Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer cysylltu â band eang cyflymach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein Strategaeth Ddigidol i Gymru yn amlinellu sut y byddwn yn parhau i ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael inni i gefnogi busnesau, cartrefi a'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gael y cysylltiadau sydd ei angen arnynt.

Cyn ystyried y cymorth sydd ar gael ar gyfer cael band eang cyflymach, darllenwch am yr atebion technoleg a allai fod ar gael ichi, gan gynnwys sut i wirio a yw band eang cyflymach eisoes ar gael ichi.

Prosiect Gigabit

Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw polisi cysylltedd digidol a thelathrebu. Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflawni cwmpas gigabit ledled y wlad ac mae'n disgwyl i 99% o adeiladau gael mynediad at gysylltiad gigabit erbyn 2032. Maent yn cyflawni yng Nghymru drwy raglen Prosiect Gigabit, eu rhaglen i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i leoedd anodd eu cyrraedd ledled y DU. Mae Prosiect Gigabit yn targedu cartrefi a busnesau nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yng nghynlluniau cyflenwyr band eang, gan gyrraedd rhannau o'r DU a allai fel arall fethu cael y cysylltiad digidol sydd ei angen arnyn nhw.

Ewch i wefan Llywodraeth y DU am fwy o wybodaeth am Brosiect Gigabit.

Awdurdod lleol swyddogion band eang

Mae gan rai awdurdodau lleol swyddogion band eang a all eich helpu gyda'ch cwestiynau band eang. Mae cynlluniau cyflwyno band eang eu hunain gan awdurdodau lleol hefyd. Gwnaethom ddatblygu Cronfa Band Eang Lleol wedi'i hanelu at awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i'w helpu i gyflawni'r cynlluniau hyn.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i weld a ydych wedi’ch cynnwys mewn cynlluniau band eang lleol.

Atebion ar gyfer cymunedau

Os yw eich eiddo'n agos at gartrefi a busnesau eraill sydd angen cyflymderau band eang uwch, gallech ddod at eich gilydd i ddod o hyd i ateb cymunedol. Gall “agos” fod yn gymharol mewn cymuned wledig ond efallai mai uno ag eraill yw'r opsiwn gorau o hyd i gael cyflymderau uwch. Yn y lle cyntaf, byddem yn argymell eich bod yn siarad â'ch cymdogion i ddarganfod y galw, magu diddordeb a gweld pwy arall yn eich cymuned a all helpu.

Dylech edrych ar y gwahanol opsiynau technoleg ar gyfer cael band eang cyflymach i ddod o hyd i’r opsiwn gorau ar gyfer eich cymuned. Gallwch hefyd gael ysbrydoliaeth gan atebion band eang cymunedau go iawn.

Efallai y bydd cymorth ar gael gan Lywodraeth y DU i gysylltu cymunedau gwledig â band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit.

Dysgwch fwy am Gynllun Talebau Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU.

Cyllid ar gyfer eiddo unigol

Os nad ydych yn rhan o gymuned sydd angen band eang cyflymach, mae opsiynau ar gael ar gyfer eiddo unigol. You should look at the different technology options for getting faster broadband to find out the best option for you.

Os na allwch gael cyflymder lawrlwytho o 10Mpbs, mae'n bosibl y bydd eich eiddo yn gymwys ar gyfer Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Llywodraeth y DU ar gyfer band eang. Mae'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol wedi'i chynllunio i roi'r hawl gyfreithiol i aelwydydd a busnesau i ofyn am gysylltiad band eang fforddiadwy da. Ofcom sy'n gyfrifol am weithredu'r USO gyda'r gwaith o'i gyflawni gan BT.

Dysgwch fwy am y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol ar wefan Ofcom

Mae rhagor o wybodaeth am yr USO, gan gynnwys teclyn gwirio  cymhwysedd, hefyd ar gael ar wefan BT neu drwy ffonio 0800 783 0223.

Mae ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru hefyd yn cefnogi’r gwaith o gynnig atebion i gartrefi a busnesau drwy ddarparu grantiau i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd. Ar hyn o bryd mae'r cynllun wedi'i oedi i bob cais newydd.