Y safonau gofynnol y disgwylir i sŵau eu bodloni.
Cynnwys
Manylion
Mae'r safonau ar gyfer arferion sŵau modern Prydain Fawr yn nodi'r safonau gofynnol y disgwylir i sŵau eu bodloni. Mae'r safonau'n ymdrin â:
- lles anifeiliaid
- diogelwch y cyhoedd
- cadwraeth
- addysg
Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Arferion Sŵau Modern 2006
Bydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Arferion Sŵau Modern 2006 yn parhau i fod mewn grym tan 23 Mai 2027. Mae Safonau 2006 yn berthnasol i Gymru yn unig, gyda Lloegr a'r Alban yn ddarostyngedig i Safonau’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Arferion Sŵau Modern 2012.
Safonau ar gyfer arferion sŵau modern 2027
Bydd safonau newydd ar gyfer arferion sŵau modern 2027 ar Gov.UK yn dod i rym o 24 Mai 2027 a byddant yn berthnasol i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban).
Mae’r safonau newydd yn cynnwys:
- gofynion newydd ar gyfer clymu adar ysglyfaethus ar dennyn Bydd y gofynion hyn yn dod i rym ar 1 Ionawr 2030 (darllenwch Atodiad A6: adar ysglyfaethus ).
- defnyddio dulliau rheoli cysylltiad rhydd; rhaid cael gwared ar yr "ankus" a'r ierthi trydanol ar gyfer eliffantod erbyn 1 Ionawr 2030 (darllenwch Atodiad A8: eliffantod).
- bydd gofynion newydd o ran meintiau amgaeadau ar gyfer eliffantod yn dod i rym ar 1 Ionawr 2040 (darllenwch Atodiad A8: eliffantod).
Bydd arolygwyr sŵau yn cyfeirio at y safonau hyn pan fyddant yn cynnal arolygiadau.
