Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (WDQR) 2021: asesiad effaith integredig
Asesiad o effaith y Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (WDQR) 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa gamau gweithredu mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?
Cefndir
Hyd at fis Hydref 2021, roedd yn ofynnol i gynlluniau tai fforddiadwy a adeiladwyd gan ddefnyddio Grant Tai Cymdeithasol neu a ddarparwyd drwy gytundebau cynllunio adran 106, fodloni "Gofynion Ansawdd Datblygu" (DQR) 2005 Llywodraeth Cymru. Gwnaeth yr Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy 2019 22 o argymhellion allweddol. Nododd Argymhelliad 3 y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu safonau cyfunol a symlach newydd ar gyfer cartrefi a adeiledir o'r newydd a ariennir gan grant a chartrefi Adran 106. Dylai'r safonau newydd fod yn haws i'w defnyddio ac ni ddylent gynnwys gofynion sy'n gwrthdaro. Dylai'r safonau newydd ganolbwyntio ar safonau isafswm lle, gan gynnwys mannau storio dan do ac yn yr awyr agored.
Paratôdd Llywodraeth Cymru safon ddrafft o'r enw "Mannau a Chartrefi Prydferth" (BHS) a oedd yn ymateb i argymhelliad 3 o'r Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy. Roedd BHS yn cynnwys canllawiau ar y defnydd o ddulliau adeiladu modern (MMC) ac yn annog defnyddio "economi gylchol" a mentrau carbon isel eraill er mwyn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau lleihau carbon.
Yn dilyn ymgynghoriad llawn yn 2020, diwygiwyd BHS gan newid yr enw i "Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021", dan yr is-deitl "Mannau a Chartrefi Prydferth" (WDQR 2021). Roedd newidiadau eraill yn cynnwys mwy o bwyslais ar bwysigrwydd cartrefi iach, llesiant, iechyd meddwl, addasrwydd diwylliannol, creu lleoedd, ecoleg a chynaliadwyedd.
Ym mis Gorffennaf 2021, cafodd y safon ei chyhoeddi gan ddisodli'r fersiwn flaenorol o 2005 (a oedd yn destun sawl diweddariad a chylchlythyrau esboniadol cysylltiedig). Daeth WDQR 2021 yn orfodol ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy o 1 Hydref 2021.
Cytunwyd y bydd y safon yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd.
Yn 2023, fe wnaeth swyddogion adolygu WDQR 2021 ar waith a daeth i'r casgliad nad oedd angen newid y safon yn sylweddol i gynnal nodau polisi ar y pryd. Fodd bynnag, cododd cwestiynau mewn perthynas â chymhwyso'r safon a gafodd sylw wrth gyhoeddi Atodiad Cwestiynau Cyffredin (Cwestiynau Cyffredin) WDQR 2021 Rhagfyr 2023.
Bydd yr adolygiad nesaf o'r safon yn cael ei gynnal yn 2025.
Wrth baratoi'r safon, rhoddwyd ystyriaeth i gymhwyso'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel a ganlyn;
Hirdymor
Mae Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru 2021 yn nodi tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol i Gymru yn y dyfodol. Bydd y safon yn dylanwadu ar y rhan fwyaf o chwe thema'r adroddiad.
Rhagwelir y bydd twf y boblogaeth yng Nghymru yn cynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf ac y bydd hyn yn golygu mwy o alw am ddarparu mwy o gartrefi. Mae pryder am ansawdd y cartrefi sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd ym mhob sector yng Nghymru, ac mae mabwysiadu'r safon yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn ac yn codi safonau. Rhagwelir y bydd cynnydd sylweddol mewn pobl hŷn, gan gynyddu'r galw am ddarparu cartrefi hygyrch, yn enwedig cartrefi sy'n addas i fyw ynddynt gydol oes estynedig. Hefyd, mae effeithiau'r argyfwng Covid wedi rhoi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd safonau gwagle ar gyfer gweithio gartref ac anghenion teuluol cysylltiedig.
