Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi, a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 21 safle. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth. Diben y dreth yw lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi.

Gellir rhannu Treth Gwarediadau Tirlenwi yn:

  • warediadau awdurdodedig (ar y gyfradd is neu safonol)
  • gwarediadau anawdurdodedig (gwarediadau trethadwy a wneir y tu allan i safleoedd tirlenwi awdurdodedig)

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y cyfraddau treth ac mae wedi’u cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2018-19 i 2024-25.

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi. Mae gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net

Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Gwarediadau Tirlenwi i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae'r eirfa yn diffinio termau perthnasol a ddefnyddir yn y datganiad hwn ac mae wedi'i diweddaru yn y rhifyn hwn o'r datganiad. Mae ein gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Nôl i dop y dudalen

Prif bwyntiau

Ar gyfer achosion gwarediadau anawdurdodedig sydd wedi’u cwblhau, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi casglu £0.3 miliwn mewn treth hyd yn hyn. Er bod nifer yr achosion sydd wedi’u cwblhau yn fach ar hyn o bryd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwnaethpwyd cryn dipyn o waith i ddatblygu polisïau, ymchwilio a phrofi pwerau Awdurdod Cyllid Cymru ar amrywiaeth o fathau o achosion. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i dderbyn achosion gwarediadau anawdurdodedig newydd ac i ddatblygu achosion sy’n bodoli eisoes. Yn flynyddol yn ein hystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi, byddwn yn ystyried a yw'n bosibl cyhoeddi data pellach ar warediadau anawdurdodedig.

Ar gyfer gwarediadau awdurdodedig mewn safleoedd tirlenwi yn Ionawr i Fawrth 2025:

  • Bu 235 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 18% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2024 oherwydd cynnydd mewn gwarediadau wedi’u rhyddhau, eu disgowntio a chyfradd is. Roedd gwarediadau cyfradd safonol 2% yn is na blwyddyn ynghynt ac yn sylweddol is na'r un cyfnodau dwy a thair blynedd ynghynt.
  • Ymhlith y rhesymau posibl am y duedd gwarediadau cyfradd safonol mae:
    • effeithiau polisi amgylcheddol sy’n annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff megis ailgylchu a llosgi
    • amrywioldeb yng nghyfaint y gwarediadau ar safleoedd penodol lle mae’r celloedd tirlenwi yn llawn neu bron yn llawn, a rhai safleoedd tirlenwi yn nesáu at ddiwedd eu hoes
  • Roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £6.3 miliwn o dreth yn ddyledus. Dyma’r 1% yn uwch na’r treth yn ddyledus ar gyfer yr un cyfnod yn 2024.
  • Cyfrifodd gronynnau mân am 18% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is. Roedd pridd a cherrig i gyfrif am 32% ac roedd 'cyfradd is arall' i gyfrif am 31%.
  • Roedd 5 gweithredwr safle tirlenwi yn cyfrif 89% yr holl dreth yn ddyledus tra bod y canrannau cyfatebol ar gyfer y 5 chwarter blaenorol i gyd yn uwch na 90%. Cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%.

Ar gyfer gwarediadau gwastraff awdurdodedig mewn safleoedd tirlenwi yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025:

  • Bu 942 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn lleihad o 10% o'i gymharu â Ebrill 2023 i Fawrth 2024. Cafodd gostyngiadau mewn gwarediadau cyfradd is a gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio eu gwrthbwyso'n rhannol gan gynnydd llai mewn gwarediadau cyfradd safonol.
  • Roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £31.3 miliwn o dreth yn ddyledus. Dyma’r 6% yn uwch na’r treth yn ddyledus ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024.
  • Mae deunydd dirwyon i gyfrif am 19% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is, y ganran flynyddol isaf a welwyd hyd yma ar gyfer y math hwn o ddeunydd. Rydym yn disgwyl bod o leiaf rhywfaint o'r lefel isel o ddeunydd gronynnau mân yn effaith dros dro ar rai safleoedd. Roedd priddoedd a cherrig i gyfrif am 39% a 'chyfradd is arall' i gyfrif am 30% o’r gwarediadau cyfradd is.
  • Roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 94% yr holl dreth yn ddyledus. 

