Adolygiad cyflym i ystyried dulliau newydd o gael y cyhoedd i fod ynghlwm wrth y penderfyniadau a wneir wrth ddatblygu polisïau hinsawdd a Sero Net yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad cyflym a gynhaliwyd rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025 ac yn nodi pedwar argymhelliad.
Mae dulliau ymgysylltu cydgynghorol yn ddulliau defnyddiol ar gyfer bodloni'r ddyletswydd a roddir ar gyrff cyhoeddus i ystyried a chynnwys pobl o bob oedran a chefndir yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae'r adolygiad yn nodi ystod o ffyrdd y gall dulliau trafod helpu, gan gynnwys:
- defnyddio lleisiau mwy amrywiol i lunio polisïau
- helpu llunwyr polisi i ystyried profiad byw
- galluogi lle i ddysgu a myfyrio, i feithrin safbwynt mwy gwybodus cyn gofyn i'r cyhoedd bwyso a mesur dewisiadau polisi
- cynyddu cyfreithlondeb penderfyniadau a wneir
- adeiladu ar waith rhwydwaith byd-eang o ymarferwyr sy'n defnyddio dulliau trafod cydgynghorol ar gyfer materion sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd
Adroddiadau
Adolygiad o ddulliau ymgynghori â’r cyhoedd wrth ddatblygu polisi hinsawdd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 8 MB
Cyswllt
Laura Entwistle
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
