Adolygiad o’r Gronfa Gynghori Sengl: crynodeb
Adolygiad o’r Gronfa Gynghori Sengl gan gynnwys sut mae wedi perfformio mewn cymhariaeth â’i nodau. Mae’r Gronfa Gynghori Sengl yn ariannu darpariaeth gwasanaethau gwybodaeth a chyngor lles cymdeithasol am ddim i’r cleient.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Rhaglen ariannu grantiau yw’r Gronfa Gynghori Sengl, sydd wedi bod yn cael ei darparu ers mis Ionawr 2020. Mae'n ariannu'r broses o ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor lles cymdeithasol am ddim i'r cleient, gan gynnwys pynciau fel budd-daliadau, dyled, tai, cyflogaeth a gwahaniaethu.
Sefydlwyd y gronfa fel bod y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau cynghori wyneb yn wyneb yn cael ei chynllunio, ei chydlynu a’i chyflwyno o fewn chwe rhanbarth. Ym mhob rhanbarth, roedd cyllid ar gael ar gyfer gwasanaeth cymunedol/cyffredinol a gwasanaeth arbenigol. Yn ogystal â'r rhain, roedd cyllid ar gael i ddarparu gwasanaeth cynghori o bell ar gyfer Cymru gyfan. Cafodd Cyngor ar Bopeth Cymru yr arian grant fel y darparwr arweiniol.
Nodau ymchwil
Comisiynodd Cangen Polisi Cyngor Lles Cymdeithasol a’r Adran Gwaith a Phensiynau (Llywodraeth Cymru) y Rhaglen Ymchwil Fewnol (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddol, Llywodraeth Cymru) i gynnal adolygiad o'r Gronfa Gynghori Sengl. Nod yr adolygiad yw deall sut mae’r Gronfa Gynghori Sengl yn cael ei gweithredu a rhoi trosolwg o sut mae wedi perfformio mewn cymhariaeth â’i nodau.
Methodoleg
Y dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd
- Dadansoddi data monitro gan y gwasanaethau cynghori cymunedol/cyffredinol ac arbenigol, yn rhanbarthol ac ar draws Cymru, a ddarparwyd gan Gyngor ar Bopeth trwy'r Gronfa Gynghori Sengl.
- Cyfweliadau gyda darparwyr gwasanaeth o Gyngor ar Bopeth o fewn y Gronfa Gynghori Sengl.
Roedd bwriad hefyd i gyfweld cleientiaid a oedd wedi cael mynediad at wasanaethau a ariannwyd gan y Gronfa Gynghori Sengl. Fodd bynnag, nid oedd modd cynnal y rhain oherwydd diffyg ymateb gan y cleientiaid.
Canfyddiadau a chasgliadau
Trefnir yr adran hon yn ôl pob un o nodau'r Gronfa Gynghori Sengl. Pan drafodir blynyddoedd, mae'r rhain yn cyfeirio at flynyddoedd ariannol (mis Ebrill i fis Mawrth).
A wnaeth y Gronfa Gynghori Sengl helpu i gwrdd â'r cynnydd parhaus yn y galw am fynediad at wasanaethau cynghori?
Lefel y galw am wasanaethau
Er bod cyfanswm nifer y cleientiaid unigryw a ddefnyddiodd y gwasanaethau trwy'r Gronfa Gynghori Sengl wedi gostwng yn gyffredinol rhwng 2020/21 a 2023/24, ar y cyfan mae'r data monitro yn awgrymu bod galw cyson wedi bod am wasanaethau cynghori a ariennir gan y Gronfa Gynghori Sengl. Cyrhaeddodd nifer y cleientiaid unigryw uchafbwynt o 68,271 yn 2021/22, gan ostwng yn 2022/23 a 2023/24, i 58,411 o gleientiaid unigryw a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau yn 2023/24.
Fe wnaeth canfyddiadau yn sgil cyfweliadau â darparwyr gwasanaethau dynnu sylw hefyd at gynnydd yn y galw o flwyddyn i flwyddyn na fyddai’r darparwyr wedi gallu ei ddiwallu heb y Gronfa Gynghori Sengl. Roedd y sylwadau hefyd yn cynnwys y cynnydd yn y galw yng nghyd-destun ffactorau fel coronafeirws (COVID-19) a'r cynnydd mewn costau byw.
