Canllawiau yn esbonio’r cynllun grant i unrhyw un sydd am wybod sut cafodd cyllid ei arfarnu a’i ddyfarnu i ddatblygu cymorth o ran y Cwricwlwm i Gymru.
Cynnwys
Cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a dysgwyr 3 i 16 oed
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn:
- anelu at wneud y cyfraniad mwyaf posibl at ddyfodol Cymru a chreu Cymru sy’n gryfach, yn decach, yn wyrddach ac yn fwy tosturiol
- amlinellu ein hamcanion lles ac yn canolbwyntio ar ffyrdd o wella bywydau pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol
- nodi ein hymrwymiad i gefnogi ysgolion a lleoliadau ledled Cymru i weithredu’r cwricwlwm trawsnewidiol, sef y Cwricwlwm i Gymru
Mae’r Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn adlewyrchu Cymru, ein treftadaeth a’n hamrywiaeth ddiwylliannol, ein hieithoedd a gwerthoedd, hanesion a thraddodiadau ein cymunedau a’n pobl i gyd. Mae datblygu dysgwyr angerddol sy’n ymfalchïo ynddynt eu hunain, eu cymunedau a’u gwlad yn ganolog i bedwar diben y cwricwlwm.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn wahanol ac, o ganlyniad, mae angen i’r modd rydym yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i fanteisio i’r eithaf ar eu trefniadau ar gyfer y cwricwlwm adlewyrchu’r newid hwn a’u hanghenion parhaus yn llawn. Amlinellwyd hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei datganiad llafar yn y Senedd ar 2 Gorffennaf 2024.
Cwricwlwm ysgol yw popeth y mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Nid dim ond yr hyn rydym yn ei addysgu sy’n bwysig, ond sut rydym yn ei addysgu ac, yn hollbwysig, pam ein bod yn ei addysgu. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn disgwyl i gwricwlwm ysgol:
- cael ei lywio gan ddiben, gan ddeall pam mae dysgu yn bwysig yn hanfodol er mwyn datblygu cwricwla ystyrlon
- canolbwyntio ar gynnydd a gaiff ei ddiffinio gan ddatblygiad personol dysgwyr
- dewis cynnwys amrywiol a gaiff ei lywio gan ddiben er mwyn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd, o fewn fframwaith cenedlaethol o ddisgwyliadau
- defnyddio cynnwys penodol ar gyfer dysgu sy’n ddiddorol i ddysgwyr fel ffordd i gefnogi ymgysylltiad dysgwyr gyda’r diben o’u cefnogi i wneud gynnydd
- cynllunio ar gyfer ystod eang o ddulliau asesu sy’n dangos cynnydd yn hytrach na diffinio cynnydd mewn ffordd gul
Ynglŷn â’r rhaglen grant
Mae’r rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru:
- yn cynllun grant refeniw sydd ar gael i sefydliadau rhanddeiliaid addysg yng Nghymru
- yn helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru i bob dysgwr 3 i 16 oed mewn ysgolion a gynhelir (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion) a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir (“lleoliadau”) ledled Cymru
- wedi’i gynllunio i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau ac ymyriadau sy’n gwella gallu ysgolion a lleoliadau i helpu eu dysgwyr i wneud cynnydd
- nid yw’n ffynhonnell cyllid i ysgolion ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm; mae hynny’n parhau i gael ei ddarparu i ysgolion drwy awdurdodau lleol o dan y Grant Addysg i Awdurdod Lleol
Mae’r cyllid grant tymor hir hwn ar gyfer y cwricwlwm yn:
- cael yr effaith fwyaf bosibl ledled Cymru ar gynnydd dysgwyr a chyflawni’r pedwar diben drwy gymorth ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
- darparu dull gweithredu cyffredin a hyblyg mewn perthynas â grantiau cwricwlwm sy’n adlewyrchu’n well flaenoriaethau y cytunwyd arnynt, yn seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sydd ei angen
Mae’r canllawiau hyn yn egluro rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru.
Dyfarniadau grant
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am grantiau sydd wedi’u dyfarnu o dan Rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru: dyfarniadau grant.
Blaenoriaethau ar gyfer cymorth grant
Yn achos pob dyfarniad o dan y rhaglen, dangoswyd sut mae’r cynnig yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig yr ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ (5 ffordd o weithio). Rydym yn awyddus i weld gweithgarwch yn cael ei gyllido gan y grant sy’n helpu Cymru i symud yn agosach at 2 neu fwy o’n 7 nod llesiant.
Mae blaenoriaethau’r cymorth grant a’r blaenoriaethau trawsgwricwlaidd a nodir isod wedi’u datblygu ar sail:
- dadansoddiad o waith ymchwil ym maes gweithredu’r cwricwlwm
- adborth gan ymarferwyr
- gwerthusiadau o gyllid grant blaenorol ar gyfer y cwricwlwm
- adolygiad o gymorth i ysgolion a lleoliadau a ddarperir drwy ddulliau ariannu eraill
- gwersi a ddysgwyd o alwadau blaenorol am gynigion.
Meysydd â blaenoriaeth
Mae gan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru 6 blaenoriaeth gyffredinol:
- cynllunio’r cwricwlwm
- llythrennedd
- mathemateg a rhifedd
- gwyddoniaeth a thechnoleg
- cerddoriaeth
- dysgu sylfaen
Blaenoriaeth: cynllunio’r cwricwlwm
Rhannu gwybodaeth ar gynnydd
Caiff y broses o rannu gwybodaeth am gynnydd o ran cynllunio’r cwricwlwm ei hwyluso rhwng ysgolion a lleoliadau. Mae cynnwys yn cael ei ddatblygu sy’n dangos y broses o gynllunio’r cwricwlwm ochr yn ochr â ffyrdd y mae hyn wedi cael ei wneud neu y gellir ei wneud â dysgwyr.
Mae’r cymorth yn ennyn diddordeb (ac yn ariannu) ystod eang o ysgolion a lleoliadau ac yn darparu enghreifftiau o’r canlynol:
- sut mae ysgolion yn deall eu cyd-destun ac anghenion eu dysgwyr er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch cynllunio’r cwricwlwm
- ffyrdd o gynllunio’r cwricwlwm sy’n cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru
- cyfleoedd dysgu proffesiynol i wneud defnydd da o ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru
- sut mae ysgolion a lleoliadau yn cynllunio profiadau dysgu sy’n helpu eu dysgwyr i wneud cynnydd
- allbynnau dysgu (o safbwynt dysgwyr) a chynllunio dulliau asesu i ddeall y dysgu hwn
- sut mae cynnydd yn cael ei ddeall a’i gyfleu a sut mae hyn yn dylanwadu ar waith cynllunio’r cwricwlwm yn y dyfodol ar lefel dysgwyr, ysgolion neu leoliadau, a chlystyrau (rhwydwaith)
Mae’r gwaith ymgysylltu hwn yn cynnwys ystod o ysgolion a lleoliadau sy’n defnyddio gwahanol ieithoedd, dros 1 flwyddyn academaidd o leiaf. Mae’n cynnwys astudiaethau achos o ddysgwyr sy’n dangos ystod amrywiol dysgwyr ledled Cymru yn effeithiol. Gall y rhain gynnwys, er enghraifft, blogiau, podlediadau, teithiau dysgwyr, byrddau darlunio’r cwricwlwm.
