Straeon pobl go iawn am Fand Eang Cyflym iawn: Mark o Bowys
Band eang lloeren yn dod â chysylltedd hanfodol i ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain yng nghefn gwlad Powys.
Yn byw mewn ardal wledig iawn ym Mhowys, roedd Mark yn cael ei chael hi'n anodd heb fynediad band eang a dim signal symudol yn ei gartref. Fel person byddar ac anabl, roedd mynediad at gysylltiad band eang boddhaol yn dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cyfathrebu a diogelwch.
Cafodd Mark anawsterau mawr i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain gyda'i ddehonglwyr wrth geisio gwneud galwadau fideo ar gyfer ei waith. Roedd cael mynediad at unrhyw adloniant ar-lein, fel ffrydio rhaglenni teledu a ffilmiau, hefyd yn amhosibl.
Gwnaeth Mark ddarganfod bod cymdogion eraill yn ei gymuned wedi defnyddio cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru (ABC) Llywodraeth Cymru i gael mynediad at gysylltiadau band eang cyflymach a dibynadwy. Mae'r cynllun yn darparu cyllid grant i gefnogi'r gwaith o osod atebion band eang i gartrefi a busnesau yng Nghymru nad ydynt yn gallu sicrhau cysylltiad cyflym dros 30Mbps drwy unrhyw ffordd arall.
Trodd Mark at ei gymdogion am gyngor ar atebion band eang yr oeddent wedi'u defnyddio a theithiodd i fynd ar-lein er mwyn iddo allu ymchwilio i opsiynau ariannu a thechnoleg. Yn y pen draw, penderfynodd ar gysylltiad band eang lloeren, gan ddefnyddio grant Allwedd Band Eang Cymru i helpu i ariannu costau'r offer a gosod.
Dywedodd Mark ei fod yn gweld y broses ymgeisio am grant Allwedd Band Eang Cymru yn syml, yn glir ac yn hawdd ei defnyddio. Ar ôl prynu'r ddysgl lloeren, daeth o hyd i ffitiwr a osododd y ddysgl ar do ei gartref, gan ddrilio drwy ei waliau i osod llwybrydd y tu mewn.
Dywedodd Mark:
“Rwyf wedi gweld y cysylltiad newydd yn hanfodol ar gyfer fy ngwaith a chyfathrebu. Rwyf wedi mynd o ddim rhyngrwyd i sicrhau cyflymderau lawrlwytho o dros 350Mbps. Rwyf bellach yn gallu cyfathrebu â'r gwaith a ffrindiau drwy neges destun, e-bost a galwadau fideo gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r cysylltiad cyflymach yn golygu bod Iaith Arwyddion Prydain yn llawer mwy real a hwylus. Gallaf nawr hefyd ffrydio rhaglenni gyda chapsiynau caeedig ar fy nyfeisiau.
“Byddwn yn bendant yn argymell cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru i eraill. Heb y grant ni fyddwn yn cael band eang, rhoddodd yr hyder i mi fynd ati gyda chysylltiad newydd. Gall y gost fisol uwch ar gyfer band eang lloeren fod yn broblem, ond i mi mae'r dibynadwyedd mor bwysig ar gyfer cadw cysylltiadau a chyfathrebu. Fy nghyngor i unrhyw un arall mewn sefyllfa debyg fyddai ewch amdani!”
Cael band eang cyflymach
Mae band eang yn ffordd o gysylltu â’r rhyngrwyd. Ni waeth pa gyflymderau sydd eu hangen arnoch chi, mae opsiynau a chymorth ar gael ichi.