Gallu'r Gronfa Gynghori Sengl i ateb y galw
Mae tystiolaeth gymysg ynghylch gallu'r Gronfa Gynghori Sengl i ateb y galw.
Mewn cyfweliadau gyda darparwyr gwasanaethau, nododd rhai fod dyluniad canolog y Gronfa Gynghori Sengl, a'r ddarpariaeth o bell ledled Cymru, wedi helpu i gynyddu’r capasiti i ateb y galw. Mae hyn yn rhoi cyrhaeddiad ehangach ac yn ei gwneud yn haws i gleientiaid gael gafael ar wasanaethau. Fodd bynnag, roedd y ddarpariaeth o bell hon hefyd yn ei thro yn cynyddu'r galw am gyngor.
Roedd rhai darparwyr gwasanaethau o'r farn nad oedd y cyllid (o ran y cyfnod a’r swm) yn ddigonol i ateb y galw, gan ystyried cyd-destun y cynnydd cyffredinol yn y galw oherwydd ffactorau ehangach (COVID-19, costau byw) a nifer y staff a'r cadw staff sydd ei angen i ateb y galw. Gwnaeth darparwyr gwasanaethau hefyd fynegi pryderon am amseroedd aros pan roedd y galw’n uwch na'r capasiti.
Ar ben hynny, mae’r data monitro'n dangos, er ei bod yn ymddangos bod y 'Gwasanaeth ffôn o bell' wedi gallu ateb y galw, efallai nad oedd gwasanaethau eraill fel y ‘Gwasanaeth ffôn cyflogaeth a gwahaniaethu' wedi gallu gwneud hynny.
A wnaeth y Gronfa Gynghori Sengl helpu i sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt?
Cyrraedd pobl ledled Cymru
Mae canfyddiadau’r adolygiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan wrth ystyried a lwyddodd y gwasanaeth i gyrraedd pobl ledled Cymru. Fodd bynnag, gellid gwella rhai o elfennau allweddol y gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd pobl ledled Cymru. Roedd hyn yn ymwneud yn bennaf â bylchau yn narpariaeth y gwasanaeth ar gyfer grwpiau penodol.
Dylai gwasanaethau alluogi mynediad eang gan flaenoriaethu'r rhai mwyaf anghenus ar yr un pryd (canllawiau’r Gronfa Gynghori Sengl, 2019). Mae’n ymddangos bod y data monitro yn dangos bod y gwasanaeth yn cyrraedd y rhan fwyaf o’r grwpiau blaenoriaeth. Fodd bynnag, cleientiaid o dan 25 oed sy’n adlewyrchu'r gyfran isaf sy'n defnyddio’r gwasanaethau pob blwyddyn, a allai awgrymu bod y galw yn wirioneddol is yn y grŵp oedran hwn, neu fod y gwasanaethau yn methu â chyrraedd y rhai o dan 25 oed.
Mae canfyddiadau’r cyfweliadau â darparwyr gwasanaethau yn awgrymu bod strwythur y Gronfa Gynghori Sengl, gan gynnwys ei integreiddio o fewn model ar gyfer Cymru gyfan, yn golygu bod mwy o gysondeb ledled Cymru o ran darparu gwasanaethau cynghori ac roedd llai o debygolrwydd na fyddai anghenion pobl yn cael eu bodloni. Nododd darparwyr gwasanaethau hefyd eu bod wedi defnyddio lleoliadau newydd i ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd na fyddent efallai wedi eu cyrraedd fel arfer.
Fodd bynnag, tynnwyd sylw at fylchau yn y ddarpariaeth hefyd o ran cyngor yn ymwneud â mewnfudo a chyn-filwyr, neu gefnogi'r rhai mwyaf bregus, oherwydd problemau iechyd meddwl, er enghraifft.
Cael gafael ar wybodaeth a chyngor
Mae canfyddiadau’r adolygiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan o ran ystyried a yw pobl yn cael gafael ar yr wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt. Fodd bynnag, roedd rhai elfennau o'r gwasanaeth y gellid eu gwella. Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf â'r pwyslais cynyddol ar ddulliau o gyflwyno gwasanaeth o bell a'r posibilrwydd efallai nad ydynt bob amser yn cyfateb i anghenion y cleientiaid.