Mae hyn hefyd yn helpu i feithrin dealltwriaeth ymhlith ystod eang o sefydliadau o flaenoriaethau ac egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.
Coetsio ynghylch y cwricwlwm
Mae coetsio’r cwricwlwm yn fodel effeithiol o raglen o fewnbwn uniongyrchol gan arbenigwyr i ysgolion ar eu prosesau cynllunio’r cwricwlwm.
Mae ymarferwyr addysgu sy’n llwyddo i gwblhau rhaglen gymorth Cynllunio’r Cwricwlwm ac yn ymgysylltu â Chamau i’r Dyfodol yn gweithio mewn ysgolion eraill o dan y dull coetsio’r cwricwlwm hwn dros gyfnodau estynedig (hyd at 3 thymor ar y tro) i wreiddio dysgu mewn ystafelloedd dosbarth. Mae’r math hwn o gymorth hefyd yn sicrhau bod mwy o bobl sy’n wybodus am gynllunio’r cwricwlwm ar gael yn y system ysgolion er mwyn parhau â chymorth mewn ysgolion a’i wella.
Mae cymorth yn y maes hwn yn manteisio ar y ffaith bod Cam 3 Camau i’r Dyfodol yn dod i ben ym mis Mawrth 2025. Mae hyn yn golygu cadw ymarferwyr (ac eraill) yn y system sydd wedi profi’r cymorth hwnnw (a datblygu eraill) a all ddarparu cymorth i ysgolion. Mae’n cynnwys dull seiliedig ar ymchwil o goetsio addysgol, gan sicrhau bod pobl wybodus eraill yn cynnal dealltwriaeth gydlynol o flaenoriaethau cenedlaethol ac yn datblygu’r sgiliau perthynol gofynnol i weithio’n agos gydag ymarferwyr.
Rydym yn disgwyl i gyfranogwyr ymgysylltu’n agos â staff gwella ysgolion awdurdodau lleol er mwyn ymateb i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol ac ategu cymorth sydd ar gael yn barod yn lleol ac yn genedlaethol (a ariennir drwy’r Grant Addysg i Awdurdod Lleol).
Cymorth cynllunio asesiadau
Mae cymorth cynllunio asesiadau yn cael ei darparu ar gyfer ymarferwyr er mwyn cynllunio a chynnal asesiadau mewn ysgolion a lleoliadau yn unol ag egwyddorion asesu Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar sut mae gwerthuso dysgu. Bydd yn helpu ymarferwyr i werthuso dysgu dros amser er mwyn deall cynnydd dysgwr. Bydd enghreifftiau yn y system er mwyn meithrin dealltwriaeth gydlynol o ddisgwyliadau ar gyfer dysgu a nodir yng nghanllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Mae cymorth sy’n cysylltu cynllunio asesiadau â chynllunio’r cwricwlwm yn cynnwys y canlynol:
- cymorth i ymarferwyr ddeall ffyrdd effeithiol o gynllunio asesiadau
- modelu ymarferol o’r broses asesu, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- adnoddau ymarferol y gall ysgolion eu defnyddio i ddeall anghenion eu dysgwyr yn well
- nodi adnoddau asesu priodol er mwyn dangos cynnydd dysgwyr mewn perthynas â’r dysgu a gynlluniwyd
- deall y defnydd a wneir o ystod o ddulliau asesu a’r hyn a ddysgir oddi wrthynt
- cymorth i werthuso dysgu drwy lythrennedd data ansoddol a meintiol effeithiol. Mae’r cymorth hwn yn lliniaru’r risgiau y caiff mathau o asesiadau eu copïo heb ddeall y diben a’r opsiynau ar gyfer dulliau asesu sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru
- modelu sut mae defnyddio tystiolaeth sy’n deillio o asesiadau i werthuso dysgu mewn ffordd sy’n gyson ag egwyddorion dealltwriaeth gyffredin o gynnydd (er enghraifft, modelu cyfarfodydd cynnydd ar oedrannau a chamau datblygu gwahanol)
- gweithgareddau sy’n cefnogi dealltwriaeth o gyflwyno adborth gyda dysgwyr, rhieni a gofalwyr i ddatblygu dealltwriaeth o gryfderau dysgwyr a’r camau nesaf ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm (er enghraifft, drwy fodelu’r broses hon a darparu enghreifftiau o’r modd y mae ysgolion yn gwneud hyn)
Mae’r cymorth hwn yn cysylltu â’r cymorth cynllunio’r cwricwlwm sydd ar gael ac yn adeiladu arno, ac mae’n sicrhau bod gwaith cynllunio asesiadau yn cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru. Mae’n defnyddio dulliau arloesol byd-eang o gynllunio asesiadau i gefnogi dealltwriaeth ar lefel system. Mae’n cynnwys cefnogi popeth o asesiadau yn yr ystafell ddosbarth i asesiadau a gynllunnir gan ysgolion er mwyn llywio cynnydd.
Mae’n rhoi sylw i ddatblygu adroddiadau a phortffolios dysgwyr sy’n galluogi dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am y ffordd y maent yn mynegi eu cynnydd eu hunain a’r ffordd y caiff gwerthusiadau eu rhannu â rhieni a gofalwyr, er enghraifft ailfeddwl asesu (Saesneg yn unig).
Iechyd a lles
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn galw am gymorth penodol ynghylch cynllunio’r cwricwlwm er mwyn helpu ysgolion i ddatblygu eu trefniadau ar gyfer iechyd a lles yn y cwricwlwm i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i fod yn iach a’u bod wedyn yn barod i ddysgu. Dylai’r cymorth ganolbwyntio’n benodol ac yn arbennig ar les cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr, a dylid ceisio cefnogi dull dysgu sy’n hygyrch yn genedlaethol.
Dylai’r cymorth ystyried yr elfennau canlynol:
- dulliau sy’n datblygu ac yn darparu cymorth i awdurdodau lleol ac ysgolion i’w helpu i ymchwilio, cynllunio a gwreiddio pob agwedd ar y Maes yn eu cwricwlwm. Gallai hyn gynnwys elfennau o’r cymorth a ddisgrifir uchod ar gymorth cyffredinol ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm, ond dylid canolbwyntio ar y Maes hwn
- dylai’r cymorth dynnu ar arbenigedd cydnabyddedig a mewnbwn proffesiynol
- dylai ganolbwyntio’n bennaf ar les cymdeithasol ac emosiynol. Lle cefnogir agweddau corfforol iechyd a lles, dylai hyn hefyd gefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol yn amlwg iawn
- darparu cymorth i nodi anghenion dysgwyr, ymchwilio i faterion a thestunau, a chael gafael ar wybodaeth ac adnoddau ffeithiol, cywir
- helpu ysgolion i ddewis cynnwys sy’n cefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol ac sy’n cysylltu â’r ystod ehangach o agweddau ar iechyd a lles
- datblygu a darparu cymorth mewn perthynas â dull cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer iechyd a lles sydd yn tynnu ar ystod y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn ffordd gyfannol fel y bo’n briodol. Yn benodol, dylai dynnu ar y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles emosiynol. Dylai ystyried materion iechyd a lles a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau sylfaenol, yn ogystal ag unrhyw gynnwys amserol neu brofiadau sy’n cefnogi dysgu ar gyfer y rhain
- helpu ysgolion i ddeall cynnydd ac asesiadau yn y Maes. Byddai’n cynnwys defnyddio’r egwyddorion cynnydd, asesu dysgu o gymharu â gwerthuso cynnydd ehangach a beth allai gael ei ystyried yn gynnydd
Dylai cymorth fod yn hygyrch ledled Cymru a blaenoriaethu elfennau a all fod ar gael i bawb fel adnodd neu gymorth a ddarperir drwy neu mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol. Dylai hyn gynnwys cymorth i wella sgiliau ymarferwyr wrth ddatblygu dulliau gweithredu.
