Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae adran 46(1) a (2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) i roi trefniadau ar waith ar gyfer darlledu cyfarfodydd cyngor llawn fel bod aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfodydd eu hunain yn gallu gweld a chlywed y trafodion fel y maent yn digwydd. 

Mae adran 46(2)(b) a (4) o Ddeddf 2021 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor ddarlledu cyfarfodydd eraill y mae’n eu cynnal.

Mae adran 46(8) a (9) o Ddeddf 2021 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddarlledu eu cyfarfodydd.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ystyried:

  • a ddylid ymestyn y ddyletswydd ar brif gyngor i ddarlledu cyfarfodydd sy’n cynnwys cyfarfodydd heblaw rhai’r cyngor llawn
  • a ddylid gosod dyletswydd ar Awdurdodau Tân ac Achub a/neu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i ddarlledu eu cyfarfodydd
  • a ddylid cael cyfnod cadw ar gyfer recordiadau o gyfarfodydd sy’n cael eu darlledu

Y cyd-destun

Mae Deddf 2021 yn darparu ffyrdd newydd i brif gynghorau (sef cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol), Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau, gyda phwyslais cryf ar egwyddorion democratiaeth, tryloywder ac atebolrwydd i ddinasyddion Cymru. Mae Deddf 2021 yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy’n creu mwy o dryloywder a didwylledd rhwng prif gynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a chymunedau.

Mae Gweinidogion Cymru yn awyddus i fanteisio i’r eithaf ar botensial technoleg ddigidol i sicrhau mwy o dryloywder, cydweithio ac atebolrwydd rhwng prif gynghorau a dinasyddion Cymru. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru hefyd yn cydnabod ei bod yn bwysig peidio â difreinio unigolion nad oes ganddynt fynediad at dechnoleg ddigidol, neu nad ydynt yn gallu defnyddio technoleg ddigidol.

Cefndir

Mae potensial i gyfarfodydd prif gynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ennyn diddordeb a chyrraedd cynulleidfa eang o’r gymuned leol a thu hwnt. Mae potensial yn y cyfarfodydd hyn i rannu gwybodaeth, ac i drafodaethau gael eu cynnal, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o faterion lleol gyda’r rhai sy’n bresennol. Maent hefyd yn gallu bod yn ffordd barhaus o gynnwys y cyhoedd mewn materion lleol.

Mae adran 46(1) a (2)(a) o Ddeddf 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor wneud trefniadau i’w gyfarfodydd cyngor llawn gael eu darlledu’n electronig fel bod aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn bresennol yn y cyfarfodydd eu hunain yn gallu gweld a chlywed y trafodion. Cyfeirir at hyn weithiau fel y ‘ddyletswydd i ddarlledu’. O dan adran 46(1), rhaid i’r trafodion gael eu darlledu fel maent yn digwydd, yn amodol ar unrhyw eithriadau penodol, a rhaid i’r darllediad fod ar gael yn electronig am gyfnod penodol ar ôl y cyfarfod.

Mae adran 47(1) o Ddeddf 2021 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau wneud trefniadau i’w cyfarfodydd gael eu cynnal o bell. Cyfeirir at hyn weithiau fel y ‘ddyletswydd cyfarfodydd aml-leoliad’.

Er mai dwy ddyletswydd ar wahân yw’r rhain, mae’r ddwy wedi rhoi mwy o gyfleoedd i’r cyhoedd gael gafael ar drafodaethau am y materion mae prif gynghorau’n delio â nhw, a pha ffactorau maent yn eu hystyried wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddyletswyddau tebyg mewn deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Tân ac Achub neu Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddarlledu eu cyfarfodydd. Ond, mae’n rhaid iddynt gynnal cyfarfodydd aml-leoliad.