Mae’r data monitro yn awgrymu bod cymorth trwy'r Gronfa Gynghori Sengl yn cael ei deilwra i anghenion unigol ac yn gyffredinol hawdd i gael mynediad ato. Roedd cleientiaid yn gallu cyrchu'r gwasanaeth trwy amrywiaeth o sianeli cyswllt, a oedd yn amrywio yn dibynnu ar nodweddion y cleientiaid a’r rhanbarth. Cefnogwyd cleientiaid hefyd mewn gwahanol ieithoedd.
Mae’r data monitro am brofiad cleientiaid yn dangos bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi dweud ei bod yn 'Hawdd iawn' neu'n 'Hawdd' cael mynediad i'r gwasanaeth, gyda'r gyfran a ddywedodd ei bod yn 'Hawdd iawn' neu'n 'Hawdd' cael mynediad i'r gwasanaeth yn amrywio o 85.17% yn 2020/21 i 74.91% yn 2022/23. Mewn cyfweliadau â darparwyr gwasanaethau, awgrymodd rhai fod y gwasanaeth o bell yn rhoi cyrhaeddiad ehangach a gwell amrywiaeth o wasanaethau y gallai'r cyhoedd eu cyrchu.
Fodd bynnag, mae’r data monitro'n dangos nad oedd rhai pobl yn gweld y gwasanaeth yn hawdd cael mynediad ato, yn enwedig yn 2022/23 er enghraifft, lle nododd 11.27% ei bod yn 'Anodd' neu'n 'Anodd iawn' cael mynediad i'r gwasanaeth. Yn ogystal, mewn cyfweliadau â darparwyr gwasanaethau, awgrymodd rhai fod y gwasanaeth o bell yn gosod rhwystrau o ran sut roedd cymorth yn cael ei gynnig. Nid yw’r ddarpariaeth o bell bob amser yn cyd-fynd ag anghenion cleientiaid, ac efallai y byddant yn colli’r cyfle i gael cymorth o’r herwydd. Yn hyn o beth, roedden nhw'n teimlo y dylid rhoi mwy o adnoddau i gymorth wyneb yn wyneb a thrwy alwadau fideo a sgwrsio ar y we.
Yr angen i gael gafael ar wybodaeth a chyngor
Mae canfyddiadau’r adolygiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan wrth ystyried a yw pobl yn cael gafael ar yr wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt, yn enwedig o ran darparu cyngor amlochrog ar ystod eang o faterion. Fodd bynnag, roedd rhai elfennau y gellid eu gwella, yn bennaf ynghylch i ba raddau y mae cleientiaid yn teimlo bod eu problemau'n cael eu datrys.
Mae’r data monitro yn dangos bod gan gleientiaid fwy nag un mater (pwnc neu broblem i'w drafod) ar gyfartaledd, a chynyddodd nifer cyfartalog cyffredinol y materion fesul cleient o 4.3 yn 2020/21 i 5.2 yn 2023/24. Mae'r data hefyd yn dangos bod amrywiaeth yn y pynciau neu faterion y gofynnir cyngor yn eu cylch yn dibynnu ar y rhanbarth a nodweddion y cleientiaid, sy’n pwysleisio pwysigrwydd gallu cynnig cefnogaeth eang wedi'i theilwra i sicrhau bod proffil unigryw’r pynciau neu broblemau y mae cleient eisiau eu trafod yn cael ei fodloni'n llawn. Mae canfyddiadau’r cyfweliadau â darparwyr gwasanaethau yn awgrymu bod cefnogaeth amlochrog a phersonol yn cael ei chynnig ar y cyfan. Nododd darparwyr fod cefnogaeth seilwaith y Gronfa Gynghori Sengl yn fwy holistaidd, gyda thaith y cleient yn fwy esmwyth. Soniwyd bod mwy o sylw yn cael ei roi i faterion a bod modd delio â materion lluosog mewn ffordd mwy llyfn.