Addysg cydberthynas a rhywioldeb
Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn chwarae rôl gadarnhaol ac ymrymusol yn addysg dysgwyr. Mae’n hanfodol o safbwynt eu helpu i gyflawni’r pedwar diben fel rhan o ddull gweithredu ysgol gyfan. Mae helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch yn greiddiol i addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae’r cydberthnasau hyn yn hollbwysig er mwyn datblygu lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
Mae angen cymorth ar ymarferwyr i gynllunio a chyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm fel thema trawsgwricwlaidd, gan gynnwys 3 llinyn y Cod addysg cydberthynas a rhywioldeb mandadol:
- Cydberthnasau a hunaniaeth
- Iechyd rhywiol a lles
- Grymuso, diogelwch a pharch
Mae trefniadau cymorth ar wahân ym mhob llinyn yn cynnwys darparu dealltwriaeth pwnc benodol er mwyn cefnogi dysgu y gellir ei wreiddio yng nghwricwla ysgolion. Mae’n cynnwys adolygu’r cymorth presennol a datblygu adnoddau addysgu a dysgu newydd yn y meysydd lle nodir bylchau. Mae angen i ddeunyddiau dysgu fod yn ddilys a digon hyblyg i’w gwreiddio mewn ystod o gwricwla.
Mae’r cymorth i gyd yn:
- cyd-fynd â’r Cod addysg cydberthynas a rhywioldeb
- plwraliaethol
- priodol o safbwynt datblygiadol, sy’n golygu y gall fod gan ddysgwyr o oedran tebyg anghenion gwahanol
- ystyried ystod o ffactorau gan gynnwys:
- oedran y dysgwr
- ei wybodaeth ac aeddfedrwydd
- unrhyw anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sydd ganddo
- rhagweld ei ddatblygiad ffisiolegol ac emosiynol
Mae’r cyfnodau oedran ym mhob un o linynnau’r Cod addysg cydberthynas a rhywioldeb wedi’u cynllunio i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o’r hyn sy’n debygol o fod yn briodol yn ddatblygiadol.
Blaenoriaeth: llythrennedd
Lleferydd, iaith a chyfathrebu
Mae angen cymorth o ran sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu ar draws y continwwm dysgu 3 i 16 oed. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol er mwyn galluogi dysgwyr i fanteisio ar y cwricwlwm cyfan ac mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol o safbwynt datblygiad. Mae dysgu cynnar yn fesur ataliol a gellir cynnig cymorth effeithiol i ddysgwyr, trwy nodi anghenion yn gynnar, er mwyn eu galluogi i wneud cynnydd parhaus.
Nod y cymorth yw:
- sicrhau’r cynnydd mwyaf posibl ym maes llythrennedd, gan gynnwys llafaredd
- helpu ymarferwyr i feithrin eu dealltwriaeth a’u sgiliau, gan gynnwys ffyrdd o ymgysylltu â rhieni a gofalwyr a’u cefnogi i helpu eu plant i ddysgu a datblygu
- cefnogi ymgysylltiad rhieni i greu amgylcheddau dysgu cadarnhaol yn y cartref i ddysgwyr 3 i 16 oed er mwyn eu hannog i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu mewn sefyllfaoedd pob dydd
- dros amser, adeiladu capasiti’r system i gefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu er mwyn atal problemau rhag codi, meithrin sgiliau darllen a chyfathrebu dysgwyr, a chefnogi eu gwaith dysgu a’u cynnydd
Mae cymorth yn galluogi ymarferwyr i nodi’r rhai y mae angen cymorth arnynt (ni waeth beth fo’u hoedran) a darparu dulliau penodol o ddiwallu’r anghenion a nodwyd. Mae’r dull yn adeiladu ar ddulliau cyn ysgol a dulliau profedig eraill sydd eisoes ar gael i’r system.
Mae’r grantiau a ddyfernir yn:
- helpu ysgolion i gefnogi teuluoedd i ddeall pwysigrwydd datblygu sgiliau cyfathrebu ac iaith cynnar a sefydlu arferion sy’n parhau drwy gydol plentyndod
- cyd-fynd â rhaglenni ymgysylltu â theuluoedd ehangach ac yn adeiladu arnynt, gan gynnwys teuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg gartref
- helpu teuluoedd i ddeall y gall gweithgareddau fel darllen ar y cyd ysgogi sgwrsio, chwarae a rhyngweithio, ac y gall rhannu rhigymau a storïau gefnogi datblygiad gwybyddol
- helpu teuluoedd i gydnabod nad yw sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn datblygu ar wahân a’u bod yn ategu ac yn gwella ei gilydd wrth i blant ddatblygu
Gwella deilliannau llythrennedd
Mae rhoi mwy o gymorth i ymarferwyr i gynllunio a darparu sesiynau llythrennedd, iaith a darllen effeithiol o fewn eu cwricwlwm yn cyflawni rôl bwysig. Mae’r cymorth yn helpu ymarferwyr i feithrin dealltwriaeth well o gynnydd dysgwyr mewn llythrennedd ar draws y daith ddysgu 3 i 16, gan gynnwys sylfeini llythrennedd a sut y gellir defnyddio dulliau addysgegol profedig ar gyfer dosbarthiadau cyfan, grwpiau llai a dysgwyr unigol.
Rydym wedi dyfarnu un grant sy’n darparu cymorth cenedlaethol i ysgolion.Mae’n cynnwys cymorth sydd yn:
- datblygu adnodd hygyrch, mewn cydweithrediad ag Adnodd, sy’n meithrin hyder a dealltwriaeth ymarferwyr o gynnydd mewn llythrennedd, a dulliau datblygiadol ac addysgegol briodol o ddysgu llythrennedd, ar gyfer pob oedran a chyfnod o 3 i 16 oed, gan gynnwys sgiliau llythrennedd uwch
- darparu adnoddau a chyfleoedd dysgu proffesiynol, gan dynnu ar ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfarwyddyd darllen, gan gynnwys cymorth i ddewis a defnyddio pecynnau ffoneg priodol, yn unol â disgwyliadau cyfredol y Cwricwlwm i Gymru ac egwyddorion cenedlaethol i’r dyfodol
- darparu ystod o ymyriadau penodol a chefnogaeth ar gyfer datblygu iaith a llythrennedd, gan gynnwys, lle bo’n briodol, profi adnoddau a dulliau ar gyfer eu defnyddio a’u cyflwyno’n ehangach
- datblygu proses i ddilysu dulliau a phecynnau ffoneg priodol i helpu ysgolion i ddewis yr hyn sy’n gweddu orau i’w hamgylchiadau ac anghenion eu dysgwyr, gan fodelu deunyddiau priodol a’u defnydd os yw’n bosibl
- darparu adnoddau ar gyfer gwerthuso sgiliau ac anghenion iaith a darllen ar adegau pontio allweddol
Mae’r cymorth ar gael ar raddfa eang ledled Cymru, ac yn cynnwys cymorth i wella sgiliau ymarferwyr, ac mae’n ffurfio rhan o’n cefnogaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd. Mae hyn yn galluogi ymarferwyr i gynllunio’n rhagweithiol i gefnogi’r dysgwyr hynny sydd â’r sgiliau darllen a llythrennedd isaf. Rhoddir blaenoriaeth, felly, i sicrhau bod y gefnogaeth yn cyrraedd cymaint â phosibl. Lle caiff dulliau eu treialu, mae hyn yn cynnwys ystod gynrychioliadol o ysgolion, gan flaenoriaethu’r rhai sydd â’r angen mwyaf a chyrraedd cymaint o ysgolion â phosibl.