Prif gynghorau

Y sefyllfa ar hyn o bryd 

Y bwriad gwreiddiol oedd darlledu holl gyfarfodydd y prif gynghorau yn fyw, nid cyfarfodydd y cyngor llawn yn unig. Fodd bynnag, mynegodd prif gynghorau bryderon am eu gallu i gydymffurfio â’r gofyniad hwn a’r seilwaith sydd ei angen i gefnogi’r dull hwn. Derbyniwyd yr awgrym o weithredu’n fwy graddol. O ganlyniad, dim ond cyfarfodydd eu cyngor llawn y mae’n ofynnol i brif gynghorau eu darlledu ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad cyfreithiol i ddarlledu unrhyw gyfarfod arall a gynhelir gan brif gyngor.

Cytunwyd y byddai’r profiad o ddarlledu cyfarfodydd cyngor llawn yn sail i’r dull o ymestyn y gofynion darlledu yn y dyfodol, i gynnwys cyfarfodydd eraill prif gynghorau.

Ar hyn o bryd, mater i brif gynghorau yw penderfynu ar eu dull gweithredu o ran a ddylid darlledu unrhyw gyfarfodydd yn ychwanegol at gyfarfod y cyngor llawn. Os bydd prif gyngor yn dymuno darlledu rhai o’i gyfarfodydd eraill, neu bob un ohonynt, yna gall wneud hynny, fel y mae llawer yn ei wneud yn barod. Nid yw’r darpariaethau presennol yn cyfyngu ar nifer na math y cyfarfodydd y gall prif gynghorau eu darlledu’n fyw ar sail wirfoddol. 

Cefnogaeth i hwyluso darlledu a chyfarfodydd aml-leoliad

Er mwyn helpu i weithredu adrannau 46 a 47 o Ddeddf 2021, ac er mwyn ymateb i rai o’r pryderon a godwyd gan lywodraeth leol, darparodd Gweinidogion Cymru dros £850,000 i brif gynghorau i gefnogi’r gwaith o roi darlledu a chyfarfodydd aml-leoliad ar waith, gan eu galluogi i ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau a dulliau gweithredu ar sail amgylchiadau pob prif gyngor.

Mae’r trefniadau darlledu bellach wedi hen ennill eu plwyf mewn prif gynghorau. Mae hyn wedi rhoi mwy o gyfle i gymunedau lleol a dinasyddion Cymru gael mynediad ehangach i’w cyfarfodydd cyngor llawn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dadansoddi sut mae prif gynghorau yn cydymffurfio â’r ddyletswydd i ddarlledu o dan adran 46(1) a (2)(a) o Ddeddf 2021. Dangosodd y dadansoddiad fod pob prif gyngor yn darlledu ei gyfarfodydd cyngor llawn yn fyw, ac yn cadw copi o’r recordiad ar-lein, er mwyn i aelodau’r cyhoedd gael gafael arno.

Mae llawer wedi mynd y tu hwnt i ofynion gorfodol Deddf 2021, ac yn darlledu cyfarfodydd eraill yn fyw neu’n darparu recordiad ar-lein ohonynt. Mae’r rhain yn cynnwys cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a Phwyllgorau Cynllunio.

Ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sut gellid bwrw ymlaen â’r dull gweithredu fesul cam y cytunir arno i ehangu’r gofynion gorfodol i ddarlledu cyfarfodydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr prif gynghorau ac mae trafodaethau wedi canolbwyntio ar nifer o faterion gan gynnwys:

  • A oes angen ehangu’r gofynion gorfodol i ddarlledu cyfarfodydd eraill prif gynghorau.
  • Pa fath o gyfarfodydd y dylai unrhyw ehangu eu cynnwys?
  • Am ba mor hir ddylai recordiadau o gyfarfodydd gael eu cadw?

Mae technoleg yn parhau i ddatblygu

Gall dulliau Digidol a Deallusrwydd Artiffisial (AI), fel Copilot, wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn sylweddol o ran trefnu a darlledu cyfarfodydd aml-leoliad. Drwy ddefnyddio adnoddau sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial, gall awdurdodau symleiddio’r broses amserlennu, gan sicrhau bod yr holl gyfranogwyr ar gael a bod cyfarfodydd yn cael eu trefnu gyda’r adnoddau angenrheidiol. Gall deallusrwydd artiffisial helpu hefyd gyda thrawsgrifio a chyfieithu amser real.

