Dynodi dyfroedd ymdrochi yng Nghymru: nodyn canllaw
Sut i wneud cais i ddynodi dŵr ymdrochi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Dynodi dŵr ymdrochi
Mae dyfroedd ymdrochi dynodedig yn cael eu monitro gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystod pob tymor ymdrochi ar gyfer e.coli ac enterococci y coluddyn, dau fath o facteria sy'n peri perygl i iechyd pobl.
Ar ddiwedd tymor ymdrochi pob blwyddyn, mae'r dyfroedd ymdrochi yn cael eu dosbarthu yn seiliedig ar eu canlyniadau monitro dŵr ymdrochi sef rhagorol, da, digonol, neu wael. Drwy gydol y tymor, mae CNC yn cyhoeddi canlyniadau monitro ansawdd dŵr ymdrochi ar eu gwefan.
Mae hyn yn hysbysu ymdrochwyr am yr ansawdd dŵr y gallant ddisgwyl ei weld wrth ymweld â'u dŵr ymdrochi.
Gall unrhyw un wneud cais i ddynodi dŵr ymdrochi.
Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i helpu ymgeiswyr i baratoi a chwblhau'r ffurflen gais dyfroedd ymdrochi yn effeithiol, gan gynnwys darparu gwybodaeth ategol berthnasol.
Darllenwch y canllaw hwn yn ofalus gan fod yna ofynion newydd ar gyfer gwneud cais i fod yn ddŵr ymdrochi. Hynny am fod Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 wedi’u diweddaru gan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2025.
Addasrwydd y safle
Gall y cwestiynau canlynol eich helpu i benderfynu a ddylid gwneud cais am ddynodiad dŵr ymdrochi:
A oes nifer fawr o ymdrochwyr yn nofio yn y safle ar hyn o bryd?
Y prawf ar gyfer dynodi o dan y rheoliadau dyfroedd ymdrochi yw a oes disgwyliad o nifer fawr o ymdrochwyr. Bydd angen i chi ddarparu data arolwg sy'n dangos yn glir bod y safle eisoes yn cael ei ddefnyddio'n aml gan nifer fawr o ymdrochwyr, ynghyd â thystiolaeth i gefnogi bod disgwyl i'r lefel hon o ddefnydd barhau yn y blynyddoedd i ddod. Bydd angen gwirio'r data hyn. Os gallwch ddangos bod rhanddeiliaid gwybodus eraill, er enghraifft yr awdurdod lleol, achubwyr bywyd (os yw'n gweithredu ar y safle), perchennog y tir neu bobl eraill sydd yn adnabod y safle, yn cytuno â'ch data arolwg, gallai hynny gryfhau’ch cais. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys diffiniad o nifer fawr o ymdrochwyr, am sut y bydd angen i chi wneud hyn wedi'i nodi yn y ffurflen gais a'r adrannau isod.
A oes ffactorau eraill allai rhwystro’r safle rhag cael ei ddynodi?
Yn dilyn y newidiadau yn Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2025, mae ffactorau eraill bellach yn cael eu hystyried wrth edrych a yw safle’n addas ar gyfer ei ddynodi’n ddŵr ymdrochi. Yn eu plith:
- Yr effaith debygol ar fesurau i warchod yr amgylchedd ar y safle
- A oes risg arwyddocaol yn debygol i ddiogelwch corfforol ymdrochwyr oherwydd nodweddion ar y safle a allai greu risgiau sy’n fwy na’r rheini sydd fel arfer yn gysylltiedig â nofio mewn dŵr agored.
- Ansawdd y dŵr – os yw ansawdd dŵr y safle’n isel iawn a byddai ei wella i gategori digonol naill ai’n anymarferol neu’n costio’n anghymarus o uchel.
Bydd angen ichi gadarnhau a oes mesurau i amddiffyn yr amgylchedd ar y safle ymdrochi yn ogystal a oes peryglon corfforol. Bydd rhagor o wybodaeth ynghylch beth y bydd angen ichi ei ystyried yn y ffurflen gais a’r adrannau isod.
A oes cyfleusterau a seilwaith ar gyfer ymdrochwyr?