Mae’r cymorth yn cael ei ddatblygu gyda chyfraniad y Panel Arbenigol Llythrennedd a luniwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn adeiladu ar ei waith.
Cefnogi a hyrwyddo cariad at ddarllen
Mae cefnogi a hyrwyddo cariad at ddarllen yn helpu i ddatblygu sgiliau darllen, llythrennedd ac iaith da.
Bydd cymorth i ysgolion a lleoliadau yn annog, cefnogi a galluogi rhieni a gofalwyr i chwarae rôl fwy gweithgar a phriodol o safbwynt datblygiadol yn nysgu eu plentyn ac yn datblygu amgylchedd dysgu cadarnhaol yn y cartref.
Darperir hefyd gymorth ar gyfer gweithgarwch ehangach i hyrwyddo cariad at ddarllen a datblygu sgiliau llythrennedd plant a phobl ifanc yn yr ysgol neu’r tu allan i’r ysgol.
Mae’r cymorth yn cynnwys:
- gweithio gyda llyfrgelloedd i hyrwyddo a chymell yr arfer o ddysgu er pleser
- creu cyfleoedd i awduron ymgysylltu ag ysgolion a(neu) lyfrgelloedd a siarad â dysgwyr am ddarllen ac ysgrifennu
Ieithoedd rhyngwladol
Mae datblygu ieithoedd rhyngwladol yn cefnogi datblygiad llythrennedd yn ehangach wrth i ddysgwyr ddatblygu a chymhwyso eu sgiliau cyfathrebu drwy gyfrwng ieithoedd gwahanol.
Fel y nodir yn ein cynllun Dyfodol Byd-eang, mae angen cymorth parhaus ar gyfer y ddarpariaeth ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ysgolion cynradd lle mae hyder ymarferwyr a gwaith cynllunio cyfannol ar gyfer ieithoedd yn parhau i ddatblygu. Mae’r cymorth hwn yn helpu ymarferwyr cynradd i gael cymorth datblygu proffesiynol er mwyn dysgu sut i addysgu ieithoedd rhyngwladol, yn enwedig Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Mandarin ac Iaith Arwyddion Prydain.
Mae cymorth hefyd yn cydnabod yr angen am ymyriadau ystyrlon mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, gan gynnwys sut y gellir helpu ymarferwyr i wella cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr mewn ieithoedd rhyngwladol.
Blaenoriaeth: mathemateg a rhifedd
Dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
Mae angen dealltwriaeth gyffredin o gynnydd mewn mathemateg ar ysgolion, gan ganolbwyntio ar gysyniadau a datblygu’r 5 hyfedredd mathemategol. Mae angen cymorth yn benodol ar gyfer ymarferwyr cynradd sy’n gweithio gyda dysgwyr Derbyn i ddysgwyr Blwyddyn 6. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys manteisio ar arbenigwyr ac ymarferwyr arbenigol i gefnogi rhwydweithiau cydweithredol, gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n cefnogi’r broses o ddatblygu gwybodaeth ddisgyblaethol a dulliau addysgu effeithiol ym maes mathemateg.
O dan y flaenoriaeth hon, fel y nodwyd yn adran ‘Dyfarniadau grant’, mae cymorth ar gael sy’n gwella cynnydd dysgwyr ar y pwynt pontio cynradd–uwchradd ar gyfer datblygu sgiliau mathemateg. Mae angen cymorth o’r fath er mwyn sicrhau bod y dysgu yn:
- parhau i fod yn ddifyr
- parhau i herio
- datblygu dealltwriaeth dysgwyr yn briodol
- rhoi cyfle i ddysgwyr gymhwyso gwybodaeth a sgiliau mewn cyd-destunau newydd a chyfarwydd
Mae’r cymorth hwn yn galluogi ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo (ysgolion clwstwr) i asesu cynnydd dysgwyr mewn mathemateg yn well ar ddiwedd ysgol gynradd, a meithrin dealltwriaeth well o sut i adeiladu ar y sylfaen hon yn yr ysgol uwchradd. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau diagnostig i helpu ysgolion cynradd ac uwchradd i ddatblygu dealltwriaeth ac iaith gyffredin ar gyfer cynnydd mewn mathemateg. Mae hefyd yn cynnwys cymorth i ysgolion uwchradd gynllunio gwaith dysgu sy’n osgoi ailadrodd cynnwys, yn diwallu anghenion dysgwyr ac yn defnyddio dulliau effeithiol a chyd-destunau difyr.
Ymgysylltu â rhieni
Mae cyfranogiad rhieni mewn mathemateg yn hanfodol. Mae ymchwil wedi dangos bod pryder dysgwyr ynghylch mathemateg yn aml yn deillio o ddylanwadau yn eu bywyd, fel oedolion pwysig. Os oes gan rieni neu ofalwyr eu pryderon eu hunain ynghylch mathemateg neu os ydynt yn ddihyder, gall hyn effeithio ar agwedd eu plentyn at y pwnc.
Yn ystod 2024 i 2025, gwnaed gwaith treialu, drwy’r Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru (RhGMC), gydag ysgolion uwchradd penodol i gynnwys rhieni a gofalwyr yn addysg fathemateg eu plentyn. Mae hyn yn helpu i nodi cyfleoedd a heriau er mwyn rhannu arferion effeithiol.
Mae cymorth yn adeiladu ar hyn, neu ar ffyrdd tebyg eraill o brofi dulliau, sydd, er enghraifft, yn arwain at allbynnau sy’n cynnwys pecyn cymorth i’w ddefnyddio ochr yn ochr â mentrau eraill mewn ysgolion (megis ysgolion bro) er mwyn datblygu ymgysylltiad â rhieni, gofalwyr a chymunedau lleol ynghylch dysgu mathemateg a rhifedd.
Mae’r cymorth sy’n cael ei ddarparu yn sefydlu, yn treialu ac yn gwerthuso dulliau gweithredu gydag ystod o ysgolion cynradd. Mae hyn yn cynnwys cymorth i hyrwyddwyr rhifedd a dulliau effeithiol sy’n ymgysylltu â rhifedd drwy dasgau bob dydd, neu agweddau eraill ar ddysgu.
Mae’r cymorth yn gyson â’r 5 hyfedredd mathemategol a chymorth presennol i ysgolion (fel y cymorth a ariennir drwy’r RhGMC neu’r Grant Addysg i Awdurdod Lleol).
Mathemateg lefel uwch
Mae angen cymorth ar gyfer mathemateg lefel uwch ar ymarferwyr a dysgwyr uwchradd yn benodol sy’n ymdrin â’r ddarpariaeth mewn ffordd gydweithredol er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru.