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

Yn Ionawr i Fawrth, roedd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi o £6.3 miliwn a oedd yn ddyledus ychydig yn uwch na'r un cyfnod flwyddyn ynghynt, ond 15% a 35% yn is na'r un cyfnodau dwy a thair blynedd ynghynt, yn y drefn honno. Y dylanwad mwyaf ar y dreth oedd yn ddyledus yw’r gwarediadau cyfradd safonol.

"Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi'r ystadegyn cyntaf ar warediadau anawdurdodedig. Arweiniodd y nifer fach o achosion sydd wedi’u cwblhau hyd yn hyn at Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu £0.3 miliwn mewn treth, er bod disgwyl i hyn godi yn y dyfodol wrth i achosion pellach ddod i ben. Y tu ôl i bob achos sydd wedi’i gwblhau mae gwaith sylweddol lle mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi datblygu polisïau newydd ac wedi ymchwilio a phrofi pwerau ar gyfer y maes newydd hwn o'r dreth.

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad

Gwarediadau heb eu hawdurdodi

Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn casglu a rheoli treth sy'n ymwneud â’r cyfradd gwarediadau anawdurdodedig o Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Er bod nifer yr achosion treth a gwblhawyd yn fach, mae bellach yn bosibl cyhoeddi ffigur ar gyfanswm y dreth a gasglwyd ar gyfer yr achosion hyn a ddaeth i ben. Am y cyfnod tair blynedd (2022-23 i 2024-25), rydym wedi casglu £0.3 miliwn o achosion treth wedi'u cwblhau.

Crëwyd y tîm gwarediadau anawdurdodedig i godi treth ar warediadau anawdurdodedig, sef gwarediadau trethadwy a wneir y tu allan i safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Ers ei ffurfio, mae'r tîm wedi bod yn datblygu polisïau ac yn ymchwilio ac yn profi ein pwerau ar amrywiaeth o fathau o achosion. 

Mae'r tîm gwarediadau anawdurdodedig wedi cwblhau ymchwiliadau ar 16 achos, ac o'r rhein:

  • cafodd 8 eu cau gyda threth yn ddyledus. Mewn rhai o'r achosion hyn, talwyd y dreth yn llwyr (a rydym yn diffinio isod fel ‘achosion treth wedi'u cwblhau’). Mewn achosion eraill, mae'r dreth yn di-dal neu dalwyd yn rhannol.
  • derbyniodd 3 achos lythyrau rhybuddio
  • ymchwiliwyd i 5 achos a'u cau heb unrhyw gamau pellach 

Mae ‘achosion treth wedi'u cwblhau’ yn is-set o achosion wedi’u cau gyda threth yn ddyledus, a gysyniad nad ydym wedi cyhoeddi ystadegau ar ei gyfer o'r blaen. Yma, rydym yn cyfyngu ein hystadegau i dreth wedi’u casglu o achosion wedi'u cwblhau gan fod hwn yn faes newydd o dreth sy'n mynd i'r afael ag ymddygiad llai cydymffurfiol. Ar gyfer rydym yn diffinio fel achosion sydd wedi’u cwblhau:

  • mae'r dreth yn cael ei thalu'n llawn i Awdurdod Cyllid Cymru,  ac
  • nid yw swm y dreth yn cael ei apelio gan y trethdalwr

Felly rydym o'r farn bod y data hwn yn addas i'w gyhoeddi.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i dderbyn achosion gwarediadau anawdurdodedig newydd ac i ddatblygu achosion sy’n bodoli eisoes. Yn flynyddol yn ein hystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi, byddwn yn ystyried a yw'n bosibl cyhoeddi data pellach ar warediadau anawdurdodedig.

