Adroddiad cynllun peilot ar ddulliau pleidleisio hygyrch: dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol a sain
Adroddiad yn dilyn treial i wneud gorsafoedd pleidleisio yn fwy hygyrch i bobl ag amhariad ar eu golwg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y prif bwyntiau
- Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag RNIB, Vision Support ac awdurdodau lleol, dreialon pleidleisio lle defnyddiwyd gwahanol ddulliau pleidleisio cyffyrddol a sain.
- Yn ôl y rhai a fu’n cymryd rhan yn y treialon, byddai unrhyw un o’r dulliau pleidleisio a dreialwyd yn gwella eu profiad pleidleisio, gan eu galluogi i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol. Gwelwyd bod dyfais sain Accord a’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol ychydig yn fwy poblogaidd ymysg y cyfranogwyr.
- Dywedodd cyfranogwyr hefyd yn y treialon y byddai ystyriaethau pellach yn fuddiol er mwyn gwella’r dulliau sain a chyffyrddol a brofwyd cyn iddynt gael eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio.
- Soniodd y cyfranogwyr am ragor o ystyriaethau y tu hwnt i’r dulliau a dreialwyd a fyddai’n helpu i wella’r profiad o bleidleisio, gan gynnwys rhoi hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio, amgylchedd gorsafoedd pleidleisio, ac ymwybyddiaeth o’r dulliau sydd ar gael yn ogystal â’u hyrwyddo.
Cefndir polisi a chyflwyniad
Cafodd y Ddeddf Etholiadau (2022) ei phasio gan Senedd y DU, ac roedd yn cynnwys darpariaeth a oedd yn ceisio gwneud y broses o gofrestru i bleidleisio, a’r broses o bleidleisio, yn fwy hygyrch. Cyn hynny, roedd yn ofynnol yn gyfreithiol i orsafoedd pleidleisio ddarparu dyfais bleidleisio gyffyrddol (TVD) er mwyn i bobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol allu pleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Bwriad y Ddeddf Etholiadau (2022) oedd cyflwyno mwy o hyblygrwydd o ran cymorth, gan gyflwyno gofyniad ehangach – yn lle'r gofyniad ar gyfer dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol (a amlinellir yn rheolau etholiadau Senedd y DU) – i ddarparu pa offer bynnag sy’n rhesymol er mwyn i bobl ddall neu bobl sy’n gweld yn rhannol allu pleidleisio’n annibynnol (mae hyn yn dal yn gallu cynnwys dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol, ond nid yw wedi’i gyfyngu i hynny mwyach). Bwriad hyn yw ei gwneud yn bosibl i gyflwyno technoleg well er mwyn galluogi pobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol i bleidleisio’n annibynnol. Roedd Deddf Etholiadau 2022 hefyd yn gosod gofyniad ar y Comisiwn Etholiadol i greu canllawiau ar gyfer swyddogion canlyniadau mewn perthynas â’r ddyletswydd newydd hon.
Ymysg newidiadau eraill, y bwriad yw y bydd Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 yn gosod dyletswydd ar swyddogion canlyniadau i wneud darpariaethau lleol drwy ddarparu cyfarpar fel y bo’n rhesymol i alluogi pobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol i bleidleisio’n annibynnol, ac yn gyfrinachol i adlewyrchu amodau Deddf Etholiadau (2022), gan gynnwys y gofyniad ar y Comisiwn Etholiadol i greu canllawiau i swyddogion canlyniadau. Mae bwriad hefyd i wneud newidiadau tebyg i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021. I gefnogi’r newidiadau deddfwriaethol hyn, mae’n bwysig archwilio a phrofi dulliau pleidleisio a thechnolegau amgen y gellid eu darparu er mwyn galluogi pobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol i gyfrannu’n llawn at y broses ddemocrataidd ac i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Yn 2024, cyhoeddodd RNIB adroddiad a fu'n edrych ar brofiadau pleidleisio pobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol yn ystod yr Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024. Canfu’r adroddiad mai dim ond chwarter y bobl ddall a’r bobl sy’n gweld yn rhannol oedd yn teimlo bod y system etholiadol bresennol yn eu galluogi i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol. Ar ben hynny, dim ond hanner y pleidleiswyr dall a phobl sy’n gweld yn rhannol oedd yn fodlon ar eu profiad pleidleisio, doedd tua thri chwarter (73%) ddim yn gwybod y gallent ofyn am addasiadau rhesymol, ac roedd dau draean (66%) o'r bobl ddall a'r bobl sy’n gweld yn rhannol a bleidleisiodd mewn gorsaf bleidleisio wedi cael cymorth naill ai gan gydymaith neu gan aelod o staff yr orsaf bleidleisio. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu set o argymhellion a oedd yn cynnwys sicrhau bod dulliau pleidleisio cyffyrddol a sain ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio, a bod angen parhau i geisio dod o hyd i ddulliau pleidleisio hygyrch.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag RNIB, Vision Support, timau gwasanaethau etholiadol Cyngor Caerdydd a Chyngor Wrecsam, ddau dreial ar ddulliau pleidleisio hygyrch yng Nghaerdydd a Wrecsam ym mis Chwefror 2025. Roedd y treialon yn profi tri dull pleidleisio sain, a dau ddull pleidleisio cyffyrddol, gydag 13 o gyfranogwyr er mwyn asesu a fyddai’r dulliau pleidleisio hyn yn galluogi pobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Y dulliau pleidleisio
Nod y tri dull sain a brofwyd oedd helpu cyfranogwyr i gael gwybod pa wybodaeth oedd yn cael ei chyflwyno ar y papur pleidleisio. Defnyddiwyd pob dull sain i chwarae recordiad o’r wybodaeth oedd yn cael ei chyflwyno ar y papur pleidleisio. Roedd y dulliau hyn yn cynnwys:
- Cod QR (gyda dolen at fideo ar YouTube).
