Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddir y canllawiau ymarfer cenedlaethol hyn fel rhan o'r strategaeth plant amlasiantaethol genedlaethol a chawsant eu datblygu drwy ymgysylltu'n eang â rhanddeiliaid. Dylai'r sector iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a gwirfoddol fynd ati ar y cyd i roi'r canllawiau ymarfer hyn ar waith, gan gynllunio sut i'w rhannu ar draws ffiniau gwasanaethau.

Mae'r canllawiau ymarfer hyn yn rhan o dirwedd polisi ehangach ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc. Mae'r canllawiau yn anorfod yn canolbwyntio ar gymorth therapiwtig ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn unig. Fodd bynnag, mae'n bwysig ystyried y canllawiau hyn yng nghyd-destun cysoni â Strategaethau eraill Llywodraeth Cymru, y manylir arnynt yn yr atodiad.

Noder nad yw'r ddogfen hon yn cynnwys ymrwymiad cyllid na chamau gweithredu i gaffael neu greu gwasanaethau newydd. Yn lle hynny, mae'n rhoi canllawiau ymarfer i lywio cyfeiriad gwasanaethau sy'n bodoli eisoes yn y dyfodol, sicrhau darpariaeth deg a pharhaus ledled Cymru a llywio model gofal ‘Cynorthwyo Teuluoedd’ y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.

Bwlch a nodwyd yn y ddarpariaeth

Ar hyn o bryd, mae bwlch yn y cymorth therapiwtig a ddarperir i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal o ganlyniad i anghenion emosiynol ac ymddygiadau sy'n deillio o brofiadau o drawma a/neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Er y bydd rhai o'r plant a'r bobl ifanc hyn yn cael diagnosis iechyd meddwl, ni fydd eraill, ac efallai na fyddant yn cael ymyriadau clinigol drwy Wasanaethau Iechyd Plant a Phobl Ifanc (CAMHS).

Y plant a'r bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal hyn, sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl neu sy'n aros am un, y mae angen ymyriadau therapiwtig arnynt oherwydd eu hanghenion a'u profiadau, yw grŵp targed y canllawiau hyn. 

Beth rydym yn ei olygu wrth cymorth therapiwtig?

Yn y cyd-destun hwn, mae cymorth therapiwtig yn golygu cymorth sy'n cael effaith gadarnhaol ar lesiant emosiynol, gwydnwch ac ymddygiad plentyn neu berson ifanc. Caiff ei ddarparu ar ffurf cymorth llesiant neu iechyd meddwl sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan oedolion profiadol, cymwysedig a gofalgar y gellir ymddiried ynddynt mewn tîm amlddisgyblaethol.

Dylid darparu'r cymorth therapiwtig hwn yng nghyd-destun haen sylfaenol o ymyriadau therapiwtig wedi'u targedu at oedolion o amgylch y plentyn neu'r person ifanc er mwyn sicrhau diogelwch corfforol ac emosiynol. Mae hyn yn golygu bod modd meithrin cydberthnasau ac, o bosibl, cymryd rhan ystyrlon mewn gwaith therapiwtig a chyfleoedd bywyd beunyddiol.[troednodyn 1]

Diben

Mae'r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar ddwy elfen allweddol sy'n cynnwys model gofal cynorthwyo teuluoedd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, sef cymorth therapiwtig i blant â phrofiad o fod mewn gofal.

Dylai elfennau'r model cenedlaethol lywio'r broses o ddylunio gwasanaethau a phrosiectau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Bydd y gwasanaethau/prosiectau yn cynnig dull cyfannol o ddarparu cymorth therapiwtig ar gyfer eu hanghenion emosiynol, ymddygiadol, iechyd meddwl a llesiant.

Mae'r canllawiau yn canolbwyntio ar wasanaeth cymorth i blant â phrofiad o fod mewn gofal yn hytrach na gwasanaethau preswyl, ond gellid defnyddio egwyddorion y canllawiau hyn mewn lleoliad preswyl therapiwtig.