Mae’r data am brofiad cleientiaid yn awgrymu bod y Gronfa Gynghori Sengl, o leiaf yn rhannol, yn helpu cleientiaid i gael gafael ar yr wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt. Dywedodd dros 80% o'r ymatebwyr ym mhob blwyddyn na fyddent wedi gallu datrys eu problem heb gefnogaeth Cyngor ar Bopeth. Ar ben hynny, nododd mwyafrif yr ymatebwyr fod y gwasanaeth wedi eu helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen ('Yn llwyr' neu 'I Raddau Helaeth'), sy’n awgrymu bod y gwasanaeth wedi bod yn ddefnyddiol mewn perthynas â'u problem. Fodd bynnag, gostwng dros amser wnaeth cyfran yr ymatebwyr a adroddodd bod y gwasanaeth wedi eu helpu ‘Yn llwyr’ i ddod o hyd i ffordd ymlaen, o 50.61% yn 2020/21 i 40.47% yn 2023/24. Ar ben hynny, roedd cyfran sylweddol o'r ymatebwyr yn ansicr neu ddim yn teimlo bod eu problem wedi'i datrys. I'r rhai nad oeddent yn teimlo bod eu problem wedi'i datrys, roedd hyn yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf pan, wrth eu cyfuno, dewisodd tua chwarter yr ymatebwyr yr opsiwn fod eu problem wedi’i datrys naill ai 'Ddim o gwbl' neu 'Ychydig' yn 2022/23 a 2023/24.
A wnaeth y Gronfa Gynghori Sengl hyrwyddo mynediad cynnar yn effeithiol ymhlith yr aelwydydd mwyaf bregus i niwed?
Mae'r data yn gyfyngedig ac felly ni ellir dod i gasgliadau pendant i ganfod a wnaeth y Gronfa Gynghori Sengl hyrwyddo mynediad cynnar yn effeithiol ymhlith yr aelwydydd mwyaf bregus ai peidio.
Mae’r data sy’n monitro profiad cleientiaid yn awgrymu bod y rhan fwyaf o gleientiaid wedi gofyn am gyngor cyn argyfwng ('Angen gweithredu'). 'Angen gweithredu' oedd yr opsiwn ymateb mwyaf cyffredin a ddewiswyd ym mhob blwyddyn gan tua hanner yr ymatebwyr. Nid oes fawr o amrywiaeth wrth ddadansoddi ymatebion yn ôl statws anabledd neu ethnigrwydd. Mae hyn yn awgrymu, o fewn y grwpiau blaenoriaeth hyn, bod cleientiaid yn dal i gael cymorth cyn i'r mater ddod o fewn y categori 'Brys'.
Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf wedi cael gafael ar gymorth yn gynnar, ar draws blynyddoedd roedd cyfran gyson o'r ymatebwyr a nododd eu bod wedi gofyn am gyngor ar y pwynt lle'r oeddent mewn argyfwng ('Brys'), sef 22.82% yn 2020/21 i 25.46% yn 2023/24.
A wnaeth y Gronfa Gynghori Sengl sicrhau bod pobl sy'n cael mynediad at gyngor yn cael cyfle i ddatblygu eu gwytnwch i broblemau lles yn y dyfodol?
Mae'r dystiolaeth yn gyfyngedig ac felly ni ellir dod i gasgliadau pendant ynghylch a wnaeth y Gronfa Gynghori Sengl sicrhau bod pobl sy'n cael mynediad at gyngor yn cael cyfle i ddatblygu eu gwytnwch i broblemau lles yn y dyfodol ai peidio.
Roedd enghreifftiau yn ystod y cyfweliadau â darparwyr gwasanaeth, ble roeddent yn teimlo bod y dull o ddarparu cyngor yn caniatáu i gleientiaid ddatblygu eu gallu i ddelio â phroblemau yn y dyfodol. Ni chasglwyd unrhyw ddata monitro ynghylch y nod hwn. Y bwriad gyda’r gwaith ymchwil oedd casglu barn cleientiaid a oedd wedi cyrchu gwasanaethau a ariennir gan y Gronfa Gynghori Sengl trwy gyfweliadau, fodd bynnag, ni chwblhawyd cyfweliadau â chleientiaid oherwydd anawsterau recriwtio.
A wnaeth y Gronfa Gynghori Sengl wella mynediad at wasanaethau a all ddarparu'r math o gyngor arbenigol sydd ei angen ar bobl i ddatrys problemau cymhleth ac sydd yn aml wedi'u gwreiddio?
Yn gyffredinol, mae'n ymddangos bod y Gronfa Gynghori Sengl wedi cefnogi darparu gwasanaethau cynghori arbenigol sydd eu hangen i ddatrys problemau cymhleth. Fodd bynnag, roedd elfennau o'r gwasanaeth, a amlygwyd gan ddarparwyr, y dylid eu hystyried i helpu i sicrhau y gall y gwasanaeth barhau i gefnogi pobl i ddatrys problemau cymhleth a rhai sydd wedi’u gwreiddio.