- Llinell ffôn oedd yn darparu gwybodaeth yn awtomataidd.
- Dyfais sain Accord (chwaraewr USB).
Nod y ddau ddull pleidleisio cyffyrddol oedd helpu'r cyfranogwyr i roi croes yn y blwch ar y papur pleidleisio er mwyn bwrw eu pleidlais. Roedd y dulliau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Troshaen gardbord ar y papur pleidleisio a ddatblygwyd yn yr Alban.
- Dyfais bleidleisio gyffyrddol.
Y papur pleidleisio
Roedd y papur pleidleisio ffug a ddefnyddiwyd ar gyfer y digwyddiad yn seiliedig ar y papur pleidleisio a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn etholiadau rhanbarthol. Nid yw’n union yr un fath â'r papur pleidleisio arfaethedig a ddyluniwyd i adlewyrchu system etholiadol newydd Senedd Cymru fel y’i cyflwynir dan Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl). Roedd y papur pleidleisio ffug yn rhestru 10 plaid wleidyddol, ac yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr ar gyfer y pleidiau hynny a dau ymgeisydd unigol. Pwrpas hyn oedd efelychu’n agosach y papur pleidleisio a fydd yn cael ei ddefnyddio yn etholiadau’r Senedd o 2026 ymlaen, gyda’r holl ymgeiswyr ar restr yn cael eu cynnwys ar y recordiadau a fydd ar gael drwy’r gwahanol ddulliau sain.
Dulliau
Y cyfranogwyr
Cafodd y cyfranogwyr eu recriwtio i gymryd rhan yn y treialon drwy elusennau amhariad ar y golwg – RNIB neu Vision Support – ac roedd lefel yr amhariad ar eu golwg yn amrywio. Cafodd 8 o gyfranogwyr eu recriwtio gan RNIB i gymryd rhan yn y treialon yng Nghaerdydd, a 5 o gyfranogwyr eu recriwtio gan Vision Support i gymryd rhan yn y treialon yn Wrecsam. Roedd yr holl gyfranogwyr, ar wahân i un, wedi profi pob dyfais sain gyda’r ddau ddull pleidleisio cyffyrddol (chwe threial i bob cyfranogwr).
Y fethodoleg
Yn dilyn pob treial, gofynnwyd i’r cyfranogwyr lenwi holiadur yn pwyso a mesur eu profiad o bleidleisio, gan gynnwys a oeddent wedi gallu dewis yr opsiwn roeddent eisiau ei ddewis, a oeddent wedi gallu pleidleisio’n annibynnol, ac a oeddent wedi gallu pleidleisio’n gyfrinachol. Roedd yr holiadur hefyd yn mesur pa mor hyderus roedd cyfranogwyr yn teimlo wrth ddefnyddio’r dulliau pleidleisio, pa mor hawdd oeddent i’w defnyddio, ac a fyddent yn hapus i’w defnyddio mewn etholiadau yn y dyfodol. Ar ôl cwblhau’r treialon, cymerodd y cyfranogwyr ran mewn grŵp ffocws i roi rhagor o gyd-destun a’n helpu i ddeall ymhellach eu profiadau blaenorol o bleidleisio a’u profiadau yn ystod y treialon. Cafodd y grwpiau ffocws eu hwyluso gan ymchwilwyr cymdeithasol o Lywodraeth Cymru. Roeddent yn para tua 45 munud, a chawsant eu recordio gan ddefnyddio recordiwr sain. Gwnaed nodiadau ysgrifenedig yn ystod y grwpiau ffocws, a gafodd eu cymharu â'r recordiadau sain i sicrhau eu bod yn rhoi darlun cywir o’r drafodaeth. Mae’r canllaw trafod ar gyfer y grŵp ffocws wedi’i gynnwys yn Atodiad 1. Roedd yn cynnwys cwestiynau ynghylch profiadau blaenorol o bleidleisio, eu barn am y dyfeisiau a’r dulliau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn y treial, a heriau ehangach maent yn eu hwynebu wrth bleidleisio.
Y dadansoddiad
Cafodd ymatebion cyfranogwyr i’r holiaduron eu casglu, a defnyddiwyd ystadegau disgrifiadol i ddadansoddi’r ymatebion. Cafodd y data a gasglwyd drwy’r grwpiau ffocws ei drawsgrifio a’i ddadansoddi er mwyn dod o hyd i themâu cyffredin.
Mae’n bwysig ystyried y canfyddiadau ochr yn ochr â chafeatau posibl yr ymchwil hon. Roedd y rheini a fu’n cymryd rhan yn y treialon wedi profi’r dulliau sain a chyffyrddol ar y cyd â’i gilydd, felly mae’n bosibl bod y ddyfais a brofwyd ar y cyd â’r dull sain neu gyffyrddol wedi dylanwadu ar y sgoriau ar gyfer pob un o’r dulliau hynny. Dywedodd y cyfranogwyr hefyd yn y grwpiau ffocws eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ar ôl defnyddio’r dulliau sawl gwaith, a allai fod wedi effeithio ar eu sgoriau wrth i’r cyfranogwyr symud ymlaen drwy’r treialon. Treialodd y cyfranogwyr y dulliau mewn gwahanol drefn, felly byddai hynny wedi helpu i liniaru'r effaith honno i ryw raddau.
