Manylion y grantiau a ddyfernir ym meysydd blaenoriaeth y grant.
Cynnwys
Rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru
Mae gan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru 6 blaenoriaeth gyffredinol:
- Cynllunio’r cwricwlwm
- Llythrennedd
- Mathemateg a rhifedd
- Gwyddoniaeth a thechnoleg
- Cerddoriaeth
- Dysgu sylfaen
Mae rhagor o wybodaeth ar y rhaglen ar gael ar Rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru: canllawiau.
Mae’r grantiau canlynol wedi’u dyfarnu ym meysydd blaenoriaeth y grant ar ôl i’r cynigion gael eu cyflwyno yn ystod y cyfnod ymgeisio Tachwedd 2024 i Ionawr 2025.
Blaenoriaeth: Cynllunio’r cwricwlwm
Partneriaethau dylunio: creu dysgu i Gymru (CFWGSP-49)
Mae grant o £2,025,141 wedi’i ddyfarnu i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mewn partneriaeth â Phrifysgol Glasgow. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.
Mae’r prosiect yn cynnig cefnogaeth i ymarferwyr i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru trwy ddull cydweithredol, seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r cefnogaeth allweddol yn cynnwys cyd-greu gwybodaeth broffesiynol mewn cynllunio’r cwricwlwm, cynnydd ac asesu, datblygu ‘pobl sy’n wybodus’ i greu capasiti o fewn clystyrau, a chreu ‘naratifau ysgol’ (astudiaethau achos) i rannu arferion effeithiol. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan trwy dimau dylunio, gweithdai a phresenoldeb yn yr ysgol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â Designpartnerships@UWTSD.ac.uk.
Prosiect addysg Cwtsh (CFWGSP-27)
Dyfarnwyd grant o £4,219,563 i Stori Wales. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr ac arweinwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’r prosiect yn cefnogi datblygu dull ysgol gyfan i alluogi dysgwyr i greu a chynnal cydberthnasoedd iach, parchus sydd wedi’u seilio ar ymddiriedaeth ac empathi i’r ddwy ochr.
Mae cymorth cynghori cenedlaethol yn canolbwyntio ar:
- gyflenwi addysg cydberthynas a rhywioldeb cyson, hyderus a mesuradwy, sy’n rhoi’r gwybodaeth a dealltwriaeth drawsgwricwlaidd i ymarferwyr er mwyn ei ymwreiddio’n effeithiol
- gwella dealltwriaeth llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr o addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan egluro ei gynnwys, ei fethodoleg a’i effaith gadarnhaol ar ddysgwyr
- sicrhau bod llais y dysgwr yn ganolog i ddatblygu’r cwricwlwm a’i weithredu
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Stori Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â AddysgCwtch@storicymru.org.uk.
Blaenoriaeth: Llythrennedd
Caru Darllen Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru (CFWGSP-56)
Dyfarnwyd grant o £849,860 i Gyngor Llyfrau Cymru. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr a dysgwyr yn y sector nas cynhelir, ysgolion cynradd ac uwchradd, rhieni, gofalwyr a llyfrgelloedd.
Rhaglen aml-linyn 3 blynedd i gefnogi darllen er pleser yn y Gymraeg a’r Saesneg yw’r prosiect. Mae’n cynnwys:
- gweithdai cynradd ac uwchradd i ddarparu ymarferwyr â strategaethau darllen integredig a llyfrau cyfoes
- cystadlaethau darllen a thrafod llyfrau ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 3 i Flwyddyn 8 a gweithgareddau cysylltiedig
- ymgyrch i gefnogi rhieni, gofalwyr a theuluoedd ynghylch darllen er pleser gartref
- Her Ddarllen yr Haf i gadw dysgwyr yn darllen drwy’r gwyliau
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Llyfrau Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â plant@llyfrau.cymru.