Ar ben hynny, gall deallusrwydd artiffisial wella’r gwaith o ddarlledu’r cyfarfodydd hyn drwy reoli camerâu’n awtomataidd, gan sicrhau bod y camera bob amser ar y sawl sy’n siarad. Mae hyn yn creu profiad gwylio mwy deniadol a phroffesiynol i’r rheini sy’n mynychu o bell. Gall deallusrwydd artiffisial hefyd helpu i archifo a mynegeio recordiadau o gyfarfodydd, gan ei gwneud yn haws dod o hyd i drafodaethau o’r gorffennol a’u hadolygu. Nid yn unig mae hyn yn gwella tryloywder, mae hefyd yn helpu i wneud penderfyniadau gwell drwy ddarparu mynediad hawdd at ddata hanesyddol. Yn gyffredinol, gall atebion digidol a deallusrwydd artiffisial fel Copilot drawsnewid y ffordd mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnal ac yn darlledu eu cyfarfodydd, gan eu gwneud yn fwy effeithlon, cynhwysol a thryloyw.

Wrth gwrs, mater i awdurdodau lleol Cymru yw penderfynu sut maent am achub ar y cyfle i fanteisio i’r eithaf ar y dechnoleg hon er mwyn sicrhau’r manteision gorau posibl.

Ymestyn y gofynion gorfodol i brif gynghorau ddarlledu

Mae trafodaethau â phrif gynghorau ynghylch ymestyn yr ystod o gyfarfodydd i’w darlledu yn y dyfodol wedi arwain at ymateb cymysg. Cydnabyddir bod darlledu wedi arwain at fwy o ddidwylledd a thryloywder, ond wrth i gostau gynyddu, mae pryderon wedi’u codi y bydd ehangu darllediadau byw yn arwain at oblygiadau o ran adnoddau i brif gynghorau. Mae'r costau hyn yn cynnwys (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i'r canlynol):

  • mwy o adnoddau i gefnogi llwyfannau digidol a rheoli cyfarfodydd
  • cost storio fideos yn ogystal â phapurau swyddogol a chofnodion cyfarfodydd (mae’n costio mwy i storio fideos gan eu bod yn cymryd mwy o le)
  • costau cyfieithu ar gyfer ffrydio byw
  • addasu ystafelloedd cyfarfod

Er bod Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod goblygiadau o ran adnoddau yn gysylltiedig ag ehangu nifer y cyfarfodydd y mae gofyn eu darlledu’n fyw, mae modd lleihau hyn hefyd drwy gynllunio amser y cyfarfodydd yn ofalus. Mae Gweinidogion Cymru yn credu y byddai dull gweithredu pragmatig, sy’n canolbwyntio ar ddarlledu nifer o gyfarfodydd pwyllgor sydd o ddiddordeb ehangach i’r cyhoedd, yn gam nesaf cymesur yn y dull gweithredu.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod hi’n bwysig bod hygyrchedd y broses ddemocrataidd yn debyg i unigolion ledled Cymru, ni waeth ble maent yn byw. Maent hefyd o’r farn ei bod hi’n haws sicrhau hyn drwy ddarlledu cyfarfodydd gan ddefnyddio technoleg ddigidol ar y cyfan, neu mewn rhai achosion, ddim ond yn bosibl drwy ddefnyddio technoleg ddigidol.

Mae trafodaethau â phrif gynghorau yn awgrymu mai cam nesaf priodol fyddai ymestyn y gofyniad i ddarlledu cyfarfodydd yn fyw i gynnwys y rhan fwyaf o’r pwyllgorau statudol y mae’n ofynnol i brif gynghorau eu cynnal, ynghyd â chyfarfodydd y Cabinet.

Cynhelir llawer o fusnes llywodraeth leol yng Nghymru drwy bwyllgorau a sefydlir gan brif gynghorau. Mae deddfwriaeth yn darparu bod yn rhaid i brif gyngor sefydlu pwyllgor ar gyfer swyddogaethau statudol penodol ac y gallai sefydlu pwyllgorau ar gyfer swyddogaethau eraill hefyd, er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau statudol.