Bydd y cyfleusterau sydd ar gael yn rhan o ystyriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch a ellir disgwyl nifer fawr o ymdrochwyr ar y safle. Gall cyfleusterau perthnasol gynnwys parcio, cyfleusterau newid, toiledau, cyngor diogelwch, achubwyr bywydau, arwyddion yn ymwneud â dŵr ymdrochi, arwyddion yn ymwneud ag ymdrochi’n ddiogel, biniau sbwriel, a help i fynd i’r dŵr ac allan o’r dŵr.
A fydd yr awdurdod lleol yn darparu llythyr o gefnogaeth?
A oes gan yr awdurdod lleol farn am y cais, a barn a oes nifer fawr o ymdrochwyr yn defnyddio'r safle? Dylai’r llythyr gadarnhau hefyd nad yw ymdrochi wedi’i wahardd ar y safle ac a yw’r nodweddion ar y safle’n debygol o beri risg arwyddocaol i ddiogelwch corfforol ymdrochwyr – hynny yw, risgiau sy’n fwy na’r rheini sydd fel arfer yn gysylltiedig â nofio mewn dŵr agored. Dylid holi’r awdurdod lleol hefyd a oes unrhyw bryderon ynghylch ansawdd y dŵr. Rydym wedi drafftio canllawiau i awdurdodau lleol i’ch helpu i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen.
A fydd perchennog y tir yn darparu llythyr o gefnogaeth?
A oes gan berchennog y tir farn am y cais, a barn a oes nifer fawr o ymdrochwyr yn defnyddio'r safle? Gall perchennog y tir hefyd fod â dyletswyddau os yw'r safle wedi'i ddynodi ar gyfer cadwraeth natur. Ni ddylech gymryd yn ganiataol bod gennych fynediad i unrhyw dir neu ddŵr heb ganiatâd perchennog y tir. Dylai’r llythyr nodi a yw’r nodweddion ar y safle’n debygol o beri risg arwyddocaol i ddiogelwch corfforol ymdrochwyr – hynny yw, risgiau sy’n fwy na’r rheini sydd fel arfer yn gysylltiedig â nofio mewn dŵr agored. Rydym wedi drafftio canllawiau i berchenogion y tir i’ch helpu i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen.
A yw'r safle yn cael ei hysbysebu neu ei hyrwyddo fel lle i ymdrochi?
Er enghraifft, trwy arwyddion, ar wefannau swyddogol, y cyfryngau cymdeithasol neu sesiynau archebadwy.
Y cais
1. Manylion yr ymgeisydd
Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad wneud cais i safle gael ei gydnabod fel dŵr ymdrochi. Mae angen i ni gael manylion yr ymgeisydd arweiniol a manylion unrhyw ymgeisydd cefnogol (fel unigolion sy'n helpu i gwblhau'r arolwg ymdrochi) ar gyfer unrhyw ohebiaeth neu ddilysiad sy'n ymwneud â'r cais. Ni fydd eich manylion yn cael eu rhannu â'r cyhoedd ar unrhyw adeg yn y broses ddynodi.
2. Nodi eich dŵr ymdrochi arfaethedig
Gwnewch yn siŵr bod enw'r safle yn unol â'r enw cyfredol y mae pobl yn gwybod amdano neu sy'n cael ei ddefnyddio'n lleol i adnabod y lleoliad. Mae hyn i sicrhau y rhoddir negeseuon cyson a bod modd adnabod dyfroedd ymdrochi yng Nghymru yn hawdd.
Yn eich cais, rhowch y wybodaeth ganlynol i nodi eich safle enwebedig:
- Enw’r dŵr ymdrochi arfaethedig:
- Cyfeiriad, gan gynnwys cod post agosaf: Gellir dod o hyd i hyn ar wefan y Post Brenhinol Postcode Finder - Dod o hyd i gyfeiriad │ Royal Mail Group Ltd
- Cyfeirnod Grid Cenedlaethol.
- Mae angen i chi hefyd gynnwys map gyda'ch cais. Mae angen i hyn gynnwys yr ardal rydych chi'n gwneud cais i gael ei chydnabod fel dŵr ymdrochi, ynghyd â'r fan lle mae disgwyl y rhan fwyaf o ymdrochwyr yn gyffredinol.
