Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pa atebion sydd ar gael ar gyfer cael Band Eang Cyflymach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym am sicrhau bod cartrefi a busnesau yng Nghymru yn gallu cael mynediad at gysylltedd digidol cyflym a dibynadwy. I gael gwybod rhagor am yr hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru i gyflawni hyn darllenwch ein Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Mae gan y rhan fwyaf o gartrefi a busnesau ledled Cymru fynediad at gysylltedd digidol o ansawdd da. Rydym wedi buddsoddi arian cyhoeddus sylweddol i helpu i gyflawni hyn drwy gyflwyno technoleg band eang ffibr. 

Cyn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer cael band eang cyflymach, ewch i Wiriwr argaeledd band eang Ofcom i weld a oes gennych fynediad at wasanaeth band eang cyflym eisoes. Gallwch hefyd edrych ar wybodaeth a chanllawiau Think Broadband, sy'n cynnwys gwiriwr argaeledd band eang a mapiau argaeledd.

Os oes band eang ffibr ar gael, mae angen i chi uwchraddio i gael cyflymder cyflymach. Ni fydd eich band eang presennol yn newid oni bai eich bod yn uwchraddio. Darganfyddwch sut i archebu gwasanaeth band eang ffeibr.

Mae sawl cyflenwr sy'n cynnig rhwydweithiau band eang yng Nghymru. Gwiriwch yn uniongyrchol gyda darparwyr band eang neu defnyddiwch wefannau cymharu prisiau.

Os nad oes band eang cyflym ar gael yn eich eiddo, mae opsiynau eraill er mwyn cael y cyflymderau band eang sydd eu hangen arnoch.

Atebion technoleg band eang

Nid ffeibr yw'r unig ateb ar gyfer band eang cyflymach. Mae technolegau newydd yn cael eu datblygu i gysylltu cartrefi a busnesau. Os na allwch gael gwasanaeth band eang cyflym ar hyn o bryd, dylech ystyried yr holl atebion sydd ar gael, mae'r rhain yn cynnwys: 

Cysylltiad lloeren

Mae lloeren yn trosglwyddo data i ddysgl ac o ddysgl sydd ynghlwm wrth eich eiddo i ddod â band eang i chi. Mae hyn yn darparu cyflymderau lawrlwytho cyflym iawn a dylent fod ar gael ym mhobman i hyd yn oed y lleoedd mwyaf anghysbell. 

Mae cysylltiadau lloeren wedi bodoli ers cryn amser. Fodd bynnag, mae technolegau newydd bellach ar gael fel cysylltiadau lloeren orbit isel a chysylltiadau lloeren cenhedlaeth nesaf a all ddarparu cyflymder o dros 100Mbps. 

Mae pecynnau data diderfyn ar gael.

Mae angen gosod soser lloeren lle mae golwg dirwystr o'r awyr. Gallwch osod soser lloeren eich hun neu gallwch ddefnyddio cwmni gosod erialau teledu neu soseri lloeren, neu ddarparwr band eang lleol i'w gosod ichi. Mae rhai darparwyr lloeren wedi awdurdodi gosodwyr annibynnol. 

Mae rhai cwmnïau eisoes wedi lansio lloerennau ac mae pecynnau ar gael i eiddo yng Nghymru. Mae soseri lloeren ar gyfer gwasanaethau band eang bellach ar gael hefyd gan rai manwerthwyr electroneg neu siopau adrannol.

Darganfyddwch sut mae defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain yng nghefn gwlad Powys wedi gwella cyflymder band eang gan ddefnyddio band eang lloeren.

Band eang symudol

Efallai y bydd eiddo yn gallu cael mynediad at gysylltiad band eang cyflymach gan ddefnyddio'r rhwydwaith 4G neu 5G symudol. 

Nid oes angen defnyddio ffôn symudol ac nid oes angen ceblau na llinell ffôn arnoch. Mae cysylltiad band eang symudol yn cael ei ddarparu i'ch eiddo drwy lwybrydd 4G neu 5G neu ddongl wi-fi. 

Gall 5G gynnig y band eang cyflymaf lle mae ar gael, mae 4G ar gael yn ehangach. Mae'r ddau yn opsiynau i bobl nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at gysylltiad band eang sefydlog dibynadwy. Gall cyflymder amrywio yn dibynnu ar gryfder y signal, pa mor bell rydych o fast symudol ac weithiau nifer y bobl eraill sy'n defnyddio band eang symudol yn eich ardal.

Bydd angen ichi wirio'r rhwydwaith rydych am ei ddefnyddio i weld a yw ar gael yn eich eiddo. 

Gallwch hefyd wirio'r hyn sydd ar gael ar wefannau darparwyr gwasanaethau symudol. 

Os nad oes signal 4G neu 5G cryf dan do, gallwch osod antena allanol ar eich eiddo. 

Mae'r holl brif weithredwyr symudol yn cynnig gwasanaethau ac mae pecynnau data diderfyn ar gael. Gall cyflenwyr band eang lleol hefyd ddarparu offer band eang symudol a'i osod.

Darganfyddwch sut mae chwaraewr gwyddbwyll ar lefel cynghrair yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin wedi gwella cyflymder band eang gan ddefnyddio band eang symudol.

Di-wifr sefydlog

Mae band eang diwifr sefydlog yn defnyddio antena i dderbyn signal band eang o fast i ddarparu band eang i'ch eiddo, gan ddileu'r angen am geblau neu linellau ffôn.

Lle mae ar gael, mae diwifr sefydlog yn opsiwn i'r rhai sydd heb fynediad at gysylltiad band eang llinell sefydlog dibynadwy, a dylai ddarparu gwasanaeth cyson. Bydd angen i'r derbynnydd ar eich eiddo fod o fewn golwg y mast. Weithiau gall rhwystrau fel coed, dail neu strwythurau wedi'u gwneud gan ddyn ymyrryd â rhwystro'r signal.

Mae cysylltiad diwifr sefydlog ar gael mewn rhai ardaloedd gwledig lle nad oes mynediad at fand eang ffibr eto. Gallwch siarad â'ch cymdogion, darparwyr band eang lleol neu, lle mae un ar gael, swyddog ymgysylltu band eang eich awdurdod lleol i gael gwybod beth allai fod ar gael yn eich ardal chi.

Cymorth ar gyfer cysylltu â band eang cyflymach

Os oes angen cymorth pellach arnoch i gael cysylltiad band eang cyflymach, gallwch ddysgu am y cymorth sydd ar gael i gysylltu gan gynnwys yr opsiynau cyllido sydd ar gael. 

Dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i gysylltu.