Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn symud ymlaen gyda'n cynllun i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cefndir

Mynediad at nwyddau

Cam Gweithredu 1: mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth mislif am ddim mewn cymunedau ac yn y sector preifat

Yn ystod 2025 i 2026, byddwn yn rhoi £3.45 miliwn i awdurdodau lleol i sicrhau bod nwyddau mislif am ddim ar gael i:

  • ysgolion
  • colegau addysg bellach
  • sefydliadau cymunedol

Rydym hefyd wedi rhannu ein cynllun gyda rhanddeiliaid yn y sector preifat ac mewn undebau llafur.

Rydym yn gweithio i rannu gwybodaeth yn ehangach drwy weminarau, cylchlythyrau a rhwydweithiau.

Cam Gweithredu 2: cynnal gwerthusiad o effaith y grant urddas mislif ar gyfer y cyfnod 2018 i 2022 a defnyddio canfyddiadau'r gwerthusiad i fabwysiadu dull strategol, hirdymor o ddarparu nwyddau mislif ledled Cymru

Cyhoeddwyd yr adroddiad gwerthuso ym mis Hydref 2023. Rydym wedi ystyried yr adroddiad ac yn trafod sut i weithredu'r argymhellion a wnaed, lle bo hynny’n briodol.

Bellach, mae costau gweinyddu yn rhan o'r grant i gefnogi'r gwaith a wneir gan bob awdurdod lleol. Mae newidiadau wedi'u gwneud i'r ffurflen monitro hawliadau grant, gan wella ansawdd a chysondeb y data a gesglir.

Mae Arweinwyr Urddas Mislif yn cynhyrchu astudiaethau achos ar brosiectau effeithiol, ac mae'r rhain yn cael eu rhannu'n rheolaidd gyda'r holl Arweinwyr Urddas Mislif.

Canllawiau a lleihau stigma

Cam Gweithredu 3: mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgorffori urddas mislif mewn ysgolion

Rhwng 2025 a 2026, mae awdurdodau lleol yn gallu gwario hyd at 20% o'r grant, a hynny ar hyfforddiant ac addysg i ddysgwyr, athrawon ac aelodau o'r gymuned.
 
Ym mis Tachwedd 2024, dyfarnwyd contract gennym i gynhyrchu ystod o adnoddau sy'n ymwneud â'r cwricwlwm iechyd a lles. Bydd yr adnoddau hyn, a fydd ar gael yn ystod hydref 2025, yn cefnogi dysgu ar les mislif.

Lansiodd Plan UK Raglen Cyfoedion Mislif sy'n anelu at gefnogi pobl ifanc i ddod yn gyfoedion mislif i'w gilydd, ac yn arwain sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc ar ddod yn amgylcheddau sy'n falch o'r mislif.

Cam Gweithredu 4: gweithio gyda’n hundebau llafur, gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i greu canllawiau a hyrwyddo polisïau ar urddas mislif a’r menopos, ac i sicrhau bod adnoddau urddas mislif addysgol ac ymarferol ar gael

Mae Busnes Cymru wedi hyrwyddo'r Safon Menopos newydd, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig. Mae Busnes Cymru yn hyrwyddo adnoddau urddas mislif addysgol ac ymarferol drwy eu sianeli ar-lein.

Mae'r Little Book of Menstruation, Menstrual Health and menopause yn darparu cyflwyniad addysgiadol i Safon Menopos Sefydliad Safonau Prydain i gefnogi sefydliadau o bob maint i ddechrau trafodaethau ynghylch y menopos ac iechyd mislif gyda'u gweithwyr.

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Menopos yn y gweithle: canllawiau i gyflogwyr. Mae'r adnoddau rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i helpu cyflogwyr i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol wrth gefnogi gweithwyr sy'n profi symptomau menopos.

Cam Gweithredu 5: bydd Llywodraeth Cymru, drwy gydweithrediad y gweithgor cydraddoldeb a gweithgor menopos y staff, yn adolygu, ac yn ailgyhoeddi ein polisi menopos, gan weithio i gynnwys deunydd ehangach ar urddas mislif

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddwyd canllawiau a gweithdrefnau'r adran Adnoddau Dynol ar y mislif a'r menopos i staff Llywodraeth Cymru. 

Mae rhaglen newydd i godi ymwybyddiaeth o'r menopos - 'Menopositive' - bellach ar gael i'r holl staff. Mae'r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant ar:

  • gael sgyrsiau hyderus gyda chydweithwyr am y menopos
  • cyfeirio cydweithwyr at wybodaeth gredadwy a ffeithiol gywir sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • ymchwilio i atebion a syniadau ar gyfer addasiadau rhesymol
  • sut i gofnodi ac adrodd yn gywir am salwch sy'n gysylltiedig â'r menopos.

Yr amgylchedd a datblygiadau rhyngwladol

Cam Gweithredu 6: cynyddu’r ddarpariaeth o nwyddau di-blastig, ‌nwyddau â llai o gynnwys plastig, llai o ddeunydd ‌pacio plastig, llai o ddeunydd pacio’n gyffredinol ‌neu gynhyrchion di-blastig y gellir eu hailddefnyddio ‌flwyddyn ar ôl blwyddyn

Ar gyfer 2025 i 2026, byddwn yn cynyddu'r gofyniad o ran canran arian y Grant Urddas Mislif a gaiff ei wario ar nwyddau mislif sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd i 80%.  

Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, roedd 94% o'r nwyddau a brynwyd yn gyfeillgar i'r amgylchedd.

Byddwn yn cynyddu'r gwariant canrannol ar nwyddau mislif ecogyfeillgar bob blwyddyn am y 3 blynedd nesaf. Ein nod yw sicrhau bod 90% i 100% o'r holl nwyddau mislif a brynir drwy'r Grant Urddas Mislif yn ecogyfeillgar erbyn 2027.