Mae cymorth ar gyfer mathemateg bellach yn cryfhau’r ddarpariaeth drwy gynnig:
- dysgu proffesiynol i ymarferwyr
- cymorth ar-lein i ddysgwyr
- datblygu adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog
Mae’r cymorth yn cydgysylltu â’r hyn a ddarperir drwy’r Grant Addysg i Awdurdod Lleol drwy drefniadau awdurdodau lleol mewn ardaloedd lleol.
Rydym yn cefnogi’r gwaith o dreialu dulliau ar raddfa fach i ymgysylltu rhieni a gofalwyr dysgwyr uwchradd yn addysg fathemateg eu plentyn, gyda ffyrdd amrywiol o nodi’r cyfleoedd a’r heriau yn y maes hwn.
Blaenoriaeth: gwyddoniaeth a thechnoleg
Gwyddoniaeth a pheirianneg
Mae gwella deilliannau gwyddoniaeth a pheirianneg dysgwyr 3 i 16 oed, ochr yn ochr â’u cynnydd ôl-16 mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg), yn flaenoriaeth amlwg o safbwynt cymorth a ariennir gan grant drwy’r rhaglen hon.
Nod y cymorth yw gwella capasiti dysgwyr i gymhwyso eu dealltwriaeth o gysyniadau gwyddoniaeth a pheirianneg mewn cyd-destunau gwahanol. Ffordd effeithiol a mwy cynaliadwy o wella’r profiad dysgu ac addysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yw mynd i’r afael yn fwy uniongyrchol ag anghenion cymorth ymarferwyr, yn enwedig y rhai nad ydynt yn arbenigwyr.
Yn y pen draw, nod y cymorth yw gwella cynnydd dysgwyr drwy:
- fynd i’r afael ag anghenion amrywiol ymarferwyr, yn enwedig anghenion amrywiol y rheini sy’n addysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
- hwyluso cymorth gan gyfoedion mewn ardaloedd lleol, gan gyrraedd cynifer o ymarferwyr â phosibl dros amser
- modelu gwersi a rhoi arweiniad ar addysgeg effeithiol mewn ffordd gynaliadwy a hyblyg o ran graddfa
- llenwi unrhyw fylchau o safbwynt yr adnoddau neu’r deunyddiau dwyieithog sydd ar gael sy’n helpu ymarferwyr i ddod â gwyddoniaeth a pheirianneg yn fyw i ddysgwyr
Dealltwriaeth o gyfrifiadura a sgiliau digidol
Mae angen cymorth i gynyddu hyder a dealltwriaeth ymarferwyr ym maes datblygu cyfrifiadura a sgiliau digidol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd yn helpu i gynllunio a chyflawni dysgu yn well a llunio cysylltiadau dysgu digidol ar draws y cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, codio a meddwl cyfrifiannol.
Mae’r cymorth yn cydnabod rôl technoleg ym mywydau dysgwyr, a’u darpar dyfodol a’u darpar yrfaoedd. Drwy gefnogi ymarferwyr yn uniongyrchol, dylai helpu yn y pen draw i feithrin dealltwriaeth dysgwyr o bwysigrwydd a dylanwad technoleg. Mae angen cymorth ar ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau er mwyn cynyddu cyrhaeddiad a chynnydd mewn pynciau STEM drwy gyd-destunau difyr i gymhwyso dysgu.
Mae’r cymorth ar gyfer sgiliau cyfrifiadurol a digidol yn cryfhau darpariaeth drwy:
- ddarparu adnoddau a gweithdai datblygu ar gyfer ymarferwyr i’w helpu i ganolbwyntio ar flaenoriaethau technolegol sy’n dod i’r amlwg, fel deallusrwydd artiffisial a seiberddiogelwch, a datblygu dysgu pwrpasol yn yr ystafell ddosbarth
- hwyluso’r gwaith o ddatblygu a gwella sgiliau cyfrifiadura a sgiliau digidol drwy feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr i addysgu cymhwysedd digidol yn effeithiol ar draws y cwricwlwm drwy gyfres o gyfleoedd dysgu proffesiynol penodol. Dylai hyn ddangos ymwybyddiaeth o’r dystiolaeth ynghylch anghenion llwybrau dysgu a gyrfa ôl-16 o ran sgiliau digidol dysgwyr, megis gwybodaeth am y farchnad lafur ac adroddiadau perthnasol y llywodraeth
- datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol gan amlygu’r cyfleoedd a’r ystyriaethau o ran ei ddefnyddio ym maes addysg
- at ddibenion datblygu dealltwriaeth broffesiynol, modelu gweithdai ymarferol gyda dysgwyr ar ddysgu peirianyddol a sut y gellir defnyddio data i hyfforddi cyfrifiaduron i gwblhau tasgau – er nad darparu gwersi i ddysgwyr ddylai fod yn brif ffocws, dylid canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac addysgeg ymarferwyr
- darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ac arweiniad i ymarferwyr ar gynnydd a sut i addysgu’r agweddau hyn ar y cwricwlwm yn yr ystafell ddosbarth
- rhoi sylw i ddatblygiad rhaglenni CyberFirst yng Nghymru gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
- darparu arbenigedd i gefnogi ysgolion ar draws ystod o ardaloedd awdurdodau lleol i hwyluso’r ffordd i ysgolion ddod i ddealltwriaeth o gynnydd a rhoi cyngor i ysgolion sy’n gyson â’r cymorth a ddatblygir ar gyfer deall cynnydd
Blaenoriaeth: cerddoriaeth
Mae materion fel mynediad at ddarpariaeth a chost tiwtora ymhlith y rhwystrau allweddol i ddysgwyr sy’n derbyn addysg cerddoriaeth ac yn gwneud cynnydd yn y maes hwnnw. Mae tegwch o ran cymorth cerddoriaeth yn dangos bod angen canolbwyntio ar ddysgwyr mwy difreintiedig ac mae hyn wrth wraidd y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol. Mae cymorth i ysgolion yn cynnwys cymorth penodol am ddim, yn ogystal â phrosiectau wedi’u teilwra, er enghraifft, ar gyfer dysgwyr sydd ag ADY. Mae’r dull yn cefnogi lles emosiynol a meddyliol dysgwyr, sy’n flaenoriaeth drawsgwricwlaidd i’r rhaglen cymorth grant.
Blaenoriaeth: dysgu sylfaen
Dylai pob plentyn yng Nghymru gael mynediad at addysg feithrin gyfartal o safon uchel, p’un a yw’r addysg honno yn cael ei darparu mewn ysgol neu leoliad.
Mae gwybodaeth a sgiliau arbenigol parhaus yn darparu cymorth, arweiniad a chyngor proffesiynol i ymarferwyr ac arweinwyr mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Mae hyn yn golygu y gellir darparu addysg feithrin o ansawdd uchel sy’n ystyried trefniadau perthnasol o ran y cwricwlwm ac asesu ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau mewn ffordd sy’n briodol o safbwynt datblygiadol.
Mae cymorth ac arweiniad parhaus o’r fath yn sicrhau bod gan bob ymarferydd ddealltwriaeth gadarn o addysgeg ac ymarfer sy’n briodol yn ddatblygiadol fel y gellir cyflwyno’r cwricwlwm yn llwyddiannus.
Blaenoriaethau trawsgwricwlaidd
Wrth ddyfarnu grantiau, ystyriwyd sut y gellir cefnogi’r blaenoriaethau trawsgwricwlaidd isod mewn ffordd bwrpasol a dilys drwy gymorth sydd wedi’i anelu at 1 o feysydd blaenoriaeth uchod y grant.