Dysgu Creadigol Cymru (CFWGSP-25)
Mae grant o £3,000,000 wedi’i ddyfarnu i Gyngor Celfyddydau Cymru. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr, cynorthwywyr ac arweinwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’r prosiect yn cefnogi meithrin creadigrwydd mewn dysgwyr, ymarferwyr, cynorthwywyr ac arweinwyr ar draws y cwricwlwm. Mae’n helpu i wella llythrennedd a llafaredd trwy ddulliau arloesol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan wella ymgysylltiad a lles dysgwyr ar yr un pryd. Mae’n cynnwys:
- cymorth ‘ysgolion creadigol’ pwrpasol
- dysgu proffesiynol wedi’i deilwra i anghenion ysgolion
- cronfa i gefnogi ymweliadau â lleoliadau a gweithgareddau diwylliannol, gan ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu trwy gerddoriaeth, drama, dawns, celf, ffilm a’r cyfryngau digidol
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Dysgu Creadigol Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â dysgu.creadigol@celf.cymru.
Cymraeg PALS-UK (CFWGSP-66)
Dyfarnwyd grant o £99,637 i Brifysgol Nottingham Trent mewn partneriaeth â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2026.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion cynradd.
Mae’r rhaglen strategaethau dysgu â chymorth gan gyfoedion (peer-assisted learning strategies (PALS)) yn ymyrraeth tiwtora ar draws y dosbarth gan gyfoedion a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio tuag at Gam cynnydd 3 sy’n anelu at wella dealltwriaeth darllen a rhuglder darllen ar lafar. Adroddodd gwerthusiad yr Education Endowment Foundation (EEF) (Saesneg yn unig) fod dysgwyr yn y cyflwr PALS wedi gwneud 2 fis o gynnydd ychwanegol yn eu darllen. Bydd y prosiect yn paratoi PALS ar gyfer cyd-destun addysgol Cymru drwy ddull cyd-adeiladu i sicrhau ei fod yn gydnaws â chanllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a gofynion y Gymraeg.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn The Fuchs Research Group (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â pals-uk@ntu.ac.uk.
Rhaglen Hyfforddiant ‘Dysgu Darllen a Darllen i Ddysgu’ (CFWGSP-69)
Mae grant o £224,000 wedi’i ddyfarnu i CYDAG. Darperir cyllid y prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr ac arweinwyr meithrin a chynradd.
Mae’r prosiect yn cynnwys rhaglen hyfforddi genedlaethol mewn ffoneg y Gymraeg ar gyfer ymarferwyr a chynorthwywyr addysgu sy’n gweithio gyda dysgwyr 3 i 7 oed. Mae’r cymorth yn cynnwys canllawiau ar gyfer hunanasesu gan ymarferwyr o weithredu rhaglenni darllen ffoneg yn Gymraeg, ochr yn ochr â hwyluso gweithio gyda chyfoedion i ystyried profiadau a llwyddiannau, trafod heriau a rhannu ymarfer wrth ddatblygu sgiliau darllen. Bydd y prosiect hefyd yn datblygu a chyflenwi hyfforddiant dilynol gan symud o ‘Ddysgu darllen’ i ‘Ddarllen i ddysgu’.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Cydag Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â post@cydag.cymru.
Ein Llais Ni: dyfnhau, gwreiddio ac ehangu (CFWGSP-46)
Dyfarnwyd grant o £761,291 i Brifysgol Bangor, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.
Mae’r prosiect yn darparu system gymorth i arweinwyr ac ymarferwyr ar draws sectorau ysgol i ddefnyddio’r rhaglen Ein Llais Ni, gan ganolbwyntio ar ddatblygu addysgeg a darparu arweiniad ymarferol i’r holl ymarferwyr ac arweinwyr i wella llafaredd yn y Gymraeg.
Bydd y prosiect yn hyrwyddo dulliau digidol i ysbrydoli, hwyluso datblygiad a chofnodi cynnydd dysgwyr. Bydd yn hybu cydweithredu rhwng ymarferwyr ac ysgolion trwy rannu arferion effeithiol a datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Ein Llais Ni Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch ag einllaisni@bangor.ac.uk.
CAL:ON Cymru (CFWGSP-79)
Mae grant o £8,211,320 wedi’i ddyfarnu i Brifysgol Bangor. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr a dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir a lleoliadau.
Mae CAL:ON Cymru yn darparu canolfan ragoriaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n uno arbenigedd llythrennedd blaenllaw o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Efrog ag OxEd & Assessment, Prifysgol Abertawe, UCL a BookTrust Cymru. Ei nod yw trawsnewid llythrennedd ledled Cymru, gan gyflwyno strategaeth gydlynol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mewn partneriaeth â phob un o’r 22 awdurdod lleol.
