Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Rwyf heddiw wedi cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg,Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg.
Mae adroddiad y Comisiwn yn nodi’r heriau sosioeconomaidd ac ieithyddol y mae ein cymunedau Cymraeg yn eu hwynebu gan gyflwyno pum deg saith o argymhellion gyda'r nod o fynd i’r afael â'r heriau hyn. Ystyriodd y Comisiwn feysydd polisi allweddol fel yr economi, datblygu cymunedol, tai, cynllunio gwlad a thref, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, addysg cyfrwng Cymraeg a chynllunio ieithyddol cymunedol.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynaladwyedd ein cymunedau Cymraeg i gynnal a chefnogi caffael iaith a'i defnydd, ond rydym hefyd yn cefnogi datganiadau'r Comisiwn bod y ‘Gymraeg yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i bob un ohonom waeth pwy ydym ni, ble rydym ni’n byw, neu faint ohoni y gallwn ei siarad’. Mae ein strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr yn gosod y seiliau i sicrhau bod yr iaith yn ffynnu ym mhob rhan o Gymru, tra hefyd yn cydnabod rôl bwysig cymunedau sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg wrth gyflawni ein nodau.
Mae ein hymateb yn mynd i'r afael â'r argymhellion sy'n dod o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru, tra hefyd yn cydnabod rolau awdurdodau lleol, byrddau iechyd ynghyd â sefydliadau perthnasol eraill. Ein nod yw parhau i gydweithio o fewn Llywodraeth Cymru yn ogystal â chyda rhanddeiliaid allweddol a pherthnasol i ddiwygio a datblygu polisïau sy'n cefnogi’r Gymraeg er mwyn helpu i’w chynnal fel iaith gymunedol ffyniannus. Byddwn yn cyhoeddi ymateb ar wahân i adroddiad annibynnol y Comisiwn ar Gynllunio Gwlad a Thref maes o law.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i Dr Simon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn ac i’r aelodau am eu harbenigedd a'u hymroddiad wrth baratoi'r adroddiad gwerthfawr a chynhwysfawr hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd wedi darparu tystiolaeth yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau gyda'r Comisiwn ar ystod eang o faterion. Mae hyn wedi rhoi'r dystiolaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i'r Comisiwn wrth iddo baratoi ei adroddiad.