Bydd y safon yn bodloni'r heriau ar gyfer hygyrchedd mewn cartrefi angen cyffredinol trwy weithredu egwyddorion dylunio Cartrefi Gydol Oes, ochr yn ochr â gweithdrefnau "arferion gorau" eraill i annog tai o ansawdd uchel trwy bensaernïaeth dda.
Yr egwyddor ataliol
Cydnabyddir y bydd darparu tai o ansawdd da yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobl sy'n byw yn eu cartrefi. Mae'r safon hefyd yn lliniaru difrod amgylcheddol drwy annog "Economi Gylchol" a mesurau carbon isel eraill er mwyn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau lleihau carbon.
Integreiddio
Mae cynyddu'r cyflenwad tai a chodi ansawdd cartrefi newydd yn bolisi allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddi mewn tai yn cefnogi economi Cymru o ran cynnal a chefnogi swyddi yn y diwydiant adeiladu yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi. Mae hyn yn cyfrannu at yr agenda trechu tlodi trwy ddarparu swyddi a chyfleoedd hyfforddi. Mae caffael contractau yn galluogi i fuddion ein buddsoddiad aros yng Nghymru er mwyn i'n cymunedau fanteisio i’r eithaf arno. Dylai swyddi sy’n cael eu creu gan ddatblygiad tai ddarparu cyflogaeth i lawer o'r rhai sy'n ddi-waith yn y gweithlu adeiladu gan greu effaith gadarnhaol sylweddol ar eu lles meddyliol a chorfforol (mae effeithiau diweithdra ar iechyd yn amlwg i bawb), lleihau gwariant ar fudd-daliadau, helpu i fynd i'r afael â digartrefedd a rhoi hwb i gyfleoedd prentisiaethau a hyfforddiant.
Mae'r safon wrth wraidd targed allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor cyfredol y llywodraeth, sef darparu 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol.
Mae'r safon wedi'i drafftio yn ysbryd Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi, gan ystyried y strategaeth genedlaethol ac ymrwymiadau "Symud Cymru Ymlaen" sy'n gosod llwyfan ar gyfer darparu cartrefi o ansawdd da ar gyfer y dyfodol.
Cydweithio a chynnwys
Cynhaliwyd adolygiad o'r DQR blaenorol (2005) yn 2017, a oedd yn cynnwys ymgyngoriadau eang â rhanddeiliaid.Fe wnaeth panel yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy adolygiad o safon 2005 hefyd ac ymgynghori ar ei argymhellion cyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol ym mis Ebrill 2019. Mae'r safon bresennol yn ymateb i adborth rhanddeiliaid ac argymhellion adolygiad 2019 sy'n ymwneud ag ansawdd tai.
Ar ben hynny, roedd ymgynghoriad llawn yn ystod 2020 ar safon ddrafft (y cyfeiriwyd ati yn flaenorol fel BHS) yn galonogol gyda 77 o ymatebwyr, gan gynnwys ystod eang o randdeiliaid o'r sector tai. Roedd cryn gefnogaeth i'r safon ond roedd dros draean o'r ymatebion yn codi pryderon sy'n deilwng o'u hystyried ymhellach a diwygiadau arfaethedig i'r safon ddrafft. Roedd llawer o ddiddordeb mewn hygyrchedd (Cartrefi Gydol Oes), safonau gwagle a dylunio carbon isel.
Yn ogystal â'r "pum ffordd o weithio" y cyfeirir atynt uchod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015", rhoddwyd ystyriaeth i'r canlynol:
Effaith
Y ddadl dros y cynigion yw bod y safon ar gyfer cartrefi newydd wedi darfod ac angen ei hadolygu yng ngoleuni tueddiadau'r dyfodol a pholisi esblygol Llywodraeth Cymru. Roedd cefnogaeth eang i ddarparu safon ansawdd tai yn y sector Tai Cymdeithasol.
Un o brif argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy (2019) yw y dylai Llywodraeth Cymru osod nod hirdymor erbyn 2025 fan bellaf i gael yr un safon ar gyfer pob cartref waeth beth yw'r deiliadaeth. Ar hyn o bryd nid oes safon ansawdd debyg yn bodoli ar gyfer y sector adeiladu tai preifat ac mae effaith y safon newydd yn sylweddol ac yn annog pob datblygwr tai i wneud newidiadau sylweddol o ansawdd gwell mewn safonau gwagle penodol, wrth ddarparu tai ar werth.