Roedd maint sampl y cyfranogwyr yn y treialon hyn yn gymharol fach, ac felly ni all adlewyrchu’r ystod lawn o brofiadau o amhariad ar y golwg. Ar ben hynny, mae’n bwysig nodi bod y rheini a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws wedi cael eu recriwtio oherwydd bod ganddynt eisoes gysylltiad â naill ai RNIB neu Vision Support ac, o’r herwydd, roeddent eisoes yn defnyddio gwasanaethau cymorth. Cydnabyddir y gallai hyn fod wedi creu tuedd samplu a allai fod wedi effeithio ar y mathau o ymatebion a gafwyd yn y grwpiau ffocws. Felly, er bod y treialon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y dulliau pleidleisio a brofwyd, ni ellir dweud bod y canlyniadau a gyflwynir yma yn gynrychioliadol o brofiadau neu farn ehangach pobl sydd ag amhariad ar eu golwg.
Canfyddiadau
Mae’r canrannau a nodwyd isod yn seiliedig ar yr holl dreialon a gynhaliwyd (n = 77), ond mae’n werth nodi mai dim ond mewn pum treial y gwnaeth un cyfranogwr gymryd rhan. Dywedodd y cyfranogwyr eu bod wedi llwyddo i bleidleisio dros yr opsiwn roeddent am ei ddewis mewn 94% o'r treialon, eu bod wedi gallu pleidleisio’n annibynnol mewn 83% o’r treialon, ac wedi gallu pleidleisio’n gyfrinachol mewn 91% o’r treialon. Mae’n bwysig nodi bod cyfranogwyr, yn ystod y grwpiau ffocws, wedi trafod sut roedd y diffiniad o bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol yn amrywio rhwng unigolion. Roedd rhai unigolion yn teimlo y gallent bleidleisio’n annibynnol neu’n gyfrinachol os gallent farcio ar y papur pleidleisio yr opsiwn roeddent am ei ddewis – boed angen cymorth arnynt ai peidio i alinio’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol â’r papur pleidleisio. Dywedodd eraill i'r gwrthwyneb, nad yw’n gwbl annibynnol os cafwyd cymorth i alinio’r dulliau pleidleisio cyffyrddol.
Y dulliau sain
Mae’r cyfartaleddau a gyflwynir isod yn cynnwys y sgoriau a roddwyd ar ôl defnyddio’r droshaen a’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol ar y cyd â’r dulliau sain. Mae sgoriau’r cyfranogwyr yn dangos bod dyfais sain Accord ychydig yn fwy poblogaidd. Ar ôl cyfrifo cyfartaledd y sgoriau ar gyfer y mesurau hyder, hwylustod, a pharodrwydd i ddefnyddio’r ddyfais yn y dyfodol, dyfais sain Accord gafodd y sgôr uchaf gan y cyfranogwyr (10.8 allan o 15), gyda gwybodaeth dros y ffôn yn yr ail safle (10.5), ac yna’r Cod QR (9.7). Dyfais sain Accord gafodd y sgôr cyfartalog uchaf ar gyfer hwylustod (3.5 allan o 5), a pharodrwydd i ddefnyddio’r ddyfais yn y dyfodol (4.0 allan o 5). Y llinell ffôn gafodd y sgôr uchaf ar gyfer hyder, gyda sgôr o 3.7 allan o 5.
Roedd y drafodaeth yn y grwpiau ffocws yn ategu canfyddiadau’r holiaduron, lle gwelwyd bod dyfais sain Accord ychydig yn fwy poblogaidd ymysg y cyfranogwyr. Yn gyffredinol, teimlai’r cyfranogwyr fod yr holl ddulliau pleidleisio sain yn well na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, ond y byddai angen ystyried rhai pethau os byddai’r dulliau sain hyn yn cael eu darparu mewn gorsafoedd pleidleisio.
Dywedodd y cyfranogwyr ei bod yn fuddiol gallu rhewi, mynd yn ôl a neidio ymlaen drwy’r sain ar ddyfais Accord, gan fod y recordiad sain yn hir ac yn cynnwys llawer o wybodaeth. Gwelwyd hynny mewn dyfyniadau fel hyn gan y cyfranogwyr, “Roedd yn braf cael yr opsiwn i fynd i fyny ac i lawr er mwyn gallu gwrando eto, roedd hynny’n ddefnyddiol i mi er mwyn gwrando’n gyflym a rhwydd”. Cafwyd sylwadau cadarnhaol tebyg gan y cyfranogwyr ynghylch y Cod QR, gan fod y fideo ar YouTube hefyd yn darparu’r swyddogaeth hon. Fodd bynnag, dywedodd y cyfranogwyr ei bod ychydig yn anoddach gwneud hyn ar y fideo ar YouTube wrth gymharu â dyfais sain Accord. Wrth dreialu’r llinell ffôn a oedd yn darllen gwybodaeth y papur pleidleisio, dywedodd cyfranogwyr eu bod yn hoffi’r opsiwn i wrando yn Gymraeg neu yn Saesneg ond bod methu rhewi, mynd yn ôl neu neidio ymlaen wrth ddefnyddio’r ffôn wedi effeithio ar eu profiad.
Soniwyd am rai cyfyngiadau ymarferol mewn perthynas â phob un o’r dulliau pleidleisio sain o ran eu hwylustod. Yn achos dyfais sain Accord, er bod y botymau wedi’u boglynnu, dywedwyd y byddai’r ddyfais wedi elwa pe bai ffyrdd eraill o adnabod y botymau, gan gynnwys mwy o gyferbyniad rhwng y botymau a’r ddyfais neu wneud y botymau’n fwy. Fodd bynnag, dywedodd cyfranogwyr ei bod yn hawdd defnyddio a gweithredu'r ddyfais ar ôl dod o hyd i’r botymau. Yn achos y Cod QR, dywedodd cyfranogwyr ei bod yn anodd dod o hyd i’r Cod QR i ddechrau, a’i bod hefyd yn anodd i rai cyfranogwyr alinio eu camera ffôn yn effeithiol â'r Cod QR, a bod angen cymorth ar rai er mwyn gwneud hynny. Ar ben hynny, dywedodd cyfranogwyr fod y gallu i ddefnyddio Codau QR yn fwy dibynnol ar ba mor gyfarwydd yw pobl â thechnoleg, a allai effeithio ar rai pleidleiswyr. O ran y recordiad ffôn, dywedodd rhai cyfranogwyr fod y broses bleidleisio yn cynnwys heriau ymarferol, yn benodol o ran defnyddio’r bensel, cadw’r papur pleidleisio a’r ddyfais pleidleisio yn llonydd wrth geisio dal y ffôn i’w clust yn ogystal â gafael yn nhennyn eu ci tywys o bosibl.
