Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn ceisio’ch barn ar ddiogelu plant ac oedolion yng nghymru a’r cod ymarfer diogelu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diben yr arolwg

Hoffem gasglu barn ar ‘y rhai dan fandad i roi adroddiad’ a’r cod ymarfer diogelu. 

‘Y rhai dan fandad i roi adroddiad’ oedd un o argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Mae'r argymhelliad fel a ganlyn:

Mae’r Ymchwiliad yn argymell bod llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth sy’n gosod dyletswydd statudol ar rai unigolion – ‘y rhai dan fandad i roi adroddiad’ – i roi gwybod am gam-drin plant yn rhywiol pan fyddant:

  • yn cael datgeliad o gam-drin plant yn rhywiol gan blentyn neu gamdriniwr
  • yn gweld plentyn yn cael ei gam-drin yn rhywiol
  • yn arsylwi ar ddangosyddion cydnabyddedig cam-drin plant yn rhywiol

Dylid dynodi’r bobl ganlynol yn ‘rhai dan fandad i roi adroddiad’: 

  • unrhyw berson sy’n gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir mewn perthynas â phlant (o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, fel y’i diwygiwyd)
  • unrhyw berson sy’n gweithio mewn swydd o ymddiriedaeth (fel y’i diffinnir o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, fel y’i diwygiwyd)
  • swyddogion yr heddlu

Rydym hefyd yn ceisio'ch barn ar y cod ymarfer diogelu, a gyhoeddwyd yn rhan o Diogelu yng Nghymru.

Bydd cwestiynau’r arolwg yn ein helpu ni i wneud y canlynol:

  • nodi meysydd i fynd i'r afael â nhw a’u datblygu
  • sicrhau bod mesurau diogelu, cyn belled ag y bo modd, yn amddiffyn plant ac oedolion ledled Cymru

Cwblhau'r arolwg

Cafodd y arolygiad ei chau ar ddydd Llun 16 Mehefin 2025.

Hysbysiad preifatrwydd

Mae hysbysiad preifatrwydd ar gael i’w ddarllen ar gyfer yr arolwg ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch diogelu yng Nghymru.

Cysylltwch â ni

Os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i safeguardingandadvocacy@llyw.cymru.