Neidio i'r prif gynnwy

Ysgolion rhithwir ar-lein ac ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr: arolwg dysgwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i un o'n hymchwilwyr gynnal prosiect ymchwil bach yn edrych ar y rhaglen ysgol rhithwir ar-lein rydych chi'n rhan ohoni. Nod y prosiect yw darganfod beth mae'r rhaglen yn ei wneud, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i ddysgwyr a'r gwersi y gellid eu dysgu ar gyfer rhaglenni tebyg yn y dyfodol. 

Fel rhan o'r prosiect ymchwil hwn bydd yr ymchwilydd yn casglu gwybodaeth trwy arolwg ar raddfa fach o ddysgwyr sydd, fel chi, yn rhan o'r rhaglen ar-lein. 

Llywodraeth Cymru yw rheolwr y data ar gyfer yr ymchwil. Mae hynny'n golygu mai nhw sy'n gyfrifol am y ffordd y mae gwybodaeth amdanoch chi'n cael ei chadw. Bydd y tîm ymchwil yn dileu data personol cyn ysgrifennu'r adroddiad, ac ni fydd yn rhoi data y gellir eu defnyddio i’ch adnabod yn bersonol i eraill yn Llywodraeth Cymru, oni bai eich bod yn gofyn inni wneud hynny.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn yn fater cwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio gwaith Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau effeithiol.

Hysbysiad preifatrwydd

Pa ddata personol sy'n cael ei gadw gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at elfen adnabod.

Byddwch wedi defnyddio dolen yr arolwg oherwydd bod eich tiwtor ar-lein wedi'i rhannu gyda chi ar ran y tîm ymchwil yn Llywodraeth Cymru. 

Nid yw’r arolwg yn gofyn i ni gasglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch. Gofynnir cwestiynau i chi am eich rhywedd, anghenion dysgu ychwanegol, anabledd, grŵp blwyddyn, ac a ydych chi'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, er mwyn darparu rhywfaint o wybodaeth gefndir ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, ni fydd gofyn i chi roi eich enw nac enw eich ysgol, felly ni fydd unrhyw un yn gallu defnyddio'r math o wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani i'ch adnabod. 

Mae cymryd rhan yn fater cwbl wirfoddol, ac os nad ydych chi am gymryd rhan nid oes rhaid i chi gwblhau'r arolwg, neu os ydych chi wedi ei ddechrau, gallwch stopio ar unrhyw adeg.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio eich adnabod o'r ymatebion rydych chi'n eu darparu, na'ch cysylltu â nhw, a byddwn yn ceisio dileu data o'r fath o wybodaeth a gaiff ei lawrlwytho o feddalwedd yr arolwg. 

Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru ddeall sut mae polisïau'n gweithio. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i ddeall sut y gall dysgu ar-lein neu rithwir helpu i wella dysgu a phresenoldeb.

Pa mor ddiogel yw'ch data personol?

Caiff data personol a roddir i Lywodraeth Cymru eu cadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi’i chreu ar gyfer y prosiect hwn a dim ond y tîm ymchwil sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect hwn fydd yn ei defnyddio. Bydd unrhyw ddata personol y dewiswch eu darparu yn cael eu cadw yn y ffolder hon sydd â mynediad cyfyngedig. Ni fydd ymchwilwyr yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol wrth adrodd am ganfyddiadau.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio rhaglen o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd. 

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod rheol diogelwch data wedi'i thorri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo’n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 

Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion a gymerodd ran. 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol? 

Bydd unrhyw ddata personol y gallech benderfynu eu darparu nad ydynt eisoes wedi'u dileu pan fydd gwybodaeth yn cael ei lawrlwytho o feddalwedd yr arolwg, yn cael eu dileu gan y tîm ymchwil o fewn tri mis i gyhoeddi'r adroddiad terfynol. 

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi fel rhan o'r gwaith ymchwil hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at gopi o'ch data eich hun
  • gofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn inni ddileu eich data (o dan amgylchiadau penodol)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a roddir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â'r person isod:

Enw: Kyle Henry 

Cyfeiriad e-bost: kyle.henry@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 1266

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru: 

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru