Tyfu er mwyn yr amgylchedd: llyfryn rheolau (ffenestr 7)
Yn esbonio'r cynllun a'r gofynion cymhwyster.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd – yn cyfrannu at y themâu canlynol:
- Rheoli tir ar lefel fferm
- Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
- Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
- Rheoli tir ar lefel tirwedd
- Coetiroedd a choedwigaeth
- Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio
Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu mewn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael, a llywio’r gwaith parhaus o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, cynllun a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn Materion Gwledig Cymru (ar https://busnescymru.llyw.cymru)
Adran A: cyflwyniad
Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio'r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Mae'r cyfnod ymgeisio hwn yn cefnogi sefydlu cnwd gorchudd nad yw’n cael ei chwistrellu ar ôl cynaeafu ydau neu indrawn yn yr hydref, lle mae’r pridd, ar ôl cynaeafu, fel arfer yn cael ei adael yn foel neu â sofl. Mae'r gofynion wedi cael eu pennu ynghyd â thaliad safonol fesul hectar. Mae'r manylion llawn ar gael yn Atodiad A.
Os ydych wedyn yn credu y gallech fod yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun hwn a'ch bod am wneud cais, gweler Adran D Gwneud Cais i’r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd a'r llyfryn Sut i Lenwi.
Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 2 Mehefin 2025 ac yn cau ar 11 Gorffennaf 2025.
Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £350,000.
Mae Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun grant sydd ar gael i bob ffermwr cymwys yng Nghymru. Mae'r cynllun yn cefnogi tyfu a defnyddio cnydau mewn ffordd sy’n gallu arwain at wella perfformiad amgylcheddol busnes fferm.
Amcanion y cynllun yw cefnogi ffermwyr i wneud y canlynol:
- Lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
- Atal colli pridd
- Addasu i newid yn yr hinsawdd a gwneud busnesau fferm yn fwy cadarn.
- Gwella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.
- Cyfrannu at wyrdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru.
Mae cnydau a gweithgareddau a gefnogir drwy'r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi cael eu nodi ymlaen llaw fel rhai sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r amgylchedd a’r busnesau fferm.
Darllenwch y ddogfen rheolau a chanllawiau Tyfu er mwyn yr Amgylchedd cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
Adran B: Tyfu er mwyn yr Amgylchedd - cymhwysedd
Rydych yn gymwys os ydych yn bodloni’r meini prawf isod
- Rydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael canllawiau ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.
- Rhaid ichi:
- fod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol
- bod â thri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru gydag RPW, neu
- gallu dangos mwy na 550 o oriau llafur safonol
Byddwn yn gwirio a oes gennych hawliad cymwys o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) i gadarnhau a ydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.
Os nad ydych wedi cyflwyno hawliadau am y Cynllun Talu Sylfaenol neu os na allwn gadarnhau bod gennych y tir, bydd rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch datganiad o ddiddordeb i gadarnhau eich bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a'ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd naill ai ar sail tri hectar o dir neu ar sail 550 o oriau llafur safonol.
Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn cynnwys y sectorau ffermio canlynol:
- cnydau âr
- eidion
- llaeth
- geifr
- garddwriaeth (gan gynnwys hydroponeg a phlanhigion dŵr)
- moch
- dofednod
- defaid
- cadw gwenyn
Nid ydych yn gymwys
- os ydych yn gwsmer sy'n cadw ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
- os ydych yn gwsmer coedwigaeth (gan gynnwys pobl sy'n berchen ar goetir yn unig)
- os ydych yn grŵp o ffermwyr (gan gynnwys Cymdeithasau Cynhyrchwyr)
Fodd bynnag, os yw dau ddaliad amaethyddol neu fwy'n cael eu rheoli fel uned unigol neu fod un person yn berchen arnynt neu eu bod i ryw raddau’n cael eu rheoli ar y cyd, a bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, da byw cyffredin, peiriannau a/neu storfeydd bwydo cyffredin, byddant yn cael eu hystyried yn un busnes.
- Os oes gennych gais presennol ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru 2025, nid yw parseli caeau lle mae opsiynau rheoli parhaol wedi'u lleoli yn gymwys i gael cefnogaeth Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.
Costau cymwys
Dim ond ar gyfer gweithgareddau a restrir yn y Rhestr o Weithgareddau Cymwys yn Atodiad A y byddwch yn gymwys i gael taliad.
Rhaid i weithgareddau fodloni neu ragori ar y fanyleb ofynnol a ddisgrifir.
Costau Anghymwys
- Cnydau nad ydynt yn cael eu disgrifio yn Atodiad A
- Cnydau sy'n cael eu tyfu ar dir nad yw wedi'i gofrestru i'ch Cyfeirnod Cwsmer.