Gwarediadiau awdurdodedig

Mae'r dadansoddiad yn y datganiad hwn yn cynnwys rhai cywiriadau ystadegol sydd wedi'u cymhwyso. Mae’r rhesymau pam ein bod yn gwneud cywiriadau ystadegol yn cynnwys:

  • Pan fyddwn yn gwybod bod gwybodaeth ar ffurflen dreth yn anghywir a’n bod yn aros i ddiwygiad y trethdalwr gael ei gyflwyno i ni
  • Pan fo diwygiad y trethdalwr yn cael ei adolygu gan dîm gweithrediadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i weld a yw'n ddilys, gallwn wneud cywiriadau ystadegol er mwyn dadwneud effaith y diwygiad yn ein hystadegau

Mae Tabl 1 isod yn dangos newidiadau canrannol ar gyfer y chwarter diweddaraf yn erbyn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Mae rhai newidiadau canrannol yn fawr gan eu bod yn seiliedig ar niferoedd bach, felly mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli unrhyw newidiadau canrannol mawr a ddangosir.

Tabl 1: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi a’r newid o ganran o’r gwerth blaenorol blwyddyn ynghynt
 Pwysau a waredwyd [mil tunnell] - Ion i Maw 2024Pwysau a waredwyd [mil tunnell] - Ion i Maw 2025 [dros dro]Newid o ran %
Cyfradd safonol5756-2%
Cyfradd is, of which:12614414%
Deunydd gronynnau mân  [nodyn 1] 4526-41%
Priddoedd a cherrig [nodyn 2] 4646-2%
Teils, brics, concrid, a serameg [nodyn 2] 1027168%
Cyfradd is arall [nodyn 2] 254581%
Rhyddhad neu ddisgownt [nodyn 3] 1635122%
Cyfanswm20023518%
Tabl 2: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi a’r newid o ganran o’r gwerth blaenorol blwyddyn ynghynt
 Treth yn ddyledus [£ miliwn] - Ion i Maw 2024Treth yn ddyledus [£ miliwn] - Ion i Maw 2025 [dros dro]Newid o ran %
Cyfradd safonol5.85.80%
Cyfradd is0.40.514%
Cyfanswm6.36.31%
Swm y dreth a ryddhawyd [nodyn 4] [k]0.1169%
Tabl 3: Treth ddyledus [mewn £ miliynau] ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl blwyddyn cafwyd gwared a wastraff
 Treth yn ddyledus [£ miliwn]
Blwyddyn ariannolLower rateCyfradd safonolCyfanswmSwm y dreth a ryddhawyd [nodyn 4]
2018-19 1.547.148.60.9
2019-201.336.037.30.2
2020-21 1.630.432.00.3
2021-22 1.843.345.10.3
2022-23 1.840.442.10.7
2023-241.927.629.50.6
2024-25 [p]1.829.531.30.3

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler yr eirfa am ragor o wybodaeth.

[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[Nodyn 3] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[Nodyn 4] Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.

Ffigur 1: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos yn y 5 mlynedd diwethaf, bod amrywiadau tymhorol wedi’u gweld yn gyffredinol ym mhwysau chwarterol gwarediadau cyfradd safonol, gyda lefelau uwch o warediadau yn gyffredinol yn Ebrill i Fehefin a Gorffennaf i Fedi na'r 2 chwarter arall mewn blwyddyn. Amrywiodd gwarediadau cyfradd is, gan ymddangos fel pe na bai'n dilyn unrhyw batrwm gosodedig, tra bod gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio’n gyffredinol isel ers Ebrill 2019 ac eithrio’r niferoedd cyffredinol uwch a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2022 ac yn ystod 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.                                   

Mae Tabl 1 yn dangos bod yn Ionawr i Fawrth 2025, roedd 235 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn 18% yn uwch na'r un cyfnod yn 2024. 

O fewn y cyfanswm hwn, roedd 56 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol. Mae hyn 2% yn is na'r un cyfnod yn y blwyddyn ynghynt ac yn sylweddol is na'r un cyfnodau 2 a 3 blynedd ynghynt. Er gwaethaf hyn, mae'n parhau i fod yn is na'r un cyfnod ddwy flynedd ynghynt. Mae'r rhesymau posibl dros y gostyngiad cyffredinol o uchafbwyntiau diweddar yn 2021 a 2022 yn cynnwys:

  • effeithiau polisi amgylcheddol sy’n annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff megis ailgylchu a llosgi
  • amrywioldeb yng nghyfaint y gwarediadau ar safleoedd penodol lle mae’r celloedd tirlenwi yn llawn neu bron yn llawn, a rhai safleoedd tirlenwi yn nesáu at ddiwedd eu hoes

Mae tîm gweithrediadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi’n parhau i ymgysylltu â gweithredwyr safleoedd tirlenwi er mwyn deall y rhesymau dros dueddiadau ac i gefnogi sylwebaeth yn y dyfodol.

