Cymorth myfyrwyr Cymru
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Os wyt ti’n 16 i 18 oed, yn byw yng Nghymru ac yn astudio yn yr ysgol neu'r coleg, efallai y byddi di’n gymwys i gael cymorth ariannol drwy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).
Gall myfyrwyr cymwys gael £40 yr wythnos, sy’n cael ei dalu'n uniongyrchol i ti bob pythefnos, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth sy'n dy helpu i barhau â dy addysg.
Beth yw’r LCA?
Gall yr LCA helpu gyda chostau addysg bob dydd fel teithio, bwyd, hanfodion astudio neu dreuliau eraill. Fydd cael LCA ddim yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau i dy gartref gan gynnwys y Budd-dal Plant, Credydau Treth, Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Pwy all gael LCA?
Galli di fod yn gymwys os:
- Wyt ti’n 16-18 oed
- Yn byw yng Nghymru
- Yn astudio cwrs ysgol neu goleg cymwys
- Yn bodloni'r gofynion presenoldeb
- Os ydy incwm dy gartref yn bodloni'r meini prawf
Does dim angen dy ganlyniadau TGAU arnat ti cyn gwneud cais a galli di wneud cais hyd yn oed os nad wyt ti wedi dewis dy gwrs eto.
Gwiria a wyt ti’n gymwys
Cefnogaeth arall i fyfyrwyr
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
Os ydych chi'n 19 oed neu'n hŷn ac yn astudio yn y coleg, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael y grant hwn.
Gallech chi gael hyd at £1,919 i helpu gyda chostau coleg.
Gwiriwch a allwch chi gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn
Mae'r gronfa hon yn rhoi arian i fyfyrwyr sydd angen help ychwanegol. Nid oes angen ichi ei dalu'n ôl.
Gallwch chi wneud cais am arian y gronfa hon hyd yn oed os ydych chi eisoes yn cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.
I gael gwybod mwy, siaradwch â'ch tiwtor neu swyddfa'r coleg.
Teithio'n rhatach ar y bysiau
Os ydych chi'n 16 i 21 oed, gallwch chi gael FyNgherdynTeithio am ddim.
Drwy ddefnyddio FyNgherdynTeithio byddwch chi'n talu tua 30% yn llai am bris y tocyn. Mae hyn yn arbed arian ichi ei wario ar bethau eraill.
Mae Llywodraeth Cymru yn arbrofi ar dâl hyd yn oed rhatach ar hyn o bryd:
- £1 am docyn unffordd
- £3 am docyn diwrnod
Dangoswch FyNgherdynTeithio i'r gyrrwr i gael y disgownt.
I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, ewch i fyngherdynteithio.trc.cymru.
Mynd i'r brifysgol?
Os ydych chi'n mynd i'r brifysgol, mae cymorth ariannol ar gael i helpu gyda ffioedd a chostau byw.