Uchafswm ac Isafswm y Grant
Y grant mwyaf a ddyfernir, fesul rownd ymgeisio, yw £5,000.
Mae’r grant lleiaf y gellir ei ddyfarnu yn cyfateb i'r gyfradd dalu ar gyfer un hectar o gnwd cymwys.
Caiff eich cais fod yn fwy na'r uchafswm grant. Os dewisir eich datganiad o ddiddordeb, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio i'r uchafswm o £5,000.
Gofynion Allweddol
Yr arwynebedd lleiaf y gellir gwneud cais amdano yw un hectar o gnydau gorchudd. Caiff yr arwynebedd lleiaf o un hectar gynnwys nifer o ardaloedd llai mewn mwy nag un parsel cae, ar yr amod nad yw arwynebedd unrhyw barsel cae unigol yn is na 0.10 hectar.
Caiff ymgeiswyr rannu'r arwynebedd lleiaf o un hectar ar draws un neu fwy o barseli tir.
Rhaid tyfu pob cnwd yn unol â'r safonau a nodir yn Atodiad A.
Mae angen i'r amrywiaeth a’r cymysgedd o rywogaethau a ddewisir fod yn briodol i'r lleoliad.
Dim ond hadau ardystiedig y dylid eu defnyddio, a dylid eu hau ar y gyfradd hau a argymhellir.
Rhaid cynnal prawf pridd, neu rhaid bod un wedi’i gynnal yn y 3 blynedd cyn gwneud cais. Y gofyniad sylfaenol ar gyfer y prawf hwn yw dadansoddiad o lefelau P, K a pH. Bydd angen prawf pridd ar gyfer pob parsel cae unigol lle cynhelir opsiwn Tyfu er mwyn yr Amgylchedd., h.y. os bydd cnwd yn cael ei dyfu mewn dau barsel cae, bydd angen dau brawf pridd ar wahân.
Bydd canlyniadau'r profion pridd yn llywio'r camau sydd eu hangen yn y dyfodol i unioni unrhyw ddiffygion a nodwyd cyn sefydlu'r cnwd nesaf. Gallai hyn gynnwys defnyddio calch, gwrtaith â lefelau P a K priodol, slyri neu dail. Rhaid gwneud cais yn unol â system argymell gwrtaith gydnabyddedig, megis RB209 AHDB.
Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys dyddiadau tyfu a hau, cyfraddau hau, dyddiadau pori a chyfraddau stocio a'u cyflwyno fel rhan o'r hawliad.
Os cafodd dyfarniad grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd ar gyfer opsiwn y gorchudd cnydau ei dderbyn ar gyfer yr un lle yn 2022, gofalwch eich bod wedi gwneud cofnod o’r hyn a wnaethoch i unioni unrhyw ddiffyg o ran lefel P, K a pH yn y cnwd blaenorol ar gofnod y cae.
Mewn sefyllfaoedd lle nad yw cnwd wedi cael ei sefydlu'n llwyddiannus, h.y. oherwydd tywydd garw neu ddifrod gan blâu, dylech roi gwybod i RPW ar unwaith drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.
Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod yr hadau ar gael cyn derbyn y dyfarniad grant.
Bydd y dyfarniad grant ar gyfer y cyfnod hon yn dod i ben ar 28 Chwefror 2026, a dylid cyflwyno pob cais erbyn y dyddiad hwn.
Adran C: caniatadau
Mae'n ofynnol ichi gydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i’ch tir. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen caniatâd gan yr awdurdodau perthnasol, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn ymgymryd â rhai gweithgareddau.
Eich cyfrifoldeb chi yw ceisio unrhyw ganiatâd sydd ei angen i gyflawni'r gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.
Noder – nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Ardaloedd Dynodedig
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA):
Os oes gennych dir sydd wedi’i ddynodi’n SoDdGA (gan gynnwys ACA ac AGA) neu yn GNG, gallwch ei gynnwys yn eich dyfarniad grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd – ond rhaid sicrhau nad yw gofynion eich dyfarniad grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gwrthdaro â gofynion rheoli tir o dan ddynodiadau o’r fath.
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am reoli SoDdGAau a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Mae'n ofyniad cyfreithiol cael caniatâd ysgrifenedig gan CNC i gynnal gweithgareddau ar y tir hwnnw.
Parciau a Gerddi Cofrestredig, Henebion Rhestredig a Nodweddion Hanesyddol Eraill
Rhaid ichi sicrhau nad yw gofynion eich dyfarniad grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gwrthdaro â gofynion rheoli tir sydd wedi’i ddynodi’n Heneb Restredig nac yn difrodi Parciau a Gerddi Cofrestredig, Heneb Restredig a Nodweddion eraill yn yr Amgylchedd Hanesyddol. CADW yw’r corff sy’n gyfrifol am reoli Henebion Rhestredig a Pharciau a Gerddi Cofrestredig. Mae’n bosibl y bydd angen ei ganiatâd ysgrifenedig arnoch os ydych yn bwriadu cynnal gweithgareddau ar y tir hwnnw.
Os ydych am gynnal gweithgareddau sy’n golygu trin tir ar nodwedd mewn Amgylchedd Hanesyddol, bydd angen arnoch ganiatâd yr Ymddiriedolaeth Archeolegol Leol briodol yn eich ardal.
Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (EIA) (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017
Os oes llai na 25% o’r tir sy’n rhan o’r cynllun yn rhywogaethau porfa amaethyddol wedi’u gwella a/neu feillion gwyn, rhaid dilyn y Rheoliadau EIA.
Mae tir sy’n cyfateb i’r diffiniad hwn yn ôl y Rheoliadau yn dir lled-naturiol a rhaid gwneud Cais Sgrinio EIA cyn dechrau ar unrhyw waith ar y tir.
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Os ydych yn bwriadu ymgymryd â gweithgareddau a allai rwystro Hawl Tramwy Cyhoeddus, bydd angen ichi gael caniatâd yr Awdurdod Lleol neu'r Awdurdod Parc Cenedlaethol.
Arall
Rhaid ichi gydymffurfio â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol.
Adran D: gwneud cais i'r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd
RPW Ar-lein
Dim ond drwy ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein y gellir gwneud cais i’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Actifadu arno fel y gallwch agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8.30am – 5pm, Gwener 8.30am – 4.30pm) a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Bydd Cod Actifadu newydd yn cael ei anfon atoch.
I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.
Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Mae'r Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd ar gael yn yr adran 'Ceisiadau a Hawliadau' yn eich cyfrif.
Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar ein gwefan. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Actifadu Ar-lein ar gyfer Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Hefyd, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Asiant ar ôl cofrestru gyda Thaliadau Gwledig Cymru Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddant yn gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd i gael cymorth digidol.
Mae rhagor o wybodaeth am RPW (Taliadau Gwledig Cymru) Ar-lein ar gael ar ein gwefan.
Datblygu sgiliau a hyfforddiant cysylltiedig:
I fanteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael, ac i sicrhau bod y busnes fferm yn cael y gwerth gorau posibl gan y cynllun hwn, rydym yn argymell yn gryf fod ymgeiswyr yn cynnal yr hyfforddiant a'r gweithgareddau Datblygu Proffesiynol Parhaus priodol mewn perthynas â'r gweithgareddau sy'n cael eu cefnogi drwy'r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Yn benodol y modiwl ar briddoedd modiwl ar briddoedd (ar businesswales.gov.wales).
Mae Cyswllt Ffermio (ar businesswales.gov.wales) yn darparu amrediad o gyrsiau â chymhorthdal ac am ddim.
Adran E: y datganiad o ddiddordeb a'r broses ddethol
Cyflwyno datganiad o ddiddordeb
Canllawiau ar sut i gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-lein.
Mae Atodiad A yn rhestru'r gweithgareddau cymwys y gallwch wneud cais amdanynt o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.
Ar gyfer parseli tir a gyflwynir o fewn datganiad o ddiddordeb ar gyfer y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, ni chewch wneud unrhyw newidiadau drwy wasanaeth Rheoli fy Nhir RPW Ar-lein. Os yw'r newidiadau wedi'u cofrestru ar y parseli tir yn ystod y broses ymgeisio, ni fydd yr ardaloedd hynny yn gymwys ar gyfer cymorth.
Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer datganiadau o ddiddordeb sydd yn y broses ddrafftio drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y datganiad o ddiddordeb wedi’i gwblhau’n gywir a bod y wybodaeth a roddir i gefnogi eich prosiect yn gywir.
Sgorio
Mae angen i ymgeiswyr ddewis yr ardal lle bydd y gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn Amgylchedd yn cael eu cynnal, hyd at uchafswm y dyfarniad grant o £5,000, neu ardal ychwanegol sy'n fwy na hyn. Bydd y system yn cyfrifo sgôr derfynol yr ymgeisydd yn awtomatig. Bydd y prosiectau sydd â'r sgôr uchaf yn mynd yn eu blaenau.