Bydd gwasanaethau sy'n rhan o'r model yn adeiladu ar y ddarpariaeth sy'n bodoli eisoes yng Nghymru, er mwyn cynnig cymorth teg a pharhaus ledled y wlad.

Anghenion y boblogaeth a meini prawf cynhwysiant

Nododd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant nifer o grwpiau poblogaeth y byddai eu hanghenion yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gwasanaeth integredig ledled Cymru. 

Mae'r canllawiau hyn yn diwallu anghenion un o'r grwpiau hynny: plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth.[troednodyn 2]

Mae astudiaethau yn dangos bod gan gyfran uwch o blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal anghenion cymhleth.

Yn benodol, mae'r canllawiau hyn yn cynnwys darpariaeth i blant a phobl ifanc:

  • â phrofiad o fod mewn gofal
  • y mae ganddynt anghenion iechyd meddwl a llesiant cymhleth, gan gynnwys y rheini sy'n deillio o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu drawma (gan gynnwys trawma cymhleth)
  • sydd o dan ofal awdurdod lleol yng Nghymru

Gall y grŵp poblogaeth hwn hefyd:

Ar ffiniau gofal

Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar ddarparu cymorth therapiwtig i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael eu mabwysiadu. Felly, bydd gwasanaethau sy'n rhoi'r canllawiau hyn ar waith yn canolbwyntio ar eu darpariaeth i'r garfan hon. Fodd bynnag, dylai fod lle o fewn y model gwasanaeth i alluogi gwasanaethau i weithio'n hyblyg gyda theuluoedd sydd ar ffiniau gofal os byddan nhw a'r gwasanaethau plant o'r farn y gallai eu harbenigedd wneud gwahaniaeth.

Oedran

Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r angen i wasanaethau gynnig darpariaeth hyblyg yn ôl angen yn hytrach nag oedran, gan alluogi amrywiadau lleol yn dibynnu ar systemau eraill sy'n darparu cymorth yn ystod cwrs bywyd. Er nad yw'r canllawiau yn ymdrin â gweithio gyda babanod, nid ydym yn dymuno diystyru'r posibilrwydd y bydd gwasanaethau sy'n dilyn y canllawiau yn cynnwys babanod yn eu gwaith os bydd hynny'n ymarferol yn lleol.  Nid ydym wedi cymhwyso terfyn oedran uchaf, ond rydym yn disgwyl y bydd gwasanaethau yn gweithio gyda phobl ifanc hyd at 25 oed os bydd eu hanghenion unigol yn gofyn am hynny.

Cwmpas

Dull gweithredu a gwerthoedd

Bydd gwasanaethau sy'n rhan o'r model yn ymgorffori'r canlynol:

  • Llais y plentyn wrth ddylunio a darparu'r gwasanaeth.
  • Dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar hawliau plant, gan ganolbwyntio ar gryfderau.
  • Cymorth yn y gymuned.
  • Dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma, fel y nodir yn fframwaith Cymru sy'n ystyriol o drawma; deall ymddygiadau yng nghyd-destun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chyd-destun datblygiad plant normadol.[troednodyn 4]
  • Tîm o staff amlasiantaethol â dull partneriaeth – gan gynnwys CAMHS, gwasanaethau plant, cyfiawnder ieuenctid, addysg a, lle y bo'n berthnasol, y trydydd sector fel partneriaid cyflawni hanfodol.
  • Gwaith cyfannol gyda'r system o amgylch y plentyn neu'r person ifanc er mwyn sicrhau ‘nyth’ fagwrus, grymusol, dibynadwy a diogel. Dylai hyn gynnwys nodi a chydweithio gydag oedolion y plentyn neu'r person ifanc y gellir ymddiried ynddynt, fel gweithwyr ieuenctid neu weithwyr chwarae, staff addysg, hyfforddwyr chwaraeon, staff preswyl, gofalwyr maeth, gwarcheidwaid arbennig, rhieni mabwysiadol, gweithwyr cyfiawnder cymdeithasol, eiriolwyr, ac ati, er mwyn sicrhau y deellir penderfynyddion ehangach iechyd meddwl a llesiant.[troednodyn 5]
  • Cynllunio a darparu gwasanaethau yn seiliedig ar fframwaith NYTH.
  • Defnyddio dull model cymdeithasol o anabledd wrth ddatblygu diwylliant o gynhwysiant a grymuso.

