Hysbysiad Adnabod Ardaloedd Sensitif Newydd i Drin Dŵr Gwastraff Trefol 2025
Bwriad y Rheoliadau Trin Gwastraff Trefol 1994 a 2003 (“y Rheoliadau”) yw diogelu’r amgylchedd rhag effeithiau ‘dŵr gwastraff trefol’ sydd heb ei drin.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn unol â’i ddyletswydd yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994(a) (“Rheoliadau 1994”) i adolygu dull adnabod ardaloedd sensitif (fel y’u diffinnir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 1994) ac, yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2003(b), o ran Cymru yn rhoi Hysbysiad i Cyfoeth Naturiol Cymru fel a ganlyn:
Enwi a chychwyn
Enw’r Hysbysiad hwn yw Hysbysiad Adnabod Ardaloedd Sensitif Newydd i Drin Dŵr Gwastraff Trefol 2025. Mae’r Hysbysiad hwn yn cael effaith Dydd Iau 1 Mai 2025.
Adnabod ardaloedd sensitif
Mae pob ardal o ddŵr a restrir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn yn cael ei nodi fel ardal sensitif yn Nhabl A.
Effaith yr Hysbysiad hwn
Nid yw’r Hysbysiad hwn yn effeithio ar ddynodiadau cynharach ardaloedd o ddŵr fel ardaloedd sensitif, ac eithrio fel y nodir yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn. Mae mapiau rhyngweithiol o ardaloedd o ddŵr presennol sy’n cael eu hadnabod fel Ardaloedd Sensitif i’w gweld ar Gwarchod Dyfroedd Cymru.
Clare Fernandes
Uwch Was Sifil ar ran y Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
22/04/2025
(a) O.S.. 1994/2841; trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliad 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) o ran Cymru, yn rhinwedd Erthygl 2 o Orchymun Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253); gweler y cofnod yn Atodlen 1 i Reoliadau 1994. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a roddwyd i’r Cynulliad yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
(b) O.S.. 2003/1788; Gweinidogion Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt) yw’r “appropriate authority” o ran Cymru; gweler rheoliad 1(2).
