Ymddygiadau sy'n herio ac yn tarfu ar eraill mewn ysgolion ar draws Cymru: strategaethau a lliniariadau effeithiol, 2025 (crynodeb)
Mae athrawon yng Nghymru wedi adrodd cynnydd mewn ymddygiadau heriol ac aflonyddgar gan ddysgwyr. Mae'r adroddiad hwn yn archwilio strategaethau a chamau lliniaru effeithiol i reoli hyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Comisiynwyd yr astudiaeth hon i archwilio'r tueddiadau cyfredol mewn ymddygiadau heriol, i werthuso strategaethau seiliedig ar dystiolaeth er mwyn annog ymddygiadau positif, ac i adnabod bylchau mewn ymchwil a hefyd mewn gweithredu. Mae'r angen am y gwaith hwn wedi dod yn fwy argyfyngus fyth yn dilyn y pandemig wrth i ysgolion wynebu heriau ymddygiadol cynyddol.
Mae llawer o athrawon yn adrodd am ddirywiad sylweddol mewn ymddygiadau cymdeithasol-fuddiol, h.y. ymddygiadau neu weithredoedd sydd â’r diben o fod o fudd i bobl eraill neu gyfrannu at les y gymdeithas. Maen nhw hefyd yn sôn am gynnydd mewn ymddygiad sy’n tarfu, yn amrywio o herfeiddio geiriol i ymosodedd corfforol, gan effeithio'n negyddol ar ddysgwyr eraill a rhoi pwysau ychwanegol ar les staff ac adnoddau’r ysgol. Mae tystiolaeth bellach o'r duedd hon yn y cynnydd sylweddol mewn gwaharddiadau o ysgolion dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r materion hyn wedi'u gwaethygu gan ffactorau cymdeithasol a systematig ehangach, megis gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol (Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, 2022 [troednodyn 1]), y newid yn y ddynameg ystafell ddosbarth (Y Sefydliad Gwaddol Addysgol, 2021 [troednodyn 2]), integreiddio technoleg, ac anghenion dysgu amrywiol. Gan gydnabod cymhlethdod yr heriau hyn, nod yr astudiaeth hon yw darparu mewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt ac argymhellion wedi'u seilio ar dystiolaeth i hysbysu polisïau a chanllawiau’r dyfodol yng Nghymru.
Argymhellion
Diweddaru ac ehangu canllawiau cenedlaethol
Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ac ehangu canllawiau cenedlaethol i gefnogi ysgolion. Dylai hyn gynnwys:
- canllawiau ar fframweithiau effeithiol sy'n gweithio i adeiladu diwylliannau ysgol gadarnhaol, fel Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol Ysgol Gyfan (SWPBS), gan bwysleisio strategaethau rhagweithiol, datblygu perthnasoedd, a dulliau ysgol gyfan i feithrin cysondeb a chynhwysiant
- dylid adolygu a diweddaru canllawiau ar arfer ystafell ddosbarth effeithiol i adlewyrchu'r cyd-destunau ôl-covid mewn ysgolion, a'r sgiliau sydd eu hangen ar athrawon i greu amgylchedd ystafell ddosbarth cadarnhaol a chynhwysol
- effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a ffactorau cyd-destunol eraill wrth ddatblygu polisïau ymddygiad, gan sicrhau eu bod yn ymatebol i anghenion eu cymunedau.