Nodau ac amcanion

  • Darparu ymateb iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector ac addysgol integredig i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol.
  • Sicrhau gweithlu amlddisgyblaethol medrus, a werthfawrogir, drwy hyfforddiant arbenigol a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Gwell sgiliau emosiynol a pherthynol plant a phobl ifanc a gwella eu hyder a'u gwydnwch.
  • Lleihau'r angen i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a'u teuluoedd ailadrodd ei stori.
  • Gweithio mewn modd hyblyg gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal (a lle y bo'n berthnasol, eu teuluoedd biolegol a/neu ofalwyr) ar sail hirdymor.
  • Darparu cymorth priodol ac amserol mewn argyfwng er mwyn atal anghenion a/neu risgiau rhag dwysáu.
  • Lleihau nifer yr achosion lle mae ymddygiadau plant â phrofiad o fod mewn gofal yn niweidiol i'w hiechyd  eu hunain neu i iechyd eraill a gostwng lefelau risg yn unol â hynny.
  • Darparu cymorth pontio o leoliadau y tu allan i'r sir i leoliadau mewn cymunedau lleol mewn cyd-destunau teuluol.
  • Gwella iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal drwy gymorth therapiwtig, llesiant ac ymarferol.
  • Cynnal asesiadau cyfannol a chynhwysfawr wedi'u llywio gan therapi, lle y bo'n bosibl ar y cyd â CAMHS, gwasanaethau seicoleg addysgol, addysg a'r gwasanaethau plant (lle mae'r asiantaethau hynny hefyd yn gweithio gyda'r plentyn neu'r person ifanc) neu fel arall, wedi'u rhannu â nhw (yn ddibynnol ar gydsyniad y plentyn), er mwyn atal plant a phobl ifanc rhag gorfod ailadrodd eu stori ac osgoi achosion o ddyblygu ymdrech. Dylid rhannu'r asesiadau hyn hefyd â'r llysoedd ar gais gwasanaethau plant (a gyda chydsyniad y plentyn) er mwyn llywio achosion cyfreithiol mewn perthynas â chymorth plant a phobl ifanc.
  • Defnyddio amrywiaeth o ymyriadau iechyd meddwl a llesiant therapiwtig sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn briodol i gam datblygiad yr unigolyn, gan gynnwys gwaith stori bywyd.
  • Addasu ymyriadau i ddiwallu anghenion pobl ifanc niwrowahanol a'r rhai ag anhwylder sbectrwm alcohol y ffetws.
  • Sicrhau bod prosesau sicrwydd a llywodraethu amlsector ar waith i oruchwylio'r ddarpariaeth sy'n gwbl ymrwymedig i ethos a gwerthoedd y canllawiau hyn.

Disgrifiad o'r elfennau

Mae disgrifiad o'r elfennau yn:

  • cynnig opsiynau gwahanol ar gyfer cymorth therapiwtig a'u trafod â phlant a phobl ifanc er mwyn iddynt allu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth a chyd-lunio cynlluniau triniaeth
  • mae'r gwasanaethau plant yn sicrhau bod angen y plentyn am gymorth therapi, a'r camau gweithredu a'r cymorth dilynol i ddiwallu'r angen hwnnw, yn cael eu nodi yng Nghynllun Gofal a Chymorth y plentyn o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac maent yn adolygu'r cynllun yn rheolaidd er mwyn monitro cynnydd a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r cynllun
  • sicrhau tîm cyson o staff, a chyfraddau cadw staff da, drwy gynnig pecynnau llesiant a chymorth staff cadarn, diwylliant gweithio cefnogol a chyfraddau cyflog cystadleuol
  • rhoddir gwybod i'r oedolion sy'n gofalu am y plentyn ac sy'n gweithio'n agos gydag ef (gan gynnwys gofalwyr maeth, gwarcheidwaid arbennig, rheini mabwysiadol, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth teulu, athrawon, ac ati) am y cymorth therapiwtig, yn ogystal â gwybodaeth a hyfforddiant am yr ymyriad a sut i ymateb mewn ffordd therapiwtig i'r plentyn er mwyn sicrhau ei fod yn cael cymorth ar wahân
  • dylai prosesau rhannu data priodol fod ar waith a, lle y bo'n bosibl, dylai'r systemau rheoli achosion fod yn gydnaws ar draws pob sector
  • protocolau ar y cyd i ddod â'r sector gofal cymdeithasol, iechyd, addysg a gwirfoddol ynghyd i ofalu am blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal; gan gynnwys rhannu asesiadau (gyda chydsyniad y plentyn) i osgoi achosion o ddyblygu a'r angen i blant ailadrodd eu stori
  • sicrhau bod y cymorth a gynigir yn hyblyg ac yn ymateb i anghenion yr unigolyn wrth iddynt ddod i'r amlwg; gall hyn gynnwys peidio â chau achosion a gweithio ar sail hirdymor drwy gydol plentyndod a/neu lencyndod yr unigolyn, yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid sylweddol neu gyfnodau pontio
  • lle y bo'n bosibl, darperir gwasanaethau yn newis iaith y person ifanc a gwneir ‘cynnig rhagweithiol’ o wasanaethau Cymraeg
  • dylid rhoi blaenoriaeth i ansawdd y gwasanaeth a chadw at y canllawiau dros nifer y plant a gefnogir
  • pan fydd person ifanc yn pontio rhwng gwasanaethau (er enghraifft pan fydd lleoliad lleoliadau preswyl yn newid) neu pan fydd newidiadau o ran staff, caiff y newid ei reoli'n sensitif, a bydd y person ifanc yn cadw mewn cysylltiad â'r oedolion y gellir ymddiried ynddynt cyn hired ag y bydd hynny o fudd iddo
  • cymorth y tu allan i oriau ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd (teuluoedd biolegol, gofalwyr maeth, gofalwyr sy'n berthnasau, gofalwyr sy'n warcheidwaid arbennig, teuluoedd mabwysiadol a gweithwyr preswyl)
  • darperir gwasanaethau mewn amgylcheddau galluogol a niwrogadarnhaol sy'n ystyriol o drawma
  • cymorth pontio (i fywyd oedolyn), gyda'r cymorth yn parhau nes y bydd y person ifanc yn barod i adael

Rheoli galw

Oherwydd galw a phwysau ar y system, cydnabyddir ei bod yn debygol bod gan wasanaethau sy'n gweithredu o dan y canllawiau hyn restrau aros am gymorth. Yn yr achosion hyn: 

  • Dylid rhoi blaenoriaeth i ddarparu cymorth i'r rhai â'r anghenion mwyaf cymhleth a'r ymddygiadau sy'n peri'r risg fwyaf.
  • Tra bydd plant a phobl ifanc yn aros am gymorth, dylid cynnal ymgynghoriad cychwynnol i feithrin ymdeimlad o anghenion y plentyn a phwy yn y system sydd yn y sefyllfa orau i ddiwallu'r anghenion hyn. Drwy wneud hyn, gellir darparu cymorth ystyrlon ac wedi'u gynllunio tra byddant ar y rhestr aros. 

Y gweithlu

Dylid nodi'r canlynol, os ystyrir ehangu'r gweithlu, ochr yn ochr â'r canllawiau hyn: 

  • Dylid recriwtio'r gweithlu o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gwaith ieuenctid, gwaith chwarae, gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Dylid defnyddio dulliau recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd, ochr yn ochr â dull hyfforddi ar y cyd fel y nodir yn y canllawiau hyn, i sicrhau amrywiaeth ac arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Dylai hyn hefyd sicrhau na chaiff sgiliau hollbwysig eu colli mewn meysydd sydd eisoes yn gyfyngedig fel iechyd a gofal cymdeithasol.