Cam Gweithredu 7: ymestyn Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica i hyrwyddo prosiectau urddas mislif yn Affrica Is-Sahara yn bwrpasol

Mae cyllid grant ar gael i sefydliadau Cymreig gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Hub Cymru Africa i gefnogi prosiectau. 

Ym mis Ebrill 2025, gwnaeth Prosiect Cydweithredol Menywod Chomuzangari yn Zimbabwe gyflwyniad yng nghyfarfod y Ford Gron Urddas Mislif. Yn 2023, dyfarnwyd cyllid iddynt i ddarparu nwyddau a hyfforddiant i wella iechyd a lles menywod a merched, a’u lefelau presenoldeb yn yr ysgol. Fe wnaeth hyn hefyd ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a lleihau effaith amgylcheddol padiau tafladwy.

Yn 2024, neilltuwyd £90,000 ychwanegol ar gyfer hyn, gan ganolbwyntio ar gyfrannu at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys urddas mislif.

Roedd un o’r prosiectau a gyllidwyd i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei redeg gan Maint Cymru, gan weithio gyda menywod yn Uganda. Mae Prosiect Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau er Budd Cadernid ac Ymaddasu i’r Hinsawdd yn gweithio i arfogi menywod â’r sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen i greu padiau mislif amldro. Yn y broses, mae’n helpu i wneud y gymuned yn gryfach yn wyneb effeithiau economaidd a chymdeithasol y newid yn yr hinsawdd, ac yn ei helpu i addasu yn eu sgil.

Ymgysylltu, Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Cam Gweithredu 8: sicrhau bod modd cael gafael ar nwyddau, a bod canllawiau yn cael eu creu ar sail egwyddor ganolog cydraddoldeb a chynhwysiant

Mae cyfarfodydd monitro rheolaidd a gwelliannau i ffurflen fonitro'r grant yn cael eu defnyddio. Gwneir hyn er mwyn casglu data a chefnogi trafodaethau gyda phob awdurdod lleol. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cyrraedd grwpiau blaenoriaeth yn eu hardaloedd.

Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau cymunedol i gefnogi lleoliadau cymunedol sy’n cynnig nwyddau mislif am ddim a chefnogaeth.

Cam Gweithredu 9: cryfhau’r cysylltiadau rhwng arweinyddion urddas mislif awdurdodau lleol, gwasanaethau gofalwyr di-dâl statudol a sefydliadau gofalwyr y trydydd
sector i wella mynediad at wybodaeth a chyngor, gwasanaethau cymorth priodol a lle y gellir cael gafael ar nwyddau mislif

Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhlith sefydliadau gofalwyr a rhwydweithiau o'r Grant Urddas Mislif. Rydym yn cynghori arweinwyr dynodedig ym mhob awdurdod lleol ynghylch sut y gellir cael gafael ar nwyddau. 

Ym mis Awst 2025, defnyddiodd Cyngor Sir Powys y Grant Urddas Mislif i ddarparu nwyddau mislif am ddim i ofalwyr ifanc yn yr Ŵyl Gofalwyr Ifanc yn Llanfair-ym-Muallt.

Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr hefyd wedi rhannu mwy o wybodaeth am y Grant Urddas Mislif drwy eu sianeli cyfathrebu.

Cam Gweithredu 10: mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, asesu effaith y mislif ar fenywod, merched a phobl sy’n cael mislif o ran cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff ac ystyried opsiynau i wella a chynnal lefelau cyfranogi ar gyfer y rhai sy’n cael mislif

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Chwaraeon Cymru i ddeall effaith y mislif ar gyfranogiad unigolion mewn chwaraeon. Rydym yn datblygu cyfres o gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r heriau a nodwyd.

Ym mis Gorffennaf 2025, cynhaliodd Chwaraeon Cymru weithdy ar-lein i rannu enghreifftiau o arferion gorau â chyrff llywodraethu chwaraeon ynghylch sut roedd menywod, merched a phobl sy’n cael mislif yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd hyn yn cynnwys astudiaeth achos o gynghrair bêl-rwyd yn Nhorfaen a oedd yn cael eu cefnogi gan y Grant Urddas Mislif i ddarparu pecynnau cymorth cyntaf mislif am ddim i bob tîm, gan sicrhau bod pob chwaraewr yn gallu chwarae yn ystod eu mislif heb bryder na chywilydd.

Mae’r gweithdy hwn yn dilyn gweithdai a gynhaliwyd yn flaenorol, pan gasglwyd safbwyntiau gan ystod o gyrff chwaraeon drwy eu Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a'u clybiau ynghylch yr heriau a’r rhwystrau sy’n gallu codi yn sgil mislif o ran cymryd rhan mewn chwaraeon.  

Mae gwaith bellach ar y gweill i wneud cynnydd yn erbyn y camau hyn, ac un ohonynt yw gwella ein dealltwriaeth o'r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon o ganlyniad i'r mislif. Mae Chwaraeon Cymru eisoes wedi cynnal sesiynau gyda nifer o glybiau chwaraeon i siarad â phobl ifanc ac mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio sesiynau tebyg mewn cydweithrediad â Phlant yng Nghymru. 

Cynhaliodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru adolygiad cyflym o'r dystiolaeth bresennol mewn perthynas ag effaith y mislif ar gyfranogiad unigolion mewn chwaraeon. Ar sail canfyddiadau'r ymchwil, rydym yn gwybod mwy am sut y gallwn weithio'n well o ran gwella a chynnal lefelau cyfranogi'r rhai sy'n cael mislif.