- adnoddau ymarferol ar gyfer timau arwain, canllawiau ar gyfer nodi anghenion sy'n dod i'r amlwg yn gynnar, a chysylltiadau clir â fframweithiau lles ysgol gyfan (e.e., WSAEMW, ALNET)
- canllawiau ar raglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol (DCE) strwythuredig i ddatblygu llythrennedd emosiynol, gwydnwch a sgiliau perthynas yn systematig ar y lefel gyffredinol (Haen 1)
- dylai canllawiau annog modelau rheoli ymddygiad dim goddefgarwch, cosbol, a modelau rheoli ymddygiad sy’n hynod orfodol, sy'n anghyson â'r sail dystiolaeth gyfredol ac yn tueddu i annog ymddieithrio
Gwella dysgu proffesiynol i athrawon ac arweinwyr
Dylai llywodraeth Cymru ddatblygu rhaglen ddysgu broffesiynol genedlaethol i athrawon ac arweinwyr sy'n cynnwys:
- ffocws ar fframweithiau ymddygiad ysgol gyfan (megis SWPBS), gan gynnwys ffocws ar adeiladu perthnasoedd a dulliau adferol
- blaenoriaethu strategaethau ystafell ddosbarth ymarferol, dad-ddwysáu sy'n seiliedig ar drawma, a thechnegau perthynas cynhwysol
- gwreiddio cyfleoedd ar gyfer goruchwyliaeth adfyfyriol reolaidd neu hyfforddiant i gefnogi lles a gwydnwch athrawon
- cryfhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a rhaglenni Sefydlu trwy wreiddio hyfforddiant strwythuredig, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar reoli ystafell ddosbarth, fframweithiau ymddygiad cadarnhaol, a chreu amgylcheddau anogol
- sicrhau bod athrawon sydd ar ddechrau eu gyrfa yn cael eu cefnogi i ddatblygu sgiliau ymarferol a pherthnasol mewn atal ymddygiad a dad-ddwysáu fel elfen graidd o gymhwysedd proffesiynol
Cryfhau dulliau addysgu lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar er mwyn atal heriau ymddygiad diweddarach
Dylai Llywodraeth Cymru dynnu sylw at y berthynas rhwng sgiliau cyfathrebu cynnar ac ymddygiad cadarnhaol. Dylai hyn:
- gynnwys dealltwriaeth glir a darpariaeth o ddull systematig, seiliedig ar dystiolaeth o addysgu iaith gynnar a darllen, gan roi'r cyfle gorau posibl i bob dysgwr ddatblygu sgiliau llythrennedd cadarn a gweithredol erbyn diwedd yr ysgol gynradd
- cydnabod anawsterau llythrennedd cynnar fel ffactor risg allweddol ar gyfer ymddieithrio'n ddiweddarach, ymddygiad heriol, absenoldeb, ac eithrio, a thrin cefnogaeth gynnar fel strategaeth atal academaidd ac ymddygiadol
- sicrhau bod polisïau ymddygiad a lles yn cyd-fynd â strategaethau llythrennedd cenedlaethol, gyda ffocws penodol ar gefnogi dysgwyr agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai ag ADY
Buddsoddi mewn gwaith ymchwil am effeithiolrwydd yng Nghymru
Er bod tystiolaeth ryngwladol yn darparu sylfaen gref, mae gwerthuso dichonoldeb ac effeithiolrwydd y fframweithiau hyn yng nghyd-destun diwylliannol ac addysgol penodol Cymru yn hanfodol. Bydd ymchwil o'r fath yn llywio datblygiad polisi, yn nodi arferion gorau, ac yn sicrhau bod ymyriadau'n cael eu teilwra i anghenion lleol. Mae angen i'r ymchwil hon:
- galluogi astudiaethau hirdymor i weithrediad ac effaith fframweithiau ymddygiad ysgol gyfan yng Nghymru
- canolbwyntio ar werthuso cyd-destun, cynaliadwyedd, a chanlyniadau ar gyfer grwpiau amrywiol o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag ADY
- annog ysgolion i ddatblygu systemau data rhybuddio cynnar i olrhain aflonyddwch lefel isel, datgysylltiad, ac arwyddion meddal o anhawster emosiynol neu ymddygiadol
- hyrwyddo partneriaethau rhwng ysgolion a SAUau i gyd-ddatblygu strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi'u seilio ar brofiad ystafell ddosbarth go iawn
- adeiladu rhwydweithiau ymchwil a chyfoedion sy'n agos at ymarfer i gefnogi twf proffesiynol myfyriol
Gwella cefnogaeth i deuluoedd
- Cryfhau partneriaethau rhwng yr ysgol a'r teulu drwy gynnig gweithdai, hyfforddiant ac adnoddau hygyrch i rieni/gofalwyr ar hyfforddiant emosiynol, cefnogaeth ymddygiad cadarnhaol a chysondeb rhwng yr ysgol a'r cartref.