Yn ogystal â’r heriau ymarferol hyn, dywedodd y cyfranogwyr fod problemau daearyddol ehangach sy’n ymwneud â defnyddio’r Cod QR a’r opsiwn recordiad ffôn, yn enwedig y ddibyniaeth ar signal ffôn i naill ai fynd ar y rhyngrwyd i ddefnyddio’r opsiwn Cod QR, neu i ffonio’r llinell ffôn i wrando ar y recordiad ffôn. Codwyd hyn fel pryder penodol pan fydd gorsafoedd pleidleisio mewn lleoliadau mwy anghysbell, ond soniodd cyfranogwyr hefyd am yr heriau posibl o gael signal mewn hen adeiladau sy’n aml yn cael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio. Er nad oedd y pryder hwn yn berthnasol i ddyfais sain Accord, ac iddo gael ei nodi fel un o gryfderau dyfais sain Accord, dywedodd cyfranogwyr y gallai fod problemau ymarferol – er enghraifft, a fyddai’r ddyfais ar gael os na fyddai gorsafoedd pleidleisio yn gwefru'r ddyfais yn gyson.
Crynodeb o’r cryfderau a’r cyfyngiadau a godwyd gan gyfranogwyr ynghylch dulliau pleidleisio sain
Cod QR
Cryfderau:
- Roedd yn bosibl rhewi’r fideo ar YouTube neu neidio ymlaen.
Cyfyngiadau:
- Dydy pob person dall a pherson sy’n gweld yn rhannol ddim yn gallu defnyddio Codau QR.
- Mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i Godau QR, ac mae’n rhaid dal y camera dros yr union ardal.
- Mae’n rhaid cael cysylltiad â’r rhyngrwyd i ddefnyddio Codau QR, er mwyn cyrraedd y fideo ar YouTube sy’n rhoi gwybodaeth am y papur pleidleisio.
- Mae’n rhaid cael sgiliau technoleg i ddefnyddio Codau QR.
Gwybodaeth dros y ffôn am y papur pleidleisio
Cryfderau:
- Yr opsiwn i glywed gwybodaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
- Gallai fod yn ddefnyddiol pe gallech chi ffonio a gwrando ar yr wybodaeth cyn mynd i’r orsaf bleidleisio.
Cyfyngiadau:
- Mae’n rhaid cael signal (sy’n bryder penodol mewn ardaloedd gwledig).
- Doedd dim opsiynau i neidio ymlaen na mynd yn ôl drwy'r wybodaeth am y papur pleidleisio, felly roedd yn cymryd llawer o amser i wrando ar yr wybodaeth.
- Ymarferoldeb dal y ffôn/beiro/dyfais pleidleisio/ci ac ati.
Dyfais sain Accord (chwaraewr USB)
Cryfderau:
- Swyddogaethau i neidio ymlaen drwy’r wybodaeth, neu fynd yn ôl.
- Roedd yn hawdd defnyddio’r ddyfais yn annibynnol ar ôl cael gweld sut mae’n gweithio.
- Does dim rhaid cael ffôn symudol na chysylltiad â'r rhyngrwyd neu signal er mwyn defnyddio’r ddyfais.
- Roedd ansawdd y recordiad sain yn glir.
Cyfyngiadau:
- Mae'n ddibynnol ar orsafoedd pleidleisio yn darparu dyfeisiau sain Accord ac yn eu gwefru’n gyson.
- Gallai’r botymau ar y ddyfais fod yn fwy neu'n gliriach (gwell cyferbyniad) er mwyn i ddefnyddwyr allu ei defnyddio’n annibynnol.
Dulliau pleidleisio cyffyrddol
Mae’r cyfartaleddau a gyflwynir isod yn cynnwys y sgoriau a roddwyd ar ôl defnyddio’r droshaen a’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol ar y cyd â’r dulliau sain. Mae’n bwysig nodi bod y droshaen gardbord a ddefnyddiwyd yn y treialon yn llai llydan na’r papur pleidleisio, a allai fod wedi effeithio ar sgoriau'r cyfranogwyr. Byddai’r droshaen gardbord a fyddai’n cael ei defnyddio dan amgylchiadau etholiad arferol yn union yr un maint â’r papur pleidleisio. Mae sgoriau'r cyfranogwyr yn dangos bod y ddyfais bleidleisio gyffyrddol ychydig yn fwy poblogaidd na’r droshaen gardbord. Ar ôl cyfrifo cyfartaledd y sgoriau ar gyfer y mesurau hyder, hwylustod, a pharodrwydd i ddefnyddio’r ddyfais yn y dyfodol, y ddyfais bleidleisio gyffyrddol gafodd y sgôr uchaf gan y cyfranogwyr ar 10.8 allan o 15, wrth gymharu â sgôr o 9.8 ar gyfer y droshaen gardbord. Rhoddodd y cyfranogwyr sgôr uwch ar gyfartaledd i’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol na’r droshaen gardbord ar gyfer hwylustod (3.4), hyder (3.6), a pharodrwydd i ddefnyddio’r ddyfais yn y dyfodol (3.8).
