Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r opsiynau ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sut y gallai weithrdu. Roeddem am brofi sut oeddem yn cyd greu ymchwil i gefnogi pobl anabl.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Archwiliad o ddau argymhelliad a gynigiwyd gan y Tasglu Hawliau Anabledd i helpu pobl anabl
Yn 2023, cytunodd Cadeiryddion Gweithgorau'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gydweithio â Llywodraeth Cymru i dreialu dull prototeip o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.
Cynhaliwyd gweithdy ar-lein gydag ystod o randdeiliaid i archwilio syniadau ar gyfer sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol. Roedd hyn yn cynnwys pobl anabl, cynrychiolwyr o sefydliadau a grwpiau pobl anabl, llywodraeth leol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y sector gofal cymdeithasol, undebau llafur, swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid unigol mewn ymgyrchu ar hawliau pobl anabl.
Tynnodd y cyfranogwyr sylw at y canlynol:
- cam cyntaf pwysig fyddai cytuno i ddiffiniad o 'Fyw'n Annibynnol' ar gyfer Canolfan Genedlaethol a rhannu hyn â rhanddeiliaid
- dylai hyn gynnwys grymuso pobl anabl i fyw bywyd bodlon 'ar yr un sail â'u cyfoedion sydd ddim yn anabl'
- roedd llawer yn gweld bwlch rhwng yr hyn a ddylai fod ar gael i gefnogi Byw'n Annibynnol a'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol
- byddai arweinyddiaeth a chynrychiolaeth ar gyfer pobl anabl yn bwysig i wneud Canolfan Genedlaethol yn effeithiol wrth gefnogi Byw'n Annibynnol
- gallai Canolfan Genedlaethol gynhyrchu tystiolaeth a data i gefnogi gwell prosesau gwneud penderfyniadau, sy'n ystyried profiad bywyd
- roedd yn bwysig iawn cefnogi sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i bobl anabl ac eirioli drostynt
- byddai hygyrchedd i randdeiliaid yn hanfodol er mwyn i Ganolfan Genedlaethol weithredu'n dda ac i ddangos safon aur ar gyfer cyflogaeth hygyrch
- byddai angen cyllid digonol ar Ganolfan Genedlaethol i gyflawni gweithgareddau craidd, ac i gael rheolaeth dros ei gyfeiriad strategol er mwyn gallu herio'n effeithiol
Adroddiadau
Hawdd ei ddeall: allwn ni greu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Byw’n Annibynnol yng Nghymru? , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 862 KB
Cyswllt
Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
