Neidio i'r prif gynnwy

Y safonau gofynnol y disgwylir i sŵau eu bodloni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae'r safonau ar gyfer arferion sŵau modern Prydain Fawr yn nodi'r safonau gofynnol y disgwylir i sŵau eu bodloni. Mae'r safonau'n ymdrin â:

  • lles anifeiliaid
  • diogelwch y cyhoedd
  • cadwraeth
  • addysg

Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Arferion Sŵau Modern 2006

Bydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Arferion Sŵau Modern 2006 yn parhau i fod mewn grym tan 23 Mai 2027. Mae Safonau 2006 yn berthnasol i Gymru yn unig, gyda Lloegr a'r Alban yn ddarostyngedig i Safonau’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Arferion Sŵau Modern 2012.

 

Safonau ar gyfer arferion sŵau modern 2027

Bydd safonau newydd ar gyfer arferion sŵau modern 2027 ar Gov.UK yn dod i rym o 24 Mai 2027 a byddant yn berthnasol i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban).

Mae’r safonau newydd yn cynnwys:

  • gofynion newydd ar gyfer clymu adar ysglyfaethus ar dennyn Bydd y gofynion hyn yn dod i rym ar 1 Ionawr 2030 (darllenwch Atodiad A6: adar ysglyfaethus ).
  • defnyddio dulliau rheoli cysylltiad rhydd; rhaid cael gwared ar yr "ankus" a'r ierthi trydanol ar gyfer eliffantod erbyn 1 Ionawr 2030 (darllenwch Atodiad A8: eliffantod).
  • bydd gofynion newydd o ran meintiau amgaeadau ar gyfer eliffantod yn dod i rym ar 1 Ionawr 2040 (darllenwch Atodiad A8: eliffantod).

Bydd arolygwyr sŵau yn cyfeirio at y safonau hyn pan fyddant yn cynnal arolygiadau.