Mae gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi cael eu sgorio yn dilyn asesiad a gynhaliwyd yn erbyn y meini prawf canlynol:
- Lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
- Lleihau colli pridd.
- Ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a gwneud busnesau fferm a choedwigaeth yn fwy cadarn.
- Rheoli ein hadnoddau dŵr i wella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd.
- Amddiffyn y dirwedd a'r amgylchedd hanesyddol gan wella mynediad ar yr un pryd.
- Cyfrannu at wyrdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru.
Rhoddir y sgoriau canlyniadol yn Atodiad A.
Yn dilyn cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, rhoddwyd sgôr i'r gweithgareddau. Mae'r sgôr derfynol yn cael ei chyfrifo drwy luosi arwynebedd y gweithgareddau rydych wedi eu dewis â sgôr y gweithgareddau, ac ychwanegu sgoriau ar gyfer amcanion sylfaenol dros y parsel y bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal ynddo. Mae matrics sgorio a sgôr enghreifftiol yn Atodiad B
Diben y broses sgorio yw galluogi i Lywodraeth Cymru drefnu’r datganiadau o ddiddordeb yn ôl faint o arian sydd ar gael ym mhob cyfnod ymgeisio.
Ni chewch wneud newidiadau ar ôl ichi gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb. Ar ôl ichi gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, os oes angen ichi wneud newidiadau, os bydd y cyfnod datgan diddordeb yn parhau i fod ar agor, cewch dynnu'n ôl y datganiad o ddiddordeb a gyflwynwyd a chyflwyno un newydd cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno.
Pan fydd ceisiadau'n ennill yr un sgôr, y cais am y gwerth isaf a ddewisir gyntaf.
Pan fydd gan geisiadau'r un sgôr, ynghyd â'r un gwerth a'r un safle ar y trothwy cyllid sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y ceisiadau hyn, yn dibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.
Dewis datganiadau o ddiddordeb llwyddiannus
Os caiff eich datganiad o ddiddordeb ei ddewis, cewch wybod drwy eich cyfrif RPW ar-lein.
Rhaid ichi dderbyn y dyfarniad grant o fewn 30 diwrnod calendr i'r dyddiad y cynigir y dyfarniad grant ichi, drwy'r botwm glas ar hafan eich cyfrif RPW Ar-Lein. Ni chewch gychwyn ar y gweithgareddau yn eich dyfarniad grant nes i'r dyfarniad grant gael ei gynnig ichi.
Os nad ydych yn derbyn eich dyfarniad grant o fewn 30 diwrnod calendr, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Bydd manylion llawn ynghylch pryd y bydd rhaid ichi dderbyn y dyfarniad grant, a phryd y bydd rhaid ichi brynu'r eitemau a hawlio amdanynt, yn cael eu nodi yn eich dyfarniad grant.
Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn dyfarniad grant.
Os ydych yn derbyn dyfarniad grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd ac yn tynnu'n ôl ar ôl ichi dderbyn y dyfarniad grant, gellir didynnu gwerth y dyfarniad grant o'r uchafswm grant o £5,000 sydd ar gael ichi mewn unrhyw gyfnodau dilynol.
E.e. datganiad o ddiddordeb wedi'i gyflwyno a gyfer Cyfnod 1 a dyfarniad grant wedi'i dderbyn â gwerth o £3,000. Os yw'r dyfarniad grant wedyn yn cael ei wrthod, y cyfanswm a fydd ar gael yn y cyfnod nesaf rydych yn gwneud cais ar ei gyfer fydd £2,000.
Os yw'r hawliad a gyflwynir yn rhannol ddilys (e.e. nid yw un eitem yn bodloni'r fanyleb, neu ni chyflwynir dogfennau ategol) gellir didynnu gwerth y dyfarniad grant nad oedd yn gymwys o'r cyfanswm a oedd ar gael ar gyfer unrhyw gyfnod ddilynol.
Tynnu datganiadau o ddiddordeb yn ôl
Pan fydd busnes wedi cyflwyno cais, a oes modd ei dynnu'n ôl?
- Oes, os bydd y cyfnod datgan diddordeb ar agor
- Oes – ar ôl i gyfnod datgan diddordeb gau OND cyn i'r busnes dderbyn y dyfarniad grant.
- Nac oes – ar ôl i fusnes gael ei ddewis a ddyfarniad grant gael ei gynnig i'r busnes
Cewch dynnu eich cais yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-Lein; cewch ailgyflwyno cais cyn i'r cyfnod cau
Gallwch dynnu eich cais yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein.
Os ydych wedi dewis y lleoliad anghywir neu wedi newid eich meddwl am y gweithgaredd rydych wedi'i dewis, yna rhaid ichi dynnu'ch cais yn ôl a gwneud cais arall yn y rownd nesaf.
