Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddarparu asesiad cynnar o effeithiau'r Ddeddf, ac asesiad parhaus o'r broses o weithredu'r Ddeddf.

Mae'r adroddiad Cam 2 hwn yn cyflwyno canfyddiadau o waith maes a wnaed rhwng Hydref 2023 a Gorffennaf 2024.

Nod cam 2 y gwerthusiad yw:

  • asesu cynnydd o ran gweithredu'r Ddeddf
  • pennu llwyddiant y Ddeddf o ran cyflawni ei bwriadau
  • asesu effeithiau cynnar y Ddeddf ar landlordiaid, deiliaid contractau, a'r sector rhentu yn gyffredinol yng Nghymru

Mae canfyddiadau cam 2 yn canolbwyntio ar:

  • ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Ddeddf
  • y cyngor, cymorth a'r arweiniad sydd ar gael i landlordiaid a deiliaid contract
  • pa mor hawdd neu anodd oedd bodloni gofynion y Ddeddf
  • gwell diogelwch deiliadaeth i ddeiliaid contract
  • symlrwydd a chysondeb y prosesau
  • gwell safonau tai a diogelwch
  • unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl i'r Ddeddf

Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys ystyriaethau ar gyfer cam 3 y gwerthusiad.

Adroddiadau

Cyswllt

Benjamin Lewis

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.