Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n Ddiwrnod Hylendid Mislif ar 28 Mai ac eleni y thema yw "Gyda'n gilydd tuag at fyd cyfeillgar i'r mislif". 

Cyflawni urddas mislif a dileu tlodi mislif yw conglfaen Cynllun Gweithredu Cymru sy'n falch o'r mislif a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023. Mae'r deg cam gweithredu allweddol yn y cynllun yn amlinellu sut y dylai pawb gael mynediad at nwyddau mislif, pryd bynnag y mae eu hangen.Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cymru sy'n falch o'r mislif: diweddariad cynnydd, sy'n olrhain y cynnydd cadarnhaol yr ydym yn ei wneud.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer darparu nwyddau mislif am ddim mewn ysgolion, colegau a chymunedau. Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 26, bydd y Grant Urddas Mislif yn gyfanswm o dros £3.25 miliwn.Yn ogystal, mae Prifysgolion yng Nghymru yn derbyn cyllid drwy'r Grant Llesiant, i gefnogi urddas mislif ar gyfer eu myfyrwyr.

Mae gwaith gwych wedi'i wneud ledled Cymru gan Arweinwyr Urddas Mislif ym mhob awdurdod lleol, ac rwyf am ddathlu eu llwyddiannau heddiw. Mae nwyddau mislif ar gael mewn ysgolion ac ar draws ystod o leoliadau cymunedol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, banciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau teuluoedd, canolfannau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid. 

Er enghraifft, mae gan Sir Benfro nifer o stondinau 'Pick and Mix' mewn amrywiaeth o leoliadau lle gall pobl ddewis o blith amrywiaeth o nwyddau mislif, ac mae hyn yn dod yn fwy cyffredin ledled Cymru. 

Yn Sir y Fflint, mae llyfrgelloedd wedi cynnal sesiynau wyneb yn wyneb i hwyluso sgyrsiau agored am y mislif gyda'r gymuned gyfan, gan gynnwys dynion, a thrwy wneud hynny maent wedi creu amgylchedd cynhwysol a chyfeillgar i'r mislif i bawb. Roedd y digwyddiadau hyn hefyd yn rhan bwysig o boblogrwydd nwyddau mislif y gellir eu hailddefnyddio wrth i wybodaeth a chyngor gael eu gwneud yn fwy hygyrch. Mae cynyddu argaeledd ac ymwybyddiaeth o nwyddau y gellir eu hailddefnyddio yn cefnogi'r broses o newid i economi gylchol yng Nghymru, a defnyddio deunyddiau cyhyd â phosibl i leihau gwastraff.

Rwy'n falch bod dros 90% o'r nwyddau mislif a brynwyd yn y flwyddyn ariannol 2023-2024 yn ecogyfeillgar a'n bod ar y trywydd iawn i gyflawni'r un peth ar gyfer 2024-2025, gan sicrhau mynediad at nwyddau tafladwy heb blastig ac ystod o opsiynau y gellir eu hailddefnyddio. Mae hyn yn rhagori ar ein targedau amgylcheddol sy'n anelu at gyrraedd 90% erbyn 2027 ac yn cyfrannu at nodau ehangach Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gyfer Cymru fwy ffyniannus sy'n cydnabod terfynau'r amgylchedd byd-eang.

Gwn fod gan addysg rôl ganolog i'w chwarae wrth wella'r ddealltwriaeth o gylchred y mislif er mwyn cael gwared ar y stigma o siarad am y mislif, cynyddu'r dealltwriaeth pobl o'r mislif a chwalu'r tabŵs a'r mythau sy'n aml yn gysylltiedig â’r mislif. Mae'r Grant Urddas Mislif yn cefnogi costau hyfforddi, gan sicrhau bod athrawon, arweinwyr cymunedol a myfyrwyr i gyd yn gallu cael mynediad at hyfforddiant ac adnoddau. 

Yng Ngheredigion, mae'r Cyngor Ieuenctid wedi dangos arweiniad drwy gynhyrchu Canllawiau Urddas Mislif ar gyfer ysgolion. Mae'r canllawiau’n tynnu sylw at sut all ysgolion hyrwyddo urddas mislif trwy nodi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gefnogi pob disgybl, waeth a ydynt yn cael mislif ai peidio. Mae Ysgol Trefynwy wedi annog myfyrwyr i ddod yn Llysgenhadon Mislif, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol wrth ddewis nwyddau mislif a phenderfynu lle dylid eu lleoli yn yr ysgol.

Mae nifer o adnoddau wedi'u datblygu, megis Chwalu mythau am y mislif sydd ar gael ar Hwb, a gwefan Mislif Fi a grëwyd gan Social Change UK ar ran GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Mae iechyd mislif yn un o'r wyth maes blaenoriaeth yn y Cynllun Iechyd Menywod a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024. Mae'r cynllun yn cynnwys nifer o gamau gweithredu allweddol i wella profiad menywod wrth ddefnyddio gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cael diagnosis a rheolaeth amserol ar gyfer cyflyrau iechyd mislif trwy sefydlu canolfannau braenaru ar gyfer iechyd menywod ym mhob Bwrdd Iechyd ac ehangu adnoddau Mislif Fi. 

Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru ac wedi cynnal tri digwyddiad bord gron gyda chyrff llywodraethu chwaraeon i drafod yr heriau y mae’r mislif yn eu hachosi pan fydd pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon. O ganlyniad, mae mwy o gynhyrchion mislif bellach ar gael mewn lleoliadau chwaraeon. Mae Chwaraeon Cymru wedi creu hyfforddiant ar-lein sy'n rhoi cyflwyniad i gylchred y mislif mewn chwaraeon, gan dynnu sylw at ystyriaethau iechyd mislif a rhoi cyngor ynghylch sut i ddechrau'r sgyrsiau hyn gydag athletwyr. 

Rydym yn gwybod bod angen mwy o waith i gael gwared ar y stigma am y mislif sy'n effeithio ar y gefnogaeth y mae pobl ifanc yn ei derbyn. Mae Plan UK wedi lansio Rhaglen Cyfoedion Mislif sy'n anelu at gefnogi pobl ifanc i ddod yn gyfoedion i'w gilydd, ac yn arwain sefydliadau i ddod yn amgylcheddau sy'n falch o'r mislif. Rwy'n croesawu'r gwaith a wneir gan lawer o sefydliadau eraill yn y trydydd sector a'r sector preifat ledled Cymru, sy'n dewis darparu nwyddau am ddim i'w staff a'u cwsmeriaid.

Wrth i ni nodi Diwrnod Hylendid Mislif, byddwn yn annog unrhyw un sy'n cael trafferth fforddio nwyddau mislif i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnynt gan fod nwyddau mislif am ar gael am ddim mewn mwy o leoedd nag erioed o'r blaen. Trwy siarad am y mislif, a chefnogi ein gilydd, gallwn gymryd camau ystyrlon i sicrhau urddas mislif i bawb a Chymru cyfeillgar i'r #mislif.