Mae CAL:ON Cymru yn darparu:
- modiwlau dysgu proffesiynol dwyieithog newydd, gan gynnwys ffoneg a rhuglder darllen ochr yn ochr â chanllawiau cenedlaethol sydd wedi’u halinio â’r Cwricwlwm i Gymru, a fydd hefyd yn cael eu hymgorffori mewn addysg gychwynnol i athrawon ac yn cael eu cyd-ddatblygu ag addysgwyr
- rhaglenni ac ymyriadau llythrennedd effeithiol, dwyieithog i ddosbarthiadau cyfan o ddysgwyr 3 i 16
- adnoddau asesu dwyieithog newydd, a gydgynlluniwyd ar gyfer adegau pontio allweddol ar gyfer dysgwyr sydd mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn CAL:ON Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch ag calon@bangor.ac.uk.
Prosiect mentora amlieithog (CFWGSP-30)
Mae grant o £1,229,400 wedi’i ddyfarnu i Brifysgol Caerdydd. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’r prosiect yn darparu cymorth i ymarferwyr cynradd ac uwchradd integreiddio addysgu amlieithog i’w cwricwlwm, gan wella hyder a chymhwysedd wrth ddarparu profiadau dysgu amlieithog sy’n gwella llythrennedd. Mae hyn yn cynnwys mentora o ran ddysgwyr uwchradd, ochr yn ochr â dysgu proffesiynol ac adnoddau dysgu ac addysgu i’w defnyddio mewn ysgolion cynradd a’r uwchradd. Mae gweminarau, fideos canllaw a gweithdai wyneb yn wyneb yn helpu ymarferwyr i integreiddio dulliau addysgu amlieithog, gyda hyder a chreadigrwydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn MFL mentoring (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â mflmentoring@cardiff.ac.uk.
Yr e-sgol laith (CFWGSP-10)
Dyfarnwyd grant o £298,166 i e-sgol. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Nod y prosiect yw darparu dysgu proffesiynol i ymarferwyr a phrofiadau addysgu uniongyrchol i ddysgwyr mewn ysgolion cynradd.
Mae’r prosiect yn cefnogi blaenoriaeth llythrennedd ac ieithoedd rhyngwladol. Bydd y prosiect yn gwella addysg iaith mewn ysgolion cynradd a phob oed ledled Cymru drwy gael ymarferwyr a dysgwyr i gymryd rhan mewn gwersi iaith rhyngweithiol. Bydd yn darparu dysgu proffesiynol i ymarferwyr a phrofiadau addysgu uniongyrchol i ddysgwyr, gan gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Y nodau yw:
- uwchsgilio ymarferwyr
- gwella awydd dysgwyr i ddysgu ieithoedd
- meithrin dull cyson o gyflwyno sesiynau blasu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd
Bydd ymarferydd iaith canolog yn dylunio a chyflwyno gwersi mewn ieithoedd rhyngwladol ac Iaith Arwyddion Prydain yn ystod y flwyddyn academaidd.
Bydd y prosiect yn:
- darparu cyfleoedd i ymarferwyr gopïo gwaith yr arbenigwr iaith, gan wella eu sgiliau a’u hyder wrth gyflwyno gwersi iaith
- ennyn diddordeb dysgwyr gan ddefnyddio profiadau ar-lein rhyngweithiol ar gyfer Cam cynnydd 3, gyda photensial i ehangu i ddysgwyr ar gamau cynnydd cynharach
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn e-sgol Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch âg ymholiadau@e-sgol.cymru.
Llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg (CFWGSP-38)
Dyfarnwyd grant o £55,950 i Ymddiriedolaeth Stephen Spender. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’r prosiect yn darparu cymorth i ieithoedd rhyngwladol gan gynnwys 2 raglen dysgu proffesiynol, ill dwy yn cael eu cyflwyno ar draws 3 sesiwn rithwir. Bydd yn dylunio adnoddau ar gyfer ymarferwyr cynradd ac uwchradd i gefnogi cymryd rhan ac integreiddio technegau ‘cyfieithu creadigol’ i addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Bydd offer addasadwy yn cwmpasu Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Mandarin a 4 iaith gartref neu dreftadaeth gan gynnwys deunydd clyweledol unigryw. Mae rhwydwaith ymarferwyr rhithwir yn cefnogi datblygiad parhaus o ymarfer.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Stephen Spender Trust Projects (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â schools@stephen-spender.org.