Canlyniadau a mesurau perfformiad

Strategaethau a chomisiynu rhanbarthol ddylai bennu canlyniadau a mesurau perfformiad. Fodd bynnag, gallai comisiynwyr a gwasanaethau fod yn awyddus i ystyried y mesurau canlynol.

Mae canlyniadau a mesurau perfformiad y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol y gellir eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau therapiwtig yn cynnwys:

Canlyniad:

  • mae cymorth therapiwtig yn gwella llesiant plant â phrofiad o fod mewn gofal
  • caiff anghenion llesiant pobl eu gwella drwy gael datrysiadau cydgysylltiedig yn y gymuned
  • mae cymorth therapiwtig yn gwella llesiant plant â phrofiad o fod mewn gofal
  • mae datrysiadau atal ac ymyrryd yn gynnar yn helpu pobl i osgoi sefyllfaoedd lle mae eu hanghenion yn dwysáu ac osgoi ymyriadau mewn argyfwng  

Mae canlyniadau eraill a awgrymir yn cynnwys: 

  • cymorth therapiwtig y dangoswyd ei fod yn gwella gwydnwch plant â phrofiad o fod mewn gofal
  • llai o ymddygiadau sy'n peri risg, pryderon am iechyd meddwl a llesiant ac achosion o hunan-niwedio ymhlith plant â phrofiad o fod mewn gofal
  • mwy o blant mewn lleoliadau sefydlog sy'n addas i'w hanghenion
  • mwy o blant yn aros gyda'u teuluoedd biolegol neu'n aros gyda nhw lle bo hynny'n ddiogel
  • mwy o blant yn cael cymorth ymarferol neu lesiant yn unol â rôl rhianta corfforaethol sy'n eu helpu i deimlo'n ddigon diogel i gael cymorth therapiwtig yn effeithiol
  • mwy o gydlyniant ym mhob rhan o'r system cymorth o amgylch y plentyn neu berson ifanc
  • caiff canlyniadau'r cynllun gofal a chymorth eu hadolygu'n rheolaidd drwy gyfarfodydd adolygu'r plentyn sy'n derbyn gofal

Mesurau perfformiad:

  • nifer a chanran y plant a phobl ifanc sy'n teimlo bod ganddynt gydberthynas dda ag oedolyn y gellir ymddiried ynddo
  • nifer a chanran y bobl sy'n dweud bod eu hiechyd a'u llesiant emosiynol wedi gwella
  • profiad o gymorth therapiwtig a ddarperir yn unol â fframwaith NYTH
  • nifer a chanran y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu nodi a chysylltu â gwasanaethau addas (ar yr adeg gywir) i gael help a chymorth gyda'u hanghenion emosiynol ac iechyd meddwl

Dangosyddion a mesurau perfformiad eraill a awgrymir:

  • nifer yr atgyfeiriadau a'r cyfnod cyfartalog ar restr aros am gymorth
  • graddau ac asesiadau aeddfedrwydd adnodd hunanasesu NYTH
  • llai o blant yn cael eu huwchgyfeirio at unedau diogel
  • llai o geisiadau am orchmynion amddifadu o ryddid mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth
  • nifer y gweithwyr proffesiynol sy'n cael hyfforddiant ar ddatblygiad yr ymennydd, cydberthnasau, effaith trawma a dulliau gweithredu sy'n ystyriol o drawma
  • y defnydd o adnodd mesur canlyniadau unigol safonol
  • nifer yr ymgyngoriadau proffesiynol a gynhaliwyd (yn rhoi cyngor i weithwyr cymdeithasol, athrawon, staff preswyl, gofalwyr maeth ac ati)
  • adborth boddhaol gan y plentyn neu'r person ifanc a system gymorth y plentyn neu'r person ifanc hwnnw, fel gofalwyr maeth, rhieni ac oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt

Dylai gwasanaethau nodi straeon, adborth a phrofiadau pant, pobl ifanc a theuluoedd o'u gwasanaeth yn y ffordd fwyaf addas ar gyfer y plentyn, y person ifanc neu'r teulu.