Yn achos pob dyfarniad, aethpwyd ati i ymchwilio i gymorth yn erbyn o leiaf 1 o’r blaenoriaethau trawsgwricwlaidd canlynol.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: sgiliau cyfannol
Mae cymorth i ymarferwyr wedi’i gynnwys mewn dyfarniadau grant sy’n helpu ysgolion i ddatblygu’r sgiliau hyn sy’n hanfodol i’r pedwar diben mewn ffordd gyfannol. Y sgiliau cyfannol yw:
- creadigrwydd ac arloesedd
- meddwl yn feirniadol a datrys problemau
- effeithiolrwydd personol
- cynllunio a threfnu
Wrth ddyfarnu grantiau sy’n mynd i’r afael â’r flaenoriaeth drawsgwricwlaidd hon, nodir sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru lewyrchus’.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: sgiliau trawsgwricwlaidd
Mae’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, yn hanfodol i ddysgwyr er mwyn iddynt ehangu eu gwybodaeth. Maent yn galluogi dysgwyr i fanteisio’n llawn ar gwricwlwm ysgol a’r llu o gyfleoedd a gynigir ganddo, gan sicrhau eu bod yn meithrin y sgiliau gydol oes sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r pedwar diben. Gellir trosglwyddo’r sgiliau hyn i fyd gwaith, gan alluogi dysgwyr i addasu a ffynnu yn y byd modern.
Rhaid i ysgolion ddatblygu eu cwricwlwm er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a, lle bo cyfle, eu hymestyn a’u cymhwyso i bob maes dysgu a phrofiad. Felly, mae datblygu’r sgiliau hyn yn ystyriaeth i bob ymarferydd. Rhaid rhoi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol ar draws y cwricwlwm:
- meithrin sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
- gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
- defnyddio ystod o dechnolegau’n hyderus er mwyn eu helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd
Wrth ddyfarnu grantiau sy’n mynd i’r afael â’r flaenoriaeth drawsgwricwlaidd hon, nodir sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru lewyrchus’.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: iechyd a lles
Mae gwella cymorth i ysgolion sy’n canolbwyntio ar y ffordd y maent yn ystyried iechyd meddwl a lles dysgwyr ar draws y cwricwlwm yn flaenoriaeth drawsgwricwlaidd i’r rhaglen grant hon.
Dylai trefniadau cymorth hyrwyddo ymwybyddiaeth ysgolion o’r ddyletswydd o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr wrth gynllunio’r cwricwlwm. Dylai hyn feithrin dealltwriaeth o’r ffaith na ellir disgwyl i ddysgwyr ddechrau dysgu na dysgu’n effeithiol heb wneud hyn.
Mae effaith cydberthnasau iach ar-lein ac all-lein ar ddysgwyr hefyd yn faes lle gall cymorth i ysgolion geisio mynd i’r afael â materion fel gwrth-fwlio, diogelwch ar-lein, trais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol.
Wrth ddyfarnu grantiau sy’n mynd i’r afael â’r flaenoriaeth drawsgwricwlaidd hon, nodir sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru iachach’.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: amrywiaeth
Mae amrywiaeth yn cyfeirio at gydnabod a dathlu natur amrywiol grwpiau cymdeithasol a chymunedau. Mae’n golygu darparu cwricwlwm mewn ysgolion sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth honno ac un sy’n ymateb i brofiadau’r grwpiau a’r cymunedau hynny.
Dylai cymorth i ddiwallu anghenion ein dysgwyr mwyaf difreintiedig fod yn ystyriaeth allweddol i bob cynnig o dan y rhaglen grant hon. Ystyriwyd cefnogi ymdrechion ysgolion i sicrhau y gall pawb fanteisio ar brofiadau a chyfleoedd dysgu a allai wella cynnydd dysgwyr a’u mynediad at gyfleoedd neu ddewisiadau gyrfa (er enghraifft, merched mewn pynciau STEM). Efallai y bydd cynnal ymgysylltiad dysgwyr â’u haddysg o oedran cynnar drwy gydol y continwwm dysgu yn ffactor hefyd. Ynghyd â gwrthsefyll stereoteipio ar sail rhywedd a hyrwyddo dulliau sy’n helpu ysgolion, bydd hyn yn sicrhau tegwch cymdeithasol.
Wrth ddyfarnu grantiau sy’n mynd i’r afael â’r flaenoriaeth drawsgwricwlaidd hon, nodir sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
Mae’r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn rhoi persbectifau allweddol i ddysgwyr ac maent yn arbennig o bwysig o safbwynt eu helpu i gyflawni’r pedwar diben. Maent yn helpu dysgwyr i wneud synnwyr o’r sgiliau a’r wybodaeth y maent yn eu meithrin drwy lunio cysylltiadau â’r ardal o’u cwmpas, profiadau a digwyddiadau a allai fod yn fwy cyfarwydd iddynt. Maent hefyd yn cyflwyno dysgwyr i gyd-destunau llai cyfarwydd, gan ehangu eu gorwelion a’u hannog i ymgysylltu â phersbectifau gwahanol a gwerthfawrogi heriau a materion ehangach.
Wrth ddyfarnu grantiau sy’n mynd i’r afael â’r flaenoriaeth drawsgwricwlaidd hon, nodir sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’.
Y Gymraeg
Yn ôl y gyfraith, mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae Safonau’r Gymraeg yn gosod dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyfleoedd i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg pan fyddwn yn rhoi cyllid grant. Mae’r Safonau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried yr effaith y byddai ein cyllid yn ei chael ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Nodir ein huchelgeisiau ar gyfer y Gymraeg yn Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Dylai cynigion gynnwys cymorth sydd:
- ar gael yn iaith ddewisol yr ysgol (Cymraeg neu Saesneg)
- yn cyflwyno’r holl ddeunyddiau cymorth yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd
Gwahoddwyd ceisiadau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfnod y cyllid grant
Dyfernir y grantiau dros gyfnod o 1 i 3 blynedd ariannol, a bydd y rhan fwyaf yn dod i ben erbyn 31 Mawrth 2028.
Meincnodi
Mae rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys dull meincnodi i asesu yn erbyn amcanion polisi a pherfformiad wrth ystyried ymestyn grant y tu hwnt i’r cyfnod dyfarnu cychwynnol.
Mae’r broses feincnodi yn ystyried ystod eang o ffactorau ac mae’r rhain yn gymesur â lefel y cyllid grant a ddyfernir. Gall y ffactorau hyn gynnwys y canlynol, er enghraifft:
- faint o gyllid sydd ar gael a blaenoriaethau’r Llywodraeth ar yr adeg honno
- perfformiad y grant yn erbyn targedau a chanlyniadau cytûn a nodir wrth ddyfarnu’r grant
- ansawdd ac effaith y ddarpariaeth
- i ba raddau y mae’r ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau ar gyfer cymorth a nodwyd ar gyfer y rhaglen
- canlyniad gwerthusiadau annibynnol o effaith rhaglenni
- adborth gan ysgolion, lleoliadau, dysgwyr, rhieni a gofalwyr fel y bo’n briodol
- i ba raddau y mae’r ddarpariaeth yn cyd-fynd ag ethos ac egwyddorion y cwricwlwm
Felly, i gefnogi dull meincnodi maes o law, byddai ceisiadau’r sawl a dderbyniodd grant wedi:
- dangos ymrwymiad i feithrin capasiti a chydweithio
- dangos sut maent yn ffurfio cysylltiadau o fewn ac ar draws y sector addysg er mwyn parhau i gynnig gwerth am arian a chael effaith
- dangos sut y gallai gweithgareddau a ariennir, gyda chymorth rheolwyr grant Llywodraeth Cymru, weithio i fod yn hunangynhaliol fel nad ydynt yn dibynnu gormod ar gyllid gan Lywodraeth Cymru
- darparu strategaethau ymadael ar gyfer y cyllid cychwynnol sy’n cael ei ystyried
Ni fydd grant pob sefydliad sy’n llwyddo i ennill grant o dan y rhaglen hon yn cael ei ymestyn drwy ddefnyddio dull meincnodi.