Gan fod y penderfyniadau a wneir gan y pwyllgorau hyn yn dylanwadu ar fywydau dinasyddion a chymunedau ledled Cymru ac yn effeithio arnynt, mae’n bwysig bod unigolion yn gallu deall pa faterion y mae eu cynrychiolwyr lleol yn eu hystyried ar eu rhan, a sut maent yn ystyried eu safbwyntiau a’u buddiannau.

Y sail resymegol dros newid

Mae ymrwymiad i ystyried sut dylid ymestyn y ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd i gynnwys cyfarfodydd eraill prif gynghorau. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull gweithredu ailadroddol y cytunwyd arno gyda llywodraeth leol.

Gallai cynyddu ystod y cyfarfodydd i’w darlledu roi mwy o wybodaeth i’r cyhoedd am sut mae prif gynghorau’n cyflawni eu swyddogaethau; sut mae safbwyntiau’r cyhoedd yn cael eu hystyried; a sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud.

Cynnig Gweinidogion Cymru yw ei gwneud hi’n ofynnol i gyfarfodydd pwyllgorau statudol canlynol y prif gynghorau gael eu darlledu: Pwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethu ac Archwilio, Trwyddedu, Cynllunio, Trosolwg a Chraffu, a Safonau, yn ogystal â chyfarfodydd Cabinet.

Mae’r cyfarfodydd ychwanegol hyn yn ymwneud â phrif swyddogaethau statudol prif gyngor. Byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu barn ynghylch a oes awydd i newid y trefniadau darlledu presennol ac os felly, pa newidiadau penodol hoffech chi eu gweld i’r trefniadau presennol?

Nid oes cynnig ar hyn o bryd i ymestyn y ddyletswydd i gynnwys is-bwyllgorau a chyd-bwyllgorau prif gynghorau, oherwydd y galw ar adnoddau awdurdodau lleol a’r dull ailadroddol y cytunwyd arno ar gyfer ymestyn.

Bydd angen i brif gynghorau ystyried sut bydd y cyfarfodydd ychwanegol hyn yn cael eu rheoli a sut gall aelodau o’r cyhoedd barhau i gael mynediad i gyfarfodydd er mwyn cynnal cyfarfodydd clir, tryloyw a hygyrch.

Pwyllgorau statudol prif gyngor

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn bwyllgor statudol prif gyngor a sefydlwyd o dan adran 11(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Ei bwrpas yw penodi Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd; adolygu digonolrwydd staff, llety ac adnoddau eraill a ddarperir gan yr awdurdod i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd a llunio adroddiadau ac argymhellion i’r awdurdod mewn perthynas â darpariaeth o’r fath. Mae hefyd yn adolygu, ar gais y Cyngor Llawn, unrhyw fater sy’n berthnasol i’r gefnogaeth a’r cyngor sydd ar gael i Aelodau’r cyngor a thelerau ac amodau swydd yr Aelodau hynny, a rhaid iddo lunio adroddiadau ac argymhellion i’r cyngor yn dilyn adolygiad o’r fath.

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Mae Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn bwyllgor statudol prif gyngor a sefydlwyd o dan adran 81 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae ganddo swyddogaethau sydd wedi’u nodi yn y gyfraith y mae’n rhaid iddo eu cyflawni, gan gynnwys adolygu a chraffu ar faterion ariannol a datganiadau ariannol y cyngor; adolygu ac asesu dulliau rheoli risg y cyngor; asesu perfformiad; a gallu’r cyngor i ddelio â chwynion yn effeithiol; a goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol y cyngor. Gall wneud adroddiadau ac argymhellion am yr holl bethau y mae’n gyfrifol am eu hadolygu a’u hasesu. Gall cynghorau hefyd ofyn i’r pwyllgorau hyn ymgymryd â swyddogaethau eraill addas.