Ni chafodd hyn ei adlewyrchu mor amlwg yn ystod y trafodaethau yn y grwpiau ffocws gan nad oedd ffafriaeth glir i unrhyw un o'r dulliau pleidleisio cyffyrddol, ac roedd yn dibynnu ar ddewis personol yn ôl pob golwg. Teimlai cyfranogwyr fod y ddwy ddyfais yn gwella eu profiad pleidleisio, ond y byddai angen ystyried elfennau neu roi newidiadau ar waith cyn darparu unrhyw un o’r dulliau mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae’r rhain yn cael eu hamlinellu yn y crynodeb o gryfderau a chyfyngiadau isod.
Yn ôl y cyfranogwyr, po fwyaf roeddent yn defnyddio'r ddwy ddyfais gyffyrddol, y mwyaf hyderus roeddent yn teimlo wrth eu defnyddio, a’r hawsaf oedd y broses. Cafwyd tystiolaeth o hyn yn y grwpiau ffocws wrth i gyfranogwyr ddweud, “Mae rhoi cynnig ar rywbeth, a gwybod sut mae’n gweithio, yn rhoi hwb i’ch hyder”, wrth drafod y dyfeisiau cyffyrddol. Dywedodd cyfranogwyr hefyd eu bod yn gallu defnyddio’r dyfeisiau cyffyrddol yn haws ar ôl cael esboniad o’r naill ddyfais neu’r llall. Dywedodd cyfranogwyr fod y rhifau boglynnog neu braille ar y ddyfais bleidleisio gyffyrddol neu’r droshaen gardbord yn ddefnyddiol i’w tywys i’r blwch cywir. Ond, roeddent hefyd yn dweud bod hyn yn ddibynnol iawn ar alinio’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol neu’r droshaen gardbord yn gywir â’r papur pleidleisio. Dywedodd cyfranogwyr iddynt gael trafferth alinio’r droshaen gardbord a’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol â’r papur pleidleisio, ac yn aml roedd angen cymorth gan rywun arall i alinio’r dulliau pleidleisio neu i wneud yn siŵr eu bod wedi’u halinio’n gywir.
Dywedodd cyfranogwyr fod nifer o fanteision i’r droshaen gardbord. Dywedodd cyfranogwyr ei bod yn hawdd teimlo ble’r oedd y sgwariau agored, ac felly ble roedd rhaid iddynt gofnodi eu pleidlais ar y papur pleidleisio. Roedd presenoldeb y rhifau print mawr ochr yn ochr â’r sgwariau agored yn atgyfnerthu hynny, ac wedi helpu’r cyfranogwyr i ddod o hyd i’r blwch priodol ar gyfer eu rhifau.
Dywedodd rhai cyfranogwyr hefyd mai un o gryfderau’r droshaen gardbord oedd ei bod yn bosibl ei halinio â’r papur pleidleisio heb orfod cael cymorth. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn arbennig o bwysig i rai cyfranogwyr, gan fod y gallu i osod y droshaen yn gywir ar y papur pleidleisio heb help yn gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus y gallai eu pleidlais gael ei chofnodi’n gywir, gan ei bod yn bosibl iddynt wneud yn siŵr bod y droshaen gardbord wedi’i halinio’n briodol. Ond, mae’n bwysig dweud bod rhaid i gyfranogwyr wybod sut mae’r droshaen gardbord yn gweithio, a chael cyfarwyddyd ar sut i’w halinio’n gywir, er mwyn i hyn fod yn bosibl.
Fel y nodwyd uchod, roedd angen cymorth ar rai cyfranogwyr i alinio’r droshaen gardbord, ac ni chawsant wybod sut dylid alinio’r droshaen. Ar ben hynny, dywedodd rhai cyfranogwyr eu bod wedi cael trafferth alinio’r droshaen yn gywir â’r papur pleidleisio. Un awgrym a godwyd gan un neu ddau o gyfranogwyr oedd a fyddai modd addasu’r droshaen gardbord i gynnwys strwythur amlen neu blyg y gellid pwyso’r papur pleidleisio yn ei erbyn er mwyn helpu i alinio’r papur pleidleisio’n gywir.
Roedd cyfyngiadau eraill a nodwyd gyda’r droshaen gardbord yn cynnwys maint y droshaen a’r ffaith nad oedd yn dryloyw, a oedd yn golygu ei bod yn cuddio testun a logos yr ymgeiswyr. Er nad oedd hyn yn broblem i bobl ddall, i bobl sy’n gweld yn rhannol, roedd yn ddefnyddiol gallu gweld y testun neu’r delweddau o dan y ddyfais bleidleisio gyffyrddol, ac nid oedd hyn yn bosibl gyda’r droshaen gardbord.
Problemau eraill a nodwyd gan rai cyfranogwyr oedd y diffyg cyferbyniad rhwng gwyn y papur pleidleisio a gwyn y droshaen gardbord. Yn sgil hynny, roedd yn anodd i rai cyfranogwyr ddod o hyd i’r blychau. Un o’r awgrymiadau posibl ar gyfer gwella hyn oedd naill ai newid lliw’r droshaen gardbord er mwyn cael cyferbyniad rhwng y droshaen â’r papur pleidleisio gwyn oddi tanodd, neu gynnwys leinin du o amgylch y blychau ar y droshaen gardbord er mwyn cael mwy o gyferbyniad. Dywedodd rhai cyfranogwyr hefyd y gellid gwneud y rhifau ar y droshaen gardbord yn fwy amlwg fel ei bod yn haws eu teimlo i’r rheini sy’n dibynnu ar gyffyrddiad.
Fel y nodwyd eisoes, roedd presenoldeb y rhifau boglynnog a braille ar y ddyfais bleidleisio gyffyrddol yn ddefnyddiol ym marn cyfranogwyr, gan y nodwyd nad yw pawb sydd ag amhariadau ar eu golwg yn gallu darllen braille, ond ei bod yn ddefnyddiol cael yr opsiwn ar gyfer y rheini sydd yn gallu darllen braille. Gan nodi rhai o’r heriau gafodd cyfranogwyr wrth i’r droshaen gardbord symud, dywedodd rhai cyfranogwyr mai un o gryfderau’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol oedd bod ochr isaf y ddyfais yn ludiog, a oedd yn helpu i gadw’r ddyfais yn ei lle ac wedi’i halinio’n gywir.