Mae’r data monitro yn dangos bod y gwasanaeth arbenigol a ariennir gan y Gronfa Gynghori Sengl wedi cael ei ddefnyddio’n gyson dros amser, gyda 14,032 o gleientiaid unigryw yn 2020/21 a 16,481 o gleientiaid unigryw yn 2023/24. Mae'n ymddangos bod mwy o angen y gwasanaeth hwn ar gleientiaid anabl a'r rhai sydd â chyflwr iechyd hirdymor. Y bwriad oedd bod y gwasanaeth arbenigol o bell yn ategu'r gwasanaethau rhanbarthol, gan sicrhau bod pobl yn cael cynnig mynediad at gyngor wyneb yn wyneb lle bo angen. Mae'r data'n awgrymu bod cleientiaid yn y gwasanaeth arbenigol wedi gallu cael mynediad at wasanaethau trwy sawl sianel gyswllt, ac yn fwy tebygol o ddefnyddio sianeli cyswllt e-bost neu lythyr o’i gymharu â'r gwasanaeth cyffredinol.
O ran cymhlethdod problemau, mae'r data monitro yn dangos, ar draws pob blwyddyn, bod nifer gyfartalog y materion fesul cleient yn uwch yn y gwasanaeth arbenigol (6.8 i 7.3) o'i gymharu â'r gwasanaeth cyffredinol (3.2 i 4.1). Roedd amrywiad rhanbarthol yn y math penodol o fater y ceisiodd cleientiaid gyngor yn ei gylch yn y gwasanaeth arbenigol. Mae'r gwasanaeth arbenigol yn benodol ar gyfer budd-daliadau, dyled, gwahaniaethu (gan gynnwys addysg), cyflogaeth a chyngor am dai. Er eu bod yn feysydd targed, roedd cyfran y cleientiaid a oedd â phroblem addysg neu broblem tai yn isel ar draws yr holl wasanaethau arbenigol rhanbarthol. Ochr yn ochr â hyn, er eu bod yn cynrychioli cyfran fach o gleientiaid, roedd cleientiaid yn y gwasanaeth arbenigol ar draws y rhanbarthau a oedd â phroblemau ar bynciau y tu allan i'r meysydd targed. Dylai cleientiaid barhau i allu cael cyngor ar faterion lluosog mewn un lle.
Yn ogystal, o ran llwyth gwaith, mae’r data'n dangos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd bod angen mwy o weithgareddau a chysylltiadau i gefnogi cleientiaid yn y gwasanaethau arbenigol o'i gymharu â'r gwasanaethau cyffredinol.
Mewn cyfweliadau â darparwyr gwasanaethau, nododd rhai rôl y Gronfa Gynghori Sengl o ran cynorthwyo cleientiaid i gael mynediad at wasanaethau arbenigol trwy helpu i ddarparu'r capasiti, gyda mynediad lleol a chenedlaethol. Mewn rhai achosion, tynnodd darparwyr y gwasanaethau sylw at y ffaith nad oedd y gwasanaethau’n ddigon, er bod y Gronfa Gynghori Sengl wedi creu adnoddau mwy arbenigol, neu na allent ariannu pob rhan o’r gwasanaethau arbenigol yr oedd eu hangen arnynt. Ar ben hynny, nid oedd y Gronfa Gynghori Sengl yn darparu am yr amser a'r adnoddau oedd eu hangen i ddatblygu partneriaethau â darparwyr arbenigol. Roedd pryderon hefyd ynghylch colli sgiliau arbenigol yn y gweithlu darparwyr oherwydd bod pwyslais ar atgyfeiriadau.
A wnaeth y Gronfa Gynghori Sengl wella effeithlonrwydd a chydweithio rhwng darparwyr gwasanaethau cynghori?