Pwyllgor Trwyddedu

Mae Pwyllgor Trwyddedu yn bwyllgor statudol awdurdod trwyddedu (prif gyngor), a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003. Mae’n pennu'r holl faterion sy’n cael eu rheoleiddio gan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005. Mae’n gyfrifol am ystyried a chynnig polisi trwyddedu’r awdurdod. Gall wneud penderfyniadau am geisiadau am drwyddedau unigol a gyflwynir i gyngor, dirymu trwyddedau presennol, neu ychwanegu amodau at drwyddedau drwy wrandawiadau a pholisïau’r cyngor. Mae’r achosion sy’n cael eu hystyried gan y pwyllgor yn cynnwys ceisiadau am drwyddedau tacsi, am ddigwyddiadau dros dro fel gwyliau a ffeiriau ac am ganiatâd i werthu trwyddedau alcohol ac ar gyfer sefydliadau rhyw.

Pwyllgor Cynllunio

Mae Pwyllgor Cynllunio yn bwyllgor statudol i brif gyngor, a sefydlwyd o dan adran 319ZA o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae’n penderfynu a ddylai ceisiadau cynllunio gael eu cymeradwyo neu eu gwrthod ac a ddylai amodau cynllunio neu rwymedigaethau cynllunio fod ynghlwm wrthynt. Gall y cynigion y mae’n eu hystyried fod yn syniadau datblygu er budd yr economi a’r gymuned leol ac maent fel arfer yn gynigion mawr, cymhleth neu ddadleuol ac weithiau gallant ddenu llawer o ddiddordeb gan y cyhoedd.

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

Mae Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (a elwir weithiau'n Bwyllgor Craffu) yn bwyllgor statudol i brif gyngor a sefydlwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Diben y pwyllgor hwn yw adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd, mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaethau sy’n gyfrifoldeb i’r weithrediaeth; ac adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau a gymerwyd, mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i’r weithrediaeth. Mae craffu’n rhan bwysig o systemau’r cyngor ei hun ar gyfer gwella ei berfformiad gan ei fod yn dal y weithrediaeth i gyfrif am y penderfyniadau y mae’n eu gwneud.  Gall Pwyllgorau Craffu gyhoeddi adroddiadau ac argymhellion ar gyfer gwella y dylai’r weithrediaeth eu hystyried ac ymateb iddynt yn ogystal â llunio adroddiadau neu argymhellion ar faterion sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor neu drigolion yr ardal honno.

Pwyllgor Safonau 

Mae Pwyllgor Safonau yn bwyllgor statudol i awdurdod perthnasol (sy’n cynnwys prif gynghorau) a sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Ei ddiben yw hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan ei aelodau ac aelodau cyfetholedig prif gyngor perthnasol; a'u cynorthwyo i gadw at y cod ymddygiad. Mae swyddogaethau penodol i’w rôl o dan y gyfraith, sef cynghori’r prif gyngor ar fabwysiadu neu adolygu cod ymddygiad; monitro sut mae cod ymddygiad y prif gyngor yn cael ei weithredu; cynghori a hyfforddi aelodau ac aelodau cyfetholedig y prif gyngor ar faterion sy’n ymwneud â’i god ymddygiad; monitro a yw arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor yn cydymffurfio â’u dyletswyddau i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau’r grŵp, a chynghori a hyfforddi arweinwyr grwpiau gwleidyddol ar y cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â’r dyletswyddau hyn.

Cyfarfodydd Cabinet

Mae Cabinet prif gyngor, a elwir hefyd yn ‘Weithrediaeth’, wedi’i sefydlu o dan adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae’n cynnwys nifer o gynghorwyr a ddewiswyd gan yr Arweinydd etholedig i gydweithio i wneud penderfyniadau a amlinellir yn y gyfraith. Er enghraifft, mae’n gyfrifol am bennu’r gyllideb, llunio polisïau yn ardal y prif gyngor ac am wneud llawer o’r prif benderfyniadau ar y ffordd y mae Cyngor yn gwasanaethu ei breswylwyr. Mae gan bob aelod o'r Cabinet gyfrifoldeb penodol, a elwir yn bortffolio, sy'n cwmpasu meysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, addysg a hamdden ac adloniant.