- Ymgorffori cefnogaeth i deuluoedd fel llinyn allweddol o fodelau ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Mynd i'r afael â lles a'i hyrwyddo drwy feithrin amgylcheddau ysgol
- Cefnogi mabwysiadu dulliau ysgol gyfan sy'n datblygu llythrennedd emosiynol, rheoleiddio emosiynol a sgiliau perthynas disgyblion yn benodol fel rhan o Gwricwlwm Cymru.
- Cydnabod bod newid ymddygiad yn fwyaf cynaliadwy pan gaiff lles a sgiliau emosiynol eu meithrin yn systematig ac yn gyffredinol.
Darparu cefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer ysgolion uwchradd
Darparu canllawiau ac adnoddau wedi’u teilwra i fynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae ysgolion uwchradd yn eu hwynebu. Dylai hyn gynnwys:
- cefnogi timau arweinyddiaeth i sicrhau cysondeb ysgol gyfan wrth ddatblygu amgylcheddau dysgu cadarnhaol
- annog arferion adferol i gryfhau perthnasoedd a datrys gwrthdaro mewn ffordd adeiladol gyda staff a dysgwyr
- cefnogi cynllunio trawsnewid strwythuredig rhwng cyfnodau
- ehangu rhaglenni mentora cyfoedion ac arferion adferol
- datblygu timau cymorth bugeiliol arbenigol i fynd i'r afael ag arwyddion cynnar o ymddieithrio
Cyflogi arbenigwyr ymddygiad ym mhob Awdurdod Lleol
Dylai pob ALl benodi arbenigwyr ymddygiad a all:
- cefnogi ysgolion i ddylunio a gweithredu fframweithiau ymddygiad rhagweithiol a chynhwysol
- cyflwyno DPP a hyfforddiant ar arferion ysgol gyfan, sy'n seiliedig ar drawma ac arferion perthynol
- cynorthwyo ag ymyrraeth gynnar sy'n seiliedig ar ddata a chynllunio cymorth pwrpasol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth
- hwyluso cymunedau ymarfer ar draws ysgolion lleol i rannu dulliau effeithiol
Methodoleg
Defnyddiodd yr astudiaeth hon nifer o ddulliau er mwyn sicrhau archwiliad cynhwysfawr o arferion rheoli ymddygiad ar draws amrywiaeth o gyd-destunau addysgol. Roedd hyn yn cynnwys:
- adolygiad cyflym o’r llenyddiaeth sydd eisoes yn bodoli
- sefydlu Panel Cynghori o randdeiliaid allweddol o fewn system addysg Cymru i ddarparu cyngor arbenigol.
- cyfweliadau lled-strwythuredig a grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys penaethiaid, athrawon, staff cymorth, rhieni a disgyblion; cafwyd cyfranogaeth gan dri ar hugain i gyd
- roedd tair astudiaeth achos yn canolbwyntio ar ysgolion a oedd wedi gweithredu polisïau ymddygiad cadarnhaol, cyffredinol yn llwyddiannus yn eu cyd-destun perthnasol, ac oedd â’r nod o ddarganfod ac arddangos enghreifftiau o arferion gorau ar lefelau cynradd ac uwchradd, ac mewn cyd-destun ADY, gan gynnig mewnwelediadau ymarferol i helpu i lywio polisi ac arferion yn y dyfodol
Cyfyngiadau
Cafodd yr adolygiad tystiolaeth cyflym ei gyfyngu i derfyn amser penodol er mwyn cyd-fynd â therfynau amser yr ymchwil. Er ei fod yn cynrychioli chwiliad systematig o’r brif gronfa ddata o dystiolaeth yn y maes hwn, nid oedd yn bosibl cynnal adolygiad systematig llawn o ymchwil i effeithiolrwydd. Hefyd, cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r astudiaethau a ddewiswyd gyda disgyblion cynradd neu ysgolion elfennol yn America, a dim ond un oedd â disgyblion oedran uwchradd yn unig. Mae hyn yn golygu bod y crynodeb o effeithiolrwydd yn ymwneud â lleoliadau cynradd yn unig mewn gwirionedd ac mae angen rhagor o ymchwil yn y sector uwchradd.