Roedd y 144 mil o dunelli a waredwyd ar y gyfradd is 14% yn uwch nag yn Ionawr i Fawrth 2024. Mae'r esboniad o dan Ffigurau 3 and 4 yn dadansoddi'r categorïau o fewn data cyfradd is sy'n cyfrannu at y duedd hon.

Yn Ionawr i Fawrth 2025, roedd y 35 mil tunnell o warediadau wedi’u rhyddhau neu disgowntio yn is na'r yn o’r 4 chwarter blaenorol ond yn is na phob un o'r 4 chwarter cyn hynny. Mae lefel y gwastraff sydd wedi ei ryddhau neu ei ddisgowntio wedi amrywio'n fawr dros amser. Er enghraifft, pan ddaw cell dirlenwi’n llawn, gallai fod lefel uwch dros dro o ryddhad adfer safle yn cael ei hawlio gan y gweithredwr ar gyfer deunyddiau i gapio'r gell. Felly, nid yw'n syml pennu a fydd symiau tebyg o wastraff wedi'i ryddhau neu ddisgowntio yn codi neu'n gostwng yn y dyfodol.

Ffigur 2: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos bod treth chwarterol oedd ddyledus o warediadau cyfradd safonol yn dilyn tuedd dymhorol debyg i bwysau’r gwarediadau a ddangosir yn y siart blaenorol. Roedd y dreth a oedd yn ddyledus o warediadau cyfradd is yn amrywio rhwng £0.3 miliwn a £0.5 miliwn bob chwarter. 

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.                                   

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025 at £6.3 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae hyn 1% yn iuwch na'r un cyfnod yn 2024. Disgrifir y tueddiadau ym mhwysau'r gwastraff a waredwyd a rhai rhesymau posibl am hyn yn Ffigur 1.

Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data cyfradd safonol, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib yn lefel y gwarediadau. 

Ar gyfer Hydref i Ragfyr 2024, roedd y 5 gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 97% yr holl dreth a dalwyd, ffigwr is na'r 5 chwarter blaenorol. Hyd at Gorffennaf i Fedi 2023, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%. Rhwng Hydref i Ragfyr 2023 a Hydref i Ragfyr 2024, roedd dros 90%.

Nid yw’r swm treth a ryddhawyd yn cael ei ddangos ar y siart ond mae wedi amrywio o ychydig iawn hyd at £0.3 miliwn bob chwarter. £0.1 miliwn oedd y gwerth hwn yn Ionawr i Fawrth 2025.

Diwygiadau i bwysau’r gwastraff a warediwyda’r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Hydref i Ragfyr 2024

Fel y disgrifir yn adran Dulliau'r datganiad hwn, mae ein prosesau amcangyfrif yn arwain at ddiwygio amcangyfrifon dros dro a wnaethpwyd ar gyfer y chwarter diweddaraf fel mater o drefn yn rhifyn nesaf y datganiad ystadegol. Fel arfer, mae'r diwygiadau hyn yn gymharol fach.

O’i gymharu ag amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn ein datganiad ystadegol blaenorol, rydym wedi diwygio data Hydref i Ragfyr 2024 fel a ganlyn:

  • pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd safonol wedi aros yn ddigyfnewid ar 68 mil tunnell
  • pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is wedi'i ddiwygio i lawr o 141 mil tunnell i 137 mil tunnell
  • cyfanswm y dreth a oedd ddyledus wedi aros yn ddigyfnewid ar£7.5 miliwn

Ffigur 3: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart llinell yn dangos bod, cynyddodd ychydig pwysau’r deunydd gronynnau mân a waredwyd yn y 2 chwarter diwethaf, ar ôl gostwng am 4 chwarter yn olynol cyn hynny. Mae pwysau priddoedd a cherrig a waredwyd wedi gostwng yn y 2 chwarter diwethaf o'r lefel uchaf a welwyd yn Ngorffennaf i Fedi 2024 ac mae'r lefel bellach yn debyg i'r un chwarter flwyddyn ynghynt. Yn gyffredinol, mae ‘cyfradd is arall’ wedi tyfu dros y tair blynedd diwethaf o gyfraniad bychan i fod yr ail gategori uchaf y chwarter hwn, tra bod 'concrit, brics, teils a serameg' wedi cynyddu yn y 3 chwarter diwethaf ac nawr mae ganddo lefel debyg i ddeunydd gronynnau mân.