Dylid deall pob canlyniad a mesur perfformiad yng nghyd-destun blaenoriaethu ansawdd y gwasanaeth a chadw at y model gwasanaeth dros nifer y plant a gefnogir.

Dylid ystyried mesurau perfformiad hirdymor a chydnabod y gall canlyniadau unigol amrywio o ganlyniad i brofiadau niweidiol a thrawma.

Safonau ansawdd

Caiff datganiadau o'r hyn sy'n bwysig eu datblygu gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a'u cyhoeddi ochr yn ochr â'r canllawiau hyn. Byddant yn cynnig canllaw i'r canlyniadau y mae pobl ifanc am i wasanaethau therapiwtig eu cyflawni.

Atodiad

Perthynas â rhaglenni eraill a dylanwadau, gan gynnwys:

Iechyd meddwl amenedigol, cydberthnasau rhwng rhieni a babanod a'r 1,000 o ddiwrnodau cyntaf

Bu cryn ddadlau ynglŷn â chynnwys gwaith therapiwtig gyda babanod yn y canllawiau.  Mae'n hanfodol bod gwaith i hyrwyddo cydberthnasau rhwng rhieni a babanod yn ystod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf a thu hwnt yn cael ei wneud gyda theuluoedd y mae angen y gwaith hwnnw arnynt. Er bod safbwyntiau gwahanol wedi'u mynegi ynghylch a ddylid cynnwys y gwaith hwn yn y canllawiau hyn, rydym wedi dod i'r casgliad na ddylid ei gynnwys am y rhesymau canlynol: 

  • mae angen hyfforddiant, setiau sgiliau ac arbenigedd gwahanol er mwyn gweithio gyda rhieni babanod a phlant yn y blynyddoedd cynnar o gymharu â'r hyn sydd ei hangen er mwyn gweithio gyda phlant a phobl ifanc
  • mae'r grŵp o randdeiliaid yn wahanol iawn wrth weithio gyda babanod a phlant yn y blynyddoedd cynnar o gymharu â'r grŵp o randdeiliaid wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc
  • gall cwmpas y gwaith fod yn rhy eang i'w gyflawni

Fodd bynnag, nid ydym yn dymuno diystyru'r posibilrwydd y bydd gwasanaethau sy'n dilyn y canllawiau yn cynnwys babanod yn eu gwaith os bydd hynny'n ymarferol yn lleol. Nid ydym chwaith wedi pennu terfyn oedran uchaf ac isaf ar gyfer y gwasanaethau, gan ffafrio, yn lle hynny, amrywiadau lleol yn dibynnu ar systemau eraill sy'n darparu cymorth yn ystod cwrs bywyd.

Cydnabyddir bod cymorth amenedigol a chymorth iechyd meddwl i rieni a babanod yn ystod y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf yn hollbwysig er mwyn rheoli a lliniaru trawma. Fodd bynnag, caiff y math hwn o gymorth ei archwilio ar wahân drwy gynlluniau cyflawni'r Ddeddf Iechyd Meddwl a Llesiant ac mewn mannau eraill ac, felly, ni fanylir arno yn y canllawiau hyn. Gellid disgwyl y byddai gwasanaethau'n cydweithio'n agos i reoli'r cyfnodau pontio allweddol hyn. 

Atal ac ymyrryd yn gynnar

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod cymorth yn ymwneud ag atal ac ymyrryd yn gynnar yn cael ei gynnig i deuluoedd y mae angen y cymorth hwnnw arnynt. Mae nifer o feysydd polisi a chronfeydd yn ymdrin â hyn. Bydd gwasanaethau sy'n rhoi'r canllawiau hyn ar waith yn cefnogi'r rhai ag anghenion mwy difrifol a chymhleth. Serch hynny, mae'n bwysig eu bod yn meithrin cydberthnasau gwaith da â gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar er mwyn sicrhau ei bod yn hawdd cael gafael ar eu harbenigedd i atal anghenion rhag dwysáu.