Cofiwch fod y broses yn un gystadleuol ac nad oes gwarant y byddwch yn llwyddiannus yn y rownd nesaf.
Ni allwn dderbyn datganiad o ddiddordeb yn cael ei dynnu'n ôl ar ôl i ddyfarniad grant gael ei gynnig.
Ni allwn dderbyn newidiadau i'r dyfarniadau grant ynglŷn â'r gweithgaredd na'i leoliad ar yr adeg hon.
Adran F: amodau’r grant
Mae’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn ddarostyngedig i amrediad o ddeddfwriaeth berthnasol (gweler Adran C). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.
Mae’r cynnig o grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich dyfarniad grant, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod. Bydd y dyfarniad grant yn para wyth mis ar ôl dyddiad cyhoeddi’r dyfarniad grant. Gallai methu â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo eich dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu ichi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.
Amodau
Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.
Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir o dan gyfraith y DU.
Ni chewch newid y dyfarniad grant, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.
Rhaid cwblhau gweithgareddau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech wyro o'r amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen hawlio Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen o dan y cynllun.
Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y dyfarniad grant. Ni ddylech wyro o'r amserlen y cytunwyd arni na newid gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall. Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.
Rhaid cadw cofnodion mewn perthynas â’r cais a’r hawliad am y grant hwn am o leiaf pum mlynedd ar ôl dyddiad dod i ben y prosiect.
Mae’n rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Os gofynnir, rhaid ichi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r prosiect.
Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Adran G: taliadau
Hawliadau
Dim ond drwy ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein y cewch wneud hawliad i’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Gwneir taliadau pan fydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi cael ei wneud a bod y gwaith wedi cael ei gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.
Er mwyn derbyn taliadau drwy’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd rhaid ichi:
- Fod wedi derbyn y cynnig o gontract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd o fewn 30 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a bodloni'r holl ofynion.
- Sicrhau eich bod wedi cwblhau'r holl weithgareddau a restrir yn eich dyfarniad grant ar ôl ichi dderbyn y cynnig o gontract.
- Sicrhau eich bod wedi ymgymryd â'r holl weithgareddau a restrir yn eich dyfarniad grant.
- Cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant yn eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio – sef 28 Chwefror 2026.
- Cyflwyno'r holl ddogfennau ategol.
Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer unrhyw hawliadau sy'n weddill drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad.
Nid ystyrir hawliad yn ddilys oni bai ei fod wedi cael ei gyflwyno drwy’r dudalen Hawlio Grantiau yn ein cyfrif RPW Ar-Lein a nes y bydd yr holl ddogfennau ategol wedi cael eu cyflwyno.
Gallwch gyflwyno eich hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r gweithgareddau.
Ni roddir unrhyw estyniadau y tu hwnt i 31 Mawrth 2026
Dogfennau Ategol
Gallwch gyflwyno anfonebau a dogfennau ategol drwy eu sganio a’u hanfon drwy 'Fy negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein.
Mae'n ofynnol i'r dystiolaeth ganlynol gael ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio:
- Tystiolaeth o brawf pridd (copi o'r adroddiad ar y canlyniadau wedi'i ddyddio, gan gynnwys enw a chyfeiriad yr ymgeisydd a chyfeirnod y cae). Mae angen prawf pridd ar gyfer pob parsel cae unigol.
- Copi o'r holl anfonebau am hadau.
- Copi o'r holl ‘labeli’ hadau. Rhaid iddynt gynnwys manylion y cymysgedd o hadau.
- Copi o'r holl anfonebau contractio (os defnyddir contractwyr).
- Ffotograffau â geo-dagio o'r cae(au) yn ystod y camau canlynol:
- Cyn trin y tir neu ddrilio uniongyrchol.
- Yn ystod trin y tir a gweithgareddau hau.
- Ar 15 Chwefror 2026 yn dangos gorchudd cnwd llawn.
- Copi o'r cofnod o weithgareddau yn y cae.
Canllawiau ar gyflwyno ffotograffau â geo-tag
Os na fydd digon o dystiolaeth yn cael ei darparu erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio, efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Gweithgareddau heb eu cwblhau
Os yw cyflenwyr wedi dweud wrthych nad ydynt yn gallu cyflenwi'r hadau o fewn yr amserlen ofynnol, bydd angen ichi gysylltu â ni drwy 'Fy Negeseuon’ yn eich cyfrif RPW Ar-lein a rhoi gwybod inni am y broblem.