Un cyfyngiad ar elfen ansoddol y prosiect oedd y nifer bychan o ddisgyblion a gymerodd ran. Roedd y grŵp ffocws o ddysgwyr yn gyfyngedig o ran ei faint ac wedi’i ddewis o un ysgol astudiaeth achos yn unig, felly gallai hynny gyfyngu ar y gallu i gyffredinoli’r canfyddiadau. Er bod y safbwyntiau a rannwyd wedi cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i brofiadau’r dysgwyr, byddai ymgynghoriad ehangach â disgyblion o sampl mwy amrywiol o leoliadau yn fuddiol i ymchwil yn y dyfodol.
Cyfyngiad pellach oedd cyd-destun yr astudiaethau achos ansoddol a’r cyfweliadau ag ymarferwyr. Er eu bod yn cynnig darluniau pwysig o arferion effeithiol, dewiswyd y cyfranogwyr yn bennaf o leoliadau a oedd wedi gwirfoddoli i rannu enghreifftiau. Felly, gall y canfyddiadau adlewyrchu rhywfaint o duedd tuag at arferion cadarnhaol ac efallai na fyddant yn adlewyrchu’n llawn brofiadau ysgolion sy’n wynebu heriau dyfnach.
Er bod yr adroddiad yn nodi ystod o fframweithiau a strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, nid oedd o fewn cwmpas yr astudiaeth i archwilio’n systematig y rhwystrau ymarferol i’w gweithredu mewn gwahanol gyd-destunau, megis pwysau llwyth gwaith, cyfyngiadau o ran adnoddau, neu amrywiaeth yn arbenigedd y staff. Dylai ymchwil yn y dyfodol archwilio’r ffactorau hyn yn fanylach er mwyn cefnogi datblygiad arferion cynaliadwy a graddadwy ar draws system addysg Cymru.
Prif ganfyddiadau
Newidiadau mewn ymddygiad dysgwyr a'u hiechyd meddwl ar ôl y pandemig
Adroddodd athrawon gynnydd amlwg yn amlder a dwysedd ymddygiadau heriol, a oedd wedi’i waethygu gan dueddiadau a oedd eisoes yn bodoli cyn y pandemig COVID-19. Yn ogystal â phroblemau ymddygiad, dangosodd llawer o ddysgwyr lefelau uwch o orbryder a gofid emosiynol, gan adlewyrchu heriau ehangach i iechyd meddwl yn sgil y pandemig. Nodwyd bylchau datblygiadol ac anawsterau wrth reoleiddio emosiynau fel ffactorau allweddol a oedd yn effeithio ar ymddygiad, gyda materion megis sgiliau cyfathrebu annigonol—gan gynnwys oedi wrth ddatblygu iaith fynegiannol a derbyniol—yn effeithio ar allu dysgwyr i ymateb yn llwyddiannus i ddisgwyliadau'r ystafell ddosbarth. Soniodd athrawon am gynnydd amlwg yn yr anawsterau a brofwyd gan ddysgwyr wrth addasu i amgylcheddau ysgol strwythuredig, a oedd yn cael effaith ar eu gallu i ymgysylltu’n llwyddiannus â'r disgwyliadau yn yr ystafell ddosbarth.
Ymagweddau cyffredinol tuag at adeiladu diwylliant ysgol gadarnhaol
Thema gyson yn ystod yr astudiaeth oedd yr angen am ymagwedd gyffredinol i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol – hynny yw, ymagweddau a ddefnyddir ar draws yr ysgol, ym mhob ystafell ddosbarth, gyda phob disgybl, gyda’r nod o leihau ymddygiad amhriodol neu aflonyddgar. Daeth adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, adnabod y dysgwr, a mabwysiadu arferion gwybodus am drawma i’r amlwg fel strategaethau allweddol. Amlygodd athrawon bwysigrwydd dulliau ymddygiad sy’n gyson, yn dryloyw ac yn rhagweithiol – egwyddorion allweddol SWPBS. Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd cydweithio amlasiantaethol gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol allanol fel elfen hanfodol o'r dull hwn.