3. Manylion yr Awdurdod Lleol
Mae Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2025 (y Rheoliadau) yn rhoi dyletswyddau penodol ar yr awdurdod lleol gan gynnwys gosod arwyddion ac ymateb i achosion o lygredd dŵr a allai effeithio ar ansawdd y dŵr ymdrochi. Oherwydd hyn, mae cyfraniad eich awdurdod lleol yn hanfodol ar gyfer rheoli dŵr ymdrochi yn dda. Gofynnwn i chi roi manylion unrhyw gysylltiad rydych wedi’i gael gyda’r Awdurdod Lleol yn eich cais. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 5. Os ydych wedi cysylltu â’r awdurdod lleol ac nad ydych yn cael ymateb, rhowch y dyddiad cysylltu a sut y gwnaethoch chi gysylltu
Bydd angen i Lywodraeth Cymru hefyd ymgynghori â'r awdurdod lleol ynglŷn â'r cais, felly gofynnwn i chi gynnwys manylion cyswllt perthnasol i gefnogi'r ymgysylltiad hwn.
4. Manylion perchennog y tir
O dan Reoliadau CNC, rhoddir nifer o ddyletswyddau statudol i ymgymerwyr carthffosiaeth, a'r Awdurdod Lleol perthnasol, y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni mewn dyfroedd ymdrochi dynodedig. Os bydd safle sy'n eiddo preifat yn cael ei ddynodi fel dŵr ymdrochi, mae'n bwysig bod perchennog y tir yn cydweithio â'r partïon hyn i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu dyletswyddau.
Mae gofyniad cyfreithiol ar berchennog y tir i ganiatáu i gynrychiolwyr awdurdodedig o CNC a'r awdurdod lleol gael mynediad i'r dŵr ymdrochi at ddibenion ymgymryd â dyletswyddau statudol, hy. gosod arwyddion, monitro ansawdd dŵr a gwaith ymchwilio pellach pan fo angen. Mae'r mynediad hwn yn hanfodol ar gyfer cynnal profion a samplu yn rheolaidd i asesu cydymffurfiaeth â'r safonau a osodir gan y Rheoliadau.
Os nodir ffynonellau llygredd sy'n cyfrannu at ansawdd dŵr gwael yn y dŵr ymdrochi dynodedig, o dan y Rheoliadau, byddai'n ofynnol i'r person sy'n rheoli'r dŵr ymdrochi gydweithredu i fynd i'r afael â'r ffynonellau hyn. Gallai hyn gynnwys gweithredu arferion rheoli gorau i leihau llygredd neu gymryd rhan mewn ymdrechion cydweithredol â rhanddeiliaid eraill i liniaru effeithiau amgylcheddol.
Felly, mae cyfraniad perchennog y tir yn hanfodol ar gyfer rheoli dŵr ymdrochi yn dda ac rydym yn gofyn ichi ddisgrifio unrhyw gysylltiad rydych wedi’i gael gyda pherchennog y tir yn eich cais.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru hefyd roi gwybod i berchennog y tir ynglŷn â'r cais, felly gofynnwn i chi gynnwys manylion cyswllt perthnasol i gefnogi'r ymgysylltiad hwn. Ceir rhagor o wybodaeth yn adrannau 5 a 7. Os ydych wedi cysylltu â pherchennog y tir ac nad ydych yn cael ymateb, rhowch y dyddiad cysylltu a sut y gwnaethoch chi gysylltu
5. Nifer yr ymdrochwyr
Dyma ran bwysicaf eich cais.
Rhaid i geisiadau am ddynodi dyfroedd ymdrochi ddangos yn glir bod disgwyl i'r safle dderbyn nifer fawr o ymdrochwyr.
Rydym yn ystyried tystiolaeth o nifer y nofwyr a'r padlwyr yn ystod y tymor ymdrochi diweddaraf. Rydym hefyd yn ystyried a yw niferoedd yr ymdrochwyr yn debygol o aros yn sefydlog neu gynyddu ar ôl dynodiad yn y blynyddoedd i ddod. Er nad yw'n ofynnol, gellir darparu data hanesyddol sy'n dangos faint mae'r safle wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol, a bydd hynny yn cael ei ystyried fel tystiolaeth ategol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ymdrochwyr fel person (oedolyn neu blentyn) sy'n rhoi ei gorff yn y dŵr, hy. nofio neu badlo'n fwriadol. Mae padlwr at ddibenion cyfrif ymdrochwyr yn rhywun sy'n sefyll, yn eistedd neu'n chwarae mewn dŵr bas. Nid yw defnyddwyr dŵr hamdden eraill fel pobl sy’n defnyddio padlfwrdd, canŵ, ceufad, neu'n syrffio yn cael eu hystyried yn ymdrochwyr at ddibenion dynodi dyfroedd ymdrochi.