Un o gryfderau eraill y ddyfais bleidleisio gyffyrddol oedd ei bod, yn wahanol i’r droshaen gardbord, yn dryloyw i raddau helaeth a oedd yn golygu ei bod yn dal yn bosibl gweld y testun a’r delweddau ynghylch yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio pan oedd y ddyfais wedi’i halinio â’r papur pleidleisio. I bobl sy’n gweld yn rhannol, roedd yn ddefnyddiol gallu gweld y testun a’r delweddau hyn er mwyn gwybod dros bwy roeddent yn pleidleisio.
Yn yr un modd â’r droshaen gardbord, dywedodd cyfranogwyr fod nifer o gyfyngiadau gyda’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol. Y prif gyfyngiad a nodwyd gan gyfranogwyr oedd y ffaith bod rhaid i'r ddyfais bleidleisio gyffyrddol gael ei gosod yn gywir gan staff yr orsaf bleidleisio er mwyn iddi gael ei halinio’n gywir, gan nad oedd yn bosibl i bobl ag amhariadau ar eu golwg wneud hynny. Fel y nodwyd eisoes, roedd y ddibyniaeth hon ar drydydd parti i osod ac alinio’r ddyfais yn mynd yn groes i’r diffiniad o annibyniaeth ym marn rhai pobl. Ar ben hynny, roedd yn ddibynnol ar staff yn bod yn hyderus, ac yn ymddangos yn hyderus, wrth alinio’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol. Pe na bai hynny’n digwydd, byddai’n effeithio ar allu a hyder pleidleiswyr sy’n gweld yn rhannol i bleidleisio’n annibynnol. O’r herwydd, mae’n rhaid i holl staff gorsafoedd pleidleisio fod yn gyfarwydd â’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol, a chael hyfforddiant ar sut i’w defnyddio.
Un o’r cyfyngiadau eraill a nodwyd gan rai cyfranogwyr mewn perthynas â’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol oedd bod y tabiau plastig sy’n gorchuddio’r sgwariau i gofnodi eich pleidlais weithiau’n stiff ac yn anodd eu plygu er mwyn cofnodi eich pleidlais. Dywedwyd y byddai hynny’n her fawr pe byddech chi’n ceisio gwneud hynny a gafael mewn pethau eraill ar yr un pryd, fel ci tywys neu ffôn. Yn yr un modd â’r droshaen gardbord, dywedodd rhai cyfranogwyr y gellid gwneud y braille a’r rhifau’n fwy amlwg fel ei bod yn haws eu teimlo.
Gweler isod grynodeb o’r cryfderau a’r cyfyngiadau a godwyd gan gyfranogwyr ynghylch y dulliau pleidleisio cyffyrddol.
Troshaen gardbord
Cryfderau:
- Roedd yn bosibl alinio’r droshaen gardbord â’r papur pleidleisio heb gymorth, ond roedd rhaid bod yn gyfarwydd â’r broses neu gael cyfarwyddiadau ar sut i wneud hynny.
- Roedd yn hawdd teimlo ble'r oedd y sgwariau agored, a oedd yn help i groesi’r papur pleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.
- Roedd y rhifau ar y droshaen yn help i dywys y cyfranogwyr i’r blwch priodol.
Cyfyngiadau:
- Mae’n rhaid gosod y droshaen gardbord yn ei lle’n gywir, neu gael rhywun arall i’w gosod yn ei lle ar ran y pleidleiswyr. Awgrymwyd amlen neu blyg fel ei bod hi’n haws gosod y droshaen. Byddai hyn yn rhoi mwy o hyder i bleidleiswyr.
- Roedd y droshaen gardbord yn wyn, ac roedd y papur pleidleisio yn wyn. Doedd y cyferbyniad hwn ddim yn hygyrch, ond gallai newid y lliw helpu’r broblem hon.
- Gallai’r rhifau fod ychydig yn fwy amlwg, fel ei bod yn haws eu teimlo.
Dyfais bleidleisio gyffyrddol
Cryfderau:
- Roedd yn ddefnyddiol cael y rhifau a’r opsiynau braille ar y ddyfais.
- Roedd ochr isaf ludiog y droshaen yn help i gadw’r ddyfais yn ei lle ar ôl iddi gael ei halinio.
- Gan fod y ddyfais bleidleisio gyffyrddol yn dryloyw, roedd y rheini sy’n gallu gweld yn rhannol yn dal yn gallu gweld y testun/logos ac ati.
Cyfyngiadau:
- Mae’n rhaid gosod y ddyfais yn gywir, neu gael rhywun arall i'w gosod ar ran y pleidleiswyr. Byddai angen i staff gorsafoedd pleidleisio gael digon o hyfforddiant ar sut i’w defnyddio.
- Weithiau, roedd yn gallu bod yn anodd defnyddio’r tabiau a oedd yn gorchuddio’r blychau.
- Gallai'r opsiynau braille a'r rhifau fod yn fwy amlwg fel ei bod yn haws eu teimlo.
Yn nhrafodaethau’r grwpiau ffocws tynnwyd sylw at themâu pellach sy’n rhoi rhagor o gyd-destun ac elfennau i’w hystyried, gan gynnwys hyfforddiant staff, amgylchedd gorsafoedd pleidleisio, ac ymwybyddiaeth o ddulliau pleidleisio yn ogystal â’u hyrwyddo.