Ffigur 4: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart bar yn dangos, yn Ionawr i Fawrth 2025, bod canran y pwysau cyfradd is a gyfrifwyd fel deunydd gronynnau mân yn debyg i'r chwarter blaenorol ac yn parhau i fod ar lefel gymharol isel yn hanesyddol. Prioedd a cherrig a ‘chyfradd is arall’ pob i gyfrif am bron i chwarter y gwarediadau cyfradd is. Roedd ‘concrit, brics, teils a serameg’ i gyfrif am bron i un rhan o bump o'r gwarediadau cyfradd is, y ffigwr chwarterol uchaf a welwyd hyd yn hyn.

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler y tudalen geirfa am ragor o wybodaeth.

[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.                                   

[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2024 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Roedd Tabl 1 yn gynharach yn y datganiad yn dangos bod 20 mil tunnell o ddeunydd gronynnau mân wedi'i waredu Ionawr i Fawrth 2025 ar y gyfradd dreth is. Mae hyn 41% yn is na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Rydym yn disgwyl fod o leiaf rhywfaint o'r lefel isel yn y 3 chwarter blaenorol mewn deunydd gronynnau mân yn effaith dros dro mewn rhai safleoedd.

Ar gyfer pwysau priddoedd a cherrig a waredwyd ar y gyfradd dreth is, bu gostyngiad sylweddol o'r 67 mil tunnell a welwyd yng Ngorffennaf i Fedi 2024 i 46 mil tunnell y chwarter hwn. Mae'r lefel a welwyd yn y chwarter presennol yn debyg i'r un a welwyd yn yr un chwarter flwyddyn ynghynt.

Ers Ebrill 2021, mae Ffigur 4 yn dangos bod canran chwarterol y gwastraff cyfradd is sy’n ronynnau mân yn amrywio o 15% i 48%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf yn Ngorffennaf i Fedi 2024 ac Ebrill i Fehefin 2021 yn y drefn honno. Y gwerth yn y chwarter hwn oedd 18%.

Ers Ebrill 2021, roedd canran chwarterol y gwastraff cyfradd is oedd yn briddoedd a cherrig yn amrywio o 19% i 48%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf yn Ngorffennaf i Fedi 2023 a Gorffennaf i Fedi 2024  yn y drefn honno. Y gwerth yn y chwarter hwn oedd 32%.

Cododd yn ngyffredinol canran y gwarediadau cyfradd is a ddosbarthwyd fel ‘arall’ o 3% yn Ebrill i Fehefin 2021 i 3% yn Ngorffennaf i Fedi 2024 ac mae’n 31%. Mewn datganiadau yn y dyfodol, mae’n debygol na fyddwn yn gallu rhoi mwy o fanylion am y categori hwn. Mae hyn oherwydd heriau o ran datgelu gwybodaeth posibl am weithredwyr unigol.

Hyd yn hyn, nid ydym wedi sylwi ar unrhyw amrywiadau tymhorol yn y data cyfradd is ond byddwn yn parhau i fonitro hyn mewn datganiadau yn y dyfodol.

Tabl 4: Canran y deunydd gronynnau mân cyfradd is a dderbyniwyd o dan bob cod Rhestr Wastraffoedd (LoW) perthnasol, Ebrill 2021 i Fawrth 2025

Cod Rhestr WastraffoeddDisgrifiadCanran
19 12 12 Gwastraff arall (gan gynnwys cymysgedd o ddeunyddiau) o drin gwastraff yn fecanyddiol ar wahân i'r hyn sy'n 19 12 1180%
19 12 09Mwynau (e.e. tywod, cerrig)20%
17 05 04Pridd a cherrig ar wahân i'r hyn sy'n 17 05 030%