Addysg

Mae'n hollbwysig bod lleoliadau addysg yn rhan o'r ‘nyth’ gefnogol o amgylch plentyn neu berson ifanc. Mae gwaith yn mynd rhagddo i addysgu ysgolion a lleoliadau addysg eraill i weithio mewn ffyrdd sy'n ystyriol o drawma. Mae'r dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yn helpu ysgolion i wella eu dealltwriaeth a'u camau gweithredu mewn perthynas â llesiant ar gyfer pob dysgwr ac aelod o staff. Bydd lleoliadau addysg yn bartneriaid allweddol yn y cymorth cyfannol a gynigir a dylai gwasanaethau sy'n dilyn y canllawiau hyn sicrhau cysylltiadau agos lle bynnag y bo'n bosibl. 

Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) 

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i alluogi dull gweithredu amlasiantaethol sy'n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael gafael ar wasanaethau therapiwtig carlam, penodol ac arbenigol os ydynt wedi cael profiad o gam-drin neu drais, ar draws gwasanaethau iechyd, addysg, awdurdod lleol a'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass Cymru).

Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Mae canllawiau'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn nodi cyfres o ‘ddulliau galluogi allweddol’ y disgwylir i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol eu defnyddio i ddatblygu'r chwe Model Gofal. Y themâu yw:

  • cynllunio a chomisiynu integredig
  • technoleg a datrysiadau digidol
  • hyrwyddo'r sector gwerth cymdeithasol
  • hybiau cymunedol integredig
  • datblygu ac integreiddio'r gweithlu

Yng nghyd-destun y canllawiau hyn, bydd y dulliau galluogi yn cyfrannu at ganlyniadau'r 2 fodel gofal lefel uchel, sef:

  • caiff gwasanaethau o fewn y model eu hintegreiddio ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, addysg a'r trydydd sector
  • mae gwasanaethau'n darparu dull cydlynol, cydgysylltiedig a chydweithredol gan ddefnyddio fframwaith NYTH i ddarparu cymorth therapiwtig

Cyd-ddylunio ac ymgysylltu

Datblygwyd y canllawiau hyn drwy:

  • ystyried adborth a phrofiadau a rannwyd gan blant a phobl ifanc
  • dadansoddi adroddiadau cynnydd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan brosiectau/rhaglenni sy'n gyson â Model Gofal Cynorthwyo Teuluoedd; nod y canllawiau hyn yw adeiladu ar lwyddiannau ac elfennau allweddol y prosiectau a'r rhaglenni hynny
  • trafod ac ymgysylltu â Chymuned Ymarfer Cynorthwyo Teuluoedd a NYTH sy'n cynnwys ymarferwyr a rheolwyr gwasanaeth o:
  • ymgysylltu â gwasanaethau sydd eisoes yn darparu cymorth i fabanod, plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ac academyddion sy'n gweithio yn y maes hwn
  • ymgysylltu â chydweithwyr mewn meysydd polisi cysylltiedig yn Llywodraeth Cymru
  • ymgysylltu â gofalwyr maeth a rhieni mabwysiadol

Materion a nodwyd wrth ymgysylltu

Nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru yw'r rhain; yn hytrach, maent yn mynegi profiadau bywyd a phrofiadau proffesiynol.

Nododd plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal:

  • nad ydynt am aros am ddiagnosis er mwyn cael help:  ni ddylai cymorth ddibynnu ar ddiagnosis
  • eu bod am gael therapi cynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chymorth llesiant sy'n seiliedig ar gryfderau
  • bod angen oedolion tosturiol, cariadus a charedig arnynt y gallant ymddiried ynddynt
  • bod angen i wasanaethau gydnabod emosiynau ac ymatebion i drawma o fewn ymddygiad
  • bod angen i wasanaethau gydnabod trawma a chanlyniadau trawma ac ymateb iddynt
  • bod angen nodi niwroamrywiaeth yn gynnar a'i deall
  • awydd i leihau sawl gwaith y mae angen iddynt adrodd eu stori

Nododd gofalwyr maeth a rhieni mabwysiadol:

  • bod angen i staff gwasanaethau gael eu hyfforddi'n dda o ganlyniad i natur agored i niwed plant
  • bod angen i staff fod yn ystyriol o drawma a chydberthnasau
  • eu bod am gael ymyriadau cynnar i atal anghenion rhag dwysáu
  • bod angen cymorth arbenigol i ddeall gwahaniaethau rhwng trawma a niwroamrywiaeth
  • bod angen i staff addysg gael hyfforddiant sy'n ystyriol o drawma a deall rhwystrau ychwanegol plant sy'n derbyn gofal i ddysgu
  • bod angen i wasanaethau gydweithio i gefnogi teuluoedd pan fyddant yn cael cymorth amlasiantaethol
  • eu bod am leihau sawl gwaith y mae angen iddynt adrodd stori eu plentyn ac nad ydynt am orfod gwneud hynny o flaen y plentyn

Nododd gwasanaethau/gweithwyr proffesiynol:

  • rwystredigaeth oherwydd diffyg hyblygrwydd o fewn y prosiect/cwmpas a gomisiynwyd
  • bod angen gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar sail hirdymor
  • bod angen protocolau rhannu data a chydweithio effeithiol rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • bod angen asesiadau iechyd meddwl a llesiant integredig rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • bod angen cyllid hirdymor i sicrhau cynaliadwyedd

Nododd academyddion/ymchwilwyr:

  • nad yw cymorth therapiwtig yn cael ei ddarparu yn unol â chanllawiau NICE
  • diffyg comisiynu ar sail tystiolaeth ar gyfer ymyriadau therapiwtig sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • na ddylai fod yn rhaid bod mewn lleoliad sefydlog er mwyn cael ymyriadau therapiwtig; yn lle hynny, dylai ymyriadau fod yn hyblyg a galluogi'r plentyn neu'r person ifanc i ymgysylltu pan fydd hynny'n iawn iddo
  • rhwystredigaeth oherwydd diffyg cymorth arbenigol ar gyfer mathau penodol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel cam-drin rhywiol a thrais rhywiol
  • achosion o gamddiagnosis ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal

Troednodiadau

[1] Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:

  • fformiwleiddiad seicolegol amlasiantaethol
  • ymarfer myfyriol ar gyfer staff preswyl i'w galluogi i gefnogi'r person ifanc
  • ymyriadau therapiwtig uniongyrchol i rieni/gofalwyr

[2] Yn dilyn newidiadau a wnaed i'r canllawiau statudol mewn perthynas â rhan 9 o'r ddeddf, mae'r diffiniad o blant ag anghenion cymhleth bellach yn cynnwys: 

  • plant ag anableddau a/neu salwch
  • plant â phrofiad o fod mewn gofal/sy'n derbyn gofal
  • plant y mae angen gofal a chymorth arnynt
  • plant sy'n wynebu risg o ddod yn blant sy'n derbyn gofal
  • plant ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol

[3] Mae'r troednodyn hwn yn cynnwys 2 gyfeirnod:

[4] Trauma-Informed Wales (traumaframeworkcymru.com), mae'r fframwaith hwn yn nodi egwyddorion ymarfer a lefelau ymarfer ar gyfer ymarfer sy'n ystyriol o drawma. Hyb ACE Cymru yn cynnwys nifer o adnoddau i helpu i feithrin dealltwriaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gellir ystyried ymddygiad plant o safbwynt sy'n canolbwyntio ar broblemau, pan fydd yr hyn y maent yn ei wynebu yn gwbl gyson â'u cam datblygiad, neu pan fydd trawma yn tarfu ar ddatblygiad. 

[5] Mae'r troednodyn hwn yn cynnwys 2 gyfeirnod:

[6] Mae cymunedau ymarfer y Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydlwyd yn 2022, yn dwyn ynghyd grwpiau o ymarferwyr ar draws sectorau i hyrwyddo trafodaethau cynhyrchiol ac annog datrysiadau cydweithredol i oresgyn heriau cyffredin. Maent hefyd yn chwarae rôl bwysig o ran cyfrannu at y gwaith o ddatblygu 6 model gofal iechyd a gofal cymdeithasol integredig, a nodir yng nghanllawiau refeniw y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, a'u rhoi ar waith.