Blaenoriaeth: Mathemateg a rhifedd
Adeiladu cymunedau ysgol hyderus â rhifau yng Nghymru (CFWGSP-23)
Dyfarnwyd grant o £290,595 i National Numeracy. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at arweinwyr ysgolion cynradd, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr.
Mae’r prosiect yn anelu at:
- drawsnewid agweddau tuag at rifedd mewn ysgolion cynradd
- cynyddu hyder dysgwyr gyda rhifau
- gwella teimladau cadarnhaol am fathemateg
- amlygu gwerth mathemateg y tu allan i’r ystafell ddosbarth
Bydd cefnogaeth hefyd yn rhoi hwb i hyder rhieni, gofalwyr a staff yr ysgol wrth gefnogi dysgu mathemateg. Mae hyn yn cynnwys dysgu proffesiynol, hyfforddiant achrededig Hyrwyddwyr Rhifedd, ochr yn ochr â mynediad at sesiynau ar-lein rhyngweithiol o’r enw ‘Feeling Better About Maths’ sy’n canolbwyntio ar wella hyder ac agweddau oedolion tuag at fathemateg.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn National Numeracy (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Schoolsandfamilies@nationalnumeracy.org.uk.
Primed for success (primary): addysgeg a chynnydd yn y cyfnod cynradd (CFWGSP-77)
Dyfarnwyd grant o £2,000,000 i Y Bartneriaeth Ddysgu (Cymru) Cyf. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at arweinwyr mathemateg mewn ysgolion cynradd ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr mewn ysgolion clwstwr.
Mae Primed for success (primary) yn ategu Primed for success (transition) a ddechreuodd ym mis Mehefin 2025.
Mae’r prosiect hwn yn cefnogi ymgyrch Cymru i sicrhau safonau a dyheadau uchel ar gyfer pob dysgwr cynradd, gan wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru drwy fathemateg.
Mae’n canolbwyntio ar wella’r broses o ddysgu ac addysgu’r 5 hyfedredd mathemategol ar draws yr holl grwpiau blynyddoedd cynradd. Mae’n helpu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o gysyniadau mathemategol allweddol, gan gynnwys:
- damcaniaethau sylfaenol mewn addysg fathemategol
- cymwyseddau allweddol
- elfennau gwers fathemateg effeithiol
Mae hefyd yn hyrwyddo meddwl yn fathemategol lefel uchel ac yn annog dysgwyr i gymhwyso eu dealltwriaeth mewn sefyllfaoedd datrys problemau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn The Learning Partnership Wales (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â info@tlpwales.co.uk.
Primed for success (CFWGSP-08)
Mae grant o £2,711,897 wedi’i ddyfarnu i The Learning Partnership (Wales) Ltd. Darperir cyllid y prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at arweinwyr mathemateg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7 mewn ysgolion sy’n gweithio mewn clystyrau ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd bwydo.
Gyda ffocws ar fathemateg a rhifedd, mae’r prosiect yn gyfle dysgu proffesiynol uchelgeisiol. Drwy gymysgedd o mewnbwn arbenigol, hwyluso yn rheolaidd a phrofiad clwstwr, mae’r cyfranogwyr yn archwilio dysgu a dysgu’r 5 hyfedredd mathemategol:
- dealltwriaeth gysyniadol
- cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau
- rhuglder
- rhesymu rhesymegol
- cymhwysedd strategol
Y nod yw bod dysgwyr yn cael cyfnod pontio rhwydd yn eu dysgu mathemateg rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn The Learning Partnership Wales (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch ag info@tlpwales.co.uk.
Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru (RhGMC) (CFWGSP-70)
Mae grant o £1,645,771 wedi’i ddyfarnu i Brifysgol Abertawe. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr cynradd, uwchradd ac ôl-16 ac arweinwyr ysgolion.
