Bwriad y Rheoliadau Trin Gwastraff Trefol 1994 a 2003 (“y Rheoliadau”) yw diogelu’r amgylchedd rhag effeithiau ‘dŵr gwastraff trefol’ sydd heb ei drin.
Dogfennau
Amserlen , HTML
Map , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 157 KB
Manylion
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r gofynion sylfaenol ar gyfer trin gollyngiadau carthffosiaeth sylweddol.
Mae’r gofynion yn amddiffyn cyrff dŵr rhag effeithiau andwyol sylweddau maethynnau sy’n bresennol mewn carthffosiaeth (yn benodol cyfansoddion nitrogen a ffosfforws).
O dan y Rheoliadau, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru adolygu dyfroedd amgylcheddol bob pedair blynedd i weld a ydynt yn sensitif i effeithiau gollyngiadau carthffosiaeth.
Os felly, mae’n rhaid adnabod y dyfroedd amgylcheddol fel “ardaloedd sensitif” yn unol â’r Rheoliadau, ac mae’n rhaid gostwng maethynnau mewn safleoedd carthffosiaeth perthnasol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am fonitro gollyngiadau o safleoedd trin dŵr gwastraff yn erbyn safonau trin y Rheoliadau.
Rhybudd, amserlen a map
Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o ddyfroedd amgylcheddol, rydym wedi cyhoeddi Rhybudd, amserlen a map i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r dogfennau hyn yn nodi meysydd sensitif newydd lle mae yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru fonitro'r gollyngiadau i ddyfroedd amgylcheddol o weithfeydd trin dŵr gwastraff.
