Neidio i'r prif gynnwy

Mae athrawon yng Nghymru wedi adrodd cynnydd mewn ymddygiadau heriol ac aflonyddgar gan ddysgwyr. Mae'r adroddiad hwn yn archwilio strategaethau a chamau lliniaru effeithiol i reoli hyn.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwaith ymchwil i ymddygiadau sy'n herio ac yn tarfu ar eraill mewn ysgolion ar draws Cymru.

Prif ganfyddiadau

  • Mae athrawon wedi gweld cynnydd amlwg yn amlder a dwyster ymddygiadau heriol, sydd wedi’u dwysáu gan dueddiadau a oedd yn bodoli eisoes a waethygodd yn dilyn pandemig COVID-19
  • Yn ogystal â phryderon ymddygiad, mae llawer o ddysgwyr yn dangos mwy o orbryder a gofid emosiynol, sy'n adlewyrchu heriau iechyd meddwl ehangach yn dilyn y pandemig.
  • Mae athrawon wedi gweld cynnydd sylweddol mewn anawsterau wrth addasu i amgylcheddau ysgol strwythuredig sydd wedi effeithio ar allu dysgwyr i ymgysylltu'n llwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth.
  • Cododd un thema dro ar ôl tro sef bod angen dulliau cyson o feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol h.y. dulliau sy'n cael eu defnyddio ar draws yr ysgol, ym mhob ystafell ddosbarth a gyda'r holl ddisgyblion, gyda'r nod o leihau ymddygiad sy’n amhriodol neu’n tarfu ar eraill.
  • Mae'r themâu allweddol yn cynnwys yr angen am ddisgwyliadau clir, annog ymddygiadau rhag-gymdeithasol h.y. ymddygiadau neu weithredoedd y bwriedir iddynt fod o fudd i eraill neu gyfrannu at lesiant cymdeithas, atgyfnerthu cadarnhaol, ac ymgorffori llesiant emosiynol disgyblion ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol a dysgu.
  • Er bod enghreifftiau o arferion da yn bodoli, mae'r ffyrdd amrywiol  o weithredu a chanfyddiadau amrywiol yn awgrymu bod angen canllawiau diwygiedig, dysgu proffesiynol gwell, a chydweithio agosach rhwng ysgolion, rhieni, llais y dysgwyr a llunwyr polisi.

Cyswllt

Claire Griffiths

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.