Os na allwch gwblhau'r gweithgaredd, o fewn yr amserlenni gofynnol, (e.e. hadau heb eu hau o fewn deg diwrnod i gynaeafu oherwydd tywydd garw), bydd angen ichi gysylltu â ni drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein a roi gwybod inni am y broblem cyn y dyddiad cau ar gyfer gweithgaredd.
Mewn amgylchiadau eithriadol lle roedd yn amhosibl hau'r cnwd am gyfnod estynedig ar ôl cynaeafu ac nad yw plannu'r cnwd gorchudd bellach yn weithgaredd hyfyw am resymau amgylcheddol, bydd angen ichi gysylltu â ni drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein a rhoi gwybod i ni. Yn yr amgylchiadau hyn bydd pob achos yn cael ei ystyried fesul achos.
Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi eich hysbysiad.
Hawliadau anghywir a chosbau
Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir.
Rhaid i’r holl weithgareddau a gymeradwywyd fod wedi eu cwblhau ar ôl derbyn y dyfarniad grant.
Bydd eich hawliad yn anghywir:
- Os nad ydych wedi cwblhau'r gweithgareddau a restrir yn y dyfarniad grant.
- Os ydych wedi sefydlu math anghywir o gnydau neu'r fanyleb anghywir.
- Os ydych wedi dechrau unrhyw waith cyn i'r dyfarniad grant gael ei gynnig.
- Os nad ydych wedi cyflwyno'r holl ddogfennau y gofynnwyd amdanynt.
Mae’n rhaid ichi hawlio am yr holl weithgareddau a restrir yn eich dyfarniad grant.
Os ydym yn gweld nad oedd y gweithgareddau hynny'n bodloni'r fanyleb, neu os nad oedd yr ardal a heuwyd yn bodloni gofynion y dyfarniad grant, bydd taliadau'n cael eu lleihau i lefel y gweithgareddau a gyflawnwyd yn unol â'r fanyleb ofynnol.
Os gwelir bod lefel y gweithgareddau anghymwys yn fwy na 10% o'r taliad cymwys, bydd swm sy'n cyfateb i werth y gweithgareddau anghymwys yn cael ei dynnu o'ch taliad.
Er enghraifft:
Mae cwsmer yn hawlio am y gweithgaredd canlynol â chyfanswm gwerth grant o £3,000
| Gweithgaredd | Maint | Gwerth y Grant |
| Cnydau gorchudd | 30 hectar | £3,930 |
| Cyfanswm | £3,930 |
Yn yr enghraifft hon, nid yw un hectar, â gwerth o £131, yn bodloni'r fanyleb. (Ni chyflwynwyd anfoneb hadau i ddangos bod y cnwd wedi'i blannu ar draws y 30 hectar llawn ac nad oedd unrhyw ganlyniadau profion pridd ar gyfer un parsel tir). Y cyfanswm a hawliwyd yw £3,930 a gwerth y gweithgaredd na chafodd ei gymeradwyo yw £131. Gan fod gwerth y gweithgaredd anghymwys yn llai na 10% o'r taliad cymwys (£3,930), cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £3,799.
Fodd bynnag, os nad yw wyth hectar, â gwerth o £1,048, yn bodloni'r fanyleb, y cyfanswm a hawliwyd yw £3,930 a gwerth yr eitem na chafodd ei chymeradwyo yw £1,048. Bydd gwerth y gweithgaredd anghymwys, sef 1,048, yn cael ei dynnu o'r hawliad gwreiddiol o £3,930 gan adael swm o £2,992. Gan fod gwerth y gweithgaredd anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys (£2,882) bydd swm sy'n cyfateb i werth yr eitem anghymwys, sef £1,038, yn cael ei dynnu o'r swm sy'n weddill hefyd. Cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £1,834.
Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch unrhyw beth fydd ei angen arnoch ar gyfer eich dyfarniad grant, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig ei fod yn gymwys cyn ichi ysgwyddo’r costau.
Troseddau
Mae Rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Mae troseddau'n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig; rhwystro arolygydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.
Adran H: newidiadau i reolau’r cynllun
Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys Dehongliadau Newydd)
Gall deddfwriaeth newid o dro i dro a bydd yn ofynnol ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.
Newidiadau i Reolau’r Cynllun neu Gontract
Mae’n bosibl y bydd angen inni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich dyfarniad grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen inni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar ein gwefan ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.
Adran I: rheoliadau, monitro a chadw cofnodion
Rheolaethau
Rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.
Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y gweithgareddau wedi cael eu cynnal cyn ichi dderbyn y taliad neu ar ôl ichi dderbyn y taliad.