Ffocws yw prosiect yw cynnydd dysgwyr mewn mathemateg o oedran cynradd, drwy oedran uwchradd ac i gymwysterau mathemateg pellach ôl-16 sef TAG UG neu A2. Cefnogir hyn trwy ddysgu proffesiynol, meithrin gallu yn yr ysgol, adnoddau a chefnogaeth uniongyrchol. Mae dysgu proffesiynol ar gael i ymarferwyr mathemateg nad ydynt yn arbenigwyr a rhai sy’n arbenigwyr sy’n dymuno gwella eu harfer, yn ogystal ag arweinyddiaeth mathemateg. Mae cefnogaeth yn hyrwyddo gwerthfawrogiad a mwynhad eang o fathemateg, gan bwysleisio’i hygyrchedd a pherthnasedd i bob dysgwr o’r oedran cynradd i fyny.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â rhgmc-mspw@swansea.ac.uk.
Blaenoriaeth: Gwyddoniaeth a thechnoleg
Grymuso addysg wyddoniaeth (CFWGSP-55)
Dyfarnwyd grant o £1,845,545 i’r Sefydliad Ffiseg. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, technegwyr ac arweinwyr ysgolion.
Bydd y prosiect yn darparu rhaglen gymorth sylweddol i wella deilliannau addysgu a dysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a ddarperir mewn partneriaeth gan y Sefydliad Ffiseg, Cymdeithas Frenhinol Cemeg a Science Made Simple. Bydd yn gwella gwybodaeth addysgegol a phynciol ymarferwyr, yn ogystal a meithrin hyder trwy ddatblygiad proffesiynol a mentora a hyfforddiant arbenigol. Bydd ymarferwyr a thechnegwyr yn elwa o adnoddau dysgu a modiwlau ar-lein wedi’u teilwra, ynghyd â chreu rhwydweithiau i gefnogi cymorth cyfoedion.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Institute of Physics (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â BoostingScienceWales@iop.org.
STEM Learning UK: addysgu digidol yn hyderus (CFWGSP-82)
Dyfarnwyd grant o £1,400,000 i STEM Learning UK. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ysgolion cynradd ac uwchradd.
Bydd y prosiect yn cefnogi ymarferwyr cynradd ac uwchradd i feithrin hyder a gallu o ran addysgu sgiliau cyfrifiadurol a digidol. Mae’n darparu 20 o gyrsiau dysgu proffesiynol newydd, sy’n cwmpasu pynciau fel deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, codio a meddwl cyfrifiadurol. Cyflwynir y cyrsiau ar-lein gyda hwyluso byw, ochr yn ochr â sesiynau wyneb yn wyneb mewn meysydd blaenoriaeth neu lle mae dysgu ymarferol fwyaf effeithiol.
Mae’r prosiect yn cynnwys adnoddau dwyieithog a fydd yn helpu ymarferwyr i ddeall sut mae’r cynnwys yn cysylltu â chynnydd y Cwricwlwm i Gymru. Mae’n darparu cyngor i ysgolion o ran cymhwyso gofynion y cwricwlwm yn ymarferol, gan arwain ar rwydweithiau ymarferwyr ar-lein ac wyneb yn wyneb yn y Gogledd, y Canolbarth a’r Gorllewin (gan ategu cymorth tebyg sydd eisoes ar gael yng Nghanolbarth y De a’r De-ddwyrain). Mae’r rhwydweithiau hyn, ynghyd â gofod cymunedol ar-lein pwrpasol, yn adeiladu cymunedau dysgu proffesiynol cynaliadwy. Mae’r prosiect hefyd yn annog ac yn cefnogi ysgolion i ymgysylltu â rhaglen Llysgenhadon STEM (Saesneg yn unig) a ariennir gan lywodraeth y DU i gyfoethogi gweithgarwch yn yr ystafell ddosbarth.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn STEM Learning (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch ag enquiries@stem.org.uk.