Barn ynghylch arferion aneffeithiol o ran rheoli ymddygiad
Mewn rhai achosion, mynegodd cyfranogwyr bryderon ynghylch arferion rheoli ymddygiad aneffeithiol. Ystyrid ymagweddau gorfodol a chosbol yn rhai gwrthgynhyrchiol, tra nodwyd dulliau adweithiol, anghyson ac anrhagweladwy fel rhai sy'n cyfrannu at heriau ymddygiadol pellach.
Canfyddiadau craidd yr astudiaethau achos
Dangosodd yr astudiaethau achos bwysigrwydd strategaethau rheoli ymddygiad wedi’u teilwra ar draws cyd-destunau addysgol amrywiol, boed hynny’n canolbwyntio ar bolisïau ymddygiad cyffredinol neu gefnogaeth benodol i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol. Ymhlith y themâu allweddol roedd: yr angen am ddisgwyliadau clir, annog ymddygiadau cymdeithasol cadarnhaol, atgyfnerthu cadarnhaol, a chynnwys lles emosiynol disgyblion ym mhob agwedd ar fywyd a dysgu’r ysgol.
Ymddangosodd ymgysylltiad rhanddeiliaid – staff, rhieni a disgyblion – fel ffactor hanfodol wrth greu llwyddiant. Dangosodd pob lleoliad y gall dulliau wedi’u teilwra fel arferion adferol, cefnogaeth unigol, a fframweithiau seiliedig ar werthoedd fynd i’r afael â heriau unigryw’n effeithiol tra’n gweithredu o fewn egwyddorion ymagwedd gyffredinol. Mae’r canfyddiadau’n pwysleisio gwerth cynhwysiant, cydweithrediad ac adlewyrchiad parhaus wrth sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn ymddygiad ac mewn diwylliant ysgol.
Dangosodd yr adolygiad llenyddiaeth hefyd fod ymagweddau ysgol-gyfan rhagweithiol, cadarnhaol, sydd wedi’u gweithredu’n ffyddlon, yn effeithiol wrth hyrwyddo ymddygiadau cymdeithasol-fuddiol a lleihau’r risg o ymddygiadau aflonyddgar ac anodd.
Trafodaeth
Dengys canfyddiadau’r astudiaeth gymhlethdod atal ac ymateb i ymddygiadau aflonyddgar a heriol mewn ysgolion, yn enwedig ar ôl y pandemig COVID-19. Mae’r cynnydd sylweddol mewn heriau ymddygiadol a adroddwyd gan staff ysgol, ynghyd â bylchau mewn cyfathrebu a systemau cymorth, yn tanlinellu’r angen brys am ymagwedd genedlaethol sy’n rhagweithiol ac yn gyson tuag at reoli ymddygiad. Mae’r canfyddiadau’n pwysleisio’r angen am feithrin diwylliant ysgol gadarnhaol a chynhwysol, lle mae lles emosiynol a rheoli ymddygiad yn flaenoriaeth ac yn rhan annatod o bob agwedd ar arfer a pholisi ysgol.
Mae tystiolaeth o’r adolygiad llenyddiaeth a’r cyfweliadau â rhanddeiliaid yn dangos gwerth ymagweddau cyffredinol fel Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol ar draws yr Ysgol (SWPBS) ac arferion gwybodus am drawma wrth hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol a lliniaru aflonyddwch. Mae’r strategaethau hyn yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladu perthnasoedd cryf, mabwysiadu polisïau cyson, ac ymgysylltu holl gymuned yr ysgol—gan gynnwys staff, rhieni a disgyblion—i greu amgylcheddau dysgu cefnogol a meithringar.
