Llenwi'r bylchau: deall sut mae busnesau bach yn dod o hyd i eiddo yng nghanol trefi Cymru (crynodeb)
Mae'r ymchwil yn archwilio'r ffactorau sy'n effeithio ar allu busnesau bach i ddod o hyd i eiddo addas yng nghanol trefi Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg ymchwil
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd canol trefi mewn bywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, gan ymrwymo i bolisïau sy'n mynd i'r afael â chyfraddau uchel o adeiladu gweigion ac sy’n cefnogi busnesau bach i gael gafael ar eiddo yng nghanol trefi.
Mae'r ymchwil hon, a gynhaliwyd gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES), yn archwilio'r prosesau, y rhwystrau a'r mecanweithiau cymorth i fusnesau bach sy’n chwilio am eiddo yng nghanol trefi Cymru.
Defnyddiwyd sawl dull ymchwil, gan gynnwys:
- adolygiad o’r llenyddiaeth i ddeall tueddiadau ehangach a goblygiadau polisi
- cyfweliadau â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr y llywodraeth, cymdeithasau busnes a pherchnogion busnesau bach
- arolwg o 196 o fusnesau bach ledled Cymru i gasglu profiadau uniongyrchol o ran dod o hyd i eiddo
- grwpiau ffocws (wedi'u cynllunio i ddechrau ond roedd y cyfranogiad yn gyfyngedig)
Prif ganfyddiadau
Eiddo a ffefrir
O'r rhai a holwyd, roedd 98% o fusnesau a oedd wedi adleoli yn ddiweddar a 71% o'r rheini a oedd yn dal i chwilio am eiddo newydd yn ffafrio lleoliadau ar y stryd fawr. Roedd galw uwch am swyddfeydd a gweithdai na mannau manwerthu. Roedd yr ystyriaethau bwysig ar gyfer dewis lleoliad yn cynnwys hygyrchedd, cost ac amodau tenantiaeth.
Heriau canfod eiddo
O'r rhai a holwyd a oedd wedi adleoli yn ddiweddar, daeth 93% o fusnesau o hyd i eiddo o fewn chwe mis. O'r busnesau hynny a holwyd a oedd yn dal i chwilio am eiddo, roedd 40% wedi bod yn chwilio am fwy na chwe mis. Roedd llawer o eiddo'n ymddangos yn wag ond roeddent wedi'u clymu mewn prydlesi tymor hir neu heb wybodaeth gyswllt glir ar gyfer y landlord. Roedd prisiau rhent uchel, costau trawsgludo a threthi busnes yn atal busnesau bach rhag symud i eiddo newydd. Yn aml, roedd busnesau'n ei chael hi'n anodd canfod eiddo oherwydd diffyg gwybodaeth am yr eiddo sydd ar gael.
Gwasanaethau cymorth (anariannol)
O’r rhai a holwyd, roedd 74% o’r busnesau a oedd wedi adleoli’n ddiweddar yn ymwybodol o Fusnes Cymru ond ni wnaethon gael cymorth. Cymorth Awdurdodau Lleol ac Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) oedd fwyaf effeithiol, er bod ymwybyddiaeth ohonynt yn amrywio. Roedd gan Fanc Datblygu Cymru a Cwmpas gyfraddau uwch o geisiadau aflwyddiannus, gan nodi anghysondeb posibl o ran yr hyn yr oedd y gwasanaeth yn ei ddarparu.
Gwasanaethau cymorth (ariannol)
Nid oedd rhai busnesau a oedd yn chwilio am eiddo yn ymwybodol o raglenni ariannu bwysig. Er gwaethaf y ffaith bod cymorth ariannol ar gael, ni wnaeth llawer o fusnesau bach gais amdano oherwydd prosesau cymhleth neu bryderon am gymhwysedd.
Arweinyddiaeth lle a chydweithio
Mewn ardaloedd lle bu cydweithio cryf rhwng awdurdodau lleol, Ardaloedd Gwella Busnes a rhwydweithiau busnes gwelwyd canlyniadau gwell o ran lleihau nifer yr adeiladau gwag. Mae arweinyddiaeth lle effeithiol yn gofyn am gyllid penodol a chefnogaeth staff. Roedd modelau tenantiaeth tymor byr (fel mentrau dros dro) yn effeithiol o ran dangos hyfywedd busnes ac adeiladu hyder ymhlith landlordiaid.
Argymhellion
- Addasiadau polisi ar gyfer mannau nad ydynt yn rhai manwerthu: adolygu strwythurau cynllunio a chostau i hwyluso busnesau nad ydynt yn rhai manwerthu ar y stryd fawr.
- Gwell ymgysylltiad ag awdurdodau lleol ac Ardaloedd Gwella Busnes: darparu adnoddau ychwanegol i gryfhau rhwydweithiau cymorth busnes.
- Canolbwyntio ar bolisïau cost-effeithiol: mynd i'r afael â phryderon bwysig fel amodau prydles a fforddiadwyedd rhent.
- Addasiadau rheoleiddiol ar gyfer tryloywder: gwella mynediad at wybodaeth am berchnogaeth eiddo trwy gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol a'r Gofrestrfa Tir.
- Gwell cyfathrebu am wasanaethau cymorth: teilwra’r allgymorth i fusnesau sydd wrthi’n chwilio am eiddo.
- Adolygu cynigion cymorth anariannol: sicrhau bod gwasanaethau cynghori yn cyd-fynd ag anghenion busnesau sy’n adleoli.
- Codi ymwybyddiaeth o gymorth ariannol: cynyddu amlygrwydd grantiau a benthyciadau sydd ar gael i fusnesau bach.
- Cryfhau arweinyddiaeth lle: annog cydweithio ar draws sectorau a rhannu gwybodaeth i sbarduno gwell canlyniadau ar gyfer canol trefi.
Casgliadau
Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at yr heriau strwythurol a pholisi sy'n wynebu busnesau bach wrth ddod o hyd i eiddo yng nghanol trefi Cymru. Er bod gwahanol fecanweithiau cymorth yn bodoli, mae bylchau yn parhau o ran hygyrchedd, ymwybyddiaeth ac effeithiolrwydd. Mae angen dull wedi'i dargedu sy'n canolbwyntio ar leihau costau, eglurder rheoleiddiol, arweinyddiaeth leol a gwasanaethau cymorth wedi'u teilwra i adfywio canol trefi a gwella mynediad busnesau bach i eiddo gwag.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Helen Power, Sarah Evans, Leah Millthorne and Jennifer Rouse
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Benjamin Lewis
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: TimYmchwilTai@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 38/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-634-4