I wneud cais i'ch safle gael ei gydnabod, rhaid i chi allu tystio bod disgwyl i'r safle dderbyn nifer fawr o ymdrochwyr. Darperir rhagor o wybodaeth am y diffiniad o nifer fawr o ymdrochwyr isod.
Arolwg ymdrochwyr
Yn ystod tymor ymdrochi cenedlaethol Cymru, rhaid i chi gynnal arolwg strwythuredig ar 20 diwrnod o leiaf i ddarparu tystiolaeth bod eich safle yn cael ei ddefnyddio gan o leiaf y nifer canlynol o ymdrochwyr:
Ar gyfer safleoedd arfordirol:
- Nifer arferol o ymdrochwyr mewn diwrnod: Cynhaliwch arolygon ymdrochwyr am bedair awr ar 20 diwrnod o leiaf, i sefydlu patrwm defnydd dibynadwy ac osgoi anghysondebau untro a
- Diwrnodau â'r nifer uchaf o ymdrochwyr: Ar 5 neu fwy o wahanol ddiwrnodau trwy gydol y tymor ymdrochi, rhaid i'ch arolwg ddangos bod y safle yn cael ei ddefnyddio gan o leiaf 100 o ymdrochwyr mewn unrhyw bedair awr.
Ar gyfer safleoedd mewndirol
- Nifer arferol o ymdrochwyr mewn diwrnod: Cynhaliwch arolygon ymdrochwyr am bedair awr ar 20 diwrnod o leiaf i sefydlu patrwm defnydd dibynadwy ac osgoi anghysondebau untro.
- Y dyddiau â'r nifer uchaf o ymdrochwyr: ar 5 neu fwy o wahanol ddiwrnodau trwy gydol y tymor ymdrochi, bod o leiaf 50 o ymdrochwyr mewn unrhyw bedair awr.
Sylwch fod hon yn cynrychioli'r wybodaeth leiaf sy'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried dynodi dŵr ymdrochi. Nid yw bodloni'r gofynion hyn yn gwarantu y bydd dynodiad yn cael ei wneud, ac ni ddylid ei ystyried fel targed neu ddisgwyliad cymeradwyaeth.
Dylai eich arolwg:
- Gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol, darperir templed arolwg i'ch helpu yn Atodiad A.
- Cael ei lenwi gan berson addas, nid oes rhaid iddo fod yr un person ar bob achlysur. Dylid nodi unrhyw newid yn y person sy'n arolygu yn glir.
- Dangos yn glir amser, dyddiad, a nifer yr ymdrochwyr yn ystod pob arolwg.
- Cael ei gynnal ar 20 diwrnod o leiaf dros dymor ymdrochi cenedlaethol Cymru. Nid oes rhaid i'r dyddiau hyn fod yn olynol a dylent gynnwys dyddiau'r wythnos a phenwythnosau i ddal amrywiadau. Dyma'r disgwyliad lleiaf i'ch safle gael ei ystyried.
- Rhaid i'ch arolwg gynnwys niferoedd yr ymdrochwyr a gofnodwyd yn ystod y 4 awr o bob diwrnod a arolygwyd, nid oes angen i'r oriau fod yn olynol a dylai gynrychioli eich safle orau.
- Fod wedi eu dilysu gyda ffotograffau sydd ag amser a dyddiad arnynt, y mae'n rhaid eu cynnwys gyda'ch cais. Gweler yr adran isod am arweiniad ar y ffotograffau.
- Anogir arolygon sydd wedi'u cynllunio i ddal grwpiau nofio rheolaidd.
- Gallwch gynnwys defnyddwyr dŵr hamdden eraill i roi darlun llawn o'r defnydd o ddŵr, ond mae'n rhaid cyfrif y rhain ar wahân i ymdrochwyr.
Ni ddylai eich arolwg:
- Gynnwys digwyddiadau arbennig sy'n digwydd yn achlysurol yn unig. Fodd bynnag, mae croeso i chi gynnwys y wybodaeth hon fel gwybodaeth ategol ychwanegol wedi'i labelu'n glir.