Dengys yr astudiaethau achos ymhellach sut y gall ymyriadau wedi’u teilwra, p’un ai drwy bolisïau ymddygiad cyffredinol neu gefnogaeth benodol i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol, arwain at ganlyniadau cadarnhaol pan gânt eu gweithredu’n ffyddlon. Fodd bynnag, mae’r amrywiaeth canfyddiadau ymhlith rhieni, ynghyd â phryderon am effeithiolrwydd rhai ymyriadau, yn dangos yr angen am gyfathrebu cliriach, dysgu proffesiynol gwell i staff, ac ymdrech gydweithredol i sicrhau cysondeb a thegwch.
Yn y pen draw, mae’r astudiaeth hon yn tanlinellu’r angen am fuddsoddiad parhaus mewn arferion seiliedig ar dystiolaeth, dysgu proffesiynol, ac ymchwil sy’n benodol i gyd-destun Cymru. Bydd mynd i’r afael â’r heriau hyn drwy ymagweddau cyffredinol yn cryfhau rheoli ymddygiad ac yn meithrin amgylcheddau cynhwysol, cefnogol sy’n hybu lles a llwyddiant academaidd i bob dysgwr.
Casgliad
Mae’r astudiaeth hon wedi tynnu sylw at yr heriau pwysig sy’n wynebu ysgolion yng Nghymru wrth atal ac ymateb i ymddygiadau aflonyddgar a heriol, yn enwedig ar ôl y pandemig COVID-19. Mae’r canfyddiadau’n pwysleisio pwysigrwydd mabwysiadu ymagweddau ysgol-gyfan seiliedig ar dystiolaeth sy’n blaenoriaethu lles emosiynol, cysondeb a chynhwysiant. Trwy feithrin perthnasoedd cryf, sicrhau cyfathrebu tryloyw, a gweithredu strategaethau cyffredinol ac wedi’u targedu, gall ysgolion greu amgylcheddau lle mae pob dysgwr yn teimlo eu bod wedi’u cefnogi a'u bod wedi’u grymuso i allu ffynnu.
Er bod enghreifftiau o arfer da’n bodoli, mae’r amrywioldeb mewn gweithredu a chanfyddiadau’n dangos yr angen am ganllawiau wedi’u diweddaru, cyfleoedd dysgu proffesiynol gwell, a chydweithio agosach rhwng ysgolion, rhieni, llunwyr polisi a llais y dysgwr. Bydd mynd i’r afael â’r heriau hyn yn gyfannol nid yn unig yn lleihau ymddygiad aflonyddgar ond hefyd yn cyfrannu at system addysg fwy cyfartal a chefnogol sy’n elwa dysgwyr, staff a theuluoedd fel ei gilydd.
Nod canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yw llywio datblygiad polisïau ac arferion effeithiol, gan gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu amgylcheddau ysgol cynhwysol a meithringar lle gall pob dysgwr gyrraedd ei botensial.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Dr Amy-Hulson-Jones [troednodyn 3] [troednodyn 6]., Dr Millie-Blandford-Elliot [troednodyn 3], Dr Margiad Williams [troednodyn 3], Dr Maggie Hoerger [troednodyn 3], Dr Richard May [troednodyn 5], Dr Emily Groves [troednodyn 5], Dr Adina Grigorie [troednodyn 3], Dr Richard C. Watkins [troednodyn 3] [troednodyn 4], Dr Steve Noone [troednodyn 3] a Professor J. Carl Hughes [troednodyn 3]
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Ymchwil Ysgolion
Adran Ymchwil a Gwybodaeth Gymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YmchwilYsgolion@Llyw.Cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 41/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-738-9

Troednodiadau
[1] Education Inequalities (Institute for Fiscal Studies (IFS))
[2] Improving Behaviour in Schools (Education Endowment Foundation (EEF))
[3] Sefydliad Cydweithredol ar gyfer Ymchwil, Tystiolaeth ac Effaith Addysg (CIEREI), Prifysgol Bangor
[4] Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE)
[5] Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, Grŵp Ymchwil ac Arloesi Seicoleg Gymhwysol, Prifysgol De Cymru
[6] Athro Ymgynghorol Cymorth Allgymorth, Uned Cyfeirio Disgyblion (PRU)
