 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelwch i: PolisiLlywLeol.Gohebiaeth@llyw.cymru
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelwch i:
Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
