Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am i fwy o blant gael cymorth i aros gyda'u teuluoedd ac i lai o blant a phobl ifanc fynd i mewn i'r system ofal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ein gweledigaeth

Mae ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru yn glir - rydym am i fwy o blant gael cymorth i aros gyda'u teuluoedd ac i lai o blant a phobl ifanc fynd i mewn i'r system ofal. Rydym am sicrhau bod pobl ifanc yn aros mewn gofal am gyn lleied o amser â phosibl, yn unol ag anghenion y person ifanc.

Tra bo plant mewn gofal, rydym am iddynt aros yn agos at eu cartrefi fel y gallant barhau i fod yn rhan o'u cymuned - rhwydwaith y plentyn.

Rhaglen Lywodraethu

Mae ein Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys 8 ymrwymiad sy'n darparu'r fframwaith i drawsnewid gwasanaethau plant:

  • ymchwilio i’r posibiliadau o ran gwneud diwygiadau radical i wasanaethau presennol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant a phobl ifanc sy'n gadael gofal
  • dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal yn ystod tymor nesaf y Senedd
  • ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mor agos at eu cartrefi â phosibl ac yng Nghymru lle bynnag y bo hynny’n ymarferol. Cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel 'rhiant corfforaethol’
  • cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel 'rhiant corfforaethol’
  • atal teuluoedd rhag chwalu drwy ariannu gwasanaethau eirioli i rieni y mae eu plant mewn perygl o ddod i mewn i'r system ofal
  • darparu cymorth arbenigol ychwanegol i blant ag anghenion cymhleth a allai fod ar ffiniau'r system ofal
  • parhau i gefnogi a chynnal hawliau plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches
  • cefnogi ein cynllun cenedlaethol Maethu Cymru

Bydd gwneud i'r ymrwymiadau hyn ddigwydd yn:

  • sicrhau newid ar draws y system gyfan yng Nghymru
  • cyd-fynd â nodau ac amcanion ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc

Bydd yr ymrwymiadau hyn a'r cynllun yn cael eu gweithredu yn ystod tymor cyfan y Senedd hon.

Ein map o'r ffordd

I gefnogi ein rhaglen waith trawsnewid mae gennym gyllideb o tua £70 miliwn rhwng 2022 a 2025. Rydym yn defnyddio'r arian hwn i weithio ar y cynlluniau canlynol.

Gorffennaf 2022

Rhagfyr 2022

  • Uwchgynhadledd Profiad o Ofal.
  • Dadansoddiad o argymhellion yr Adolygiad o Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.

Ebrill 2023

  • Grŵp Arbenigol ar Warcheidiaeth Arbennig wedi'i sefydlu.
  • Cychwyn y broses o gyflwyno gwasanaeth eirioli cenedlaethol ar gyfer rhieni.

Mehefin 2023

  • Cyhoeddi Datganiad Uwchgynhadledd Profiad o Ofal.
  • Siarter Rhianta Corfforaethol wedi'i chyhoeddi, ac mae'r gwaith o gofrestru trawstoriad yn dechrau.

Medi 2023

Rhagfyr 2023

  • Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol newydd.
  • Digwyddiad Dysgu ar y Cyd – modelau o ysgolion rhithwir llwyddiannus.

Ebrill 2024

  • Cysoni ffioedd a lwfansau ar gyfer gofalwyr maeth.
  • Canllawiau Statudol Rhianta Corfforaethol sydd wedi eu cryfhau.
  • Ystyried cyflwyno Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn genedlaethol.

Ebrill 2026

  • Dileu elw: bydd yn ofynnol i newydd-ddyfodiaid i'r farchnad fod yn sefydliadau dielw.

Llywodraethu

Bwrdd Trosolwg Gweinidogol sy'n rheoli'r rhaglen drawsnewid. Cyfarfu'r Bwrdd am y tro cyntaf ym mis Mai 2023. Mae'r Bwrdd yn cael ei gadeirio ar y cyd gan y Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae Grŵp Cyflawni Trawsnewid yn cynnwys cynrychiolwyr o bob sector sydd â diddordeb mewn gwasanaethau plant, gan gynnwys pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.