Effeithlonrwydd y gwasanaeth
Y consensws o’r cyfweliadau gyda darparwyr gwasanaethau oedd bod y Gronfa Gynghori Sengl wedi gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth yn eu sefydliadau. Y prif elfennau effeithlon a nodwyd gan ddarparwyr oedd:
- y gallu i ddarparu cyngor o bell neu wyneb yn wyneb yn dibynnu ar anghenion
- yr adnoddau a'r systemau canolog oedd yn deillio o’r model Cymru gyfan
- symud i ffwrdd o awgrymu trywydd i bobl ei dilyn i sefydliad arall tuag at atgyfeiriadau neu drosglwyddiadau cynhesach
Fodd bynnag, roedd y darparwyr yn teimlo mewn rhai ffyrdd bod elfen y Gronfa Gynghori Sengl a symudwyd i gynnig cyngor dros y ffôn wedi lleihau effeithlonrwydd. Adroddwyd bod angen adnoddau pellach ar gyfer cyngor wyneb yn wyneb, galwadau fideo a sgwrsio ar y we nid yn unig i gefnogi'r rhai sy'n anghyfforddus dros y ffôn ond hefyd i ateb y galw a lleihau amseroedd aros. Nododd rhai hefyd eu bod yn llai effeithlon wrth ddelio â materion lleol, gyda’r gwasanaeth o bell wedi creu camau ychwanegol, ac felly mwy o oedi wrth roi talebau bwyd neu danwydd.
Cydweithio rhwng darparwyr gwasanaethau cynghori
Mewn cyfweliadau â darparwyr gwasanaethau, y teimlad cyffredinol oedd bod y Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu i wella cydweithio a gweithio ar y cyd ymhlith darparwyr cyngor. Roedd hyn yn cynnwys dyluniad y Gronfa Gynghori Sengl a oedd yn canolbwyntio’r sylw ar weithio ar draws asiantaethau, a'r ffaith bod y Gronfa Gynghori Sengl yn rhoi'r cyfle a'r adnoddau iddynt gydweithio. Nododd rhai ymatebwyr eu bod yn cydweithredu’n well gan fod ganddynt well dealltwriaeth o'r gwasanaethau y mae darparwyr eraill yn eu cynnig. Roedd prosesau mwy effeithlon fel canoli’r system a’r adnoddau ac atgyfeiriadau cynhesach hefyd yn gymorth i gydweithio’n well. Mae hyn yn cyd-fynd â'r data monitro sy'n dangos bod y gwasanaeth wedi cynorthwyo i atgyfeirio cleientiaid rhwng sawl sefydliad, lle gwnaeth y rhan fwyaf o sefydliadau anfon a derbyn atgyfeiriadau.
Fodd bynnag, mae’r data monitro yn dangos bod rhai wedi cofrestru ar y platfform heb anfon na derbyn yr un atgyfeiriad - sydd efallai’n awgrymu bod bwriad i gydweithio na wnaeth ddwyn ffrwyth. Yn ogystal, mae cyfweliadau â darparwyr gwasanaethau yn tynnu sylw at achosion lle nad oedd partner arbenigol cyflogedig yn cydweithio'n effeithiol, gan dderbyn atgyfeiriadau yn unig a pheidio â chynnig adborth. Hefyd, soniodd darparwyr bod anawsterau o ran gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau llai gan fod model y Gronfa Gynghori Sengl yn fwy addas ar gyfer partneriaid mwy.
Argymhellion
Darpariaeth gwasanaeth
Argymhelliad 1
Dylid cynnal ymchwiliad pellach i'r 'gwasanaeth ffôn Cyflogaeth a Gwahaniaethu' i ddeall unrhyw broblemau o ran darparu’r gwasanaeth. Gallai hyn roi mewnwelediad pellach a'r posibilrwydd o roi newidiadau ar waith i wella gwasanaethau arbenigol i gleientiaid.
Argymhelliad 2
Gwneud gwaith pellach gyda darparwyr gwasanaethau i ddeall bylchau posibl yn y ddarpariaeth (megis cyngor sy'n ymwneud â mewnfudo, cyn-filwyr a chefnogi cleientiaid sy’n hynod fregus oherwydd materion iechyd meddwl) a sut y gellid llenwi'r bylchau hyn, er mwyn sicrhau bod a) y Gronfa Gynghori Sengl yn gallu ateb y galw a b) bod pobl yn gallu cael gafael ar y cyngor a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Argymhelliad 3
Gwneud ymchwiliad pellach i ddeall pa faterion a phwy sy'n perthyn i'r categori 'brys' i ddeall a ellid rhoi mesurau ataliol ar waith i gefnogi'r cleientiaid hyn i gael mynediad at wasanaethau yn gynharach.