Gall rhanddeiliaid ddarparu data cefnogol ychwanegol, fel defnyddwyr traeth, achubwyr bywyd, busnesau lleol, grwpiau nofio a swyddfeydd twristiaeth i ddilysu data eich arolwg a phenderfynu ar nifer yr ymdrochwyr canfyddedig.
Rhowch wybod a yw perchennog y tir a'r awdurdod lleol yn ymwybodol o'ch bwriad i geisio dynodi'r safle, eu barn ar y cais, a lle bo hynny ar gael, unrhyw wybodaeth ategol sydd ganddynt ynghylch a yw'r safle yn bodloni'r prawf rheoleiddiol fel y nodir yn adran addasrwydd y safle. Os oes unrhyw ran o'r cais sy'n cael ei herio, rhowch fanylion pellach.
Canllawiau ffotograffau
Rhaid cynnwys ffotograffau gyda'ch cais i ddilysu'r arolwg ymdrochi. Rhaid i ffotograffau:
- Fod wedi eu cymryd yn ddigon pell i ffwrdd fel na ellir adnabod pobl.
- Dangos tystiolaeth o ymdrochi a/neu badlo yn y dŵr.
- Dangos yr ardal gyfan lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymdrochi.
- Fod wedi eu marcio gyda'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad.
- Cynnwys o leiaf tri llun y dydd a arolygir.
- dechrau a diwedd pob arolwg a chael eu cymryd yn ystod y cyfnod prysuraf.
Cymerwch fesurau i sicrhau nad yw aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hadnabod yn eich lluniau.
6. Ystyried diogelu'r amgylchedd
Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o fesurau diogelu'r amgylchedd sydd ar waith o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Bydd hyn yn ffactor wrth ystyried a ddylid dynodi’r safle’n safle ymdrochi.
Nid yw’r ffaith bod mesurau diogelu’r amgylchedd ar safle yn golygu na all fod yn addas ar gyfer ymdrochi ond fe ddylech holi a yw’ch safle’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Bydd angen ichi gysylltu ag CNC i holi a yw’ch safle yn rhan o SoDdGA neu ardal warchodedig arall. Os ydyw, gall CNC ddweud wrthych a yw hamddena (gan gynnwys nofio) yn weithgaredd allai niweidio’i ddiddordeb arbennig. Gall CNC ddweud wrthych hefyd a oes gan berchennog y tir ganiatâd ymdrochi eisoes mewn ardal warchodedig. Mae’r broses ganiatáu yn rhoi’r cyfle i CNC asesu effeithiau ymdrochi ar y safle a sicrhau na fydd yn cael effaith ddrwg ar gynefinoedd a rhywogaethau pwysig.
Os nad oes caniatâd ar gyfer ymdrochi wedi’i roi, efallai y bydd angen i chi gysylltu â pherchennog y tir i gychwyn y broses ganiatâd.
Yn yr adran hon, dylech esbonio a yw’r safle yn rhan o ardal cadwraeth amgylcheddol ac a yw CNC wedi rhoi ei ganiatâd ar gyfer ymdrochi neu a ydych yn gofyn amdano.
Fe welwch ragor o wybodaeth am SoDdGAoedd ar wefan CNC. Gan ddefnyddio’r wybodaeth, gallwch gadarnhau a yw’ch lleoliad mewn safle sydd wedi’i ddynodi ar gyfer gwarchod natur ac a yw hamddena’n weithgaredd fydd yn debygol o niweidio’r diddordeb arbennig.
7. Gwaharddiad ar ymdrochi neu gyngor yn erbyn ymdrochi
Nid yw dynodiad dŵr ymdrochi yn awgrymu bod safle yn fwy diogel nag unrhyw gorff dŵr arall. Mae'r cyfrifoldeb am ddiogelwch personol yn y dŵr yn parhau gyda'r unigolyn. Yn ogystal â hynny, nid yw dynodiad yn newid unrhyw rwymedigaethau presennol; mae'r rheoliadau yn canolbwyntio'n unig ar sicrhau bod y safle yn cael ei fonitro'n briodol ar gyfer ansawdd dŵr.