Mae’n bosibl na ddyfernir mwy o gyllid i ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl cyfnod cychwynnol y cynnig grant ar ôl cynnal ymarfer meincnodi. Ni fydd hyn yn effeithio ar enw da derbynnydd y grant nac yn ei atal rhag gwneud cais am arian arall gan Lywodraeth Cymru.
Y broses gwneud cais
Nid ydym yn ystyried ceisiadau pellach am y tro.
Arfarnu cais
Arfarnwyd y ceisiadau llawn yn unol â chanllawiau’r rhaglen a rheolau cymhwysedd. Cynhaliwyd yr arfarniadau gan swyddogion polisi cwricwlwm Llywodraeth Cymru, gyda chyngor gan gydweithwyr llywodraethu corfforaethol ac ymarferwyr.
Aseswyd yr wybodaeth a ddarparwyd yn y ceisiadau a rhoddwyd gradd yn erbyn y meini prawf canlynol.
- Uchel – Darparodd yr ymgeisydd ymatebion cadarn a manwl mewn perthynas â’r holl ofynion tystiolaeth, gyda chynigion a oedd yn canolbwyntio’n gryf ar gyflawni blaenoriaethau cymorth.
- Canolig – Darparodd yr ymgeisydd ymatebion boddhaol a manwl mewn perthynas â’r rhan fwyaf o’r gofynion tystiolaeth, gyda chynigion a oedd yn canolbwyntio’n ddigonol ar flaenoriaethau cymorth.
- Isel – Darparodd yr ymgeisydd ymatebion anghyflawn neu annigonol o bosibl mewn perthynas ag 1 neu fwy o’r gofynion tystiolaeth, gyda chynigion nad oeddent yn canolbwyntio digon ar flaenoriaethau cymorth.
Y trothwy ansawdd i ddyfarnu grant yw gradd ‘Ganolig’ ym mhob categori.
Mae penderfyniadau i ddyfarnu grant hefyd yn dibynnu ar y gyllideb, felly mae’n bosibl y bydd angen graddio cynigion sydd o fewn yr un meini prawf graddio.
Er mwyn gwneud argymhelliad gwybodus ynghylch a ddylid dyfarnu grant, ac ar ba lefel, mae’r meini prawf arfarnu yn cynnwys:
- cymhwysedd a chydymffurfiaeth â meini prawf y rhaglen a nodir yn y canllawiau hyn, gan gynnwys, ymhlith elfennau eraill, y blaenoriaethau penodedig ar gyfer cymorth a’r amcan-gyllid cysylltiedig
- nodau ac amcanion y cynnig, ac i ba raddau y maent yn cyd-fynd ag ethos ac egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru
- tystiolaeth o’r angen am y gweithgareddau a nodir yn y cynnig a’r effaith y mae’n bwriadu ei chael o safbwynt amcanion a blaenoriaethau’r rhaglen, gan gynnwys mesurau perfformiad, targedau a chanlyniadau clir a realistig
- gweithredu’r cynnig, gan gynnwys trefniadau rheoli a sut rydych yn bwriadu gweithio gydag ysgolion, lleoliadau a(neu) randdeiliaid cyflwyno allweddol eraill
- yr agweddau technegol ar y cynnig, gan gynnwys tystiolaeth o’r arbenigedd a’r capasiti sydd eu hangen i ddarparu’r cynnig
- tystiolaeth o werth ychwanegol y cynnig, y tu hwnt i’r cymorth a gaiff ei ddarparu drwy gyllid arall gan y Llywodraeth ar gyfer addysg yng Nghymru
- asesiad o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r cynnig o safbwynt hyfywedd ariannol, diogelu a stiwardiaeth arian cyhoeddus
- asesiadau o werth am arian ac ansawdd
- cyfraniad at ein nodau o safbwynt datblygu cynaliadwy, y Gymraeg a llesiant cenedlaethau’r dyfodol
Cynhaliwyd gwiriadau diwydrwydd dyladwy (lle bo angen) a gwiriadau cymhwysedd llawn mewn perthynas â’r cais cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol i gynnig grant neu wrthod cais.
Rydym yn annog ac yn croesawu cynigion a all sicrhau arian cyfatebol gan ffynonellau y tu allan i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ni ystyriwyd hynny wrth arfarnu cymhwysedd cais o dan y rhaglen hon. Lle bo cynnig yn cynnwys arian cyfatebol (naill ai arian parod neu nwyddau), disgwylid i’r cais am grant gynnwys gwybodaeth am yr arian cyfatebol hwnnw. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am natur, swm a ffynhonnell yr arian cyfatebol.
Canlyniad yr arfarniad a chynnig grant
Ni ellid gwarantu y câi cynnig ei gymeradwyo i gael grant. Ein nod oedd arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod i’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Roedd 2 ganlyniad posibl i’r broses arfarnu ceisiadau.
- Bod cynnig heb gael ei gymeradwyo. Roedd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu drwy e-bost. Gall ymgeiswyr wneud cais eto os bydd cyfnod gwneud cais arall yn agor yn y dyfodol.
- Bod cynnig yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo. Cafodd cynnig grant ei anfon at ymgeiswyr llwyddiannus drwy e-bost yn amlinellu telerau ac amodau’r grant. Roedd angen i ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn neu wrthod y cynnig grant o fewn 21 diwrnod busnes. Os na fyddai hynny’n digwydd, câi’r cynnig ei dynnu’n ôl. Dim ond cynnig grant ffurfiol y cytunwyd arno, a lofnodwyd ac a ddychwelyd gan yr ymgeisydd llwyddiannus, oedd yn rhoi’r awdurdod i ddechrau ar y gwaith.
Amodau’r grant
Caiff y grant ei ddyfarnu ar sail datganiadau a wnaed gan yr ymgeisydd neu eu cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac, yn dilyn hynny, y ffurflen hawlio ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.
Roedd yn rhaid i ymgeiswyr ddarllen a deall rheolau perthnasol y rhaglen a’r canllawiau.
Ni ddylai ymgeiswyr ddechrau unrhyw waith ar y prosiect heb gael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru drwy gynnig grant sydd wedi cael ei dderbyn yn ffurfiol ganddynt.
Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r prosiect heb gymeradwyaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.
Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru rheolau ac amodau i gyd-fynd â newidiadau i ofynion deddfwriaethol y DU.
Rhaid i ymgeiswyr fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a gyflwynir a chyfraith y DU.
Mae’r ymgeiswyr yn cytuno i gadw at unrhyw newidiadau a wneir yn dilyn hysbysiad gan Weinidogion Cymru.
Mae’r ymgeiswyr wedi darparu manylion sy’n wir, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eu gwybodaeth a’u cred yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol.