Argymhelliad 4
Cynnal adolygiad o’r diffiniadau a'r mesurau ar gyfer nodweddion gwarchodedig a ddefnyddir o fewn y Gronfa Gynghori Sengl, er mwyn iddynt fod yn unol â safonau cytûn ac anghenion polisi yng Nghymru.
Argymhelliad 5
Adolygu'r ddarpariaeth o bell er mwyn sicrhau:
- ei bod yn cwrdd ag anghenion cleientiaid ac yn sicrhau bod cleientiaid yn gallu cyrchu gwasanaethau drwy sianel o'u dewis lle maen nhw'n teimlo'n fwyaf cyfforddus (fel y rhai y byddai'n well ganddyn nhw gyngor wyneb yn wyneb, galwad fideo neu sgwrs gwe, neu sy'n fregus iawn, fel nad ydynt yn colli cyfle)
- nad yw'n gosod rhwystrau ar gyfer prosesau lle gallai sianeli amgen fod yn fwy priodol (megis yr enghraifft a roddir ynghylch dosbarthu talebau bwyd neu danwydd)
Argymhelliad 6
Bod proses yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod partneriaid sy'n darparu cyngor yn cydweithio yn ôl yr angen i sicrhau bod y gwasanaeth cynghori yn cael ei integreiddio ar draws darparwyr cyngor a’i fod felly’n ddi-dor i'r cleient.
Argymhelliad 7
Dylid cynnal ymchwiliad pellach gyda sefydliadau nad ydynt yn anfon neu'n derbyn atgyfeiriadau er eu bod wedi cofrestru i wneud hynny, i ddeall y rheswm dros hyn a gallu cefnogi'r sefydliad gyda'r broses hon os oes angen.
Argymhelliad 8
Gwneud darpariaethau i sicrhau bod staff yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth arbenigol angenrheidiol, a bod hyn yn gyson ar draws rhanbarthau.
Cyllido
Argymhelliad 9
Cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth ariannol ar gyfer gwasanaethau arbenigol fel:
- ei bod yn addas ar gyfer galluogi mynediad at gyngor arbenigol ar ystod eang o faterion
- ei bod yn addas ar gyfer meithrin perthnasoedd â gwasanaethau arbenigol
- bod lefelau staff yn briodol
- bod darpariaeth ariannol yn cael ei gwneud ar gyfer sefydliadau llai sydd â chysylltiadau dibynadwy gyda grwpiau penodol yn y gymuned
Argymhelliad 10
Dylid adolygu lefel y cyllid ar gyfer gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl er mwyn sicrhau ei fod yn ddigon i allu darparu gwasanaethau digonol a chyson o ystyried y galw cyffredinol, rhai problemau gydag amseroedd aros, y niferoedd staffio a chadw staff yn y tymor hwy sydd eu hangen i ateb y galw, a'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi cleientiaid hynod fregus.
Monitro a gwerthuso yn y dyfodol
Argymhelliad 11
O'r cychwyn cyntaf, bod cytundebau rhannu data rhwng y gwasanaeth a gomisiynwyd a Llywodraeth Cymru yn cael eu sefydlu er mwyn sicrhau bod data’n cael ei rannu’n ddiogel rhwng y ddau sefydliad. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer prosesau gwerthuso mwy prydlon a chadarn.
Argymhelliad 12
Dylid ystyried adolygu a/neu gasglu metrigau data penodol (a amlinellir yn yr adroddiad llawn) er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o ddarpariaeth a gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl.
Argymhelliad 13
Dylai dadansoddwr fod yn rhan o'r broses o sefydlu data monitro unrhyw wasanaeth pellach a gomisiynir er mwyn sicrhau bod unrhyw gasglu data yn y dyfodol yn gymesur, yn briodol ac o ansawdd addas.
Argymhelliad 14
Dylid ystyried rhai elfennau o'r fethodoleg ymchwil a meysydd pellach ar gyfer cyfleoedd ymchwil sy’n codi o'r canfyddiadau (a amlinellir yn yr adroddiad llawn) pe bai fersiynau o'r Gronfa Gynghori Sengl yn y dyfodol yn cael eu gwerthuso.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Cox, R., Endicott, A., Findlay, S., Parry, J., Pryor, M., & Smith., L
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Rhaglen Ymchwil Fewnol
Adran Ymchwil a Gwybodaeth Gymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: RhYF.IRP@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 40/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-644-3