Bydd holl fanylion eich datganiad o ddiddordeb, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb a chyflwyno eich hawliad yn cael eu gwirio.
Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu arnoch cyn lleied â phosibl, ond mae rhai gwiriadau yn gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich hysbysu ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.
Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau a gallwch gael eich erlyn.
Monitro
Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect
Rhaid ichi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr gynnal archwiliadau.
Cadw cofnodion
Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.
Bydd yn ofynnol ichi hefyd:
- Roi i Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth am eich dyfarniad grantTyfu er mwyn yr Amgylchedd a cyflwyno'r wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru.
- Sicrhau bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, mewn perthynas â'ch dyfarniad grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld. Rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru gymryd dogfennau neu gofnod neu i wneud copïau neu godi darnau ohonyn nhw.
Adran J: y weithdrefn apelio a chwyno
Y Weithdrefn Apelio
Nid oes unrhyw sail dros apelio os bydd eich datganiad o ddiddordeb yn aflwyddiannus
Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd ichi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.
Mae dwy ran i’r broses apelio:
- Cam 1: adolygiad gan RPW
- Cam 2: adolygiad gan Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb Cam 1).
Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.
Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Bydd y taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn os bydd Cam 2 yr apêl naill ai'n llwyddiannus neu'r rhannol lwyddiannus.
Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth ategol, gael eu cyflwyno drwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu'r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.
Mae croeso ichi apelio yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi wrth brosesu eich apêl.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllaw.
Y weithdrefn gwyno
Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:
Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn 03000 251378
E-bost: complaints@llyw.cymru
Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru
Cewch hefyd gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pen-coed,
CF35 5LJ
Ffôn 0300 790 0203
Gwefan: Ombwdsmon
Adran K: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru
Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Cyn rhoi cyllid grant ichi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol ichi.
Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.
Er mwyn asesu cymhwysedd efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- Awdurdodau Lleol Cymru
- Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
- DEFRA
- Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU.
- Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.
Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.
Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad a gafodd ei gyhoeddi. Bydd y wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw data. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a bod pob taliad wedi'i wneud. Os byddwch yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y gwnaethoch eu rhoi inni.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
- gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- gofyn inni 'ddileu' eich data’ (o dan rai amgylchiadau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif Ffôn: 0330 414 6421
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.
Adran L: deddfwriaeth
Mae’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn cyflawni yn erbyn amrediad o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth Mae'r rhain wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.
Mae’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE (REUL) a ddargedwir Rhif 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o dro i dro).
Mae Cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei gweithredu yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):
- Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
- Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)
Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:
- gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol.
- cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
- sicrhau cadernid hinsawdd.
- sicrhau bod cymunedau ac economïau gwledig yn cael eu datblygu mewn ffordd diriogaethol a chytbwys, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth.
Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol ar gyfer y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd:
- Lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd ac addasu iddi.
- Arloesi.
- Yr Amgylchedd.
Bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.
Bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru, sef:
- Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd.
- Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol.
- Y Gymraeg.
Yn ogystal, bydd ceisiadau i'r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.
Bydd gweithgareddau’n mynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:
- annog pobl i rannu gwybodaeth ac i arloesi ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac mewn ardaloedd gwledig.
- gwneud amaethyddiaeth yn fwy hyfyw a chystadleuol ar bob math o fferm, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd.
- hyrwyddo cadwyni cyflenwi bwyd trefnus, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg mewn amaethyddiaeth.
- adfer, cadw a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth
- hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth.
- hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gwaith i leihau tlodi a datblygu’r economi mewn ardaloedd gwledig.
Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal
Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi cael eu categoreiddio’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn yn cael eu hesemptio o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.
Adran M: cysylltiadau
Ymholiadau – y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW Ar-lein
Gallwch ofyn cwestiwn drwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.
Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig
Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Wedyn bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam posibl i diwallu eich anghenion.
Gwefan Llywodraeth Cymru
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Drwy fynd i'r wefan bydd cyfle ichi gofrestru i e-newyddlen yr Adran Materion Gwledig gael ei hanfon atoch drwy e-bost.
Gwlad
E-newyddlen Gwlad yw e-newyddlen Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn e-newyddlen Gwlad.
Cysylltiadau defnyddiol eraill
Cyfoeth Naturiol Cymru
am SSSI, NNR, SAC neu Tir cytundeb SPA:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Ffôn: 0300 065 3000
Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 8yb – 6yp)
Ymholiadau cyffredinol: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
Cadw
ar gyfer Henebion Rhestredig (SAMs) a Pharciau a Gerddi Cofrestredig:
Cadw
The Welsh Government
Plas Carew
Unit 5/7 Parc Cefn Coed
Nantgarw
Cardiff
CF15 7QQ
Ffôn: 01443 33 6000
Ffacs: 01443 33 6001
E-bost: Cadw@Wales.gsi.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg / We welcome calls in Welsh.