Hyfforddiant staff
Roedd un o’r themâu cyffredin a drafodwyd dro ar ôl tro yn ystod y grwpiau ffocws yn ymwneud â hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio. Teimlai cyfranogwyr fod unrhyw un o’r dulliau a brofwyd yn eu helpu i bleidleisio’n fwy annibynnol ac yn gyfrinachol. Fodd bynnag, roedd yn bwysicach i gyfranogwyr bod staff gorsafoedd pleidleisio yn cael hyfforddiant priodol a digonol ar sut mae’r dyfeisiau a ddewisir yn gweithio, a sut mae rhoi cymorth i bleidleiswyr.
Dywedodd y cyfranogwyr fod hyder staff gorsafoedd pleidleisio wrth gynnig y ddyfais neu eu cymorth i helpu pleidleiswyr i ddefnyddio’r dyfeisiau yn gallu effeithio ar faint o hyder a ffydd sydd ganddyn nhw eu hunain wrth ddefnyddio’r ddyfais. Yn ôl cyfranogwyr, os oes ganddynt unrhyw amheuaeth ynghylch hyder staff yr orsaf bleidleisio wrth ddefnyddio’r dulliau pleidleisio – yn enwedig sicrhau bod y dulliau pleidleisio cyffyrddol yn cael eu gosod yn briodol ar gyfer cofnodi eu pleidlais – mae hyn yn chwalu unrhyw hyder sydd ganddynt y gallant bleidleisio’n annibynnol dros bwy maent yn dymuno.
Teimlai cyfranogwyr y byddai cael staff hyderus, sydd wedi’u hyfforddi’n dda, mewn gorsafoedd pleidleisio yn helpu i gyfrannu at brofiad pleidleisio mwy cadarnhaol. Cafodd hyn ei drafod fwy mewn perthynas â’r dulliau pleidleisio cyffyrddol, ond teimlai cyfranogwyr ei fod yn bwysig o ran y dulliau pleidleisio sain yn ogystal â’r rhai cyffyrddol. Gwelwyd hyn yn y grwpiau ffocws, lle dywedodd cyfranogwyr wrth drafod eu profiadau blaenorol o bleidleisio, “Ychydig iawn o hyfforddiant, os o gwbl, y mae staff gorsafoedd pleidleisio wedi’i gael ar ymwybyddiaeth o anabledd a beth i’w wneud ar gyfer pobl ag amhariad ar eu golwg. Maen nhw’n bendant eisiau helpu, ond pan fyddan nhw’n gofyn cwestiynau am sut i’ch helpu chi, mae hynny’n arwain at broblemau ymddiriedaeth o ran a ydyn nhw’n gwneud pethau’n iawn ar sail yr hyn rydych chi’n ceisio ei ddisgrifio iddyn nhw”.
Roedd rhai pwyntiau trafod yn ymwneud â hyfforddiant ar sut mae’r dyfeisiau’n gweithio gyda phapur pleidleisio, gan gynnwys ystyried sut i alinio’r ddyfais â’r papur ac egluro sut mae’r dyfeisiau’n gweithio i fwrw pleidlais (ee, mae codi’r drysau ar y ddyfais bleidleisio gyffyrddol yn datgelu blwch y papur pleidleisio oddi tanodd). Gwelwyd hyn yn y grwpiau ffocws lle dywedodd cyfranogwr y canlynol am ei brofiad blaenorol o bleidleisio, “Rydw i wedi bod mewn sefyllfa lle rydw i wedi gorfod eu dysgu nhw sut i osod y ddyfais gyffyrddol ar y papur”. Cafodd hyn ei adlewyrchu drwy gydol y treialon hefyd. Er enghraifft teimlai rhai cyfranogwyr fod y dulliau pleidleisio cyffyrddol yn anodd eu defnyddio i ddechrau. Ond, ar ôl i’r cyfranogwyr gael esboniad o’r ddyfais, roeddent yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy cadarnhaol ynghylch pa mor hawdd oedd defnyddio’r ddyfais, a pha mor hyderus roeddent yn teimlo wrth ei defnyddio.
Amgylchedd gorsafoedd pleidleisio
Un o’r themâu cyffredin eraill a drafodwyd gan gyfranogwyr yn ystod y grwpiau ffocws oedd sut mae amgylcheddau gorsafoedd pleidleisio yn effeithio ar y profiad o bleidleisio. Roedd un o’r ystyriaethau amgylcheddol a drafodwyd gan y cyfranogwyr yn ymwneud â’r goleuadau yn yr orsaf bleidleisio ac yn y bwth pleidleisio. Awgrymodd cyfranogwyr a oedd yn gweld yn rhannol y byddai cael golau tasg mewn bwth pleidleisio yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i bleidleiswyr, gan eu galluogi i fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol heb fawr ddim cymorth, neu unrhyw gymorth o gwbl, gan staff yr orsaf bleidleisio neu gydymaith. Dywedodd cyfranogwyr y gallai fod yn fuddiol pe bai un bwth pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio yn cynnwys dulliau pleidleisio sain a chyffyrddol yn ogystal ag opsiynau eraill fel golau tasg, fel bod yr holl gymhorthion ar gael yn ddiofyn i bobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol a heb iddynt orfod gofyn am gymorth gan staff yr orsaf bleidleisio. Byddai pobl heb amhariad ar y golwg yn gallu defnyddio’r bwth hwn hefyd, ond byddai wedi cael ei osod yn barod i gael ei ddefnyddio gan rywun sydd ag amhariad ar y golwg pan fyddai angen.
Mynegodd cyfranogwyr yn y ddau grŵp ffocws bryderon hefyd ynghylch y cyferbyniad lliw rhwng yr eitemau yn y bythau pleidleisio. Er enghraifft, os yw lliw’r bensel a ddarperir yn debyg i liw’r bwrdd yn y bwth pleidleisio, mae’n gallu bod yn anodd iawn i bobl sydd ag amhariad ar eu golwg ddod o hyd i’r bensel, sy’n cyfrannu at brofiad negyddol o bleidleisio. Gellid datrys hyn drwy sicrhau bod lliw'r pensiliau neu gyfarpar arall yn llachar iawn.
