Comisiynwyd yr ymchwil i Oblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi (2016) ar gyfer Llety Lloches i ategu gwerthusiad ehangach o’r Ddeddf Rhentu Cartrefi.
Comisiynwyd yr Ymchwil i Oblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi (2016) ar gyfer Llety Lloches i ddarparu tystiolaeth ansoddol atodol i lywio'r gwerthusiad ehangach o'r Ddeddf Rhentu Cartrefi.
O'r dechrau roedd yr ymchwil hon yn ceisio deall profiadau goroeswyr o'r Ddeddf. Wrth i'r gwaith ymchwil fynd rhagddo, ni ellid trefnu sampl o oroeswyr. Mewn ymateb i hyn, cynhaliodd yr ymchwilwyr adolygiad llenyddiaeth a chyfweliadau lled-strwythuredig gyda nifer fach o randdeiliaid allweddol a gynlluniwyd i archwilio sut mae’r Ddeddf wedi effeithio ar y ffordd y caiff llety lloches ei reoli a’i ddarparu.
Roedd rhanddeiliaid yn cydnabod bod y Ddeddf yn ceisio darparu cysondeb, sicrwydd a mwy o hawliau i feddianwyr.
O ran cysondeb, roedd anawsterau o ran gwahaniaethau yn y cyngor cyfreithiol a ddarparwyd am effeithiau’r Ddeddf, a phrofiadau o arferion gwahanol ymysg awdurdodau lleol.
O ran diogelwch a hawliau, er bod cyfranogwyr yn deall y cymhelliant dros ddarpariaethau’r Ddeddf, gwnaethant fynegi safbwyntiau gwahanol am eu heffeithiolrwydd a’r gallu i’w rhoi ar waith. Cafodd safbwyntiau cyfranogwyr eu lliwio’n rhannol gan gamddealltwriaeth o’r Ddeddf. Er mai cyfyng oedd y sampl, nid oedd cyfranogwyr wedi cael profiad lle roedd goroeswr wedi gwrthod cynnig llety oherwydd eu diogelwch a’u hawliau uwch o dan y Ddeddf.
Codwyd heriau cyd-destunol gan gyfranogwyr. Yn gyntaf, roedd prinder llety symud ymlaen ar gael iddynt, yn arbennig mewn rhai ardaloedd, a oedd yn golygu bod goroeswyr yn aros mewn llety lloches am gyfnodau hirach. Yn ail, roedd mwy o alw am lety lloches. Yn drydydd, roedd goroeswyr yn ymddangos mewn llochesi gydag anghenion mwy cymhleth nag a welwyd o’r blaen. Yn ogystal â hynny, dywedodd un asiantaeth elusennol fod darparwyr gwasanaethau a’u staff, ers 2016, wedi mabwysiadu a datblygu arferion a dealltwriaeth a oedd yn fwy ystyriol o drawma.
Er bod trefniadau rheoli’n wahanol ar draws y sector, roedd awgrym bod rhai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn arfer trosolwg manylach dros ddarparwyr gwasanaethau. Gallai’r newid hwn fod wedi bod ar waith cyn y Ddeddf, ond mae’r Ddeddf ei hun wedi cyflymu’r trosolwg manylach hwn.
Mewn perthynas ag ymestyn trwyddedau, roedd cyfranogwyr o’r farn bod gan yr awdurdodau lleol y maent yn ymgysylltu â nhw arferion anghyson o ran proses a graddau’r trosolwg. Mae arferion yn amrywio o gyfnewid e-byst i geisiadau ffurfiol. Mae rhai awdurdodau’n derbyn estyniadau’n awtomatig, tra nad yw eraill yn cymeradwyo pob cais.
Ychydig o gyfranogwyr a oedd wedi defnyddio'r pŵer i wahardd meddiannydd am 48 awr. Dywedwyd bod y pŵer yn cymryd cryn amser gweinyddol, ac y byddai’n gyffredin iddynt fethu â chael hyd i lety amgen. Ymhellach at hynny, dywedwyd bod y cyfnod cyfyngedig yn annhebygol o gyflawni dim.
Prif gyfraniad yr adroddiad hwn yw ychwanegu at faes na fu digon o ymchwil ynddo, gan fanylu ar ganfyddiadau'r ymchwil a wnaed gyda rhanddeiliaid allweddol ac archwilio'n fanylach eu barn am effeithiau Deddf Rhentu Cartrefi 2016 ar y sector lloches.