Eithriadau

Yn yr un modd â phob pwyllgor a chyfarfod, bydd eitemau lle bydd gofyn am sesiynau caeedig lle na chaniateir i’r cyhoedd fod yn bresennol. Ni fydd disgwyl i gynghorau ddarlledu agweddau ar eu cyfarfodydd sydd fel arfer yn cael eu cynnal yn breifat. Er enghraifft, ni fyddai’n ofynnol i brif gynghorau ddarlledu trafodion pwyllgor safonau lle mae materion cyfrinachol yn cael eu trafod. Cynigir bod modd darparu ar gyfer yr eitemau hyn drwy reolau gweithdrefnol ynghylch trafodion.

Ymestyn y gofyn i ddarlledu i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub

Cefndir

Ar hyn o bryd, mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru: Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri.

Yn ei Rhaglen Lywodraethu (2021 i 2026), mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bwriad i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE, ond ‘Tirwedd Genedlaethol’ bellach) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Petai’n cael ei sefydlu, dyma fyddai’r pedwerydd Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru, sef awdurdod tân ac achub Gogledd Cymru, awdurdod tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac awdurdod tân ac achub De Cymru.

Mae adran 46(8) a (9) o Ddeddf 2021 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyrff penodedig ddarlledu eu cyfarfodydd, gan gynnwys Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.

Oherwydd yr ardaloedd daearyddol mawr y mae pob Awdurdod Parc Cenedlaethol ac Awdurdod Tân ac Achub yn eu cwmpasu, gall fod yn anodd i bobl fynychu eu cyfarfodydd. O’r herwydd mae eu cyfarfodydd yn aml yn cael eu cynnal naill ai’n gyfan gwbl ar-lein neu ar sail hybrid.

Mae Gweinidogion Cymru yn awyddus i archwilio safbwyntiau ynghylch estyn y gofyniad i ddarlledu cyfarfodydd i Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. 

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn goruchwylio’r gwaith o ddiogelu a gwarchod yr ardaloedd yn ardal awdurdod y parc ac mae’r ddau ddiben canlynol yn berthnasol iddynt: 

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol.
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig (y Parc).

Wrth ymgymryd â’r rôl hon, gall Awdurdodau Parciau Cenedlaethol wneud unrhyw beth a all, yn eu barn hwy, hwyluso neu arwain at gyflawni dibenion y parc. Mae ganddynt ddyletswydd hefyd i geisio meithrin ffyniant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol yn eu hardal, ond rhaid iddynt wneud hynny heb achosi gwariant ychwanegol sylweddol.

Mae pob Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cynnwys aelodau i wasanaethu ar yr awdurdod, a benodwyd gan brif gynghorau sydd â thir o fewn ffin y parc. Maent yn cyfrif am ddwy ran o dair o aelodaeth awdurdod. Llywodraeth Cymru sy’n penodi’r aelodau eraill.

Mae pob Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn gallu penderfynu a yw am ddarlledu ei gyfarfodydd, yn wirfoddol, ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae pob Awdurdod Parc Cenedlaethol yn darlledu cyfarfodydd awdurdod llawn yn fyw yn ôl eu disgresiwn. Ar ôl y cyfarfod, mae recordiad ar gael ar-lein. Pennir trefniadau penodol ynghylch cadw recordiadau o gyfarfodydd gan bob Awdurdod Parc Cenedlaethol. Ar hyn o bryd mae pob Awdurdod yn sicrhau bod recordiadau ar gael ar-lein am o leiaf chwe mis.