Ni fyddai ceisiadau am ddynodi dŵr ymdrochi yn cael eu hystyried pan fo'r risg cofforol mor sylweddol fel bod yr Awdurdod Lleol neu berchennog y tir wedi rhoi mesurau parhaol ar waith i wahardd neu gynghori yn erbyn ymdrochi.
Dylech gysylltu â pherchennog y tir a’r awdurdod lleol a chynnwys eu barn ynghylch a yw’r nodweddion ar y safle’n debygol o beri risg arwyddocaol i ddiogelwch corfforol ymdrochwyr sy’n fwy na’r rheini sydd fel arfer yn gysylltiedig â nofio mewn dŵr agored.
Dylech hefyd gysylltu â gwasanaethau achub lleol (gwylwyr y glannau (ar yr arfordir), gwasanaeth tân ac achub (yn y tir), perchennog y tir a’r awdurdod lleol i holi am wybodaeth am ddigwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch ymdrochwyr yn y lleoliad yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Yn yr adran hon, dylech gynnwys:
- unrhyw fesurau parhaol ar y safle i wahardd neu gynghori yn erbyn ymdrochi
- unrhyw wybodaeth gan berchennog y tir neu’r awdurdod lleol nad yw’r lleoliad yn peri risg i ddiogelwch corfforol sy’n fwy na’r risgiau sydd fel arfer yn gysylltiedig â nofio mewn dŵr agored
- unrhyw wybodaeth am ddigwyddiadau ar y safle dros y 5 mlynedd ddiwethaf
- unrhyw beryglon i ddiogelwch corfforol rydych yn gwybod amdanyn nhw nad yw’r uchod yn ymdrin â nhw.
8. Ansawdd dŵr
Dylech gysylltu ag CNC neu dîm iechyd yr amgylchedd yr Awdurdod Lleol i gadarnhau a oes pryderon arwyddocaol ynghylch ansawdd y dŵr. Yn yr adran hon, dylech grynhoi unrhyw awgrymiadau gan CNC neu dîm iechyd yr amgylchedd ynghylch problemau posibl ag ansawdd y dŵr.
9. Cyfleusterau
Dylai ceisiadau ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi hefyd gynnwys gwybodaeth am gyfleusterau ar gyfer ymdrochwyr ar y safle neu gerllaw. Er enghraifft:
- mynediad rhesymol i'r dŵr ac allanfa o'r dŵr ee. a oes angen dringo dros rwystrau?
- cyfleusterau parcio.
- trafnidiaeth gyhoeddus
- mynediad i'r safle (gan gynnwys mynediad i bobl anabl).
- toiledau / cyfleusterau newid. Os yw'r cyfleusterau toiledau ar safle busnes, cynhwyswch gadarnhad gan berchennog y busnes y gall ymdrochwyr ddefnyddio'r toiledau.
- achubwyr bywyd.
- clybiau nofio, athrawon nofio, hyfforddwyr neu dywyswyr.
- cyfleusterau cymorth cyntaf.
- biniau sbwriel/biniau budr.
- caffis, siopau neu giosgau.
10. Tystiolaeth o fesurau i hyrwyddo ymdrochi
A yw'r safle yn cael ei hyrwyddo ar hyn o bryd fel rhywle ar gyfer ymdrochi? Er enghraifft, trwy arwyddion, taflenni, caniatâd mynediad, gwefannau swyddogol, y cyfryngau cymdeithasol neu sesiynau archebadwy. Os cynllunnir mesurau newydd, dylid cynnwys manylion hefyd.
11. Ymgynghori â rhanddeiliaid
Dylai ceisiadau ddal a dogfennu barn cynrychiolwyr lleol os ydych yn ei gwybod. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y broses ymgeisio yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn dryloyw, tra'n ystyried pryderon, barn a safbwyntiau'r gymuned leol. Gall y rhain gynnwys y canlynol ymhlith eraill:
- Ymdrochwyr a defnyddwyr eraill dŵr ymdrochi, gan gynnwys clybiau/grwpiau nofio;
- Perchnogion a gweithredwyr busnesau cyfagos, ee. caffis a siopau.
- Cyrff Iechyd y Cyhoedd – ee. Iechyd Cyhoeddus Cymru, bwrdd iechyd lleol.
- CNC.
- Grwpiau cymdogaeth a chymunedol.