Ymddiriedolaethau Archaeolegol
Ar gyfer henebion hynafol neu nodweddion hanesyddol heb eu rhestru, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Archaeolegol berthnasol yn eich ardal:
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys
41 Broad Street
Welshpool
Powys
SY21 7RR
Ffôn: 01938 553670
Ffacs: 01938 552179
E-bost: trust@cpat.org.uk
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Glamorgan-Gwent
Heathfield House
Heathfield
Swansea
SA1 6EL
Ffôn: 01792 655208
Ffacs: 01792 474469
E-bost: enquiries@ggat.org.uk
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
The Shire Hall
Carmarthen Street
Llandeilo
Dyfed
SA19 6AF
Ffôn: 01558 823121
Ffacs: 01558 823133
E-bost: info@dyfedarchaeology.org.uk
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
Craig Beuno
Garth Road
Bangor
Gwynedd
LL57 2RT
Ffôn: 01248 352535
Ffacs: 01248 370925
E-bost: gat@heneb.co.uk
Gwefan Heneb
Atodiad A
Disgrifiadau o weithgareddau sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd (cnydau'r hydref) a gofynion sylfaenol
| Cnwd / Gweithgaredd | Disgrifiad a'r gofynion sylfaenol | Gwerth y Grant (£ / hectar |
| Disgrifiad
Sefydlu cnwd gorchudd nad yw'n cael ei chwistrellu ar ôl cynaeafu ydau, indrawn neu gnwd garddwriaethol yn yr hydref lle mae pridd, ar ôl cynaeafu, fel arfer yn cael ei adael yn foel neu â sofl.
Manteision
Bydd y cnwd yn:
Gofynion sylfaenol
Sefydlu:
| £131 |
Atodiad B
Sgorio datganiadau o ddiddordeb
Sgôr cnydau gorchudd = 26 pwynt
| Haen | SGÔR |
| Llyn | 4 |
| Afon | 4 |
| Pwll dŵr | 1 |
| Ffos | 6 |
| SoDdGAau Biolegol a 300m o lain glustogi | 6 |
| SoDdGA Biolegol ar Arfordir ac Iseldir â Blaenoriaeth | 48 |
| Madfall Fawr Gribog 1km | 3 |
| Gwyniad | 6 |
| Misglen berlog yr afon | 4 |
| Cen ar hen goed wrth ymylon ffyrdd a thir parc | 3 |
| Y gardwenynen lwydfrown | 4 |
| Y gardwenynen Feinlais | 4 |
| Iseldir – blaenoriaeth un | 6 |
| Ucheldir – blaenoriaeth tri | 4 |
| Ansawdd dŵr – blaenoriaeth un | 30 |
| Ansawdd dŵr – blaenoriaeth dau | 10 |
| Ansawdd dŵr – blaenoriaeth tri | 3 |
| Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pedwar | 2 |
| Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump | 1 |
| Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 40–50% | 1 |
| Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 50–60% | 2 |
| Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 60–70% | 10 |
| Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 70–80% | 18 |
| Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 80–90% | 32 |
| Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 90–100% | 60 |
| Lleihau'r perygl o lifogydd (Rheoliadau ynghylch storio dŵr a llif uchaf - adfer a chreu gwlyptir a golchdir) | 20 |
| Ardaloedd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac ardaloedd gwarchodedig sydd â dyddiad cau ar gyfer cyflawni amcan amgylcheddol erbyn 2015 | 20 |
| Materion Maethynnau â Thystiolaeth | 8 |
Sgôr enghreifftiol
Cnydau gorchudd = 26 pwynt
2.4ha o gnydau gorchudd wedi'i ddewis mewn un parsel cae gyda'r amcanion sylfaenol canlynol:
SoDdGA Biolegol a 300m o Lain Glustogi (6 phwynt)
Afon sensitif (4 pwynt)
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump (1 pwynt)
Sgôr wedi'i chyfrifo fel a ganlyn:
2.4 (hectar o gnydau gorchudd) X (26 pwynt (cnydau gorchudd) + 6 pwynt (SoDdGA + 300m o lain glustogi) + 4 pwynt (afon sensitif) + 1 pwynt (ansawdd dŵr – ardal blaenoriaeth pump))
Felly: 2.4 X (26 + 6 + 4 + 1 = 37)
Felly: 2.4 X 37 = 88.8
Sgôr terfynol = 88.8 pwynt