Yn blaenorol, rydym wedi derbyn cais i ddadansoddi data ar gyfer deunydd gronynnau mân cyfradd is yn ôl cod Rhestr Wastraffoedd. Yna gwnaethom ddechrau cyhoeddi’r tabl hwn yn rhifyn Hydref i Ragfyr 2022 y datganiad hwn. Yn y datganiadau ers, rydym wedi diweddaru'r canrannau bras hyn i gynnwys data ar gyfer y chwarter diweddaraf, ni arweiniodd hyn at unrhyw newid yn y canrannau. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r canrannau hyn mewn modd debyg yn y dyfodol.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Hefyd, rydym yn cyhoeddi data derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar StatsCymru. Mae data hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau. 

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar dreth a dalwyd, ar StatsCymru

Mae'r data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn  gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Yn gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol. Bydd data derbyniadau arian:

  • yn cynnwys symiau bach iawn o gosbau a llog a dalwyd mewn perthynas â Threth Gwarediadau Tirlenwi
  • ni fydd yn cynnwys swm bach o Treth Gwarediadau Tirlenwi heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi

Yn y daenlen a gyhoeddwyd ar y dudalen bigion, mae Tabl 3 yn cynnwys manylion yr addasiadau a wnaed er mwyn adlewyrchu gwastraff a waredwyd mewn un flwyddyn ond y rhoddwyd cyfrif amdano mewn blwyddyn wahanol yng nghyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn diweddaru Tabl 3 yn flynyddol yn rhifyn y datganiad sy'n dilyn cyhoeddi cyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru. 

Gall gwahaniaethau rhwng blynyddoedd gwaredu a blynyddoedd cyfrifo ddigwydd pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn rhoi gwybod am welliant trethdalwr i’r gwarediadau. Mewn rhai sefyllfaoedd gall y gwelliannau hyn gael eu derbyn, neu arwain at ymholiad, ac wedi hynny gellir eu cadarnhau, eu gwrthod neu wrthdroi'r gwelliant (os oedd wedi'i dderbyn yn flaenorol). Gall yr holl senarios hyn arwain at addasiadau cyfrifyddu. Gall y sefyllfa gael ei chymhlethu ymhellach gan apêl I’r tribiwnlys ac at oedi pellach o ran cyfrifyddu. Gellir gwneud addasiadau cyfrifyddu pan fo ansicrwydd a fydd treth yn ddyledus yn y pen draw, cyn i ganlyniad unrhyw apêl i’r tribiwnlys gael ei benderfynu.

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi (Taenlen Ddogfen Agored, 14 KB)

Nôl i dop y dudalen

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Amcangyfrifon ar gyfer gweithredwyr sydd â chyfnodau cyfrifyddu ansafonol

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd. 

Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:

  • mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
  • mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol. 
Image

Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

A + B: Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.

C: Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.

Rhyddhad a disgowntiau

Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym yn disgrifio sut y gwnaethom gyflwyno ffurflen dreth newydd o Ebrill 2021. Yn y ffurflen newydd, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi unrhyw wastraff wedi'i ryddhau ac unrhyw ddisgownt dŵr mewn rhannau ar wahân o'r ffurflen. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyfuno’r ddau gategori hyn i gyflwyno categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’.

Yn y ffurflen dreth flaenorol, byddai gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi gwastraff wedi’i ryddhau fel gwastraff cyfradd is i ddechrau ac yna'n ei dynnu i ffwrdd mewn rhan ddiweddarach o'u ffurflen. Fodd bynnag, byddai ein datganiadau blaenorol yn adrodd am wastraff wedi’i ryddhau o fewn y categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’ ond nid fel rhan o’r categori cyfradd is, felly nid yw hyn wedi golygu newid yng nghyflwyniad y data dros amser.

Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym wedi ychwanegu gwybodaeth newydd am y rhesymau dros y gwahaniaethau rhwng y data o ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi a data a’r data a gesglir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff i mewn ac allan o safleoedd gwastraff trwyddedig. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer gwastraff wedi'i ryddhau.

Ansolfedd cwsmer 

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.

Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn. 

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.

Nôl i dop y dudalen

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo
Image
logo ystadegau swyddogol achrededig