Mae’r ymgeiswyr yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys yn ddigyfyngiad unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r ceisiadau, ac mai’r ymgeisydd sy’n llwyr gyfrifol am yr holl benderfyniadau busnes a wneir.
Mae’n ofynnol i’r ymgeiswyr gydymffurfio â’r rheolau ynghylch costau cymwys a nodir yng nghanllawiau’r rhaglen.
Dylai prosiectau gael eu cwblhau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni â Llywodraeth Cymru. Ni ddylai ymgeiswyr wyro oddi wrth yr amserlen hon heb gael cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
Ni ellir gwaredu, trosglwyddo na gwerthu unrhyw gyfarpar a brynir gan ddefnyddio’r cymorth grant yn ystod y prosiect nac am 5 mlynedd o ddyddiad gorffen y dyfarniad heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru. Rhaid ad-dalu’r grant a ddyfarnwyd yn llawn.
Dim ond am daliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc y gellir talu grant. Ni fyddwn yn cymeradwyo hawliadau am weithgarwch cyn gwariant.
Rhaid i ymgeiswyr gadarnhau nad ydynt wedi gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall. Os canfyddir bod ymgeisydd wedi cael arian cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall ei hawliad gael ei wrthod, gall taliadau gael eu hadennill, a gall cosbau gael eu rhoi.
Rhaid i ymgeiswyr ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol fel iechyd a diogelwch, cyflogaeth, hylendid, rheolaeth amgylcheddol a diogelu’r amgylchedd, iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau sy’n gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.
Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw staff sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â dysgwyr yn cael unrhyw wiriadau gofynnol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a bod pob ysgol a lleoliad cysylltiedig yn cael eu hysbysu ymlaen llaw am statws staff yr ymgeiswyr yn hyn o beth.
Rhaid i ymgeiswyr roi hawl mynediad ac arolygu i gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru neu’u cynrychiolwyr. Ar gais, rhaid iddynt roi gwybodaeth a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol sy’n ymwneud â’r prosiect.
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Dylai ymgeiswyr wybod, os byddant yn llwyddiannus, y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eu busnes, cwmni neu sefydliad, swm y grant a ddyfarnwyd iddynt a chrynodeb o’u prosiect. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i gyhoeddi adroddiadau gwerthuso ar effeithiolrwydd y gweithgarwch a ariennir drwy’r grant.
Ymdrinnir â’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais yn unol â’r grantiau Llywodraeth Cymru. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Trefniadau rheoli grant
Mae’n ofynnol bod pob grant a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei fonitro a bod effaith y grant yn cael ei gwerthuso.
Monitro
Mae’r ceisiadau wedi nodi’r targedau y caiff gweithgarwch a ariennir gan y grant ei fonitro yn eu herbyn.
Mae mesurau perfformiad clir wedi’u sefydlu yn ystod camau cynllunio’r ceisiadau er mwyn sicrhau y gellir mesur effaith y cyllid.
Drwy nodi canlyniadau disgwyliedig, allbynnau a dangosyddion perfformiad mewn ceisiadau, sicrheir bod nodau ac amcanion y cynllun yn gyraeddadwy a’u bod yn canolbwyntio ar gael effaith wirioneddol.
Os dyfernir grant i ymgeisydd, mae’n ofynnol iddo gwblhau adroddiadau monitro fel rhan o’r broses hawlio chwarterol.
Mae gan swyddogion o Lywodraeth Cymru, neu’u cynrychiolwyr, fynediad at wybodaeth am ddarparu gweithgarwch a ariennir gan y grant.
Gwerthuso
Bydd gan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru gontractwr o Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad annibynnol, systemig a hydredol o effaith pob grant a ddyfernir drwy’r rhaglen. Bob blwyddyn, bydd y contractwr yn canolbwyntio ar grantiau penodol i’w dadansoddi a llunio adroddiadau cyhoeddus arnynt. Bydd angen i’r contractwr gwerthuso gael data monitro a gwybodaeth arall am weithgarwch a ariennir gan y grant er mwyn dadansoddi effaith.
Caiff amserlen y rhaglen werthuso ei thrafod ag ymgeiswyr llwyddiannus fel rhan o drefniadau rheoli grant.
Cadw cofnodion
Rhaid i dderbynwyr grant gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth am y cais a hawliadau mewn perthynas â’r grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig eraill, am o leiaf 5 mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect.
Y weithdrefn apelio a chwyno
Ni ellir gwneud apêl mewn perthynas â cheisiadau aflwyddiannus o dan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru yn derfynol.
Caiff cwynion eu trin o dan weithdrefn gwyno Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o gyngor ar sut i wneud cais gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:
Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 03000 251378
e-bost: cwynion@llyw.cymru
Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru
Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: Gwefan Ombwdsmon
Hysbysiad preifatrwydd
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth eang o gynlluniau grant i helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach a mwy llewyrchus.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd ar gyfer grantiau Llywodraeth Cymru yn nodi sut y byddwn yn trin unrhyw ddata personol a ddarparwyd gan dderbynwyr grant mewn perthynas â’u cais am grant neu gais am arian grant.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarparwyd gan dderbynwyr grant mewn perthynas â’u cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n gorchwyl gyhoeddus (er enghraifft, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac roedd yn help i asesu eu cymhwysedd i gael cyllid.
Cyn i ni ddarparu cyllid grant, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy yw derbynnydd y grant. Mae’r gwiriadau hyn yn gofyn inni brosesu data personol amdanynt i asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu bod derbynwyr grant yn creu risg o dwyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y maent wedi gwneud cais amdano, neu gallwn roi’r gorau i ddarparu cyllid grant presennol iddynt.
Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian ac, yn sgil hyn, gall eraill wrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth iddynt.
Er mwyn asesu cymhwysedd, mae’n bosibl hefyd y bydd angen inni rannu gwybodaeth bersonol mewn perthynas â chais ag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyllid a Thollau EF, awdurdodau lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a’r heddlu.
Gallwn rannu gwybodaeth derbynnydd grant â sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, gwasanaethau trosglwyddo gwybodaeth a chyngor a chymorth ar arloesi ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn targedu cymorth yn gywir.
Gallwn rannu gwybodaeth derbynnydd grant hefyd â sefydliadau sydd wedi cael eu contractio gan Lywodraeth Cymru i werthuso gweithgarwch a ariennir drwy unrhyw grantiau a ddyfernir o dan y rhaglen hon.
Gall gwybodaeth derbynwyr grant, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o’r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, gall fod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eu gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion y symiau a ddyfernir o dan y rhaglen grant hon ar ei gwefan. Caiff y data eu diweddaru bob blwyddyn.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw. Caiff data personol ymgeiswyr llwyddiannus eu cadw am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddant , fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag pob amod sy’n ymwneud â’r grant a ddyfarnwyd a phan fydd pob taliad wedi cael ei wneud. Caiff manylion ceisiadau aflwyddiannus eu cadw am 1 flwyddyn ar ôl y dyddiad pan gawsant eu darparu.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan ymgeiswyr yr hawl:
- i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
Gwefan: Gwefan ico (Saesneg yn unig)
Cysylltiadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru, anfonwch nhw drwy e-bost i flwch post cwricwlwmigymru@llyw.cymru neu drwy’r post at:
Cangen Cyflawni Polisi
Is-adran Cwricwlwm ac Asesu
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