Awdurdodau Tân ac Achub

Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub ddyletswyddau statudol i oruchwylio’r gwasanaethau tân ac achub sy’n cael eu darparu yn eu hardaloedd. Mae pwerau a dyletswyddau'r awdurdodau tân ac achub wedi’u nodi yn Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Eu swyddogaethau craidd yw:

  • hyrwyddo diogelwch tân
  • diffodd tân
  • ymateb i ddamweiniau ffordd
  • delio ag argyfyngau eraill a ragnodir

Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gwasanaethu ardaloedd sy’n gyfuniadau o ardaloedd awdurdodau lleol ac maent yn cynnwys aelodau etholedig enwebedig sy’n cynrychioli’r awdurdodau hynny. Cynhelir cyfarfod llawn o’r Awdurdod Tân ac Achub dair i bedair gwaith y flwyddyn ac fel arfer mae’n trafod ystod o faterion strategol, gweithredol ac adnoddau.

Yn yr un modd ag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, mae pob Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu penderfynu a yw am ddarlledu ei gyfarfodydd, yn wirfoddol. Nid oes gan Awdurdodau Tân ac Achub ddull safonol o ddarlledu eu cyfarfodydd ar hyn o bryd. Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn darlledu cyfarfodydd awdurdod llawn yn fyw yn ôl eu disgresiwn, gyda recordiad wedyn ar gael ar-lein. Pennir trefniadau penodol ynghylch cadw recordiadau o gyfarfodydd gan bob Awdurdod Tân ac Achub.

Mae adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub sefydlu pwyllgor safonau. Mae’r pwyllgorau hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o hyrwyddo safonau ymddygiad uchel ymysg aelodau. Ar hyn o bryd, nid oes dyletswydd i ddarlledu’r cyfarfodydd hyn. 

Ymestyn y ddyletswydd orfodol i ddarlledu 

Mae Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn rhan o deulu llywodraeth leol yng Nghymru, ac maent yn gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sydd o ddiddordeb ehangach i’r cyhoedd. Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gweithio i atal tanau, yn ymateb yn gyflym i argyfyngau, ac yn cyfrannu at ostwng nifer yr achosion. Yn y cyfamser, mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn gwarchod harddwch naturiol Cymru, yn cynnig cyfleoedd hamdden, ac yn cynnwys cymunedau yn y gwaith o lunio polisïau. Mae’r ddau’n effeithio’n uniongyrchol ar ddiogelwch, ansawdd bywyd a’r amgylchedd.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, yn yr un modd â phrif gynghorau, bod gwerth i’r cyhoedd allu dilyn trafodion yr Awdurdodau Tân ac Achub a’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, hynny yw, y cyfarfodydd llawn a’r pwyllgorau safonau, fel y maent yn digwydd. Neu, i’r rheini nad ydynt yn gallu dilyn y cyfarfodydd fel maent yn digwydd, eu bod yn gallu cael mynediad at recordiadau o’r cyfarfodydd. Felly, mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod o fudd sicrhau bod unigolion a sefydliadau yng Nghymru yn cael yr un lefel o fynediad at y trafodion hyn, ni waeth ble maent yn byw.

Yn yr un modd â’r cynigion ar gyfer cyfarfodydd prif gynghorau, ni fydd disgwyl i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub ddarlledu agweddau ar eu cyfarfodydd sydd fel arfer yn cael eu cynnal yn breifat ee, trafodion pwyllgor safonau lle mae materion cyfrinachol yn cael eu trafod. Cynigir bod modd darparu ar gyfer yr eitemau hyn drwy reolau gweithdrefnol ynghylch trafodion.

Y sail resymegol dros newid

Yn yr un modd â phrif gynghorau, y sail resymegol dros newid yw er mwyn agor democratiaeth i gynulleidfa ehangach a gwella tryloywder.

Cyfnodau cadw

Mae adran 100C(1A) ac (1B) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau fod â chofnodion ar gael i'w harolygu am chwe blynedd.

Gall rhai cofnodion fod yn destun cyfnodau cadw gwahanol, fel y rheini sy’n berthnasol i achosion cyfreithiol neu ymchwiliadau sy’n mynd rhagddynt; y rheini sydd â gwerth hanesyddol eithriadol neu’r rheini o bwysigrwydd lleol i sefydliadau archifol.