Dywedodd cyfranogwyr yn y ddau grŵp hefyd bod gorsafoedd pleidleisio, ar sail eu profiadau blaenorol o bleidleisio, yn aml ddim yn hygyrch iddynt. Er enghraifft, roedd rhai cyfranogwyr wedi cael problemau wrth geisio cyrraedd y gorsafoedd pleidleisio ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu wedi cael trafferth mynd i mewn i’r adeilad. Yn ôl y cyfranogwyr, pe byddai cyfarwyddiadau’n cael eu darparu neu pe byddai modd gwneud trefniadau i’w galluogi i fynd i ystafell yr orsaf bleidleisio ymlaen llaw, byddai hynny’n eu helpu i deimlo’n fwy hyderus ac i ddod o hyd i’r ystafell gywir a’r llwybr i’r orsaf bleidleisio ar y diwrnod.
Roedd cyfranogwyr hefyd yn gofyn a fyddai’n bosibl i’r wybodaeth a ddarperir drwy’r llinell ffôn, y Cod QR neu’r recordiad sain gael ei darparu ymlaen llaw. Byddai hyn yn eu galluogi i wrando ar y recordiadau ac ar fanylion yr ymgeisydd er mwyn iddynt allu bod yn gyfarwydd â’r rhestr a gwneud eu dewis cyn mynd i’r orsaf bleidleisio. Dywedodd rhai cyfranogwyr y gallai’r opsiwn hwn helpu i leddfu’r straen posibl o orfod defnyddio’r recordiadau sain am y tro cyntaf yn amgylchedd yr orsaf bleidleisio.
Ymwybyddiaeth o’r dulliau sydd ar gael yn ogystal â’u hyrwyddo
Yn ôl cyfranogwyr yn y ddau grŵp ffocws, po fwyaf roeddent yn defnyddio’r dulliau pleidleisio a dreialwyd, y mwyaf hyderus roeddent yn teimlo wrth eu defnyddio. Dywedodd cyfranogwyr ei bod yn bwysig eu bod yn gwybod pa ddulliau fyddai’n cael eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio, beth bynnag fyddai’r dulliau hynny. Awgrymwyd y byddai’n fuddiol pe byddent yn gallu eu defnyddio cyn y diwrnod pleidleisio, er mwyn iddynt allu bod yn gyfarwydd â’r dulliau a fyddai ar gael. Er enghraifft, awgrymodd cyfranogwyr y gellid hwyluso hyn drwy gyfryngau cymdeithasol a sefydliadau sy’n darparu cymorth i bobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol. Os byddai modd, gellid darparu’r dulliau pleidleisio i sefydliadau fel RNIB neu Vision Support, er mwyn i bobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol allu eu defnyddio drwy swyddfeydd, canolfannau cymorth, neu ddigwyddiadau i ymgyfarwyddo â’r dulliau pleidleisio a fydd ar gael er mwyn eu helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio’r dulliau ar y diwrnod pleidleisio.
Casgliadau
Mae canlyniadau’r treialon yn awgrymu y byddai darparu dulliau pleidleisio cyffyrddol a sain yn helpu i wella profiad pleidleisio pobl ddall a phobl sy’n gweld yn rhannol, ac yn helpu unigolion i fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol. Gwelwyd bod dyfais sain Accord a’r ddyfais bleidleisio gyffyrddol ychydig yn fwy poblogaidd ymysg cyfranogwyr yn y treialon hyn, ond gwelwyd amrywiaeth a oedd yn dibynnu’n bennaf ar ddewis personol. Awgrymodd y grwpiau ffocws bod rhai elfennau y gellid eu hystyried neu newidiadau y gellid eu gwneud i’r dulliau pleidleisio a brofwyd a allai helpu i wella’r dyfeisiau, a fyddai’n helpu i gyfrannu at brofiad pleidleisio mwy cadarnhaol. Tynnodd y grwpiau ffocws sylw hefyd at ragor o ystyriaethau y gellid eu rhoi ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio i helpu i wella profiad pleidleiswyr, fel hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio, amgylchedd gorsafoedd pleidleisio, ac ymwybyddiaeth o’r dulliau pleidleisio sydd ar gael yn ogystal â’u hyrwyddo.
Atodiad 1: canllaw trafod
Cwestiynau
1. Beth yw’ch profiadau blaenorol o bleidleisio?
(Fe wnaethom ofyn cwestiynau i chi am bob dyfais ar ôl i chi eu defnyddio, a hoffem yn awr ailedrych ar rai o’r cwestiynau hynny i gael eich barn am y gwahanol ddulliau pleidleisio a brofwyd heddiw).
2. Beth oedd eich barn am y dulliau a brofwyd heddiw?
3. Pa rai o’r dulliau pleidleisio hyn fyddech chi’n hapus i’w gweld yn cael eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio yn y dyfodol?
4. Oes unrhyw ddulliau pleidleisio na ddylid ystyried eu defnyddio yn y dyfodol yn eich barn chi? Pam?
5. Ydych chi’n ymwybodol o ddulliau eraill y mae angen eu hystyried yn eich barn chi?
6. Pe bai’r dulliau hyn ar gael, ydych chi’n meddwl y byddech chi’n gallu pleidleisio’n annibynnol, neu a oes rhwystrau eraill rhag pleidleisio a fyddai’n dal yn bodoli?
Ôl-drafodaeth
7. Hoffech chi drafod neu fynegi unrhyw syniadau neu bwyntiau eraill cyn i ni orffen y grŵp ffocws?
