Peidiwch â gadael i arian eich atal rhag astudio
Cymorth ariannol ar gyfer y brifysgol
Mae mynd i'r brifysgol yn fwy na chael gradd, mae'n gyfle i drawsnewid eich bywyd.
Mae graddedigion prifysgol fel arfer yn ennill llawer mwy o gyflog dros eu hoes, yn cael cyfleoedd gyrfa cyffrous, ac yn datblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.
Heblaw am astudio, byddwch chi'n gwneud ffrindiau am oes, yn dilyn angerddau newydd, yn magu hyder ac yn datblygu i fod yn fwy annibynnol.
Y rhan orau? Mae cymorth ariannol ar gael i wireddu eich breuddwydion, waeth beth fo'ch cefndir.
Pa gymorth ariannol sydd ar gael?
Israddedigion
Ffioedd dysgu
Fel myfyriwr o Gymru sy'n dechrau yn y brifysgol, gallwch chi gael benthyciadau ffioedd dysgu ar gyfer astudio'n amser llawn ac yn rhan-amser.
Mae'n bwysig gwybod: Ni fyddwch chi'n talu'r benthyciad yn ôl nes eich bod chi'n ennill digon ar ôl ichi raddio.
Costau byw
Angen cymorth ar gyfer eich bywyd yn y brifysgol? Gallwch chi gael cyfuniad o fenthyciadau cynhaliaeth a grantiau i dalu eich costau. Mae'r swm yn dibynnu ar incwm eich teulu a ble rydych chi'n astudio.
Bydd Llywodraeth Cymru yn talu £1,500 o falans eich benthyciad cynhaliaeth, sy'n golygu £1,500 yn llai ichi ei ad-dalu!
Cymorth ariannol ychwanegol
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol nad oes rhaid ichi ei dalu'n ôl.
Lwfans i Fyfyrwyr Anabl
Mae hwn yn gymorth ychwanegol ar ben eich cyllid myfyrwyr arall. Mae'n helpu i dalu am gostau sy'n gysylltiedig ag astudio fel:
- Cyfarpar
- Cymorth cynorthwyydd anfeddygol
- Costau teithio
- Argraffu a llungopïo
Grant Gofal Plant
Mae'n helpu i dalu costau gofal plant os ydych chi'n fyfyriwr israddedig sydd â phlant. Nid oes angen ichi dalu hwn yn ôl.
Lwfans Dysgu i Rieni
Mae'n helpu gyda chostau ychwanegol a allai fod gennych fel myfyriwr israddedig sydd â phlant, fel llyfrau a deunyddiau astudio. Nid oes angen ichi dalu hwn yn ôl.
Grant Oedolion Dibynnol
Cymorth ariannol os ydych chi'n fyfyriwr israddedig sydd ag oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol, fel partner ar incwm isel. Nid oes angen ichi dalu hwn yn ôl.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer Myfyrwyr israddedig amser llawn a Myfyrwyr israddedig rhan-amser ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Bwrsariaethau
Os ydych chi'n astudio gofal iechyd, meddygaeth, deintyddiaeth neu waith cymdeithasol, efallai y byddwch chi hefyd yn gallu gwneud cais am fwrsariaeth nad oes angen ei had-dalu.