Er bod angen cadw cofnodion ysgrifenedig er mwyn darparu cofnod swyddogol o’r cyfarfod, cydnabyddir efallai na fyddant yn cadw manylion llawn y digwyddiadau yn yr un modd â recordiad o’r cyfarfod ei hun.

Mae Deddf 2021 yn datgan, mewn perthynas â darlledu cyfarfodydd llawn prif gynghorau, bod yn rhaid i recordiad o’r darllediad fod ar gael yn electronig am gyfnod penodol ar ôl y cyfarfod. Nid yw’r term ‘cyfnod penodol’ wedi cael ei ddiffinio yn y gyfraith ac felly mater i bob prif gyngor yw pennu hynny. Mae arferion yn amrywio ledled Cymru.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol ac Awdurdod Tân ac Achub yn 'brif gyngor' at ddibenion adran 100C o Ddeddf 1972, ac felly maent yn dod o dan y gofyniad i gadw cofnodion am chwe blynedd.

Gan nad oes gofyniad mewn deddfwriaeth ar hyn o bryd i Awdurdodau Tân ac Achub nac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddarlledu eu cyfarfodydd, nid oes gofyniad mewn deddfwriaeth i sicrhau bod y rhain ar gael yn electronig ar ôl y cyfarfod.

Mae gan Weinidogion Cymru ddiddordeb mewn safbwyntiau am gyfnod cadw recordiadau o’r cyfarfodydd sy’n cael eu darlledu gan brif gynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac a ddylai hyn fod yr un fath â’r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer cofnodion ysgrifenedig cyfarfodydd, hynny yw, chwe blynedd, neu am gyfnod gwahanol o amser.

Y camau nesaf

Wrth ystyried newidiadau arfaethedig i drefniadau darlledu cyfarfodydd cynghorau yn yr ymgynghoriad hwn, mae’n bwysig ystyried bod unrhyw newidiadau yn gwella democratiaeth leol a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am y canlynol: 

  • Pa gyfarfodydd prif gynghorau, ar wahân i gyfarfodydd cyngor llawn, ddylai gael eu darlledu yn y dyfodol?
  • A ddylid ymestyn y ddarpariaeth darlledu i gynnwys cyfarfodydd Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol?
  • Y cyfnod cadw ar gyfer recordiadau o gyfarfodydd sy’n cael eu darlledu.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno y dylid ymestyn y ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd yn fyw i gynnwys cyfarfodydd ychwanegol prif gyngor?

Cwestiwn 2

A oes cyfarfodydd pwyllgorau eraill prif gyngor rydych chi’n meddwl y dylid ymestyn y ddyletswydd ar eu cyfer?

Cwestiwn 3

Ydych chi’n cytuno y dylid ymestyn y gofyniad i ddarlledu cyfarfodydd i gynnwys Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub?

Cwestiwn 4

A ddylai darlledu cyfarfodydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub gael eu hymestyn i gyfarfodydd y tu hwnt i gyfarfodydd llawn yr awdurdodau, ee pwyllgorau safonau?

Cwestiwn 5

Mewn perthynas â phrif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub, ydych chi’n cytuno y dylid cadw recordiadau o gyfarfodydd y mae’n rhaid eu darlledu?

Cwestiwn 6

Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol ehangu’r ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd ar y Gymraeg?

Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?  

Cwestiwn 7

Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r ddyletswydd i ddarlledu cyfarfodydd er mwyn sicrhau:

  • ei fod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg; a
  • nad yw’n cael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?   

Cwestiwn 8

Esboniwch pa effeithiau cadarnhaol a negyddol ydych chi’n credu y mae darlledu cyfarfodydd y cyngor yn eu cael ar grwpiau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, a pha fesurau y gellir eu cymryd i sicrhau mynediad a chynrychiolaeth deg.

Cwestiwn 9

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 28 Tachwedd 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

  • llenwi ein ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost PolisiLlywLeol.Gohebiaeth@llyw.cymru
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:

Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn wedi'i ymestyn tan 28 Tachwedd 2025 i ganiatáu mwy o amser ar gyfer ymatebion yn dilyn cyfnod yr haf.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG49993

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.