Costau ac arbedion
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol, gan y bydd effaith ariannol gofynion dylunio yn cael ei chynnwys yn y cyllidebau presennol ac arfaethedig. Bydd Canllawiau Costau Derbyniol (ACGs) yn cael eu haddasu lle bo angen er mwyn cyfrannu tuag at unrhyw gostau ychwanegol sy'n codi drwy adeiladu i safon WDQR 2021 yn y ffordd arferol. Yn y tymor byr, bydd costau adeiladu cartrefi mewn ffyrdd carbon isel newydd o bosibl yn cynyddu'r gost fesul cartref wrth i gadwyni cyflenwi Cymru dyfu ac addasu i gyfleoedd economi werdd. Mae costau uwch yn gyfnewid am safonau uwch bob amser wedi eu hystyried a'u ffactoreiddio mewn rhaglenni ar gyfer y llywodraeth.
Mecanwaith
Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gynnig.
Casgliad
8.1 Sut mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi cyfrannu at y gwaith o’i ddatblygu?
Mae datblygiad "WDQR 2021" wedi cynnwys ymgynghoriad llawn â rhanddeiliaid, a hynny yn ystod yr adolygiad penodol o'r Gofynion Ansawdd Datblygu (DQR 2005) yn 2017, yn ystod y gwahanol gamau ymgynghori sy'n gysylltiedig â'r Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy (2019) ac yn fwyaf nodedig trwy ymgynghoriad llawn ar BHS yn 2020.
Rydym yn fodlon bod y cynigion yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gynnwys pobl, gan gynnwys rhieni sy'n cynrychioli plant, pobl â nodweddion gwarchodedig a phob person arall y mae'r cynigion yn effeithio arnynt.
8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Mae WDQR 2021 wedi disodli'r "Gofynion Ansawdd Datblygu" (DQR) a gyhoeddwyd yn 2005. Mae'r safon (WDQR 2021) yn disgwyl dyluniad o ansawdd uchel i ddarparu cartrefi sydd â digon o le, sydd yn ddeniadol yn weledol, yn effeithlon o ran ynni, ac yn gartrefi carbon isel.
Mae'r safon yn sail i ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o dai fforddiadwy carbon isel i'w rhentu. Mae'r safon wedi'i drafftio yn ysbryd "Ffyniant i Bawb", gan ystyried y strategaeth genedlaethol ac ymrwymiadau "Symud Cymru Ymlaen" sy'n gosod llwyfan ar gyfer darparu cartrefi o ansawdd da ar gyfer y dyfodol.
8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig:
yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu
yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Rhagwelir y bydd twf y boblogaeth yng Nghymru yn cynyddu a fydd yn golygu mwy o alw am ddarparu mwy o gartrefi. Mae pryder am ansawdd y cartrefi sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd ym mhob sector yng Nghymru a bydd mabwysiadu'r safon yn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Rhagwelir y bydd cynnydd sylweddol mewn pobl hŷn, gan gynyddu'r galw am ddarparu cartrefi hygyrch, yn enwedig cartrefi sy'n addas i fyw ynddynt gydol oes estynedig.
Bydd y safon yn bodloni'r heriau hygyrchedd mewn cartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer angen cyffredinol trwy weithredu egwyddorion dylunio Cartrefi Gydol Oes, ochr yn ochr â gweithdrefnau "arferion gorau" eraill er mwyn annog tai o'r radd flaenaf trwy bensaernïaeth dda ac "arferion gorau”.
8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?
Bydd y safon yn cael ei hadolygu'n rheolaidd fel bo'r angen gan newidiadau mewn polisi i ystyried adborth a ddaw yn sgil adolygiadau ansawdd tai o brosiectau a ariennir gan grantiau.
Y dyddiad adolygu arfaethedig nesaf fydd 2025 sy'n gysylltiedig â Dogfen L a gymeradwywyd gan y Rheoliadau Adeiladu: adolygiad arbed tanwydd ac ynni 2025.