Blaenoriaeth: Cerddoriaeth
Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol (CFWGSP-64)
Mae grant o £12,000,000 wedi’i ddyfarnu i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol i weithredu’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd cynhwysol i ddysgwyr mewn ysgolion, lleoliadau a chymunedau i chwarae, canu, cymryd rhan a chreu cerddoriaeth. Mae’r rhaglen yn cynnwys addysgu lleisiol mewn ysgolion a lleoliadau, gan hyrwyddo llwybrau a chreu cerddoriaeth gyda’i gilydd. Mae Charanga Cymru yn llwyfan digidol y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol sy’n cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr a mynediad cyfartal i ddysgwyr o bob oed.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Ngwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ac yng Nghynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â NMSpost@wlga.gov.uk.
Blaenoriaeth: Dysgu sylfaen
Cymorth dysgu sylfaen ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir (CFWGSP-59)
Mae grant o £184,000 wedi’i ddyfarnu i’r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA) Cymru sy’n gweithio gyda phartneriaid Cwlwm. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at y sector meithrin nas cynhelir a ariennir.
Mae’r prosiect yn cefnogi’r sector meithrin nas cynhelir yng Nghymru i wella safon arferion mewn addysg feithrin a sicrhau aliniad parhaus â’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cyngor, cefnogaeth, dysgu proffesiynol ac adnoddau i wella gweithredu’r cwricwlwm. Mae cymorth yn gwella ansawdd ymarfer mewn addysg feithrin ac yn sicrhau aliniad parhaus â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Early Childhood, Play Learning and Care (ECPLC)/Curriculum for Wales: NDNA (Saesneg yn unig) neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â wales@ndna.org.uk.
Cymorth dysgu sylfaen ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir (CFWGSP-19)
Mae grant o £184,000 wedi’i ddyfarnu i Blynyddoedd Cynnar Cymru, gan weithio gyda phartneriaid Cwlwm. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at y sector meithrin nas cynhelir a ariennir.
Mae’r prosiect yn cefnogi’r sector meithrin nas cynhelir yng Nghymru i wella safon arferion mewn addysg feithrin a sicrhau aliniad parhaus â’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cyngor, cefnogaeth, dysgu proffesiynol ac adnoddau i wella gweithredu’r cwricwlwm. Mae cymorth yn gwella ansawdd ymarfer mewn addysg feithrin ac yn sicrhau aliniad parhaus â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Dysgu Sylfaen Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â Kelcies@earlyyears.wales.
Cymorth dysgu sylfaen ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir (CFWGSP-12)
Mae grant o £184,000 wedi’i ddyfarnu i Coram PACEY Cymru, rhan o’r grŵp Coram, gan weithio gyda phartneriaid Cwlwm. Darperir cyllid i’r prosiect tan fis Mawrth 2028.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at y sector meithrin nas cynhelir a ariennir.
Mae’r prosiect yn cefnogi’r sector meithrin nas cynhelir yng Nghymru i wella safon arferion mewn addysg feithrin a sicrhau aliniad parhaus â’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cyngor, cefnogaeth, dysgu proffesiynol ac adnoddau i wella gweithredu’r cwricwlwm. Mae cymorth yn gwella ansawdd ymarfer mewn addysg feithrin ac yn sicrhau aliniad parhaus â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Coram PACEY Cymru neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â cymru@corampacey.org.uk.
Cymorth dysgu sylfaen ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir (CFWGSP-20)
Mae grant o £596,000 wedi’i ddyfarnu i’r Mudiad Meithrin, gan weithio gyda phartneriaid Cwlwm.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at y sector meithrin nas cynhelir a ariennir.
Mae’r prosiect yn cefnogi’r sector meithrin nas cynhelir yng Nghymru i wella safon ymarfer mewn addysg feithrin a sicrhau aliniad parhaus â’r Cwricwlwm i Gymru. Mae cymorth yn gwella ymarfer mewn addysg feithrin, yn darparu canllawiau ar addysgeg sy’n briodol i ddatblygiad, ac yn sicrhau aliniad â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Gan weithio gyda Chwlwm, mae’r gefnogaeth yn cynnwys adnoddau dwyieithog a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer lleoliadau ac ymarferwyr Cwlwm nas cynhelir, boed wedi’u hariannu neu heb eu hariannu, sy’n cynnig cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Mudiad Meithrin neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â post@meithrin.cymru.
