Neidio i'r prif gynnwy

Bu cydweithio rhyngom â’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gynnal ymchwil i’r opsiynau ar gyfer Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol a sut y gallai weithrdu. Roeddem am brofi sut oeddem yn cyd greu ymchwil i gefnogi pobl anabl.

Yn 2023, cytunodd Cadeiryddion Gweithgorau'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gydweithio â Llywodraeth Cymru i dreialu dull prototeip o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

Cynhaliwyd gweithdy ar-lein gydag ystod o randdeiliaid i archwilio syniadau ar gyfer sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol. Roedd hyn yn cynnwys pobl anabl, cynrychiolwyr o sefydliadau a grwpiau pobl anabl, llywodraeth leol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y sector gofal cymdeithasol, undebau llafur, swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid unigol mewn ymgyrchu ar hawliau pobl anabl.

Tynnodd y cyfranogwyr sylw at y canlynol:

  • cam cyntaf pwysig fyddai cytuno i ddiffiniad o 'Fyw'n Annibynnol' ar gyfer Canolfan Genedlaethol a rhannu hyn â rhanddeiliaid
  • dylai hyn gynnwys grymuso pobl anabl i fyw bywyd bodlon 'ar yr un sail â'u cyfoedion sydd ddim yn anabl'
  • roedd llawer yn gweld bwlch rhwng yr hyn a ddylai fod ar gael i gefnogi Byw'n Annibynnol a'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol
  • byddai arweinyddiaeth a chynrychiolaeth ar gyfer pobl anabl yn bwysig i wneud Canolfan Genedlaethol yn effeithiol wrth gefnogi Byw'n Annibynnol
  • gallai Canolfan Genedlaethol gynhyrchu tystiolaeth a data i gefnogi gwell prosesau gwneud penderfyniadau, sy'n ystyried profiad bywyd
  • roedd yn bwysig iawn cefnogi sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i bobl anabl ac eirioli drostynt
  • byddai hygyrchedd i randdeiliaid yn hanfodol er mwyn i Ganolfan Genedlaethol weithredu'n dda ac i ddangos safon aur ar gyfer cyflogaeth hygyrch
  • byddai angen cyllid digonol ar Ganolfan Genedlaethol i gyflawni gweithgareddau craidd, ac i gael rheolaeth dros ei gyfeiriad strategol er mwyn gallu herio'n effeithiol

Cyswllt

Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.