- Grwpiau amgylcheddol a dinesig lleol.
- Cynrychiolwyr amaethyddol.
- Cynghorau Lleol a Sir.
- Swyddfa dwristiaeth leol neu gorff twristiaeth lleol arall;
- Siambr Fasnach Leol.
- Swyddfa adfywio leol neu gorff adfywio lleol arall.
- Y cyhoedd.
- Cadwch Gymru'n Daclus (sy'n gweinyddu Gwobrau'r Faner Las).
- Y perchennog tir perthnasol a'r Awdurdod Lleol.
- Yr ymgymerwr carthion statudol perthnasol.
Gwnewch yn siŵr bod pawb rydych chi'n ymgynghori â nhw yn ymwybodol y bydd eu hymateb yn cael ei gynnwys yn eich cais. Peidiwch â nodi enwau sefydliadau, busnesau ac unigolion sy'n gofyn i aros yn ddienw.
12. Llofnod
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr arweiniol a chefnogol lofnodi'r cais i gadarnhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir. Mae'r llofnod hwn yn sicrwydd ffurfiol bod y manylion a gyflwynwyd yn wirioneddol ac yn ddibynadwy, gan helpu i gynnal uniondeb y broses ymgeisio. Mae hefyd yn sicrhau atebolrwydd, gan fod pob parti yn cadarnhau eu cyfrifoldeb dros gywirdeb y wybodaeth, sy'n hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus a theg lle bydd arian cyhoeddus yn cael ei ddyrannu.
Cyflwyno eich cais
Cyflwynwch eich ffurflen gais a'ch gwybodaeth ategol ar gyfer y tymor ymdrochi presennol erbyn 15 Hydref er mwyn i'r safle gael ei ystyried ar gyfer dynodiad.
Gall ceisiadau dyfroedd ymdrochi amrywio o ran cymhlethdod ac fesul achos. Ar gyfer ceisiadau penodol, gall Llywodraeth Cymru ofyn am wybodaeth ychwanegol gan ymgeiswyr neu gynnal ymchwiliadau estynedig a allai olygu oedi cyn gwneud penderfyniad ar ddynodiad. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i ymgeiswyr os oes angen rhagor o wybodaeth neu os yw canlyniad yn cael ei adolygu.
Gellir cyflwyno ceisiadau:
- drwy e-bost: dwr@llyw.cymru
- drwy'r post: Y Gangen Ddŵr, Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ar ôl cyflwyno eich cais
Bydd unrhyw geisiadau a thystiolaeth a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cydnabod drwy lythyr neu e-bost.
Bydd pob cais yn cael ei asesu gan Lywodraeth Cymru. Os ymddengys bod achos o blaid dynodi ar sail yr wybodaeth gychwynnol sydd wedi’i darparu, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, ac yn ystyried ei ganlyniadau gyda’r holl dystiolaeth arall.
Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi ynghyd ag ymateb i’r ymgynghoriad cyn dechrau'r tymor ymdrochi cenedlaethol nesaf.
Efallai y byddwn yn cadw’ch cais er mwyn casglu rhagor o fanylion. Rhoddir gwybod i’r ymgeisydd am hynny trwy lythyr neu e-bost. Mewn achosion o’r fath, byddwn yn gohirio penderfynu ar ddynodiad tan y tymor ymdrochi ar ôl nesaf.
Os caiff cais ei wrthod, er enghraifft os bydd yn anghyflawn, heb fod yn ddigon manwl neu lle bo’n amlwg nad yw’r safle yn bodloni’r amodau ar gyfer cael ei ddynodi’n ddŵr ymdrochi, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r ymgeisydd ac yn esbonio'r rhesymau dros y penderfyniad. Mae croeso i ymgeiswyr ail-ymgeisio ar gyfer y tymor ymdrochi canlynol.
Manylion Cyswllt
Am gymorth pellach, cysylltwch â'r canlynol:
- Y broses ymgeisio neu ddynodi: cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar dwr@llyw.cymru
- Diogelu'r amgylchedd / SoDdGA: cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru yn: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr Awdurdod Lleol neu berchennog y tir perthnasol:
- Manylion perchennog y tir: cael gwybodaeth am eiddo a thir
- Manylion Awdurdod Lleol: dod o hyd i'ch awdurdod lleol.
